RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 8DELIO
Trosglwyddo
69Ffurf trosglwyddiad
1
Mae’r adran hon yn gymwys i’r canlynol (yn ddarostyngedig i is-adran (6))—
a
trosglwyddiad contract meddiannaeth gan ddeiliad y contract;
b
trosglwyddiad gan gyd-ddeiliad contract o’i hawliau a’i rwymedigaethau o dan gontract meddiannaeth.
2
Rhaid i’r trosglwyddiad gael ei lofnodi neu ei gyflawni gan bob un o’r partïon i’r trosglwyddiad.
3
Os yw’r contract yn ei gwneud yn ofynnol cael cydsyniad y landlord i’r trosglwyddiad, rhaid i’r trosglwyddiad hefyd gael ei lofnodi neu ei gyflawni gan y landlord.
4
Ond nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw’r landlord yn cael ei drin fel pe bai wedi cydsynio o dan adran 84(6), (8) neu (10).
5
Nid yw trosglwyddiad y mae’r adran hon yn gymwys iddo yn cael unrhyw effaith os nad yw’n cydymffurfio ag is-adran (2) ac, os yw’n gymwys, is-adran (3).
6
Nid yw’r adran hon yn gymwys i drosglwyddiad yn unol â theler sydd wedi ei gynnwys yn y contract o dan adran 139 neu 142 (trosglwyddiadau penodol o gontractau safonol cyfnod penodol).
70Effaith trosglwyddiad awdurdodedig
1
Os yw contract meddiannaeth yn cael ei drosglwyddo gan ddeiliad y contract i berson (“P”) yn unol â’r contract ac adran 69, ar y dyddiad trosglwyddo—
a
bydd gan P hawl i’r holl hawliau, a bydd yn ddarostyngedig i holl rwymedigaethau deiliad y contract o dan y contract, a
b
ni fydd gan ddeiliad y contract hawl i unrhyw hawliau, a bydd yn peidio â bod yn ddarostyngedig i unrhyw rwymedigaethau o dan y contract.
2
Os yw hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn cael eu trosglwyddo i berson (“P”) yn unol â’r contract ac adran 69, ar y dyddiad trosglwyddo—
a
bydd gan P hawl i’r holl hawliau, a bydd yn ddarostyngedig i holl rwymedigaethau cyd-ddeiliad y contract o dan y contract, a
b
ni fydd gan gyd-ddeiliad y contract hawl i unrhyw hawliau, a bydd yn peidio â bod yn ddarostyngedig i unrhyw rwymedigaethau o dan y contract.
3
Mae is-adran (2)(a) yn ddarostyngedig i unrhyw deler sydd wedi ei gynnwys yn y contract oherwydd adran 141(3) neu 142(3) (contractau safonol cyfnod penodol: trosglwyddiadau o fuddiant cyd-ddeiliad contract).
4
Nid oes dim yn is-adran (1)(b) na (2)(b) yn dileu unrhyw hawl nac yn ildio unrhyw atebolrwydd sy’n cronni cyn y dyddiad trosglwyddo.
5
Y dyddiad trosglwyddo yw’r dyddiad y mae deiliad y contract a P yn cytuno arno fel y diwrnod y mae’r trosglwyddiad yn cael effaith.
71Effaith trosglwyddiad heb ei awdurdodi
1
Mae’r adran hon yn gymwys i—
a
trosglwyddiad contract meddiannaeth gan ddeiliad y contract i berson (“P”) nad yw’n unol â’r contract, a
b
trosglwyddiad gan gyd-ddeiliad contract o’i hawliau a’i rwymedigaethau o dan gontract meddiannaeth i berson (“P”), nad yw’n unol â’r contract.
2
Os yw’r landlord yn derbyn taliadau oddi wrth P mewn perthynas â meddiannaeth P o’r annedd, ar adeg—
a
pan fo’r landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, unrhyw un ohonynt) yn gwybod nad oedd y trosglwyddiad wedi ei wneud yn unol â’r contract, neu
b
pan ddylai’r landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, unrhyw un ohonynt) wybod yn rhesymol nad oedd y trosglwyddiad wedi ei wneud yn unol â’r contract,
bydd y trosglwyddiad yn rhwymo’r landlord o’r diwrnod yn union ar ôl diwrnod olaf y cyfnod perthnasol.
3
Mae adran 70 yn gymwys—
a
fel pe bai’r trosglwyddiad wedi ei wneud yn unol â’r contract ac adran 69, a
b
fel pe bai’r dyddiad trosglwyddo oedd y diwrnod yn union ar ôl diwrnod olaf y cyfnod perthnasol.
4
Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff taliadau eu derbyn gyntaf fel y disgrifir yn is-adran (2).
5
Nid yw is-adrannau (2) a (3) yn gymwys os yw’r landlord, cyn diwedd y cyfnod perthnasol—
a
yn cymryd camau i ddod â’r contract meddiannaeth i ben, neu
b
yn dod ag achos llys i droi P allan fel tresmaswr neu’n dangos bwriad i drin P fel tresmaswr mewn unrhyw ffordd arall.
6
Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at drosglwyddiad yn cynnwys trosglwyddiad honedig nad yw’n cydymffurfio ag adran 69.
72Gweithredoedd a chyfamodau
1
Mae’r adran hon yn gymwys i gontractau meddiannaeth sy’n denantiaethau.
2
Nid yw adran 52 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (p. 20) (rhaid trosglwyddo tir drwy weithred) yn gymwys i drosglwyddiad o’r contract.
3
Nid yw Deddf Landlord a Thenant (Cyfamodau) 1995 (p. 30) yn gymwys i—
a
trosglwyddiad gan ddeiliad contract o unrhyw un neu ragor o’r pethau a grybwyllir yn adran 57(1), neu gan gyd-ddeiliad contract o unrhyw un neu ragor o’r pethau a grybwyllir yn adran 57(2), neu
b
trosglwyddiad a gâi ei drin o dan adran 28(6)(b) o’r Ddeddf honno fel aseiniad o’r annedd.