RHAN 4CYFLWR ANHEDDAU
PENNOD 3AMRYWIOL
(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)
100Cyflawni rhwymedigaethau atgyweirio yn llythrennol
1
Mewn unrhyw achos am dorri rhwymedigaeth atgyweirio o dan gontract meddiannaeth, caiff y llys orchymyn bod y rhwymedigaeth yn cael ei chyflawni’n llythrennol er gwaethaf unrhyw reol ecwitïol sy’n cyfyngu ar argaeledd y rhwymedi hwnnw.
2
Y rhwymedigaethau atgyweirio yw—
a
rhwymedigaethau i atgyweirio unrhyw eiddo (neu i gadw eiddo mewn cyflwr da neu sicrhau ei fod ar gael mewn cyflwr da), neu i’w gynnal, ei adnewyddu, ei adeiladu neu ei amnewid, a
b
rhwymedigaethau i gadw unrhyw annedd mewn cyflwr ffit i bobl fyw ynddi sut bynnag y mynegir hynny,
ac maent yn cynnwys rhwymedigaethau’r landlord o dan adrannau 91 a 92.
101Gwast ac ymddwyn fel tenant
1
Nid yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn atebol am unrhyw wast o ran yr annedd.
2
Nid yw’r rheol gyfreithiol bod dyletswydd oblygedig ar denant i ymddwyn fel tenant wrth ddefnyddio annedd sydd ar les (yn yr ystyr sydd i “tenant-like user” yn ôl y gyfraith gyffredin) yn gymwys i ddeiliad contract os yw’r denantiaeth yn gontract meddiannaeth.