xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CDARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL CYFNODOL

PENNOD 3LL+CAMRYWIO CONTRACTAU

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rhn. 6 Pnd. 3: rhoddir pŵer i ddiwygio (1.9.2019) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (anaw 2), a. 30(2), Atod. 1 para. 11 (ynghyd ag a. 29); O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)

122AmrywioLL+C

(1)Ni chaniateir amrywio contract safonol cyfnodol ac eithrio—

(a)yn unol ag adrannau 123 i [F1125], neu

(b)drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.

(2)Rhaid i unrhyw amrywiad a wneir i gontract safonol cyfnodol (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad) fod yn unol ag adran 127.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori is-adrannau (1)(b) a (2) o’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori is-adrannau (1)(b) a (2) o’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddynt.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 122 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 122 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

123Amrywio’r rhentLL+C

(1)Caiff y landlord amrywio’r rhent sy’n daladwy o dan gontract safonol cyfnodol drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract yn nodi rhent newydd sydd i gael effaith ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Ni chaiff y cyfnod rhwng y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract a’r dyddiad a bennir fod yn llai na dau fis.

(3)Yn ddarostyngedig i hynny—

(a)caiff yr hysbysiad cyntaf bennu unrhyw ddyddiad, a

(b)ni chaiff hysbysiadau diweddarach bennu dyddiad sy’n gynharach na blwyddyn ar ôl y dyddiad pan gafodd rhent newydd effaith ddiwethaf.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol y mae rhent yn daladwy oddi tano [F2, ac eithrio contract safonol cyfnodol sy’n denantiaeth cymdeithas dai].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 123 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4A. 123 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

124Amrywio cydnabyddiaeth arallLL+C

(1)Pan fo cydnabyddiaeth heblaw rhent yn daladwy o dan gontract safonol cyfnodol, caniateir amrywio swm y gydnabyddiaeth—

(a)drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract, neu

(b)gan y landlord yn unol ag is-adrannau (2) i (4).

(2)Caiff y landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract sy’n nodi swm newydd o gydnabyddiaeth sydd i gael effaith ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Ni chaiff y cyfnod rhwng y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract a’r dyddiad a bennir fod yn llai na dau fis.

(4)Yn ddarostyngedig i hynny—

(a)caiff yr hysbysiad cyntaf bennu unrhyw ddyddiad, a

(b)ni chaiff hysbysiadau diweddarach bennu dyddiad sy’n gynharach na blwyddyn ar ôl y dyddiad pan gafodd swm newydd o gydnabyddiaeth effaith ddiwethaf.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol y mae cydnabyddiaeth heblaw rhent yn daladwy oddi tano.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 124 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I6A. 124 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

125Amrywio telerau eraillLL+C

(1)Caniateir amrywio telerau sylfaenol, telerau atodol a thelerau ychwanegol contract safonol cyfnodol (yn ddarostyngedig i adran [F3127) drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract.]

F4(a). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F5(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodolF6....

Diwygiadau Testunol

F6Geiriau yn a. 125(2) wedi eu hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 12(2)(b), 19(3)

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 125 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I8A. 125 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

F7126Amrywio telerau eraill gan y landlord: y weithdrefn hysbysuLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 126 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I10A. 126 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

127Cyfyngiad ar amrywioLL+C

(1)Ni chaniateir amrywio unrhyw un o delerau sylfaenol contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad).

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r darpariaethau sylfaenol a ganlyn—

(a)adran 122(1)(b) a (2) a’r adran hon,

(b)adran 45 (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal) F8...,

(c)adran 52 (cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaeth),

(d)adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall),

(e)adran 148 (terfynu a ganiateir),

(f)adran 149 (hawliadau meddiant),

(g)adran 155 (marwolaeth unig ddeiliad contract),

(h)adran 158 (sicrhau contract drwy ddatganiad ffug),

F9(i). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(j)paragraff 7 o Atodlen 4 (amrywio contract diogel yr ymdrinnir ag ef mewn datganiad ysgrifenedig o gontract safonol rhagarweiniol) [F10, a

(k)Rhan 1 o Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad y landlord o dan adran 173: torri rhwymedigaethau statudol)]

(3)Nid yw amrywiad i unrhyw deler sylfaenol arall (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad) yn cael unrhyw effaith—

(a)oni bai, o ganlyniad i’r amrywiad—

(i)y byddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori heb ei haddasu, neu

(ii)na fyddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori neu y byddai wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi, ond F11... effaith hyn fyddai bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella;

(b)pe byddai’r amrywiad (boed o fewn paragraff (a) ai peidio) yn golygu bod y teler sylfaenol yn anghydnaws â theler sylfaenol sy’n ymgorffori darpariaeth sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddi.

(4)Nid yw amrywiad i un o delerau contract safonol cyfnodol yn cael unrhyw effaith pe byddai’n golygu bod un neu ragor o delerau’r contract yn anghydnaws â theler sylfaenol (oni bai yr amrywir y teler sylfaenol hwnnw hefyd yn unol â’r adran hon mewn ffordd a fyddai’n osgoi‘r anghydnawsedd).

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i amrywiad a wneir drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 127 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I12A. 127 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

128Datganiad ysgrifenedig yn cofnodi amrywiadLL+C

(1)Os yw contract safonol cyfnodol yn cael ei amrywio yn unol â’r contract neu drwy neu o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad rhaid i’r landlord, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, roi i ddeiliad y contract—

(a)datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau sy’n cael ei amrywio neu eu hamrywio, neu

(b)datganiad ysgrifenedig o’r contract fel y’i hamrywiwyd,

oni bai bod y landlord wedi rhoi hysbysiad o’r amrywiad yn unol ag adran 123 [F12neu 124(2) i (4)].

(2)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod yr amrywir y contract.

(3)Ni chaiff y landlord godi ffi am ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan is-adran (1).

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 128 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I14A. 128 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

129Methu â darparu datganiad ysgrifenedig etc.LL+C

(1)Os yw’r landlord wedi methu â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 128 mae’r landlord yn atebol i dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.

(2)Mae’r tâl digolledu yn daladwy mewn perthynas â’r dyddiad perthnasol a phob diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol—

(a)hyd y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau a amrywiwyd, neu o’r contract fel y’i hamrywiwyd, i ddeiliad y contract, neu

(b)os yw hynny’n gynharach, hyd ddiwrnod olaf y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.

(3)Mae llog yn daladwy ar y tâl digolledu os yw’r landlord wedi methu â rhoi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b) neu cyn hynny.

(4)Mae’r llog yn dechrau cronni ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b) ar y raddfa sy’n bodoli o dan adran 6 o Ddeddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998 (p. 20) ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.

(5)Y dyddiad perthnasol yw’r dyddiad yr amrywiwyd y contract.

(6)Nid yw is-adrannau (1) i (5) yn gymwys os gellir priodoli methiant y landlord i gydymffurfio â’r gofyniad i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.

(7)Os, o dan adran 128, yw’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract fel y’i hamrywiwyd i ddeiliad y contract, mae adrannau 36 a 37 (datganiadau anghyflawn ac anghywir) yn gymwys i’r datganiad fel pe bai [F13, yn is-adran (3) o’r adrannau hynny, y geiriau “dechrau â’r diwrnod yr amrywiwyd y contract” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “dechrau” hyd at y diwedd].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 129 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I16A. 129 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2