RHAN 11DARPARIAETHAU TERFYNOL
Dehongli’r Ddeddf
I1243Awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill
1
Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion dehongli’r Ddeddf hon.
2
Mae’r canlynol yn awdurdodau lleol—
a
cyngor sir ar gyfer ardal yng Nghymru,
b
cyngor bwrdeistref sirol, ac
c
comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.
3
Ystyr “awdurdod tai lleol” (ac eithrio ym mharagraff 12 o Atodlen 2) yw cyngor sir ar gyfer ardal yng Nghymru neu gyngor bwrdeistref sirol.
4
Ystyr “ymddiriedolaeth gweithredu tai” yw ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) ac mae’n cynnwys unrhyw gorff a sefydlwyd o dan adran 88 o’r Ddeddf honno.
5
Mae i “corfforaeth dref newydd” yr un ystyr â “new town corporation” yn Neddf Tai 1985 (p. 68) (gweler adran 4 o’r Ddeddf honno).
6
Ystyr “corfforaeth datblygu trefol” yw corfforaeth datblygu trefol a sefydlwyd o dan Ran 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p. 65) ac mae’n cynnwys unrhyw gorff a sefydlwyd o dan adran 165B o’r Ddeddf honno.
I2244Landlord, lletywr a meddiannydd a ganiateir
1
Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion dehongli’r Ddeddf hon.
2
Y landlord, mewn perthynas â chontract meddiannaeth, yw’r person sydd (neu sy’n honni ei fod) â hawl i roi’r hawl i unigolyn feddiannu’r annedd fel cartref.
3
Mae person yn byw mewn annedd fel lletywr os yw’r denantiaeth neu’r drwydded y mae’n meddiannu’r annedd oddi tani yn dod o fewn paragraff 6 o Atodlen 2 (llety a rennir â’r landlord).
4
Ond nid yw person yn byw mewn annedd fel lletywr os rhoddir hysbysiad iddo o dan baragraff 3 o Atodlen 2 bod ei denantiaeth neu drwydded yn gontract meddiannaeth.
5
Mae person yn feddiannydd a ganiateir mewn annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth—
a
os yw’n byw yn yr annedd fel lletywr neu isddeiliad i ddeiliad y contract, neu
b
os nad yw’n lletywr nac yn isddeiliad ond bod deiliad y contract yn caniatáu iddo fyw yn yr annedd fel cartref.
I3245Dyddiad meddiannu contract meddiannaeth
Yn y Ddeddf hon, dyddiad meddiannu contract meddiannaeth yw’r diwrnod y mae gan ddeiliad y contract hawl i ddechrau meddiannu’r annedd.
I4246Annedd
1
At ddibenion y Ddeddf hon, ystyr “annedd” yw annedd F1sydd yng Nghymru, ac—
a
nid yw’n cynnwys unrhyw strwythur neu gerbyd y gellir ei symud o un lle i’r llall, ond
b
mae’n cynnwys unrhyw dir a feddiennir ynghyd â’r annedd, oni bai bod y tir yn dir amaethyddol sy’n fwy na 0.809 hectar.
2
Ystyr “tir amaethyddol” yw—
a
tir a ddefnyddir fel tir âr, doldir neu borfa yn unig;
b
tir a ddefnyddir ar gyfer planhigfa neu goedwig neu ar gyfer tyfu prysgwydd y gellir eu gwerthu;
c
tir a ddefnyddir at ddiben ffermio dofednod, gerddi marchnad, tiroedd planhigfa, perllannau neu randiroedd, gan gynnwys gerddi rhandir o fewn ystyr Deddf Rhandiroedd 1922 (p. 51),
ond nid yw’n cynnwys tir a feddiennir ynghyd â thŷ fel parc, gerddi (ac eithrio fel y crybwyllir ym mharagraff (c)) neu diroedd hamdden, tir a ddefnyddir yn bennaf neu’n llwyr at ddibenion chwaraeon neu hamdden neu dir a ddefnyddir fel cae ras.
3
Ystyr annedd, mewn perthynas â chontract meddiannaeth, yw’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract.
