xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

PENNOD 8DELIO

Contractau isfeddiannaeth

59Contractau isfeddiannaeth: dehongli

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion dehongli’r Ddeddf hon.

(2)Mae “contract isfeddiannaeth” yn gontract meddiannaeth—

(a)a wneir gyda landlord sy’n ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth, a

(b)sy’n ymwneud â’r annedd i gyd neu ran o’r annedd y mae’r contract hwnnw yn berthnasol iddi.

(3)Ystyr “isddeiliad” yw deiliad y contract o dan y contract isfeddiannaeth.

(4)Ystyr “prif landlord” yw’r landlord o dan y prif gontract.

60Nid yw contract isfeddiannaeth byth yn cael effaith fel trosglwyddiad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn gwneud contract isfeddiannaeth, a bod cyfnod y contract isfeddiannaeth yn dod i ben ar yr un pryd â chyfnod y prif gontract.

(2)Mae’r contract isfeddiannaeth yn cael effaith fel contract isfeddiannaeth (ac nid fel trosglwyddiad i’r isddeiliad).

61Methiant i gydymffurfio ag amodau a osodir gan y prif landlord

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw contract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn caniatáu i ddeiliad y contract ymrwymo i gontract isfeddiannaeth gyda chydsyniad y prif landlord.

(2)Os yw’r prif landlord yn cydsynio yn ddarostyngedig i amodau (gweler adran 84), cyn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth gyda pherson rhaid i ddeiliad y contract hysbysu’r person hwnnw o’r amodau hynny.

(3)Os nad yw deiliad y contract yn cydymffurfio â’r gofyniad yn is-adran (2) ac yr ymrwymir i gontract isfeddiannaeth, mae deiliad y contract i’w drin fel pe bai wedi cyflawni tor contract ymwrthodol o’r contract isfeddiannaeth (gweler adran 154).

(4)Os yw’r prif landlord yn cydsynio yn ddarostyngedig i amodau ac yr ymrwymir i gontract isfeddiannaeth—

(a)mae adran 32 i’w darllen mewn perthynas â’r contract hwnnw fel pe bai’n darparu (yn ychwanegol at y gofynion eraill yn yr adran honno) fod yn rhaid i’r datganiad ysgrifenedig o’r contract isfeddiannaeth nodi’r amodau a osodir gan y prif landlord, a

(b)mae adran 37 i’w darllen mewn perthynas â’r contract hwnnw fel pe bai’n darparu (yn ychwanegol at y darpariaethau eraill yn yr adran honno)—

(i)yn is-adran (1), y caiff yr is-ddeiliad wneud cais i’r llys am ddatganiad bod y datganiad ysgrifenedig yn nodi amod yn anghywir neu’n nodi amod na chafodd ei gosod gan y prif landlord,

(ii)bod gan y prif landlord hawl i fod yn barti i’r achos ar y cais, a

(iii)y caiff y llys, os yw’n fodlon bod y naill neu’r llall o’r seiliau yn is-baragraff (i) wedi ei phrofi, wneud datganiad yn nodi’r amod cywir neu, yn ôl y digwydd, y caiff ddatgan nad yw’r amod yn amod a osodwyd gan y prif landlord.

(5)Nid yw contract isfeddiannaeth wedi ei wneud yn unol â’r prif gontract ond oherwydd—

(a)bod y prif landlord yn cydsynio yn ddarostyngedig i amodau, a

(b)na chydymffurfir â’r amodau.

(6)Mewn achos o’r fath caiff y prif landlord ddewis trin y contract isfeddiannaeth fel contract safonol cyfnodol sydd â’r nodweddion a ganlyn—

(a)mae’r holl ddarpariaethau sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i gontract safonol cyfnodol wedi eu hymgorffori heb eu haddasu,

(b)nid oes effaith i unrhyw delerau yn y contract diogel neu’r contract safonol cyfnod penodol sy’n anghydnaws â’r darpariaethau sylfaenol neu atodol hynny, ac

(c)fel arall, mae telerau’r contract safonol cyfnodol yr un fath â thelerau’r contract diogel neu’r contract safonol cyfnod penodol.

