Strwythur Y Ddeddf

27.Mae 11 Rhan i’r Ddeddf. Mae rhai Rhannau yn berthnasol i bob contract meddiannaeth, ac mae eraill yn berthnasol i fathau penodol o gontractau yn unig. Fel y mae adrannau 5 a 6 yn nodi, gellir edrych ar y Ddeddf fel a ganlyn:

a.

Mae Rhan 1 yn rhoi trosolwg o’r Ddeddf, gyda’r bwriad o helpu i wybod lle i ddod o hyd i bethau;

b.

Mae Rhan 2 yn ymwneud â phennu a oes gan berson gontract meddiannaeth gyda’i landlord, ac os felly, pa fath o gontract meddiannaeth yw hwnnw;

c.

Mae Rhan 3 yn gymwys i bob contract meddiannaeth, felly bydd yn berthnasol i bawb sy’n rhentu ei gartref o dan gontract meddiannaeth (mae’n ymdrin ag amrywiaeth eang o hawliau a rhwymedigaethau deiliaid contractau a landlordiaid);

ch.

Mae Rhan 4 yn ymwneud â dyletswyddau landlordiaid i atgyweirio a chynnal a chadw anheddau - mae Pennod 2, sy’n cynnwys y dyletswyddau hynny, yn gymwys i bob contract meddiannaeth ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol am gyfnod o saith mlynedd neu ragor. Bydd prif ddarpariaethau Rhan 4, felly, yn gymwys i’r rhan fwyaf o gontractau meddiannaeth, i bob pwrpas;

d.

Mae Rhan 5 yn gymwys i gontractau diogel yn unig (ac o ganlyniad, nid yw’n berthnasol i gontractau safonol) – mae’n ymdrin ag amrywiaeth o faterion gwahanol;

dd.

Mae Rhan 6 yn gymwys i gontractau safonol cyfnodol yn unig (ac o ganlyniad, nid yw’n berthnasol i gontractau diogel na chontractau safonol cyfnod penodol) – mae’n ymdrin ag amrywiaeth o faterion gwahanol;

e.

Mae Rhan 7 yn gymwys i gontractau safonol cyfnod penodol yn unig (ac o ganlyniad, nid yw’n berthnasol i gontractau diogel na chontractau safonol cyfnodol) – mae’n ymdrin ag amrywiaeth o faterion gwahanol;

f.

Mae Rhan 8 yn gymwys i gontractau safonol â chymorth yn unig – sef contractau safonol (naill ai gyfnodol neu gyfnod penodol) sy’n ymwneud â darparu llety i bobl sydd angen mathau penodol o gymorth;

ff.

Mae Rhan 9 yn egluro sut y gellir dod â chontractau meddiannaeth i ben – mae amrywiol Benodau yn y Rhan hon yn gymwys i bob contract meddiannaeth, ond mae nifer o Benodau yn gymwys i fathau penodol o gontractau yn unig (mae’r tabl yn adran 147 yn rhoi trosolwg o Ran 9);

g.

Yn olaf, mae Rhannau 10 ac 11 yn ymdrin ag amrywiaeth o faterion sy’n atodol i’r ddarpariaeth yn y Rhannau blaenorol, neu sy’n ymwneud â gweithredu a dehongli’r Ddeddf.