I5247Ystyr “amrywio” contract meddiannaeth
Yn y Ddeddf hon, mewn perthynas â chontract meddiannaeth—
a
mae “amrywio” yn cynnwys ychwanegu teler i’r contract neu ddileu un o delerau’r contract;
b
nid yw “amrywio” yn cynnwys unrhyw newid o ran pwy yw’r landlord na deiliad y contract o dan y contract.
I6248Y llys
Yn y Ddeddf hon, ystyr “y llys” yw’r Uchel Lys neu’r llys sirol.
I7249Les, tenantiaeth ac ymadroddion cysylltiedig
1
Yn y Ddeddf hon, mae i “les” a “tenantiaeth” yr un ystyr.
2
Mae’r naill ymadrodd a’r llall yn cynnwys—
a
is-les neu is-denantiaeth, a
b
les neu denantiaeth (neu is-les neu is-denantiaeth) mewn ecwiti.
3
Mae’r ymadroddion “lesydd” a “lesddeiliad” a “landlord” a “tenant”, a chyfeiriadau at osod, at roi neu wneud les neu at gyfamodau neu delerau, i’w darllen yn unol â hynny.
4
Ystyr “tenantiaeth” a “trwydded” yw tenantiaeth neu drwydded sy’n berthnasol i annedd (gweler adran 246).
I8250Aelodau o deulu
1
Mae person yn aelod o deulu rhywun arall at ddibenion y Ddeddf hon—
a
os yw’n briod neu’n bartner sifil i’r person hwnnw,
b
os yw’n byw gyda’r person hwnnw fel pe baent yn briod neu’n bartneriaid sifil, neu
c
os yw’n rhiant, yn fam-gu/nain neu’n dad-cu/taid, yn blentyn, yn ŵyr neu wyres, yn frawd, yn chwaer, yn ewythr, yn fodryb, yn nai neu’n nith i’r person hwnnw.
2
At ddibenion is-adran (1)(c)—
a
mae perthynas drwy briodas neu bartneriaeth sifil i’w thrin fel perthynas waed,
b
mae perthynas rhwng personau nad oes ganddynt ond un rhiant yn gyffredin i’w thrin fel perthynas rhwng personau sydd â’r naill riant a’r llall yn gyffredin, ac
c
ac eithrio at ddibenion paragraff (b), mae llysblentyn person i’w drin fel ei blentyn.
I9251Gorchymyn eiddo teuluol
1
At ddibenion y Ddeddf hon gorchymyn eiddo teuluol yw gorchymyn o dan—
a
adran 24 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 (p. 18) (gorchmynion ad-drefnu eiddo mewn cysylltiad ag achosion priodasol),
b
adran 17 neu 22 o Ddeddf Achosion Priodasol a Theuluol 1984 (p. 42) (gorchmynion ad-drefnu eiddo etc. ar ôl ysgariad mewn gwlad dramor),
c
paragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Plant 1989 (p. 41) (gorchmynion am gymorth ariannol yn erbyn rhieni),
d
Atodlen 7 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 (p. 27) (trosglwyddo tenantiaethau ar ôl ysgaru neu wahanu),
e
Rhan 2 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) (gorchmynion ad-drefnu eiddo mewn cysylltiad â phartneriaeth sifil), neu
f
paragraff 9 neu 13 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (gorchmynion ad-drefnu eiddo etc. yn dilyn diddymu partneriaeth sifil mewn gwlad dramor).
2
Mae gorchymyn o dan Atodlen 1 i Ddeddf Cartrefi Priodasol 1983 (p. 19) (fel y mae’n parhau i gael effaith oherwydd Atodlen 9 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996) hefyd yn orchymyn eiddo teuluol.
