RHAN 4CYFLWR ANHEDDAU

PENNOD 2CYFLWR ANHEDDAU

(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT DIOGEL, POB CONTRACT SAFONOL CYFNODOL A PHOB CONTRACT SAFONOL CYFNOD PENODOL A WNEIR AM GYFNOD O LAI NA SAITH MLYNEDD)

Mynediad i anheddau a hawliau meddianwyr a ganiateir

98Hawl y landlord i fynd i’r annedd

1

Caiff y landlord fynd i’r annedd ar unrhyw adeg resymol at ddiben—

a

arolygu ei stad ac arolygu a yw mewn cyflwr da, neu

b

gwneud gwaith neu atgyweiriadau y mae angen ei wneud neu eu gwneud er mwyn cydymffurfio ag adran 91 neu 92.

2

Rhaid i’r landlord roi o leiaf 24 awr o rybudd i ddeiliad y contract cyn arfer yr hawl honno.

3

Mae is-adran (4) yn gymwys—

a

pan fo’r annedd yn ffurfio rhan o adeilad yn unig, a

b

os oes angen i’r landlord wneud gwaith neu atgyweiriadau mewn rhan arall o’r adeilad er mwyn cydymffurfio ag adran 91 neu 92.

4

Nid yw’r landlord yn atebol am fethu â chydymffurfio ag adran 91 neu 92 os nad oes gan y landlord hawliau digonol dros y rhan arall honno o’r adeilad i allu gwneud y gwaith neu’r atgyweiriadau, ac os nad oedd yn gallu cael yr hawliau hynny ar ôl gwneud ymdrech resymol i’w cael.

5

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

99Hawliau meddianwyr a ganiateir i orfodi’r Bennod

1

Caiff meddiannydd a ganiateir sy’n cael anaf personol, neu’n dioddef colled neu ddifrod i eiddo personol o ganlyniad i fethiant y landlord i gydymffurfio ag adran 91 neu 92, orfodi’r adran berthnasol yn ei hawl ei hun drwy ddod ag achos mewn cysylltiad â’r anaf, y golled neu’r difrod.

2

Ond os yw meddiannydd a ganiateir yn lletywr neu’n isddeiliad, ni chaiff wneud hynny oni chaniateir i’r lletywr fyw yn yr annedd, neu oni wneir y contract isfeddiannaeth, yn unol â’r contract meddiannaeth.

3

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.