Datganiad ysgrifenedig o gontract wedi ei drosi a darparu gwybodaethLL+C
11(1)Rhaid i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig (y “cyfnod darparu gwybodaeth”).
[F1(1A)Pan fo hunaniaeth deiliad y contract wedi newid cyn 1 Mehefin 2023 (sef y diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod darparu gwybodaeth), mae adran 31(2) (rhoi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad contract newydd) yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â’r diwrnod y mae deiliad y contract yn newid”.]
(2)Mae unrhyw gyfeiriadau yn y Ddeddf hon at rwymedigaeth y landlord o dan adran 31(1) i’w darllen, mewn perthynas â chontractau wedi eu trosi, fel cyfeiriadau at rwymedigaeth y landlord o dan is-baragraff (1).
[F2(3)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â chontract sy’n cymryd lle contract arall (ac yn unol â hynny mae adran 31 yn gymwys, fel y’i haddasir gan baragraff 11A, mewn perthynas â chontractau o’r fath).]
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 12 para. 11(1A) wedi ei amnewid (1.6.2023) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2023 (O.S. 2023/556), rhlau. 1, 4(a)
F2Atod. 12 para. 11(3) wedi ei fewnosod (1.6.2023) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2023 (O.S. 2023/556), rhlau. 1, 4(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 12 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2Atod. 12 para. 11 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2