xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 10LL+CGORCHMYNION ADENNILL MEDDIANT AR SEILIAU DISGRESIWN ETC.: RHESYMOLDEB

Amgylchiadau o ran personau eraillLL+C

8(1)Effaith debygol y gorchymyn neu’r penderfyniad ar—

(a)deiliaid contractau a meddianwyr y caniateir iddynt feddiannu anheddau eraill y landlord,

(b)personau sydd wedi gofyn i’r landlord ddarparu llety tai iddynt, ac

(c)personau sy’n byw, yn ymweld neu fel arall yn ymgymryd â gweithgaredd cyfreithlon yn yr ardal (a phersonau sy’n dymuno byw, ymweld neu ymgymryd â gweithgareddau cyfreithlon yn yr ardal).

(2)Os gwneir hawliad meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract), effaith debygol yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff 10 ar y personau a grybwyllir yn is-baragraff (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 10 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 10 para. 8 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2