(7)Os yw’r prif landlord yn dewis ei drin fel contract safonol cyfnodol o dan is-adran (6), rhaid i’r prif landlord hysbysu deiliad y contract a’r isddeiliad am y dewis hwnnw.

(8)Dim ond ar ôl i’r contract isfeddiannaeth gael ei wneud a chyn diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r prif gontract yn dod i ben y caiff y prif landlord roi hysbysiad o dan is-adran (7).

(9)Os yw’r prif landlord yn rhoi hysbysiad yn unol ag is-adrannau (7) a (8), mae’r contract i’w drin fel contract safonol cyfnodol sydd â’r nodweddion a grybwyllir yn is-adran (6) o ran unrhyw gwestiwn sy’n codi rhwng yr isddeiliad ac unrhyw berson heblaw deiliad y contract.

62Y prif gontract yn dod i ben

(1)Mae’r adran hon yn gymwys (yn ddarostyngedig i is-adran (6))—

(a)os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth yn unol â’r prif gontract, a

(b)os yw’r prif gontract yn dod i ben ar ôl dyddiad meddiannu’r prif gontract.

(2)Os yw’r contract isfeddiannaeth yn dal i fodoli yn union cyn i’r prif gontract ddod i ben⁠—

(a)mae’r contract isfeddiannaeth yn parhau (fel contract meddiannaeth nad yw’n gontract isfeddiannaeth), a

(b)mae hawliau a rhwymedigaethau deiliad y contract fel landlord o dan y contract isfeddiannaeth yn cael eu trosglwyddo i’r prif landlord.

(3)Os yw’r isddeiliad yn gofyn i’r prif landlord am ddatganiad ysgrifenedig pellach o’r contract o dan adran 31(4), (ac nad yw is-adran (5) o’r adran hon yn gymwys), mae’r cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn adrannau 34(4) a 35(5) (methiant i ddarparu datganiad) yn cynnwys y person a oedd yn ddeiliad y contract o dan y prif gontract.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo—

(a)prif landlord wedi rhoi hysbysiad yn unol ag adran 61(7) a (8), mewn perthynas â chontract, a

(b)y contract yn parhau oherwydd is-adran (2)(a) o’r adran hon.

(5)Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, at ddibenion adran 31(1) (datganiad ysgrifenedig o’r contract) mae dyddiad meddiannu’r contract i’w drin—

(a)os rhoddir yr hysbysiad a grybwyllir yn adran 61(7) i’r isddeiliad cyn diwedd y prif gontract, fel y diwrnod y mae’r prif gontract yn dod i ben;

(b)os rhoddir yr hysbysiad i’r isddeiliad ar y diwrnod y mae’r prif gontract yn dod i ben neu ar ôl hynny, fel y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys os yw’r prif gontract yn gontract safonol cyfnod penodol sy’n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod penodol.

63Y prif gontract yn dod i ben: darpariaeth bellach

(1)Nid oes dim yn adran 62 yn effeithio ar unrhyw hawl sydd gan y prif landlord o dan adran 61(6) (y pŵer i drin contract isfeddiannaeth fel contract safonol cyfnodol).

(2)Nid oes dim yn adran 62 yn gwneud y prif landlord yn atebol i’r isddeiliad mewn perthynas ag unrhyw dor contract isfeddiannaeth a gyflawnwyd gan ddeiliad y contract.

(3)Nid oes dim yn adran 62 yn gwneud yr isddeiliad yn atebol i’r prif landlord mewn perthynas ag unrhyw dor contract isfeddiannaeth gan yr isddeiliad a ddigwyddodd cyn i’r prif gontract ddod i ben.

