xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1TROSOLWG O’R DDEDDF

Cyflwyniad i Rannau 1 a 2 ac i brif gysyniadau’r Ddeddf hon

1Contractau meddiannaeth

(1)Mae’r Ddeddf hon (yn Rhan 2) yn darparu—

(a)bod y rhan fwyaf o unigolion sy’n rhentu eu cartrefi o dan denantiaeth neu o dan drwydded, a’u landlordiaid, yn gwneud contract â’i gilydd a elwir yn gontract meddiannaeth (ac yn y Ddeddf hon cyfeirir at unigolion o’r fath fel “deiliaid contract”; gweler adran 7);

(b)bod dau fath o gontract meddiannaeth, sef—

(i)contractau diogel, a

(ii)contractau safonol;

(c)bod dau fath o gontract safonol, sef—

(i)contractau safonol cyfnod penodol, a

(ii)contractau safonol cyfnodol,

ac mae’r ddau fath o gontract safonol yn wahanol i’w gilydd o ran eu hamrywio, eu trosglwyddo a’u terfynu.

(2)Mae pob math o gontract meddiannaeth (a phob math o gontract safonol) yn rhoi gwahanol hawliau ac yn gosod gwahanol rwymedigaethau ar ddeiliad y contract a’r landlord; mae contract diogel yn rhoi mwy o sicrwydd i ddeiliad y contract o ran meddiannaeth na chontract safonol.

2Mathau o landlord

(1)Mae’r Ddeddf hon yn darparu (yn Rhan 2)—

(a)ar gyfer dau fath o landlord—

(i)landlordiaid cymunedol (sef awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a mathau eraill o awdurdod), a

(ii)landlordiaid preifat (sef unrhyw landlord heblaw am landlord cymunedol);

(b)y caiff y ddau fath o landlord wneud, neu fabwysiadu, mathau penodol o gontract meddiannaeth (er bod hyn yn ddarostyngedig i eithriadau amrywiol).

(2)Yn gyffredinol—

(a)contractau diogel yw contractau meddiannaeth a wneir â landlordiaid cymunedol, neu a fabwysiedir ganddynt, a

(b)contractau safonol yw contractau a wneir â landlordiaid preifat, neu a fabwysiedir ganddynt,

ond mae hyn yn ddarostyngedig i eithriadau amrywiol.

3Darpariaethau sylfaenol a darpariaethau atodol contractau meddiannaeth

(1)Mae Rhan 2 o’r Ddeddf hon yn sefydlu’r cysyniad o “ddarpariaeth sylfaenol”; hynny yw, darpariaeth yn y Ddeddf hon (adran fel arfer) sy’n cael ei chynnwys yn awtomatig fel un o delerau pob contract meddiannaeth, neu fel un o delerau contractau meddiannaeth penodedig (ac sydd felly’n ffurfio rhan o’r contract rhwng deiliad contract a landlord).

(2)Unwaith y mae un o ddarpariaethau sylfaenol y Ddeddf hon wedi ei chynnwys mewn contract meddiannaeth, cyfeirir ati fel “teler sylfaenol” o’r contract (gweler adran 19).

(3)Pan fydd y contract yn cael ei greu, gall y partïon gytuno y caiff darpariaeth sylfaenol ei chynnwys yn y contract ynghyd â newidiadau (y cyfeirir atynt yn y Ddeddf hon fel “addasiadau”) neu na chaiff ei chynnwys o gwbl; fodd bynnag, ni chaiff y partïon wneud y naill na’r llall o’r pethau hyn oni fydd yn gwella sefyllfa deiliad y contract, a cheir rhai darpariaethau sylfaenol y mae’n rhaid eu cynnwys heb newidiadau.

(4)Unwaith y mae contract meddiannaeth wedi ei greu, gall y partïon amrywio ei delerau sylfaenol; ond mae rhai cyfyngiadau ar hyn.

(5)Mae Rhan 2 o’r Ddeddf hon hefyd yn sefydlu’r cysyniad o “ddarpariaeth atodol”; hynny yw, darpariaeth a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru sy’n cael ei chynnwys yn awtomatig fel un o delerau pob contract meddiannaeth, neu fel un o delerau contractau meddiannaeth penodedig.

(6)Unwaith y mae darpariaeth atodol wedi ei chynnwys mewn contract meddiannaeth, cyfeirir ati fel “teler atodol” o’r contract (gweler adran 23).

