Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

PENNOD 1LL+CTROSOLWG

30Trosolwg o’r Rhan honLL+C

Mae’r Rhan hon yn gymwys i bob contract meddiannaeth, ac yn benodol—

(a)mae’n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid roi datganiad ysgrifenedig sy’n nodi telerau’r contract meddiannaeth i ddeiliaid contract,

(b)mae’n ymwneud â blaendaliadau a roir i landlordiaid gan ddeiliaid contract, ac yn darparu bod rhaid dal blaendaliadau mewn cynllun blaendal awdurdodedig,

(c)mae’n gwneud darpariaeth ynghylch contractau meddiannaeth sydd â mwy nag un deiliad contract,

(d)mae’n rhoi hawl i ddeiliaid contract feddiannu eu cartref heb ymyrraeth gan y landlord,

(e)mae’n gwahardd ymddygiad gwrthgymdeithasol a mathau penodol eraill o ymddygiad gan ddeiliaid contract a meddianwyr ac ymwelwyr eraill,

(f)mae’n gwahardd delio â chontract meddiannaeth, ond mae hyn yn ddarostyngedig i eithriadau ynghylch contractau isfeddiannaeth, trosglwyddo contractau ac olynu i gontractau,

(g)mae’n ymwneud â cheisio cydsyniad landlord a rhoi cydsyniad landlord, ac

(h)mae’n ymwneud â thâl digolledu y gall deiliaid contract fod â hawl iddo o dan y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 30 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2