RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 13CEFNU(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)

220Meddiannu anheddau y cefnwyd arnynt

(1)Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth perthnasol yn credu bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd, caiff y landlord adennill meddiant o’r annedd yn unol â’r adran hon.

(2)Mae contract meddiannaeth yn berthnasol os yw’n un o delerau’r contract (ym mha fodd bynnag y’i mynegir) bod yn rhaid i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref.

(3)Rhaid i’r landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract—

(a)yn datgan bod y landlord yn credu bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd,

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract hysbysu’r landlord mewn ysgrifen cyn diwedd y cyfnod rhybuddio os nad yw deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd, ac

(c)yn hysbysu deiliad y contract o fwriad y landlord i derfynu’r contract os yw’r landlord, ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio, yn fodlon bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd.

(4)Yn ystod y cyfnod rhybuddio rhaid i’r landlord wneud unrhyw ymholiadau sy’n angenrheidiol er mwyn bodloni ei hun bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd.

(5)Ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio caiff y landlord, os yw’n fodlon fel y disgrifir yn is-adran (4), derfynu’r contract drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract.

(6)Daw’r contract i ben pan roddir yr hysbysiad o dan is-adran (5) i ddeiliad y contract.

(7)Os terfynir contract meddiannaeth o dan yr adran hon caiff y landlord adennill meddiant o’r annedd heb achos llys.

(8)Y cyfnod rhybuddio yw’r cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (3) i ddeiliad y contract.

(9)Rhaid i’r landlord roi copi o hysbysiad o dan is-adran (3) a chopi o hysbysiad o dan is-adran (5) i unrhyw letywr neu isddeiliad i ddeiliad y contract.

221Gwaredu eiddo

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau mewn cysylltiad â diogelu eiddo (ac eithrio eiddo’r landlord) sydd yn yr annedd pan ddaw contract i ben o dan adran 220, a’i draddodi i’w berchennog.

(2)Caiff y rheoliadau, ymysg pethau eraill—

(a)darparu bod traddodi eiddo yn amodol ar dalu treuliau yr aed iddynt gan y landlord;

(b)awdurdodi gwaredu eiddo ar ôl cyfnod rhagnodedig;

(c)caniatáu i’r landlord gymhwyso unrhyw enillion o werthi eiddo tuag at dalu’r treuliau yr aed iddynt gan y landlord a’r symiau sy’n ddyledus gan ddeiliad y contract o dan y contract.

222Rhwymedïau deiliad y contract

(1)Caiff deiliad contract, cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 220(5), wneud cais i’r llys ar un neu ragor o’r seiliau yn is-adran (2) am ddatganiad neu orchymyn o dan is-adran (3).

(2)Y seiliau yw—

(a)bod y landlord wedi methu â rhoi hysbysiad o dan adran 220(3) neu wedi methu â gwneud yr ymholiadau sy’n ofynnol yn ôl adran 220(4);

(b)nad oedd deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd a bod rheswm da dros ei fethiant i ymateb (neu i ymateb yn ddigonol) i’r hysbysiad o dan adran 220(3);

(c)nad oedd gan y landlord, pan roddodd yr hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 220(5), seiliau rhesymol dros fod yn fodlon bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd.

(3)Os yw’r llys yn canfod bod un neu ragor o’r seiliau wedi ei phrofi neu eu profi, caiff—

(a)gwneud datganiad nad oes unrhyw effaith i’r hysbysiad o dan adran 220(5) a bod y contract meddiannaeth yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r annedd,

(b)gorchymyn i’r landlord ddarparu llety arall addas i ddeiliad y contract, neu

(c)gwneud unrhyw orchymyn arall sy’n briodol yn ei farn.

(4)Os yw’r llys yn gwneud y naill neu’r llall o’r pethau a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b) o is-adran (3), caiff wneud unrhyw orchymyn arall y mae’n ei ystyried yn briodol.

(5)Mae addasrwydd llety arall i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 11.

223Pŵer i amrywio cyfnodau yn ymwneud â chefnu

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)diwygio adran 220(8) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd;

(b)diwygio adran 222(1) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd.

224Hawliau mynediad

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth perthnasol yn credu’n rhesymol bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd.

(2)Caiff y landlord fynd i’r annedd unrhyw bryd er mwyn ei gwneud yn ddiogel neu i ddiogelu ei chynnwys ac unrhyw osodion neu ffitiadau, a chaiff ddefnyddio grym rhesymol i wneud hynny.

(3)Mae contract meddiannaeth yn berthnasol os yw’n un o delerau’r contract (ym mha fodd bynnag y’i mynegir) bod rhaid i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref.