xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9LL+CTERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

Valid from 01/12/2022

PENNOD 4LL+CTERFYNU CONTRACTAU DIOGEL (HYSBYSIAD DEILIAD Y CONTRACT)

163Hysbysiad deiliad y contractLL+C

(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract diogel derfynu’r contract drwy roi hysbysiad i’r landlord y bydd yn ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract [F1diogel].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 163 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

164Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateirLL+C

(1)Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 163 fod yn llai na phedair wythnos ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r landlord.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 164 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

165Adennill meddiantLL+C

(1)Os yw deiliad y contract yn methu ag ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 163, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae adran 212 yn darparu bod rhaid i’r llys, os yw’n fodlon bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract [F2diogel].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 165 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

166Cyfyngiadau ar adran 165LL+C

(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 165 rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.

(2)Caiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract.

(3)Ond ni chaiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(4)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail yn adran 165 i ddeiliad y contract ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 163 fel y dyddiad y byddai deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 166 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

167Terfynu contract yn dilyn hysbysiad deiliad y contractLL+C

(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 163, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—

(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu

(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.

(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os, cyn i’r contract ddod i ben—

(a)yw deiliad y contract yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i’r landlord, a

(b)nad yw’r landlord yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 167 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)