Datganiad ysgrifenedig o gontract wedi ei drosi a darparu gwybodaethLL+C
11(1)Rhaid i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig (y “cyfnod darparu gwybodaeth”).
[F1(1A)Nid yw adran 31(2) (rhoi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad contract newydd) yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi yn ystod y cyfnod darparu gwybodaeth.]
(2)Mae unrhyw gyfeiriadau yn y Ddeddf hon at rwymedigaeth y landlord o dan adran 31(1) i’w darllen, mewn perthynas â chontractau wedi eu trosi, fel cyfeiriadau at rwymedigaeth y landlord o dan is-baragraff (1).
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 12 para. 11(1A) wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 27(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 12 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2Atod. 12 para. 11 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2