RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 9CYDSYNIAD Y LANDLORD
I6I184Cydsyniad y landlord: rhesymoldeb
1
Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o delerau contract meddiannaeth nad yw ond yn caniatáu i rywbeth gael ei wneud â chydsyniad y landlord.
2
Ni chaiff y landlord—
a
gwrthod cydsyniad yn afresymol, na
b
cydsynio yn ddarostyngedig i amodau afresymol.
3
Rhaid i gais am gydsyniad y landlord gael ei wneud mewn ysgrifen, ac mae cyfeiriadau yn yr adran hon at gais yn gyfeiriadau at gais ysgrifenedig.
4
Caiff y landlord ofyn am wybodaeth i’w alluogi i ymdrin â chais; ond ni chaiff y landlord wneud hynny ar ôl diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y cais.
5
Os yw’r landlord yn gofyn am wybodaeth nad yw’n rhesymol iddo ofyn amdani, mae’r landlord i’w drin fel pe na bai wedi gofyn am yr wybodaeth honno.
6
Os nad yw’r landlord yn rhoi cydsyniad mewn ysgrifen nac yn gwrthod cydsyniad mewn ysgrifen cyn diwedd y cyfnod perthnasol, mae’r landlord i’w drin fel pe bai wedi cydsynio heb amodau.
7
Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o fis sy’n dechrau ar ba un bynnag o’r canlynol sydd hwyraf—
a
y diwrnod y gwneir y cais am gydsyniad, neu
b
os yw’r landlord yn gofyn am wybodaeth yn unol ag is-adran (4), y diwrnod y darperir yr wybodaeth.
8
Os yw’r landlord yn cydsynio yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i’r landlord roi hysbysiad ysgrifenedig o’r amodau i ddeiliad y contract ar yr un pryd ag y mae’n cydsynio; ac os nad yw’r landlord yn gwneud hynny, mae’r landlord i’w drin fel pe bai wedi cydsynio heb amodau.
9
Os yw’r landlord yn gwrthod cydsynio neu’n cydsynio yn ddarostyngedig i amodau, caiff y person a wnaeth y cais ofyn am ddatganiad ysgrifenedig o resymau’r landlord.
10
Os nad yw’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r rhesymau cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod y gofynnir am y datganiad, mae’r landlord i’w drin fel pe bai wedi cydsynio heb amodau.
I3I485Cais i’r llys yn ymwneud â chydsyniad
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r landlord, o dan adran 84, yn rhoi datganiad ysgrifenedig o resymau dros wrthod cydsynio neu dros gydsynio yn ddarostyngedig i amodau.
2
Caiff y person a wnaeth y cais am gydsyniad wneud cais i’r llys ar y sail—
a
ei bod yn afresymol bod y landlord wedi gwrthod cydsynio, neu
b
bod un neu ragor o’r amodau a osodwyd yn afresymol.
3
Os yw’r llys yn fodlon bod y sail yn is-adran (2)(a) wedi ei phrofi caiff ddatgan bod y landlord wedi gwrthod cydsyniad yn afresymol, a chaiff hefyd—
a
datgan bod y landlord i’w drin fel pe bai wedi cydsynio heb amodau, neu
b
cyfarwyddo’r landlord i ailystyried y cais am gydsyniad.
4
Os yw’r llys yn fodlon bod y sail yn is-adran (2)(b) wedi ei phrofi caiff ddatgan bod un neu ragor o’r amodau yn afresymol, a chaiff hefyd—
a
datgan bod y landlord i’w drin fel pe bai wedi cydsynio heb amodau neu’n ddarostyngedig i’r amodau hynny nas datganwyd yn afresymol, neu
b
cyfarwyddo’r landlord i ailystyried y cais am gydsyniad.
5
Os yw’r llys yn gwneud datganiad o dan is-adran (3) neu (4) caiff wneud unrhyw orchymyn arall y mae’n ei ystyried yn briodol.
I5I286Cydsyniad y landlord: amseriad
1
Os yw teler mewn contract meddiannaeth yn caniatáu i rywbeth gael ei wneud gyda chydsyniad y landlord, caiff y landlord gydsynio ar ôl i’r peth gael ei wneud.
2
Ond nid yw hyn yn gymwys i—
a
adran 49 (ychwanegu cyd-ddeiliad contract), neu
b
unrhyw deler o’r contract meddiannaeth sy’n caniatáu trosglwyddo’r contract, neu drosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract o dan y contract.