RHAN 10AMRYWIOL

PENNOD 1DARPARIAETHAU PELLACH YN YMWNEUD Â CHONTRACTAU MEDDIANNAETH

Effaith cyrraedd 18

233Effaith cyrraedd 18

1

Mae’r adran hon yn gymwys i denantiaeth neu drwydded nad yw’n gontract meddiannaeth am fod paragraff 7(2) o Atodlen 2 (pob un o’r rheini y gwneir tenantiaeth neu drwydded â hwy o dan 18) yn gymwys iddi.

2

Pan fydd y person perthnasol yn cyrraedd 18 oed, rhaid ateb y cwestiynau canlynol fel pe bai’r denantiaeth neu’r drwydded wedi ei gwneud ar y diwrnod y mae’r person yn cyrraedd yr oed hwnnw—

a

pa un a yw’r denantiaeth neu’r drwydded yn gontract meddiannaeth,

b

pwy yw deiliaid y contract o dan y contract, ac

c

a yw’n gontract diogel neu’n gontract safonol.

3

Y person perthnasol—

a

os gwneir y denantiaeth neu’r drwydded gydag un person, yw’r person hwnnw, a

b

os gwneir y denantiaeth neu’r drwydded gyda mwy nag un person, yw’r cyntaf ohonynt i gyrraedd 18 oed.