Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 9 – Terfynu Etc. Contractau Meddiannaeth

Pennod 2 - Terfynu Etc. Heb Hawliad Meddiant.(Mae’R Bennod Hon Yn Gymwys I Bob Contract Meddiannaeth)
Adran 152 – Deiliad y contract yn terfynu’n fuan

359.Caiff deiliad contract, cyn cael y datganiad ysgrifenedig o’r contract neu cyn dod yn gymwys i feddiannu’r annedd, pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf, derfynu’r contract drwy roi hysbysiad i’r landlord. Rhaid i’r landlord ddychwelyd unrhyw rent, blaendal neu gydnabyddiaeth arall a roddwyd mewn cysylltiad â’r contract.

Adran 153 – Terfynu drwy gytundeb

360.Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer terfynu contract meddiannaeth drwy gytundeb rhwng deiliad y contract a’r landlord (os yw’r contract yn ymgorffori’r adran hon fel teler). Daw’r contract i ben pan fo deiliad y contract yn ildio meddiant fel y cytunwyd. Os yw contract meddiannaeth newydd, a ddiffinnir yn is-adran (2), yn cael ei ffurfio mae’r contract y cytunodd y landlord a deiliad y contract i’w derfynu yn dod i ben ar unwaith, cyn dyddiad meddiannu’r contract newydd.

Adran 154 – Tor contract ymwrthodol ar ran y landlord

361.Os yw’r landlord wedi cyflawni tor contract ymwrthodol, caiff deiliad contract derfynu contract meddiannaeth drwy ildio meddiant o’r eiddo. Tor contract ymwrthodol yw toriad sydd mor sylweddol fel ei fod yn cyfiawnhau terfynu. Er enghraifft, os yw’r landlord yn gyfrifol am dalu’r biliau cyfleustodau o dan y contract, yna gallai methu â thalu biliau o’r fath, gan arwain at derfynu’r cyfleustod, gynrychioli tor contract ymwrthodol.

Adran 155 – Marwolaeth unig ddeiliad contract

362.Os bydd deiliad contract yn marw, ac nad oes unrhyw gyd-ddeiliaid contract, daw’r contract i ben un mis ar ôl marwolaeth deiliad y contract, neu pan fydd ‘person awdurdodedig’ (a ddiffinnir yn adran (2)) yn hysbysu’r landlord am y farwolaeth, os yw hynny’n gynharach. Os oes gan berson arall hawl i olynu i’r denantiaeth, bydd yr olyniaeth yn digwydd yn unol ag adrannau 73 i 83.

363.Os oes gorchymyn eiddo teuluol (a ddiffinnir yn adran 251) sy’n ei gwneud yn ofynnol trosglwyddo’r contract i rywun arall, ymdrinnir â’r contract yn unol â’r gorchymyn hwnnw.

364.Mae adran 20 yn darparu bod rhaid ymgorffori adran 155 heb ei haddasu, fel un o delerau pob contract meddiannaeth, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys y ddarpariaeth a grybwyllir yn adran 139(1) (trosglwyddiad ar farwolaeth unig ddeiliad contract).

Adran 156 - Marwolaeth landlord pan fo’r contract meddiannaeth yn drwydded

365.Gan fod contract meddiannaeth sy’n drwydded yn seiliedig ar ganiatáu buddiant personol gan y landlord i feddiannu’r annedd, daw i ben ar farwolaeth y landlord.