Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

PENNOD 10HAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS MEWN PERTHYNAS Â SEILIAU YN ÔL DISGRESIWN(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)

209Sail tor contract

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract).

(2)Ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail honno oni bai ei fod yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny.

(3)Nid yw’r llys wedi ei atal rhag gwneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail honno ond am fod deiliad y contract wedi rhoi’r gorau i gyflawni’r tor contract cyn i’r landlord wneud yr hawliad meddiant.

(4)Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhesymoldeb gwneud gorchymyn adennill meddiant.

210Seiliau rheoli ystad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn gwneud hawliad meddiant o dan adran 160 ar un neu ragor o’r seiliau rheoli ystad.

(2)Ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail honno (neu ar y seiliau hynny) oni bai—

(a)ei fod yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny, a

(b)ei fod yn fodlon bod llety arall addas ar gael i ddeiliad y contract (neu y bydd ar gael i ddeiliad y contract pan fydd y gorchymyn yn cael effaith).

(3)Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhesymoldeb gwneud gorchymyn am feddiant.

(4)Penderfynir a oes llety arall addas ar gael i ddeiliad y contract neu a fydd ar gael gan roi sylw i Atodlen 11.

(5)Os yw’r landlord yn gwneud hawliad meddiant ar Sail B o’r seiliau rheoli ystad a bod y cynllun ailddatblygu yn cael ei gymeradwyo o dan Ran 2 o Atodlen 8 yn ddarostyngedig i amodau, ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant oni bai ei fod yn fodlon bod yr amodau wedi eu bodloni, neu y cânt eu bodloni.

(6)Os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant a’i bod yn ofynnol i’r landlord dalu swm i ddeiliad y contract o dan adran 160(4), o ran y swm sy’n daladwy—

(a)os nad yw wedi ei gytuno rhwng y landlord a deiliad y contract, mae i’w ddyfarnu gan y llys, a

(b)gellir ei adennill oddi wrth y landlord fel dyled sifil.

211Pwerau i ohirio achosion ac i ohirio ildio meddiant

(1)Os yw hawliad meddiant a wneir gan landlord yn dibynnu ar y sail yn adran 157 (tor contract) neu ar un neu ragor o’r seiliau rheoli ystad, caiff y llys ohirio’r achos ar yr hawliad am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy’n rhesymol yn ei farn.

(2)Os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant o dan adran 209 neu 210, caiff (wrth wneud y gorchymyn neu ar unrhyw adeg cyn gweithredu’r gorchymyn) ohirio ildio meddiant am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy’n briodol yn ei farn.

(3)Gellir gohirio ildio meddiant drwy’r gorchymyn adennill meddiant, neu drwy atal neu oedi cyn gweithredu’r gorchymyn adennill meddiant.

(4)Pan geir gohiriad o dan yr adran hon, rhaid i’r llys osod amodau o ran—

(a)talu ôl-ddyledion rhent (os oes rhai) gan ddeiliad y contract, a

(b)parhau i dalu’r rhent (os oes rhent i’w dalu),

oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud hynny’n achosi caledi eithriadol i ddeiliad y contract neu y byddai’n afresymol fel arall.

(5)Caiff y llys osod unrhyw amodau eraill sy’n briodol yn ei farn.

(6)Os yw deiliad y contract yn cydymffurfio â’r amodau, caiff y llys ryddhau’r gorchymyn am feddiant.

(7)Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhesymoldeb gohiriad.