xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 12LL+CTROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM

Datganiad ysgrifenedig o gontract wedi ei drosi a darparu gwybodaethLL+C

11(1)Rhaid i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig (y “cyfnod darparu gwybodaeth”).

[F1(1A)Pan fo hunaniaeth deiliad y contract wedi newid cyn 1 Mehefin 2023 (sef y diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod darparu gwybodaeth), mae adran 31(2) (rhoi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad contract newydd) yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â’r diwrnod y mae deiliad y contract yn newid”.]

(2)Mae unrhyw gyfeiriadau yn y Ddeddf hon at rwymedigaeth y landlord o dan adran 31(1) i’w darllen, mewn perthynas â chontractau wedi eu trosi, fel cyfeiriadau at rwymedigaeth y landlord o dan is-baragraff (1).

[F2(3)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â chontract sy’n cymryd lle contract arall (ac yn unol â hynny mae adran 31 yn gymwys, fel y’i haddasir gan baragraff 11A, mewn perthynas â chontractau o’r fath).]