xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CCONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID

Valid from 01/12/2022

PENNOD 1LL+CCONTRACTAU MEDDIANNAETH

7Tenantiaethau a thrwyddedau sy’n gontractau meddiannaethLL+C

(1)Mae tenantiaeth neu drwydded yn gontract meddiannaeth—

(a)os yw o fewn is-adran (2) neu (3), a

(b)os oes rhent neu gydnabyddiaeth arall yn daladwy oddi tani.

(2)Mae tenantiaeth o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw wedi ei gwneud rhwng landlord ac unigolyn, a

(b)os yw’n rhoi’r hawl i’r unigolyn feddiannu annedd fel cartref.

(3)Mae tenantiaeth neu drwydded o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw wedi ei gwneud rhwng landlord a dau neu ragor o bersonau, a bod o leiaf un o’r rheini yn unigolyn, a

(b)os yw’n rhoi’r hawl i’r unigolyn (neu i un neu ragor ohonynt, os oes mwy nag un unigolyn) feddiannu annedd fel cartref.

(4)Ond mae eithriadau i is-adran (1) yn Atodlen 2, sy’n darparu—

(a)yn Rhan 1, y gall tenantiaethau a thrwyddedau penodol nad ydynt o fewn is-adran (2) neu (3) fod yn gontractau meddiannaeth os rhoddir hysbysiad,

(b)yn Rhan 2, nad yw tenantiaethau a thrwyddedau penodol sydd o fewn is-adran (2) neu (3) yn gontractau meddiannaeth oni bai y rhoddir hysbysiad,

(c)yn Rhan 3, nad yw tenantiaethau a thrwyddedau penodol byth yn gontractau meddiannaeth,

(d)yn Rhannau 4 a 5, y gall tenantiaethau a thrwyddedau penodol fod yn gontractau meddiannaeth, ond bod rheolau arbennig yn gymwys mewn perthynas â hwy, ac

(e)yn Rhan 6, y caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen honno.

(5)Mae pob person y mae landlord yn gwneud contract meddiannaeth ag ef yn ddeiliad contract o dan y contract meddiannaeth.

(6)Ond ni all unigolyn fod yn ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth os nad yw wedi cyrraedd 18 oed.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

8Contractau diogel a chontractau safonolLL+C

(1)Mae contract meddiannaeth naill ai—

(a)yn gontract diogel, neu

(b)yn gontract safonol.

(2)Mae contract diogel yn gontract cyfnodol.

(3)Mae contract safonol naill ai’n gontract cyfnod penodol neu’n gontract cyfnodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)