Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Trosglwyddo

69Ffurf trosglwyddiad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i’r canlynol (yn ddarostyngedig i is-adran (6))—

(a)trosglwyddiad contract meddiannaeth gan ddeiliad y contract;

(b)trosglwyddiad gan gyd-ddeiliad contract o’i hawliau a’i rwymedigaethau o dan gontract meddiannaeth.

(2)Rhaid i’r trosglwyddiad gael ei lofnodi neu ei gyflawni gan bob un o’r partïon i’r trosglwyddiad.

(3)Os yw’r contract yn ei gwneud yn ofynnol cael cydsyniad y landlord i’r trosglwyddiad, rhaid i’r trosglwyddiad hefyd gael ei lofnodi neu ei gyflawni gan y landlord.

(4)Ond nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw’r landlord yn cael ei drin fel pe bai wedi cydsynio o dan adran 84(6), (8) neu (10).

(5)Nid yw trosglwyddiad y mae’r adran hon yn gymwys iddo yn cael unrhyw effaith os nad yw’n cydymffurfio ag is-adran (2) ac, os yw’n gymwys, is-adran (3).

(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys i drosglwyddiad yn unol â theler sydd wedi ei gynnwys yn y contract o dan adran 139 neu 142 (trosglwyddiadau penodol o gontractau safonol cyfnod penodol).

70Effaith trosglwyddiad awdurdodedig

(1)Os yw contract meddiannaeth yn cael ei drosglwyddo gan ddeiliad y contract i berson (“P”) yn unol â’r contract ac adran 69, ar y dyddiad trosglwyddo—

(a)bydd gan P hawl i’r holl hawliau, a bydd yn ddarostyngedig i holl rwymedigaethau deiliad y contract o dan y contract, a

(b)ni fydd gan ddeiliad y contract hawl i unrhyw hawliau, a bydd yn peidio â bod yn ddarostyngedig i unrhyw rwymedigaethau o dan y contract.

(2)Os yw hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn cael eu trosglwyddo i berson (“P”) yn unol â’r contract ac adran 69, ar y dyddiad trosglwyddo—

(a)bydd gan P hawl i’r holl hawliau, a bydd yn ddarostyngedig i holl rwymedigaethau cyd-ddeiliad y contract o dan y contract, a

(b)ni fydd gan gyd-ddeiliad y contract hawl i unrhyw hawliau, a bydd yn peidio â bod yn ddarostyngedig i unrhyw rwymedigaethau o dan y contract.

(3)Mae is-adran (2)(a) yn ddarostyngedig i unrhyw deler sydd wedi ei gynnwys yn y contract oherwydd adran 141(3) neu 142(3) (contractau safonol cyfnod penodol: trosglwyddiadau o fuddiant cyd-ddeiliad contract).

(4)Nid oes dim yn is-adran (1)(b) na (2)(b) yn dileu unrhyw hawl nac yn ildio unrhyw atebolrwydd sy’n cronni cyn y dyddiad trosglwyddo.

(5)Y dyddiad trosglwyddo yw’r dyddiad y mae deiliad y contract a P yn cytuno arno fel y diwrnod y mae’r trosglwyddiad yn cael effaith.

71Effaith trosglwyddiad heb ei awdurdodi

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i—

(a)trosglwyddiad contract meddiannaeth gan ddeiliad y contract i berson (“P”) nad yw’n unol â’r contract, a

(b)trosglwyddiad gan gyd-ddeiliad contract o’i hawliau a’i rwymedigaethau o dan gontract meddiannaeth i berson (“P”), nad yw’n unol â’r contract.

(2)Os yw’r landlord yn derbyn taliadau oddi wrth P mewn perthynas â meddiannaeth P o’r annedd, ar adeg—

(a)pan fo’r landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, unrhyw un ohonynt) yn gwybod nad oedd y trosglwyddiad wedi ei wneud yn unol â’r contract, neu

(b)pan ddylai’r landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, unrhyw un ohonynt) wybod yn rhesymol nad oedd y trosglwyddiad wedi ei wneud yn unol â’r contract,

bydd y trosglwyddiad yn rhwymo’r landlord o’r diwrnod yn union ar ôl diwrnod olaf y cyfnod perthnasol.

(3)Mae adran 70 yn gymwys—

(a)fel pe bai’r trosglwyddiad wedi ei wneud yn unol â’r contract ac adran 69, a

(b)fel pe bai’r dyddiad trosglwyddo oedd y diwrnod yn union ar ôl diwrnod olaf y cyfnod perthnasol.

(4)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff taliadau eu derbyn gyntaf fel y disgrifir yn is-adran (2).

(5)Nid yw is-adrannau (2) a (3) yn gymwys os yw’r landlord, cyn diwedd y cyfnod perthnasol—

(a)yn cymryd camau i ddod â’r contract meddiannaeth i ben, neu

(b)yn dod ag achos llys i droi P allan fel tresmaswr neu’n dangos bwriad i drin P fel tresmaswr mewn unrhyw ffordd arall.

(6)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at drosglwyddiad yn cynnwys trosglwyddiad honedig nad yw’n cydymffurfio ag adran 69.

72Gweithredoedd a chyfamodau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i gontractau meddiannaeth sy’n denantiaethau.

(2)Nid yw adran 52 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (p. 20) (rhaid trosglwyddo tir drwy weithred) yn gymwys i drosglwyddiad o’r contract.

(3)Nid yw Deddf Landlord a Thenant (Cyfamodau) 1995 (p. 30) yn gymwys i—

(a)trosglwyddiad gan ddeiliad contract o unrhyw un neu ragor o’r pethau a grybwyllir yn adran 57(1), neu gan gyd-ddeiliad contract o unrhyw un neu ragor o’r pethau a grybwyllir yn adran 57(2), neu

(b)trosglwyddiad a gâi ei drin o dan adran 28(6)(b) o’r Ddeddf honno fel aseiniad o’r annedd.