Llety addasLL+C
3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)os yw’r Atodlen hon yn gymwys oherwydd adran 210 a naill ai—
(i)na chyflwynir tystysgrif o’r math y cyfeiri ati ym mharagraff 2(2) i’r llys, neu
(ii)mae’r landlord mewn perthynas â’r annedd bresennol yn awdurdod tai lleol, neu
(b)os yw’r Atodlen hon yn gymwys oherwydd adran 222.
(2)Mae llety yn addas—
(a)os yw i gael ei feddiannu gan ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth sy’n rhoi [F1sicrwydd iddo o ran meddiannaeth] sy’n rhesymol gyfatebol i’r hyn y mae’r contract presennol yn ei roi, a
(b)os yw, ym marn y llys, yn rhesymol addas ar gyfer anghenion deiliad y contract a’i deulu (sydd i’w ddyfarnu yn unol â pharagraff 4).
(3)Os yw’r contract presennol yn ymwneud ag annedd ar wahân, nid yw llety yn addas oni bai ei fod yn annedd ar wahân.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 11 para. 3(2)(a) wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 5 para. 11(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 11 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2Atod. 11 para. 3 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2