(7)Pan fydd y contract yn cael ei greu, gall y partïon gytuno y caiff darpariaeth atodol ei chynnwys yn y contract ynghyd ag addasiadau neu na chaiff ei chynnwys o gwbl, ac unwaith y mae contract meddiannaeth wedi ei greu, gall y partïon amrywio ei delerau atodol; ond mae rhai cyfyngiadau ar hynny.

4Sut i wybod pa ddarpariaethau yn y Ddeddf hon sy’n ddarpariaethau sylfaenol

(1)Mae pob un o ddarpariaethau’r Ddeddf hon sy’n ddarpariaeth sylfaenol—

(a)yn pennu ei bod yn ddarpariaeth sylfaenol, a

(b)yn pennu’r contractau meddiannaeth y mae’n gymwys iddynt.

(2)Mae Atodlen 1 yn cynnwys tair Rhan, sy’n nodi’r darpariaethau sylfaenol yn y Ddeddf hon fel a ganlyn—

(a)mae Rhan 1 yn nodi’r darpariaethau sylfaenol sy’n gymwys i gontractau diogel,

(b)mae Rhan 2 yn nodi’r darpariaethau sylfaenol sy’n gymwys i gontractau safonol cyfnodol, ac

(c)mae Rhan 3 yn nodi’r darpariaethau sylfaenol sy’n gymwys i gontractau safonol cyfnod penodol.

Trosolwg o weddill y Ddeddf

5Trosolwg o Rannau 3 i 9: gweithredu a therfynu contractau meddiannaeth

(1)Mae a wnelo Rhannau 3 i 9 â chontractau meddiannaeth.

(2)Mae Rhan 3 yn gymwys i bob contract meddiannaeth; mae’n ymdrin ag amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud â hawliau a rhwymedigaethau partïon i gontractau meddiannaeth.

(3)Nid yw Rhannau 4 i 8 ond yn gymwys i fathau penodol o gontract meddiannaeth—

(a)mae a wnelo Rhan 4 â rhwymedigaethau landlordiaid o ran cyflwr anheddau; mae Pennod 2 (sy’n nodi’r rhwymedigaethau) yn gymwys i bob contract meddiannaeth, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol am gyfnod o saith mlynedd neu ragor, ac mae Penodau 1 a 3 yn gymwys yn gyffredinol,

(b)nid yw Rhan 5 ond yn gymwys i gontractau diogel (ac nid yw adran 118 ond yn gymwys i gontractau diogel a wneir â landlord cymunedol),

(c)nid yw Rhan 6 ond yn gymwys i gontractau safonol cyfnodol,

(d)nid yw Rhan 7 ond yn gymwys i gontractau safonol cyfnod penodol, ac

(e)nid yw Rhan 8 ond yn gymwys i gontractau safonol â chymorth (sef contract meddiannaeth sy’n ymwneud â llety sy’n cael ei ddarparu mewn cysylltiad â gwasanaethau cymorth).

(4)Mae a wnelo Rhan 9 â therfynu contractau meddiannaeth; yn benodol, mae’n cynnwys—

(a)Penodau sy’n gymwys i bob contract meddiannaeth, a

(b)Penodau sydd ond yn gymwys i fathau penodol o gontract meddiannaeth.

6Trosolwg o Rannau 10 ac 11: darpariaeth gyffredinol

(1)Mae a wnelo Rhan 10 â materion amrywiol sydd naill ai—

(a)yn atodol i Rannau 2 i 9, neu

(b)ynghylch cymhwyso a gweithredu’r Ddeddf hon.

(2)Mae Rhan 11 yn cynnwys—

(a)darpariaeth ynghylch dehongli’r Ddeddf hon, a

(b)darpariaeth sy’n gymwys yn gyffredinol at ddibenion y Ddeddf hon.

RHAN 2CONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID

PENNOD 1CONTRACTAU MEDDIANNAETH

7Tenantiaethau a thrwyddedau sy’n gontractau meddiannaeth

(1)Mae tenantiaeth neu drwydded yn gontract meddiannaeth—

(a)os yw o fewn is-adran (2) neu (3), a

(b)os oes rhent neu gydnabyddiaeth arall yn daladwy oddi tani.