I10252Mân ddiffiniadau
Yn y Ddeddf hon—
ystyr “contract cyflogaeth” (“contract of employment”) yw contract gwasanaeth neu brentisiaeth, boed yn ddatganedig neu’n oblygedig, ac (os yw’n ddatganedig) boed ar lafar neu mewn ysgrifen;
ystyr “contract cyfnod penodol” (“fixed term contract”) yw contract meddiannaeth nad yw’n gontract cyfnodol;
ystyr “cyfnod rhentu” (“rental period”) yw cyfnod y mae rhent yn daladwy ar ei gyfer;
mae i “cymdeithas dai” yr ystyr sydd i “housing association” yn Neddf Cymdeithasau Tai 1985 (p. 69) (gweler adran 1 o’r Ddeddf honno);
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad (pryd bynnag y’i deddfwyd neu y’i gwnaed, oni bai bod bwriad i’r gwrthwyneb yn ymddangos), sydd wedi ei gynnwys mewn, neu mewn offeryn a wnaed o dan—
- a
Deddf Seneddol, neu
- b
Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys y Ddeddf hon);
- a
ystyr “elusen gofrestredig“ (“registered charity”) yw elusen sydd wedi ei chofrestru o dan Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25);
mae i “hawliau Confensiwn” yr ystyr sydd i “Convention rights” yn Neddf Hawliau Dynol 1998 (p. 42);
ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw wedi ei rhagnodi drwy reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru;
ystyr “rhannau cyffredin” (“common parts”), mewn perthynas ag annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth, yw—
- a
unrhyw ran o adeilad sy’n ffurfio’r annedd honno, a
- b
unrhyw fangre arall (gan gynnwys unrhyw annedd arall),
- a
mae “rhent” (“rent”) yn cynnwys swm sy’n daladwy o dan drwydded;
mae i “ymddiriedolaeth dai” yr ystyr sydd i “housing trust” yn Neddf Cymdeithasau Tai 1985 (gweler adran 2 o’r Ddeddf honno).
I11253Mynegai
Mae’r tabl canlynol yn cynnwys mynegai o’r termau a ddefnyddir yn y Ddeddf hon (ac eithrio mewn adrannau neu baragraffau lle mae’r term a ddefnyddir wedi ei ddiffinio neu ei esbonio yn yr adran honno neu’r paragraff hwnnw)—
aelod o deulu (“member of a family”) | adran 250 |
amrywiad (“variation”) | adran 247 |
annedd (“dwelling”) | adran 246 |
awdurdod lleol (“local authority”) | adran 243 |
awdurdod tai lleol (ac eithrio ym mharagraff 12 o Atodlen 2 (“local housing authority”) | adran 243 |
blaendal (“deposit”) | adran 47 |
contract cyflogaeth (“contract of employment”) | adran 252 |
contract cyfnod penodol (“fixed term contract”) | adran 252 |
contract cyfyngedig (“restricted contract”) | adran 242 |
contract diogel (“secure contract”) | adran 8 |
contract isfeddiannaeth (“sub-occupation contract”) | adran 59 |
contract meddiannaeth (“occupation contract”) | adran 7 |
contract safonol (“standard contract”) | adran 8 |
contract safonol â chymorth (“supported standard contract”) | adran 143 |
contract safonol rhagarweiniol (“introductory standard contract”) | adran 16 |
contract safonol ymddygiad gwaharddedig (“prohibited conduct standard contract”) | adran 116 |
corfforaeth datblygu trefol (“urban development corporation”) | adran 243 |
corfforaeth tref newydd (“new town corporation”) | adran 243 |
cyfnod prawf (“probation period”) | paragraff 3 o Atodlen 7 |
cyfnod rhagarweiniol (“introductory period”) | paragraff 1 o Atodlen 4 |
cyfnod rhentu (“rental period”) | adran 252 |
cymal terfynu deiliad contract (“contract-holder’s break clause”) | adran 189 |
cymal terfynu’r landlord (“landlord’s break clause”) | adran 194 |
cymdeithas dai (“housing association”) | adran 252 |
cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol (“fully mutual housing association”) | adran 9 |
cymdeithas dai gydweithredol (“co-operative housing association”) | adran 9 |
