xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 10LL+CAMRYWIOL

PENNOD 1LL+CDARPARIAETHAU PELLACH YN YMWNEUD Â CHONTRACTAU MEDDIANNAETH

Hysbysiadau, datganiadau a dogfennau eraillLL+C

236Ffurf hysbysiadau, datganiadau a dogfennau eraillLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall (gan gynnwys copi o ddogfen) y mae’n ofynnol neu yr awdurdodir ei roi neu ei wneud (neu ei rhoi neu ei gwneud) gan y Ddeddf hon neu oherwydd y Ddeddf hon.

(2)Rhaid i’r hysbysiad neu’r ddogfen fod mewn ysgrifen.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi ffurf yr hysbysiad neu’r ddogfen, ac oni bai bod y rheoliadau yn darparu fel arall, nid oes unrhyw effaith i hysbysiad neu ddogfen nad yw yn y ffurf ragnodedig.

(4)Caiff yr hysbysiad neu’r ddogfen fod ar ffurf electronig (yn ddarostyngedig i adran 237(4)) ar yr amod—

(a)ei fod neu ei bod yn cynnwys llofnod electronig ardystiedig pob person y mae’n ofynnol iddo ei lofnodi neu ei gyflawni (neu ei llofnodi neu ei chyflawni), a

(b)ei fod neu ei bod yn cydymffurfio ag unrhyw amodau eraill a gaiff eu rhagnodi.

(5)Mae hysbysiad neu ddogfen o fewn is-adran (4) i’w drin neu ei thrin fel pe bai wedi ei lofnodi neu ei gyflawni (neu ei llofnodi neu ei chyflawni) gan bob person y mae ei lofnod electronig [F1ardystiedig] arno neu arni.

(6)Os yw hysbysiad neu ddogfen ar ffurf electronig yn cael ei ddilysu neu ei dilysu gan berson fel asiant, mae i’w hystyried at ddibenion unrhyw ddeddfiad fel pe bai wedi ei ddilysu neu ei dilysu gan y person hwnnw o dan awdurdod ysgrifenedig pennaeth y person hwnnw.

(7)Mae cyfeiriadau at lofnod electronig ac at ardystio llofnod o’r fath i’w darllen yn unol ag adran 7(2) a (3) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000 (p. 7).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 236 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 236(1)(2), (5)-(7) mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I3A. 236(3)(4) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1

I4A. 236(3)(4) mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2

237Rhoi hysbysiadau, datganiadau a dogfennau eraillLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r Ddeddf hon yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi person—

(a)i hysbysu person am rywbeth, neu

(b)i roi dogfen i berson (gan gynnwys hysbysiad neu gopi o ddogfen).

(2)Caniateir rhoi’r hysbysiad neu’r ddogfen i berson—

(a)drwy ei ddanfon neu ei danfon i’r person,

(b)drwy ei adael neu ei gadael yn, neu ei bostio neu ei phostio i, un o’r mannau a grybwyllir yn is-adran (3), neu

(c)os bodlonir yr amodau yn is-adran (4), drwy ei anfon neu ei hanfon at y person ar ffurf electronig.

(3)Y mannau yw—

(a)preswylfa neu fan busnes hysbys olaf y person,

(b)unrhyw fan a bennir gan y person fel rhywle y gellir rhoi hysbysiadau neu ddogfennau i’r person, neu

(c)os rhoddir yr hysbysiad neu’r ddogfen i berson yn rhinwedd y ffaith ei fod yn ddeiliad contract, yr annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth.

(4)Caniateir rhoi hysbysiad neu ddogfen i berson drwy ei anfon neu ei hanfon ar ffurf electronig os yw’n bodloni’r amodau yn adran 236(4), ac unrhyw amodau a wneir o dan yr is-adran honno, ac—

(a)bod y person wedi nodi parodrwydd i dderbyn yr hysbysiad neu’r ddogfen yn electronig,

(b)bod y testun yn cael ei dderbyn gan y person ar ffurf ddarllenadwy, ac

(c)y gellir defnyddio’r testun er mwyn cyfeirio ato yn ddiweddarach.

(5)Caniateir rhoi’r hysbysiad neu’r ddogfen i gorff corfforaethol drwy ei roi neu ei rhoi i ysgrifennydd neu i glerc y corff hwnnw.

(6)Mae hysbysiad neu ddogfen a roddir i berson drwy ei adael neu ei gadael yn unrhyw un o’r mannau a grybwyllir yn is-adran (3) i’w drin neu i’w thrin fel pe bai wedi ei roi neu ei rhoi ar yr adeg y’i gadawyd yn y fan honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 237 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I6A. 237 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2