RHAN 5DARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU DIOGEL
PENNOD 5CONTRACTAU SAFONOL YMDDYGIAD GWAHARDDEDIG
116Gorchymyn sy’n arddodi contract safonol cyfnodol oherwydd ymddygiad gwaharddedig
1
Os yw’r landlord o dan gontract diogel yn landlord cymunedol neu’n elusen gofrestredig, caiff y landlord wneud cais i’r llys am orchymyn o dan yr adran hon ar y sail fod deiliad y contract wedi torri adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall).
2
Effaith gorchymyn o dan yr adran hon yw—
a
terfynu’r contract diogel o ddyddiad a bennir yn y gorchymyn, a
b
os yw deiliad y contract yn parhau i feddiannu ar ôl y dyddiad penodedig, creu contract safonol cyfnodol y mae ei ddyddiad meddiannu ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn (ac sy’n gontract safonol cyfnodol hyd ddiwedd y cyfnod prawf).
3
Ni chaiff y llys wneud gorchymyn o dan yr adran hon onid yw’n fodlon—
a
bod deiliad y contract wedi torri adran 55,
b
y byddai wedi gwneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract) ar sail yr achos hwnnw o dor contract yn unig,
c
y bydd y landlord yn sicrhau bod rhaglen o gymorth cymdeithasol ar gael i ddeiliad y contract, sydd â’r nod o atal ymddygiad gwaharddedig, a
d
ei bod yn rhesymol gwneud y gorchymyn.
4
Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynglŷn â’r gweithgareddau a’r gwasanaethau (gan gynnwys gwasanaethau cymorth, cyngor a chwnsela) y caniateir eu cynnwys mewn rhaglen o gymorth cymdeithasol at ddibenion is-adran (3).
5
Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfnodau prawf, ynghylch y weithdrefn ar gyfer cael gorchymyn o dan yr adran hon, ac ynghylch telerau contract safonol cyfnodol sy’n cael ei greu o dan yr adran hon.
6
Yn y Ddeddf hon, ystyr “contract safonol ymddygiad gwaharddedig” yw contract sy’n gontract safonol cyfnodol sy’n cael ei greu yn sgil gorchymyn o dan yr adran hon, ac nad yw ei gyfnod prawf wedi dod i ben eto.
117Trosi i gontract diogel
1
Mae contract safonol cyfnodol a ddaeth i fodolaeth yn sgil gorchymyn o dan adran 116 ac sy’n bodoli ar ddiwedd y cyfnod prawf—
a
yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod prawf, a
b
yn cael ei ddisodli gan gontract diogel sydd â dyddiad meddiannu sy’n dod yn union ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.
2
Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r cyfnod prawf yn dod i ben oherwydd paragraff 3(9) o Atodlen 7.
3
Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch telerau contract diogel sy’n bodoli yn sgil diwedd cyfnod prawf.