Amgylchiadau yn ymwneud â Sail G o’r seiliau rheoli ystadLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
12Os yw’r landlord yn gwneud hawliad meddiant gan ddibynnu’n llwyr neu’n rhannol ar Sail G o’r seiliau rheoli ystad (olynydd wrth gefn heb fod angen llety)—
(a)oedran deiliad y contract a olynodd i’r contract meddiannaeth o dan adran 73,
(b)y cyfnod y mae deiliad y contract wedi meddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref, ac
(c)unrhyw gymorth ariannol neu gymorth arall a roddodd deiliad y contract i’r deiliad contract a fu farw (neu, os oedd y deiliad contract a fu farw yn olynydd i ddeiliad contract blaenorol, i’r deiliad contract blaenorol hwnnw).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 10 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2Atod. 10 para. 12 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2