(2)Mae tenantiaeth o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw wedi ei gwneud rhwng landlord ac unigolyn, a

(b)os yw’n rhoi’r hawl i’r unigolyn feddiannu annedd fel cartref.

(3)Mae tenantiaeth neu drwydded o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw wedi ei gwneud rhwng landlord a dau neu ragor o bersonau, a bod o leiaf un o’r rheini yn unigolyn, a

(b)os yw’n rhoi’r hawl i’r unigolyn (neu i un neu ragor ohonynt, os oes mwy nag un unigolyn) feddiannu annedd fel cartref.

(4)Ond mae eithriadau i is-adran (1) yn Atodlen 2, sy’n darparu—

(a)yn Rhan 1, y gall tenantiaethau a thrwyddedau penodol nad ydynt o fewn is-adran (2) neu (3) fod yn gontractau meddiannaeth os rhoddir hysbysiad,

(b)yn Rhan 2, nad yw tenantiaethau a thrwyddedau penodol sydd o fewn is-adran (2) neu (3) yn gontractau meddiannaeth oni bai y rhoddir hysbysiad,

(c)yn Rhan 3, nad yw tenantiaethau a thrwyddedau penodol byth yn gontractau meddiannaeth,

(d)yn Rhannau 4 a 5, y gall tenantiaethau a thrwyddedau penodol fod yn gontractau meddiannaeth, ond bod rheolau arbennig yn gymwys mewn perthynas â hwy, ac

(e)yn Rhan 6, y caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen honno.

(5)Mae pob person y mae landlord yn gwneud contract meddiannaeth ag ef yn ddeiliad contract o dan y contract meddiannaeth.

(6)Ond ni all unigolyn fod yn ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth os nad yw wedi cyrraedd 18 oed.

8Contractau diogel a chontractau safonol

(1)Mae contract meddiannaeth naill ai—

(a)yn gontract diogel, neu

(b)yn gontract safonol.

(2)Mae contract diogel yn gontract cyfnodol.

(3)Mae contract safonol naill ai’n gontract cyfnod penodol neu’n gontract cyfnodol.

PENNOD 2NATUR CONTRACTAU Y GALL LANDLORDIAID CYMUNEDOL A LANDLORDIAID PREIFAT EU GWNEUD ETC.

Diffiniadau

9Landlordiaid cymunedol

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “landlord cymunedol” yw landlord sydd yn—

(a)awdurdod a grybwyllir yn is-adran (2),

(b)landlord cymdeithasol cofrestredig, heblaw cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol neu gymdeithas dai gydweithredol, neu

(c)darparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig (gweler adran 80(3) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17)).

(2)Yr awdurdodau yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corfforaeth dref newydd;

(c)ymddiriedolaeth gweithredu tai;

(d)corfforaeth datblygu trefol;

(e)cydweithrediaeth tai y mae is-adran (3) yn gymwys iddi.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys i gydweithrediaeth tai (o fewn ystyr adran 27B o Ddeddf Tai 1985 (p. 68)) i’r graddau y mae unrhyw annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth wedi ei chynnwys mewn cytundeb cydweithrediaeth tai o fewn ystyr yr adran honno.

(4)Yn y Ddeddf hon, ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” yw person a gofrestrwyd ar y gofrestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(5)Yn y Ddeddf hon, mae i “cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol” a “cymdeithas dai gydweithredol” yr un ystyr ag a roddir i “fully mutual housing association” a “co-operative housing association” yn Neddf Cymdeithasau Tai 1985 (p. 69) (gweler adran 1(2) o’r Ddeddf honno).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy reoliadau at ddiben—

(a)darparu nad yw person sydd ar y pryd yn landlord cymunedol yn landlord cymunedol;

(b)darparu bod person nad yw’n landlord cymunedol yn landlord cymunedol;

(c)newid disgrifiad o berson sydd ar y pryd yn landlord cymunedol.

10Landlordiaid preifat

Yn y Ddeddf hon, ystyr “landlord preifat” yw landlord nad yw’n landlord cymunedol.

Contractau a wneir â landlordiaid cymunedol neu a fabwysiedir ganddynt

11Contract a wneir â landlord cymunedol

(1)Mae contract meddiannaeth a wneir â landlord cymunedol yn gontract diogel oni bai bod un o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys.