(4)Ond gall y prif landlord fod yn atebol i’r isddeiliad, neu’r isddeiliad i’r prif landlord, i’r graddau y mae unrhyw dor contract isfeddiannaeth yn parhau ar ôl i’r prif gontract ddod i ben.

(5)Nid yw is-adrannau (3) a (4) yn effeithio ar unrhyw bŵer y mae’r contract isfeddiannaeth yn ei roi i’r prif landlord.

64Hawliad meddiant yn erbyn deiliad y contract pan fo isddeiliad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw deiliad y contract (“D”) o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth yn unol â’r prif gontract, a

(b)os yw landlord D, ar ôl i’r contract isfeddiannaeth gael ei wneud, yn rhoi hysbysiad adennill meddiant i D, neu hysbysiad arall yn hysbysu D bod rhaid iddo ildio meddiant.

(2)Ar yr un pryd ag y mae’n rhoi hysbysiad a grybwyllir yn is-adran (1)(b) i D, rhaid i landlord D roi hysbysiad i’r isddeiliad—

(a)sy’n datgan ei fod yn bwriadu gwneud hawliad meddiant yn erbyn D, a

(b)sy’n pennu’r sail ar gyfer gwneud yr hawliad.

65Gorchymyn adennill meddiant estynedig yn erbyn isddeiliad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw deiliad y contract (“D”) o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth yn unol â’r prif gontract, a

(b)os yw landlord D yn gwneud hawliad meddiant yn erbyn D ar ôl i’r contract isfeddiannaeth gael ei wneud.

(2)Yn yr achos ar yr hawliad yn erbyn D, caiff landlord D wneud cais am orchymyn adennill meddiant yn erbyn yr isddeiliad (“I”) (“gorchymyn adennill meddiant estynedig”); ond ni chaniateir gwneud cais o dan yr is-adran hon oni bai bod—

(a)y gofynion a ddynodir yn is-adran (3) wedi eu bodloni, neu

(b)y llys o’r farn ei bod yn rhesymol hepgor y gofynion hynny.

(3)Mae’r gofynion fel a ganlyn—

(a)rhaid i landlord D fod wedi rhoi copi o’r hysbysiad a grybwyllir yn is-adran (1)(b) o adran 64 i I yn unol ag is-adran (2) o’r adran honno, a

(b)ar yr un pryd, rhaid i landlord D fod wedi rhoi hysbysiad i I—

(i)o fwriad landlord D i wneud cais am orchymyn adennill meddiant estynedig yn yr achos ar yr hawliad yn erbyn D, a

(ii)o hawl I i fod yn barti i’r achos ar yr hawliad yn erbyn D.

(4)Pan ganiateir i landlord D wneud cais am orchymyn adennill meddiant estynedig yn erbyn I, mae gan I hawl i fod yn barti i’r achos ar yr hawliad meddiant yn erbyn D (ni waeth pa un a yw landlord D yn gwneud cais am orchymyn adennill meddiant estynedig yn yr achos ai peidio).

(5)Ni chaiff y llys ystyried cais landlord D am orchymyn adennill meddiant estynedig onid yw wedi penderfynu gwneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn D.

(6)Ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant estynedig yn erbyn I oni bai y byddai’r llys, pe byddai D wedi gwneud hawliad meddiant yn erbyn I, wedi gwneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn I.

66Gwahardd deiliad y contract ar ôl cefnu ar gontractau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw deiliad contract (“D”) o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth yn unol â’r prif gontract, a

(b)bod yr isddeiliad (“I”) yn credu nad yw D mwyach yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth.

(2)Caiff I weithredu i ddod â’r prif gontract i ben yn unol â’r adran hon.