cynllun blaendal awdurdodedig (“authorised deposit scheme”) | adran 47 |
darpariaeth atodol (ac eithrio yn adrannau 255 a 256) (“supplementary provision”) | adran 23 |
darpariaeth sylfaenol (“fundamental provision”) | adran 18 (gweler adran 19 hefyd) |
darparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig (“private registered provider of social housing”) | adran 9 |
deddfiad (“enactment”) | adran 252 |
deiliad contract (“contract-holder”) | adran 7 (gweler adran 48 hefyd) |
diwrnod penodedig (“appointed day”) | adran 242 |
dyddiad cyflwyno (“introduction date”) | paragraffau 1 a 2 o Atodlen 4 |
dyddiad meddiannu (“occupation date”) | adran 245 |
elusen gofrestredig (“registered charity”) | adran 252 |
gofynion cychwynnol (o ran cynllun blaendal awdurdodedig) (“initial requirements (in relation to an authorised deposit scheme)”) | adran 47 |
gosodiad gwasanaeth (“service installation”) | adran 92 |
gorchymyn eiddo teuluol (“family property order”) | adran 251 |
hawliau Confensiwn (“Convention rights”) | adran 252 |
hawliad meddiant (“possession claim”) | adran 149 |
hysbysiad adennill meddiant (“possession notice”) | F2adrannau 159, 161, 166, 171, 182, 188 a 192 (a gweler hefyd adran 150) |
isddeiliad (“sub-holder”) | adran 59 |
landlord (“landlord”) | adran 244 (gweler adran 53 hefyd) |
landlord cymdeithasol cofrestredig (“registered social landlord”) | adran 9 |
landlord cymunedol (“community landlord”) | adran 9 |
landlord preifat (“private landlord”) | adran 10 |
les (“lease”) | adran 249 |
llety â chymorth (“supported accommodation”) | adran 143 |
lletywr (“lodger”) | adran 244 |
llys (“court”) | adran 248 |
mater allweddol (o ran contract meddiannaeth) (“key matter (in relation to an occupation contract)”) | adrannau 26 a 27 |
meddiannydd a ganiateir (“permitted occupier”) | adran 244 |
olynydd â blaenoriaeth (i ddeiliad contract) (“priority successor (of a contract-holder)”) | adran 75 |
olynydd â blaenoriaeth (o ran contract meddiannaeth) (“priority successor (in relation to an occupation contract)”) | adran 83 |
olynydd wrth gefn (i ddeiliad contract) (“reserve successor (of a contract-holder)”) | adrannau 76 a 77 |
olynydd wrth gefn (o ran contract meddiannaeth) (“reserve successor (in relation to an occupation contract)”) | adran 83 |
prif landlord (“head landlord”) | adran 59 |
rhagnodedig (“prescribed”) | adran 252 |
rhannau cyffredin (“common parts”) | adran 252 |
rhent (“rent”) | adran 252 |
seiliau rheoli ystad (“estate management grounds”) | adran 160 ac Atodlen 8 |
sicrwydd (“security”) | adran 47 |
teler atodol (“supplementary term”) | adran 23 |
teler sylfaenol (“fundamental term”) | adran 19 |
telerau ychwanegol (contract meddiannaeth) (“additional terms (of an occupation contract)”) | adran 28 |
tenantiaeth (“tenancy”) | adran 249 |
tenantiaeth ddiogel (“secure tenancy”) | adran 242 |
tenantiaeth fyrddaliol sicr (“assured shorthold tenancy”) | adran 242 |
tenantiaeth fyrddaliol warchodedig (“protected shorthold tenancy”) | adran 242 |
tenantiaeth isradd (“demoted tenancy”) | adran 242 |
tenantiaeth ragarweiniol (“introductory tenancy”) | adran 242 |
tenantiaeth sicr (“assured tenancy”) | adran 242 |
tenantiaeth statudol (“statutory tenancy”) | adran 242 |
tenantiaeth warchodedig (“protected tenancy”) | adran 242 |
ymddiriedolaeth dai (“housing trust”) | adran 252 |
ymddiriedolaeth gweithredu tai (“housing action trust”) | adran 243 |
ymddygiad gwaharddedig (“prohibited conduct”) | adran 55 |
ymddygiad gwrthgymdeithasol (“anti-social behaviour”) | adran 55 |
Cymhwysiad i’r Goron
I12254Cymhwysiad i’r Goron
Mae’r Ddeddf hon yn gymwys i’r Goron.
Darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.
I13255Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.
1
Os yw Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, cânt wneud drwy reoliadau—
a
unrhyw ddarpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol, a
b
unrhyw ddarpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
2
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth yn y Ddeddf hon) F3....
Rheoliadau
I14256Rheoliadau
1
Mae unrhyw bŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—
a
i’w arfer drwy offeryn statudol,
b
yn bŵer y caniateir ei arfer er mwyn gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion neu ddisgrifiadau o achos neu ar gyfer gwahanol ddibenion neu ardaloedd,
c
yn bŵer y caniateir ei arfer er mwyn gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol fathau neu ddisgrifiadau o gontract meddiannaeth, oni bai bod y pŵer ond yn gymwys mewn perthynas â mathau neu ddisgrifiadau penodol o gontract meddiannaeth, a
d
yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
2
Caiff rheoliadau o dan y Ddeddf hon wneud diwygiadau canlyniadolF8, addasiadau, diddymiadau a dirymiadau i unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth yn y Ddeddf hon) .
3
Ni chaniateir gwneud rheoliadau y mae’r is-adran hon yn gymwys iddynt oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau (boed ar eu pen eu hunain neu ynghyd â rheoliadau nad yw’r is-adran hon yn gymwys iddynt) wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
4
Mae is-adran (3) yn gymwys i reoliadau o dan—
a
adran 9 (pŵer i ddiwygio’r adran honno),
b
adran 22 (pwerau o ran darpariaethau sylfaenol),
c
adran 56 (pŵer i ddiwygio adran 55),
d
adran 68 (pŵer i ddiwygio adrannau 66 a 67),
F5da
adran 121 (pŵer i ddiwygio’r Ddeddf mewn perthynas â’r pŵer i wahardd deiliad contract o dan gontract safonol cyfnodol o annedd am gyfnodau penodol),
db
adran 133 (pŵer i ddiwygio’r Ddeddf mewn perthynas â’r pŵer i wahardd deiliad contract o dan gontract safonol cyfnod penodol o annedd am gyfnodau penodol),
e
adran 217 (pŵer i ddiwygio’r adran honno),
f
adran 223 (pŵer i ddiwygio adrannau 220 a 222),
g
adran 229 (pŵer i ddiwygio adrannau 225 i 228),
F4ga
adran 239A (pŵer i wneud darpariaeth ynghylch tenantiaethau a thrwyddedau penodol),
h
paragraff 17 o Atodlen 2 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),
i
paragraff 17 o Atodlen 3 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),
j
paragraff 3 o Atodlen 4 (pŵer i newid y terfyniad amser ar gyfer rhoi hysbysiad o ymestyn y cyfnod rhagarweiniol),
k
paragraff 5 o Atodlen 5 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),
l
paragraff 4 o Atodlen 7 (pŵer i newid y terfyniad amser ar gyfer rhoi hysbysiad o estyniad o gyfnod prawf),
F6la
paragraff 13 o Atodlen 8A (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),
m
paragraff 13 o Atodlen 9 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),
F7ma
paragraff 8 o Atodlen 9A (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),
mb
paragraff 11 o Atodlen 9B (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),
mc
paragraff 11 o Atodlen 9C (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno), ac
n
paragraff 33 o Atodlen 12 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno).
5
Mae is-adran (3) hefyd yn gymwys i unrhyw reoliadau eraill o dan y Ddeddf hon sy’n diwygio, yn addasu neu’n dirymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
6
Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan ddarpariaeth yn y Ddeddf hon nad yw is-adran (3) yn gymwys iddynt, yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Dod i rym ac enw byr
I15257Dod i rym
1
Daw’r Rhan hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
2
Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
3
Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—
a
cynnwys darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed;
b
gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion neu ddisgrifiadau o achos neu ar gyfer gwahanol ddibenion neu ardaloedd;
c
gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol fathau neu ddisgrifiadau o gontract meddiannaeth;
d
pennu dyddiau gwahanol at ddibenion gwahanol.
I16258Enw byr
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.