Pennod 3 - Terfynu Pob Contract Meddiannaeth.(Hawliad Meddiant Gan Landlord)
Adran 156 – Tor contract
366.Mae’r adran hon yn darparu bod tor contract gan ddeiliad y contract yn sail i’r landlord geisio adennill meddiant.
Adran 158 – Datganiad ffug sy’n darbwyllo’r landlord i wneud contract i’w drin fel tor contract
367.Mae’r adran hon yn darparu bod tor contract yn cynnwys amgylchiadau pan ddarbwyllir landlord i wneud contract meddiannaeth o ganlyniad i ddatganiad ffug a wneir gan ddeiliad y contract neu gan rywun y mae deiliad y contract wedi ei symbylu i weithredu. Mae hyn yn golygu bod rhywbeth a wnaed cyn ymrwymo i’r contract yn dor contract. Mae adran 20 yn darparu bod rhaid ymgorffori adran 158 heb ei haddasu fel un o delerau pob contract meddiannaeth.
Adran 159 – Cyfyngiadau ar adran 157
368.Mae’r adran hon yn darparu bod rhaid i landlord, cyn gwneud hawliad meddiant o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 157, roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n nodi’r sail honno. Mae is-adran (2) yn darparu, pan fo’r landlord yn dibynnu ar dorri’r sail ymddygiad gwaharddedig (ymdrinnir â hyn yn adran 55), y caiff y landlord wneud hawliad ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract. Mae is-adran (3) yn darparu, mewn achosion eraill o dor contract, na chaiff y landlord wneud yr hawliad lai na mis ar ôl y dyddiad y rhoddodd y landlord yr hysbysiad. Mae is-adran (4) yn darparu bod rhaid gwneud unrhyw hawliad meddiant sy’n ymwneud â thor contract ar ran deiliad contract o fewn 6 mis i’r dyddiad y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad.
Adran 160 – Seiliau rheoli ystad
369.Caiff landlord sy’n dymuno ceisio meddiant o annedd gan ddefnyddio un o’r seiliau rheoli ystad (a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 8, sydd hefyd yn ddarpariaeth sylfaenol), wneud cais i’r llys am orchymyn adennill meddiant.
370.Os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant, rhaid i’r landlord dalu treuliau adleoli rhesymol y mae deiliad y contract yn debygol o fynd iddynt. Nid yw hyn yn wir yn achos Sail A (gwaith adeiladu) a B (cynlluniau ailddatblygu), gan fod hawl gan ddeiliad y contract i gael ‘taliad colli cartref’ o dan adran 29 o Ddeddf Iawndal Tir 1973 mewn perthynas â’r rheini.
Atodlen 8 - Seiliau rheoli ystad
Rhan 1 – Y Seiliau
371.Mae Rhan 1 o’r Atodlen hon yn pennu’r seiliau rheoli ystad y caiff landlordiaid pob contract meddiannaeth wneud hawliad meddiant oddi tanynt, ar yr amod eu bod wedi cydymffurfio â’r gofynion hysbysu a’r terfynau amser yn adran 161.
372.Mae tri phrif fath o sail: seiliau ailddatblygu; seiliau llety arbennig; a seiliau tanfeddiannaeth. Mae yna hefyd sail ‘rhesymau rheoli ystad eraill’ i ymdrin ag unrhyw reswm sylweddol yn ymwneud â rheoli ystad nad yw’n dod o dan y seiliau eraill. Mae’r paragraffau a ganlyn yn nodi’r amgylchiadau pan fo pob un o’r seiliau rheoli ystad yn berthnasol.
Seiliau ailddatblygu
Paragraff 1 – Sail A (gwaith adeiladu)
373.Mae’r landlord yn bwriadu dymchwel neu ailadeiladu’r annedd neu ran o’r adeilad y mae’r annedd wedi’i leoli ynddo, neu wneud gwaith ar yr annedd neu’r adeilad y mae’r annedd wedi’i leoli ynddo neu unrhyw dir sy’n rhan o’r annedd (gweler y diffiniad o annedd yn adran 246(1)(b)) ynglŷn â hynny), na ellid ei wneud yn rhesymol heb gael meddiant o’r annedd.
Paragraff 2 – Sail B (cynlluniau ailddatblygu)
374.Mae’r sail hon wedi ei bodloni os bodlonir y naill neu’r llall o ddau amod. Yr amod cyntaf yw bod yr annedd mewn ardal sy’n destun cynllun ailddatblygu a gymeradwywyd (pennir y broses ar gyfer cymeradwyo cynlluniau o’r fath yn Rhan 2 o’r Atodlen), ac mae’r landlord yn bwriadu gwaredu’r annedd yn unol â’r cynllun o fewn cyfnod rhesymol ar ôl cael meddiant. Yr ail amod yw bod rhan o’r annedd o fewn ardal cynllun ailddatblygu cymeradwy a bod y landlord yn bwriadu gwaredu’r annedd yn unol â’r cynllun o fewn cyfnod rhesymol ar ôl cael meddiant, ac felly mae’n rhesymol ofynnol iddo gael meddiant.
Seiliau llety arbennig
Paragraff 3 – Sail C (elusennau)
375.Mae’r landlord yn elusen, a byddai parhau presenoldeb deiliad y contract yn gwrthdaro ag amcanion yr elusen. Mae hyn yn ddarostyngedig i’r amod bod unrhyw berson a oedd yn landlord, ar y dyddiad y gwnaed y contract a thrwy gydol yr amser ers y dyddiad hwnnw, wedi bod yn elusen.
Paragraff 4 – Sail D (annedd sy’n addas i bobl anabl)
376.Mae’r annedd yn wahanol iawn i anheddau cyffredin er mwyn lletya person sydd ag anabledd corfforol, nid oes person o’r fath yn byw yn yr eiddo ar hyn o bryd, ac mae angen yr annedd ar y landlord ar gyfer person o’r fath.
Paragraff 5 – Sail E (cymdeithasau tai ac ymddiriedolaethau tai: pobl y mae’n anodd eu cartrefu)
377.Mae’r landlord yn gymdeithas dai neu’n ymddiriedolaeth dai sy’n darparu anheddau yn benodol ar gyfer y rheini y mae’n anodd eu cartrefu, nid oes person o’r fath yn byw yn yr annedd, neu mae unrhyw berson o’r fath sy’n ddeiliad contract wedi cael cynnig contract diogel ar gyfer annedd arall, ac mae’r landlord angen yr annedd i’w feddiannu gan berson o’r fath. Mae is-baragraff (2) yn nodi ystyr ‘anodd i’w cartrefu’ at ddibenion y Sail hon.
Paragraff 6 – Sail F (grwpiau o anheddau ar gyfer pobl sydd ag anghenion arbennig)
378.Mae’r annedd yn rhan o grŵp o anheddau y mae’r landlord yn eu darparu i bobl ag anghenion arbennig, darperir gwasanaeth cymdeithasol neu gyfleuster arbennig yn agos at y grŵp o anheddau i gynorthwyo pobl sydd â’r anghenion arbennig hynny, nid oes mwyach berson sydd â’r anghenion arbennig hynny yn byw yn yr annedd, ac mae angen yr annedd ar y landlord ar gyfer person sydd â’r anghenion hynny.
Seiliau tanfeddiannaeth
Paragraff 7 – Sail G (olynwyr wrth gefn)
379.Mae deiliad y contract wedi olynu i’r contract fel olynydd wrth gefn (hynny yw, aelod o deulu neu ofalwr nad yw’n olynydd â blaenoriaeth; gweler adrannau 73, 76 a 77) yn dilyn marwolaeth y deiliad contract blaenorol, ac mae’r annedd yn fwy nag sy’n ofynnol yn rhesymol. Mewn achosion o’r fath, o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 161(4), ni chaiff y landlord roi’r hysbysiad adennill meddiant nes bod o leiaf chwe mis wedi mynd heibio ers i’r landlord ddod i wybod am farwolaeth deiliad y contract blaenorol, nac yn ddiweddarach na deuddeng mis ar ôl y dyddiad hwnnw.
Paragraff 8 – Sail H (cyd-ddeiliaid contract)
380.Mae cyd-ddeiliad contract wedi tynnu’n ôl neu wedi ei wahardd o’r contract, ac mae’r eiddo naill ai’n fwy nag sy’n ofynnol yn rhesymol ar gyfer y deiliad neu’r deiliaid contract sy’n weddill, neu, os yw’r landlord yn landlord cymunedol, nid yw’r deiliad neu’r deiliaid contract sy’n weddill yn bodloni meini prawf y landlord ar gyfer dyrannu tai. Mewn achosion o’r fath, o dan adran 161(5), rhaid rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i’r deiliad neu’r deiliaid contract sy’n weddill o fewn chwe mis ar ôl i gyd-ddeiliad blaenorol y contract beidio â bod â hawliau a rhwymedigaethau o dan y contract.
Rhesymau rheoli ystad eraill
Paragraff 9 – Sail I (rhesymau rheoli ystad eraill)
381.Mae rhyw reswm rheoli ystad sylweddol arall, gan gynnwys mewn perthynas ag eiddo arall i’r landlord sy’n gysylltiedig â’r annedd mewn rhyw ffordd.
Adran 161 – Cyfyngiadau ar adran 160
382.Rhaid i landlord sy’n ceisio meddiant o annedd ar sail rheoli ystad roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, sy’n nodi’r sail. Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant o fewn mis o’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad, neu o fewn chwe mis ar ôl y dyddiad hwnnw.