(3)Rhaid i I roi hysbysiad i D—

(a)yn datgan bod I yn credu nad yw D mwyach yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth,

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i D hysbysu I mewn ysgrifen cyn diwedd y cyfnod rhybuddio os yw’n ystyried ei fod yn barti i un o’r contractau hynny, neu i’r ddau ohonynt, ac

(c)yn hysbysu D y caniateir i’r prif gontract gael ei derfynu ar ôl y cyfnod rhybuddio ac y caniateir i’w hawliau a’i rwymedigaethau o dan y contract isfeddiannaeth gael eu trosglwyddo i landlord D.

(4)Rhaid i I roi copi o’r hysbysiad i landlord D.

(5)Yn ystod y cyfnod rhybuddio, rhaid i I wneud y cyfryw ymholiadau sy’n angenrheidiol i’w fodloni ei hun nad yw D mwyach yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth.

(6)Ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio caiff I, os yw wedi ei fodloni fel y disgrifir yn is-adran (5), wneud cais i’r llys am orchymyn—

(a)sy’n dod â’r prif gontract i ben, a

(b)bod hawliau a rhwymedigaethau D fel landlord o dan y contract isfeddiannaeth i’w trosglwyddo i landlord D yn unol ag adrannau 62 a 63.

(7)Ni chaiff y llys wrando ar gais I o dan is-adran (6) os yw I wedi methu â chydymffurfio â’r gofyniad yn is-adran (4); ond os yw’n ystyried bod hynny’n rhesymol caiff y llys hepgor y gofyniad hwnnw.

(8)Mae gan landlord D hawl i fod yn barti i achos ar gais a wneir gan I o dan is-adran (6).

(9)Os yw’r llys yn fodlon nad yw D yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth, caiff wneud y gorchymyn y gwnaed cais amdano o dan is-adran (6); ac os yw’n gwneud hynny rhaid iddo bennu’r dyddiad y daw’r prif gontract i ben.

(10)Ond ni chaiff y llys wneud gorchymyn o dan is-adran (9)—

(a)os yw landlord D yn barti i’r achos,

(b)os yw landlord D yn haeru y byddai’r llys wedi gwneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn I, pe byddai D wedi gwneud cais am orchymyn o’r fath mewn hawliad meddiant a wnaed gan D yn erbyn I, ac

(c)os yw’r llys yn fodlon y byddai wedi gwneud y gorchymyn adennill meddiant yn erbyn I yn yr amgylchiadau hynny.

(11)Y cyfnod rhybuddio yw’r cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (3) i D.

67Rhwymedïau’r deiliad contract sydd wedi ei wahardd

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r llys yn gwneud gorchymyn yn erbyn D o dan adran 66(9).

(2)Cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y gorchymyn, caiff D wneud cais i’r llys ar un neu ragor o’r seiliau yn is-adran (3) am orchymyn a datganiad o dan is-adran (4)(a).

(3)Y seiliau yw—

(a)bod I wedi methu â rhoi hysbysiad i D o dan adran 66(3) neu wedi methu â gwneud yr ymholiadau sy’n ofynnol yn ôl adran 66(5);

(b)bod D yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract neu’r contract isfeddiannaeth neu’r ddau ohonynt a bod rheswm da dros ei fethiant i ymateb (neu i ymateb yn ddigonol) i’r hysbysiad o dan adran 66(3);

(c)nad oedd gan I, pan wnaeth gais i’r llys, seiliau rhesymol dros fod yn fodlon bod D yn ystyried nad oedd yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth.

(4)Os yw’r llys yn canfod bod un neu ragor o’r seiliau wedi ei phrofi, caiff—

(a)dadwneud ei orchymyn o dan adran 66(9) drwy orchymyn, a gwneud datganiad bod y prif gontract yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r annedd, a

(b)gwneud unrhyw orchymyn pellach y mae’n ei ystyried yn briodol.

68Y pŵer i amrywio cyfnodau sy’n ymwneud â gwahardd ar ôl achos o gefnu ar gontract

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)diwygio adran 66(11) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd;

(b)diwygio adran 67(2) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd.