xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 10LL+CGORCHMYNION ADENNILL MEDDIANT AR SEILIAU DISGRESIWN ETC.: RHESYMOLDEB

Cymorth mewn perthynas â digartrefedd heb fod yn berthnasolLL+C

14Nid yw’r tebygolrwydd y rhoddir cymorth i berson o dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) neu Ran 7 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (digartrefedd) yn amgylchiad perthnasol (yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad i roi sylw i’r amgylchiad hwnnw y mae’r llys yn ddarostyngedig iddo).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 10 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 10 para. 14 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2