383.Pan fo cynllun sy’n cynnwys gwaredu a dymchwel neu ailgodi adeiladau, neu gyflawni gwaith arall ar adeiladau neu ar dir, wedi ei gymeradwyo fel ‘cynllun ailddatblygu’ o dan Ran 2 o Atodlen 8, ond bod y gymeradwyaeth yn ddarostyngedig i amodau, caiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant o dan sail rheoli ystad B (cynllun ailddatblygu) cyn bod yr amodau wedi eu cyflawni.
384.Pan fo olynydd wrth gefn wedi cymryd drosodd yn dilyn marwolaeth deiliad y contract, a bod yr annedd yn fwy na’r hyn sy’n rhesymol ofynnol ar gyfer yr olynydd, ni all landlord sy’n ceisio meddiant o dan sail rheoli ystad G roi’r hysbysiad adennill meddiant o fewn chwe mis i’r dyddiad y daeth y landlord i wybod fod y deiliad contract blaenorol wedi marw, neu o fewn deuddeng mis wedi hynny. Pan fo cyd-landlordiaid, bydd y cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant ar y sail hon yn berthnasol o’r dyddiad y daw unrhyw un o’r cyd-landlordiaid i wybod fod deiliad y contract wedi marw.
385.Ni chaiff landlord sy’n ceisio meddiant o dan sail rheoli ystad H (cyd-ddeiliad contract yn tynnu’n ôl) roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail yn ddiweddarach na chwe mis ar ôl y dyddiad y daeth hawliau a rhwymedigaethau’r cyd-ddeiliad contract o dan y contract i ben.
Adran 162 – Seiliau rheoli ystad: cynlluniau ailddatblygu
386.Mae Rhan 2 o Atodlen 8 (cymeradwyo cynlluniau ailddatblygu) yn gwneud darpariaeth sy’n ategu sail rheoli ystad B.
Atodlen 8 – Seiliau Rheoli Ystad
Rhan 2 – Cymeradwyo cynlluniau ailddatblygu at ddibenion sail B
387.Mae Rhan 2 o Atodlen 8 yn pennu’r broses ar gyfer cael cymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru, at ddibenion sail rheoli ystad B, ar gyfer ‘cynllun ailddatblygu’; hynny yw, cynllun i waredu ac ailddatblygu ardal o dir sy’n cynnwys annedd gyfan neu ran o annedd sy’n destun contract meddiannaeth. Mae’r Rhan hon hefyd yn ymwneud â chymeradwyo amrywiadau i gynlluniau o’r fath.
Paragraff 11
388.Yn ogystal â darparu ar gyfer cymeradwyo cynlluniau ailddatblygu ac unrhyw amrywiadau, mae’r paragraff hwn yn diffinio’r termau ‘gwaredu’ ac ‘ailddatblygu’.
Paragraff 12
389.Mae’r paragraff hwn yn pennu’r gofynion o ran yr hysbysiad y mae’n rhaid ei roi i ddeiliaid contract pan gynigir cynllun ailddatblygu, neu pan gynigir amrywio cynllun o’r fath. Mae’n darparu ar gyfer cyfnod o 28 diwrnod pan gaiff deiliad y contract gyflwyno sylwadau. Ni ellir gwneud cais i Weinidogion Cymru gymeradwyo cynllun ailddatblygu neu gymeradwyo amrywio cynllun, cyn bod unrhyw sylwadau o’r fath wedi eu hystyried.
390.Pe byddai’n ofynnol fel arall i landlord ymgynghori â deiliad y contract o dan drefniadau a wnaed ganddo yn unol ag adran 234, mae is-baragraffau (6) a (7) yn dileu’r gofyniad hwnnw oherwydd yr ymgynghori sy’n ofynnol o dan y paragraff hwn.
Paragraff 13
391.Mae’r paragraff hwn yn pennu’r materion y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt wrth ystyried cais, gan gynnwys unrhyw sylwadau a wneir iddynt. Rhaid i’r landlord hefyd roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y gofynnant amdani ar unrhyw sylwadau a wneir o dan baragraff 12.
Paragraff 14
392.Ni chaiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo cynllun neu amrywiad fel mai dim ond rhan o annedd, neu annedd nas effeithir arni gan y gwaith, ond y bwriedir ei chynnwys mewn unrhyw warediad, sydd wedi ei chynnwys yn ardal y cynllun, oni bai eu bod yn fodlon bod cyfiawnhad i’w cynnwys.
Paragraff 15
393.Mae’r paragraff hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i roi unrhyw gymeradwyaeth yn ddarostyngedig i amodau, ac i wneud y gymeradwyaeth yn ddilys am gyfnod cyfyngedig yn unig. Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r amodau a’r terfynau amser ar gais y landlord, neu am unrhyw reswm arall.
Paragraff 16
394.Mae’r paragraff hwn yn darparu bod landlord cymunedol, at ddibenion Rhan 2 o’r Atodlen, yn landlord mewn perthynas ag annedd os oes ganddo unrhyw fath o fuddiant yn yr annedd. Caiff y buddiant hwn fod yn wahanol i fuddiant rhydd-ddaliadol neu lesddaliadol.