Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

DiffiniadauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

1(1)Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “contract diogel wedi ei drosi” (“converted secure contract”) yw contract wedi ei drosi a ddaeth yn gontract diogel ar y diwrnod penodedig;

  • ystyr “contract safonol wedi ei drosi” (“converted standard contract”) yw contract wedi ei drosi a ddaeth yn gontract safonol ar y diwrnod penodedig;

  • ystyr “contract wedi ei drosi” (“converted contract”) yw tenantiaeth neu drwydded a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig ac a ddaeth yn gontract meddiannaeth ar y diwrnod hwnnw;

  • mae i “cyfnod darparu gwybodaeth” (“information provision period”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 11(1);

  • y “cyfnod hysbysu cychwynnol” (“initial notice period”) yw’r cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig.

  • [F1ystyr “MAS wedi ei throsi” (“converted AAO”) yw contract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn feddiannaeth amaethyddol sicr;]

  • [F1mae i “meddiannaeth amaethyddol sicr” yr un ystyr ag a roddir i “assured agricultural occupancy” yn Rhan 1 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (gweler adran 24(1) o’r Ddeddf honno)]

  • [F1mae “tenantiaeth sicr” (“assured tenancy”) yn cynnwys cyfeiriad at feddiannaeth amaethyddol sicr a drinnir fel tenantiaeth sicr o dan adran 24(3) o Ddeddf Tai 1988 (yn ogystal â meddiannaeth amaethyddol sicr sy’n denantiaeth sicr);]

(2)Gweler adran 242 am ddiffiniadau o dermau eraill a ddefnyddir yn yr Atodlen hon.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 12 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 12 para. 1 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2