(2)Mae’r eithriad cyntaf yn gymwys—

(a)os yw’r contract meddiannaeth o fewn Atodlen 3 (contractau meddiannaeth a wneir gyda landlordiaid cymunedol y caniateir iddynt fod yn gontractau safonol),

(b)os yw’r landlord, cyn gwneud y contract neu ar adeg gwneud y contract, yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 13 (hysbysiad contract safonol), ac

(c)os nad oes unrhyw eithriad arall yn gymwys.

(3)Mae’r ail eithriad yn gymwys os caiff y contract ei wneud o ganlyniad i orchymyn o dan adran 116 (contract safonol ymddygiad gwaharddedig).

(4)Mae’r trydydd eithriad yn gymwys os yw’r contract yn bodoli yn sgil adran 184(2) neu os yw o fewn adran 184(6) (contractau ar ddiwedd cyfnod penodol).

(5)Mae’r pedwerydd eithriad yn gymwys os yw’r contract yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n bodoli yn sgil adran 238 (tenantiaethau a thrwyddedau goblygedig).

(6)Mae adran 16 yn gwneud darpariaeth bellach am gontractau y mae’r eithriad cyntaf yn gymwys iddynt am fod y contract o fewn paragraff 3 o Atodlen 3 (contractau safonol rhagarweiniol).

12Contract a fabwysiedir gan landlord cymunedol

(1)Os yw landlord cymunedol yn dod yn landlord o dan gontract diogel sydd eisoes yn bodoli, mae’r contract yn parhau fel contract diogel.

(2)Os yw landlord cymunedol yn dod yn landlord o dan gontract safonol sydd eisoes yn bodoli oherwydd trosglwyddiad o dan adran 62 neu 66 (trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau landlord o dan gontract isfeddiannaeth), mae’r contract yn parhau fel contract safonol.

(3)Os yw landlord cymunedol yn dod yn landlord o dan gontract safonol sydd eisoes yn bodoli, a hynny am unrhyw reswm arall, mae’r contract sydd eisoes yn bodoli—

(a)yn dod i ben pan fydd y landlord cymunedol yn dod yn landlord, a

(b)yn cael ei ddisodli gan gontract diogel sydd â dyddiad meddiannu sy’n dod yn union ar ôl i’r contract sydd eisoes yn bodoli ddod i ben,

oni bai bod un o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys.

(4)Mae’r eithriad cyntaf yn gymwys—

(a)os yw’r contract o fewn Atodlen 3 (contractau meddiannaeth a fabwysiedir gan landlord cymunedol),

(b)os yw’r landlord cymunedol, cyn iddo ddod yn landlord neu ar yr adeg y daw’n landlord, yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 13, ac

(c)os nad oes unrhyw eithriad arall yn gymwys.

(5)Mae’r ail eithriad yn gymwys os caiff y contract ei wneud o ganlyniad i orchymyn o dan adran 116 (contract safonol ymddygiad gwaharddedig).

(6)Mae’r trydydd eithriad yn gymwys os yw’r contract yn bodoli yn sgil adran 184(2) neu os yw o fewn adran 184(6) (contractau ar ddiwedd cyfnod penodol).

(7)Mae’r pedwerydd eithriad yn gymwys os yw’r contract yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n bodoli yn sgil adran 238 (tenantiaethau a thrwyddedau goblygedig).

(8)Mae’r pumed eithriad yn gymwys—

(a)os yw’r contract yn gontract safonol cyfnod penodol y talwyd premiwm ar ei gyfer, a

(b)os yw deiliad y contract, cyn i’r landlord cymunedol ddod yn landlord arno, yn penderfynu y dylai’r contract barhau i fod yn gontract safonol cyfnod penodol (mae adran 15 yn gwneud darpariaeth bellach am benderfyniadau o’r fath).

(9)Mae adran 16 yn gwneud darpariaeth bellach am gontractau y mae’r eithriad cyntaf yn gymwys iddynt am fod y contract o fewn paragraff 3 o Atodlen 3 (contractau safonol rhagarweiniol).

13Hysbysiad o gontract safonol

(1)Mae hysbysiad o dan yr adran hon yn hysbysiad—

(a)sy’n pennu’r paragraff o Atodlen 3, a’r disgrifiad o gontract meddiannaeth a nodir yn y paragraff hwnnw, y mae’r landlord yn dibynnu arno, a

(b)sy’n datgan bod y contract yn gontract safonol.

