xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 10LL+CAMRYWIOL

PENNOD 3LL+CTENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU SY’N BODOLI CYN I’R BENNOD HON DDOD I RYM

239Diddymu tenantiaethau sicr, tenantiaethau diogel a thenantiaethau eraillLL+C

(1)Ar y diwrnod penodedig ac ar ôl hynny, ni all unrhyw denantiaeth na thrwydded (pryd bynnag y’i gwnaed) fod yn—

(a)contract cyfyngedig;

(b)tenantiaeth fyrddaliol warchodedig;

(c)tenantiaeth ddiogel;

(d)tenantiaeth sicr (sy’n cynnwys tenantiaeth fyrddaliol sicr);

(e)tenantiaeth ragarweiniol;

(f)tenantiaeth isradd.

(2)Pe gallai’r landlord o dan denantiaeth warchodedig neu denantiaeth statudol, yn union cyn y diwrnod penodedig, fod wedi adennill meddiant o’r tŷ annedd sy’n ddarostyngedig i’r denantiaeth o dan Achos 19 o Atodlen 15 i Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) (tenantiaethau byrddaliol gwarchodedig blaenorol), mae’r denantiaeth yn peidio â bod yn denantiaeth warchodedig neu’n denantiaeth statudol ar y diwrnod penodedig.

(3)Nid oes dim yn yr adran hon yn terfynu tenantiaeth neu drwydded sydd o fewn is-adran (1) neu (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 239 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 239 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F1239APŵer i wneud darpariaeth ynghylch tenantiaethau a thrwyddedau penodolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r Ddeddf hon at ddiben—

(a)darparu nad yw darpariaethau penodol yn gymwys mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded y mae is-adran (2) yn gymwys iddi;

(b)gwneud darpariaeth newydd nad yw ond yn gymwys i denantiaeth neu drwydded y mae is-adran (2) yn gymwys iddi;

(c)gwneud darpariaeth mewn perthynas â diwedd cyfnod tenantiaeth hir (o fewn ystyr paragraff 8 o Atodlen 2).

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw denantiaeth neu drwydded a fyddai, oni bai am adran 239, wedi bod yn denantiaeth neu’n drwydded o’r math a restrir yn is-adran (1) o’r adran honno, neu a fyddai wedi ei thrin fel tenantiaeth neu drwydded o’r math hwnnw;

(3)Caiff Rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch tenantiaethau neu drwyddedau nad ydynt yn gontractau meddiannaeth, ac nad ydynt yn gallu bod yn gontract o’r fath.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 239A mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

240Trosi tenantiaethau a thrwyddedau sydd yn bodoli cyn i’r Bennod ddod i rymLL+C

(1)At ddibenion penderfynu ar y materion yn is-adran (2), mae tenantiaeth neu drwydded a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig i’w thrin fel pe bai wedi ei gwneud ar y diwrnod penodedig.

(2)Y materion yw—

(a)pa un a yw’r denantiaeth neu’r drwydded yn gontract meddiannaeth,

(b)pwy yw deiliaid y contract o dan y contract, ac

(c)a yw’r contract yn gontract diogel neu’n gontract safonol.

(3)Mae is-adrannau (4) i (7) yn gymwys i denantiaeth neu drwydded sy’n dod yn gontract meddiannaeth ar y diwrnod penodedig.

(4)Mae’r darpariaethau sylfaenol sy’n gymwys i’r contract wedi eu hymgorffori fel telerau o’r contract.

(5)Mae telerau presennol y contract yn parhau i gael effaith, ac eithrio i’r graddau y maent⁠—

(a)yn anghydnaws â darpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract, neu

(b)yn delerau’r contract oherwydd deddfiad a ddiddymir neu a ddirymir o dan y Ddeddf hon.

(6)Mae’r darpariaethau atodol sy’n gymwys i’r contract wedi eu hymgorffori fel telerau o’r contract, ac eithrio i’r graddau y maent yn anghydnaws â thelerau presennol y contract.

(7)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i Atodlen 12 (sy’n gwneud darpariaeth bellach ynghylch tenantiaethau a thrwyddedau sydd eisoes yn bodoli, sy’n addasu’r modd y cymhwysir y Ddeddf hon, ac sy’n cynnwys darpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i gontractau safonol penodol).

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 240 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I5A. 240 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

241Contractau sydd eisoes yn bodoliLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan wneir, ar neu ar ôl y diwrnod penodedig, denantiaeth neu drwydded yn unol â chontract a wnaed cyn y diwrnod y gwneir y gorchymyn sy’n pennu’r diwrnod penodedig gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae adran 240 ac Atodlen 12 yn gymwys i’r denantiaeth neu’r drwydded—

(a)fel pe bai wedi ei gwneud ar y diwrnod penodedig, a

(b)fel pe bai, yn union cyn y diwrnod hwnnw, yn denantiaeth neu’n drwydded o’r math y byddai wedi bod ar y diwrnod hwnnw oni bai am y Ddeddf hon.

(3)Nid yw paragraffau 2(3), 4(1) a (3), 11, 12, 13 a 23(3) a (7) o Atodlen 12 yn gymwys mewn perthynas â’r denantiaeth neu’r drwydded.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 241 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I7A. 241 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

242Dehongli’r BennodLL+C

Yn y Bennod hon—

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 242 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I9A. 242 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2