(2)Rhaid i’r hysbysiad hefyd hysbysu deiliad y contract o’i hawl i wneud cais am adolygiad o dan adran 14, ac erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y cais.

14Adolygu hysbysiad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo landlord cymunedol yn rhoi hysbysiad o dan adran 13.

(2)Caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys sirol am adolygiad o benderfyniad y landlord i roi’r hysbysiad.

(3)Rhaid gwneud y cais cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad i ddeiliad y contract.

(4)Caiff y llys sirol roi caniatâd i gais gael ei wneud ar ôl diwedd y cyfnod a ganiateir gan is-adran (3), ond dim ond os yw’n fodlon—

(a)os ceisir caniatâd cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bod rheswm da nad yw deiliad y contract yn gallu gwneud y cais mewn pryd, neu

(b)os ceisir caniatâd ar ôl hynny, bod rheswm da bod deiliad y contract wedi methu â gwneud y cais mewn pryd ac am unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd.

(5)Caiff y llys sirol gadarnhau’r penderfyniad i roi’r hysbysiad neu ei ddiddymu.

(6)Wrth ystyried a ddylai gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu, rhaid i’r llys sirol gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys pan wneir cais am adolygiad barnwrol.

(7)Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad, caiff wneud unrhyw orchymyn y gallai’r Uchel Lys ei wneud wrth wneud gorchymyn diddymu ar gais am adolygiad barnwrol.

(8)Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad ac os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract o dan adran 13 cyn diwedd y cyfnod ôl-adolygiad, mae’r hysbysiad yn cael effaith (heblaw at ddibenion is-adran (3)), fel pe bai wedi ei roi—

(a)mewn achos sydd o fewn adran 11, ar adeg gwneud y contract, neu

(b)mewn achos sydd o fewn adran 12, ar yr adeg y daeth y landlord cymunedol yn landlord.

(9)Y cyfnod ôl-adolygiad yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad.

15Hysbysiad o’r hawl i benderfynu parhau ar gontract safonol cyfnod penodol

(1)O leiaf fis cyn i landlord cymunedol ddod yn landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol y talwyd premiwm ar ei gyfer, rhaid i’r landlord cymunedol roi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan yr adran hon.

(2)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)hysbysu deiliad y contract o’i hawl o dan adran 12(8)(b) i benderfynu y dylai‘r contract barhau i fod yn gontract safonol cyfnod penodol, a’i hysbysu erbyn pryd y mae’n rhaid iddo wneud y penderfyniad, a

(b)egluro sut y bydd adran 12 yn gymwys i’r contract os nad yw deiliad y contract yn gwneud y penderfyniad.

16Contractau safonol rhagarweiniol

(1)Mae contract meddiannaeth sy’n gontract safonol am fod yr eithriad cyntaf yn adran 11 neu 12 yn gymwys ac am ei fod o fewn paragraff 3 o Atodlen 3 (contract meddiannaeth newydd a wneir â landlord cymunedol)—

(a)yn gontract safonol cyfnodol yn ystod y cyfnod rhagarweiniol, a

(b)os yw’n bodoli yn union cyn diwedd y cyfnod hwnnw—

(i)yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, a

(ii)yn cael ei ddisodli gan gontract diogel sydd â dyddiad meddiannu sy’n dod yn union ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

(2)Ond nid yw is-adran (1)(b) yn gymwys os yw cyfnod rhagarweiniol yn dod i ben oherwydd paragraff 1(6) o Atodlen 4 (landlord preifat yn dod yn landlord o dan y contract).

(3)Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfnodau rhagarweiniol ac ynghylch telerau contract diogel sy’n dod i fodolaeth yn sgil diwedd cyfnod rhagarweiniol.

(4)Yn y Ddeddf hon, ystyr “contract safonol rhagarweiniol” yw contract—

(a)sydd o fewn is-adran (1), a

(b)nad yw’r cyfnod rhagarweiniol sy’n berthnasol iddo wedi dod i ben.

Contractau a wneir â landlordiaid preifat neu a fabwysiedir ganddynt

17Contract a wneir â landlordiaid preifat neu a fabwysiedir ganddynt

(1)Mae contract meddiannaeth a wneir â landlord preifat yn gontract safonol oni bai bod y landlord, cyn neu ar adeg gwneud y contract, yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract sy’n datgan bod y contract yn gontract diogel.

(2)Os yw landlord preifat yn dod yn landlord o dan gontract diogel sydd eisoes yn bodoli, mae’r contract yn parhau i fod yn gontract diogel.

(3)Os yw landlord preifat yn dod yn landlord o dan gontract safonol sydd eisoes yn bodoli, mae’r contract yn parhau i fod yn gontract safonol.

PENNOD 3DARPARIAETHAU SYLFAENOL CONTRACTAU MEDDIANNAETH

18Darpariaethau sylfaenol

(1)Darpariaethau sylfaenol yw darpariaethau yn y Ddeddf hon (a darpariaethau sy’n ddarpariaethau sylfaenol yn rhinwedd adran 22(1)(a)) a ymgorfforir fel telerau contractau meddiannaeth neu fel telerau mathau neu ddisgrifiadau penodol o gontractau meddiannaeth (yn ddarostyngedig i adrannau 20(1) a (2) a 21).

(2)Mae pob un o ddarpariaethau’r Ddeddf hon sy’n ddarpariaeth sylfaenol yn nodi hynny, ac yn pennu ym mha gontractau meddiannaeth y caiff ei hymgorffori fel teler sylfaenol.

(3)Nid oes dim yn y Ddeddf hon i’w ddarllen fel pe bai’n galluogi landlord neu ddeiliad contract i wneud unrhyw beth a fyddai’n cael yr effaith nad yw darpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i’r contract meddiannaeth yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i’r contract hwnnw, neu’n cael yr effaith nad yw i’w drin felly (ond nid yw hyn yn atal cytundeb i addasu neu i beidio ag ymgorffori darpariaeth sylfaenol, neu amrywiad ar un o’r telerau sylfaenol, sydd yn unol â’r Ddeddf hon).

19Telerau sylfaenol a darpariaethau sylfaenol: diffiniadau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion dehongli’r Ddeddf hon.

(2)Mae i “darpariaeth sylfaenol” yr ystyr a roddir yn adran 18.

(3)Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at adran neu ddarpariaeth arall sydd yn ddarpariaeth sylfaenol yn cael effaith, mewn perthynas â chontract sy’n ymgorffori’r ddarpariaeth sylfaenol (ynghyd ag addasiadau i’r ddarpariaeth neu heb addasiadau iddi), fel cyfeiriad at deler sylfaenol y contract sy’n ymgorffori’r ddarpariaeth honno.

(4)Ystyr “teler sylfaenol”, mewn perthynas â chontract meddiannaeth, yw teler o’r contract sy’n ymgorffori darpariaeth sylfaenol (ynghyd ag addasiadau i’r ddarpariaeth neu heb addasiadau iddi).

20Ymgorffori ac addasu darpariaethau sylfaenol

(1)Nid yw darpariaeth sylfaenol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth—

(a)os yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno na ddylid ei hymgorffori, a

(b)os, ym marn deiliad y contract, effaith peidio â’i hymgorffori yw bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella.

(2)Mae darpariaeth sylfaenol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth ynghyd ag addasiadau iddi—

(a)os yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno y dylid ei hymgorffori ynghyd â’r addasiadau hynny iddi, a

(b)os, ym marn deiliad y contract, effaith ei hymgorffori ynghyd â’r addasiadau hynny yw bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella.

(3)Nid yw is-adrannau (1) a (2) yn gymwys i’r darpariaethau sylfaenol a ganlyn—

(a)adran 45 (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal),

(b)adran 52 (cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaeth),

(c)adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall),

(d)adrannau 103(1)(b) a (2) a 108 (amrywio contractau diogel),

(e)adrannau 122(1)(b) a (2) a 127 (amrywio contractau safonol cyfnodol),

(f)adran 134(1)(b) a (2) a 135 (amrywio contractau safonol cyfnod penodol),

(g)adran 148 (terfynu a ganiateir),

(h)adran 149 (hawliadau meddiant),

(i)adran 155 (marwolaeth unig ddeiliad contract),

(j)adran 158 (sicrhau contract drwy ddatganiad ffug),

(k)adran 175 (cyfyngiad ar roi hysbysiad y landlord o dan gontract safonol cyfnodol yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth),

(l)adran 177 (torri rheolau blaendal: contractau safonol cyfnodol),

(m)adran 186(2) a (4) (cyfyngiad ar derfynu contract safonol cyfnod penodol yn ystod chwe mis cyntaf meddiannaeth),

(n)adran 196 (cyfyngiad ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord mewn contract safonol cyfnod penodol yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth),

(o)adran 198 (torri rheolau blaendal: contractau safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys cymal terfynu’r landlord), a

(p)paragraff 7 o Atodlen 4 (amrywio contract diogel yr ymdrinnir ag ef mewn datganiad ysgrifenedig o gontract safonol rhagarweiniol).

(4)Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i adran 34 (methiant landlord i ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r contract) ac adran 36 (datganiad anghyflawn o’r contract).

21Effaith peidio ag ymgorffori darpariaethau sylfaenol ac addasu darpariaethau sylfaenol

(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys—

(a)pan nad yw darpariaeth sylfaenol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth oherwydd cytundeb o dan adran 20(1), neu

(b)pan fo darpariaeth sylfaenol wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi oherwydd cytundeb o dan adran 20(2).

(2)Os, o ganlyniad, yw’n angenrheidiol nad yw darpariaeth sylfaenol neu ddarpariaeth atodol arall (gweler Pennod 4) yn cael ei hymgorffori, nid yw’r ddarpariaeth honno wedi ei hymgorffori.

(3)Os, o ganlyniad, yw’n angenrheidiol ymgorffori darpariaeth sylfaenol neu ddarpariaeth atodol arall ynghyd ag addasiadau iddi, mae’r ddarpariaeth honno wedi ei hymgorffori ynghyd â’r addasiadau angenrheidiol hynny (yn ogystal ag unrhyw addasiadau a wneir oherwydd cytundeb o dan adran 20(2) neu adran 24(2)).

(4)Ond nid yw is-adrannau (2) a (3) yn gymwys pe byddai eu cymhwyso yn cael yr effaith na fyddai darpariaeth sylfaenol a grybwyllir yn adran 20(3) wedi ei hymgorffori, neu y byddai wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi; felly, nid yw’r cytundeb a grybwyllir yn is-adran (1)(a) neu (b) yn cael unrhyw effaith.

22Pwerau o ran darpariaethau sylfaenol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau bod—

(a)darpariaeth mewn unrhyw ddeddfiad yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i gontract meddiannaeth;

(b)darpariaeth mewn unrhyw ddeddfiad sydd ar y pryd yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i gontract meddiannaeth, yn peidio â bod yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i gontract meddiannaeth.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau nad yw—

(a)adran 20(1) yn gymwys i ddarpariaeth sylfaenol;

(b)adran 20(2) yn gymwys i ddarpariaeth sylfaenol.

(3)Mae’r pŵer i wneud diwygiadau canlyniadol o dan adran 256(2) yn cynnwys, o ran ei gymhwyso i reoliadau o dan yr adran hon, y pŵer i wneud diwygiadau canlyniadol i’r Ddeddf hon.

PENNOD 4DARPARIAETHAU ATODOL CONTRACTAU MEDDIANNAETH

23Darpariaethau atodol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau bod darpariaethau a ddynodir yn y rheoliadau wedi eu hymgorffori fel telerau contractau meddiannaeth (yn ddarostyngedig i adrannau 21, 24(1) a (2) a 25); at ddibenion y Ddeddf hon, mae darpariaethau o’r fath yn “ddarpariaethau atodol”.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu tyb hwy cyn gwneud Rheoliadau o dan is-adran (1).

(3)Mae adrannau 112 a 131 yn rhoi pwerau pellach i Weinidogion Cymru ragnodi darpariaethau atodol yn ymwneud â therfynau amser ar gyfer cyd-ddeiliaid contract yn tynnu’n ôl o gontractau diogel a chontractau safonol cyfnodol (ac mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori yn unol ag is-adran (2) cyn defnyddio’r pwerau hynny).

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, o dan is-adran (1), ragnodi bod darpariaeth mewn deddfiad yn ddarpariaeth atodol sy’n gymwys i gontract meddiannaeth.

(5)Yn y Ddeddf hon—

24Ymgorffori ac addasu darpariaethau atodol

(1)Nid yw darpariaeth atodol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth os yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno na ddylid ei hymgorffori.

(2)Mae darpariaeth atodol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth ynghyd ag addasiadau iddi os yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno y dylid ei hymgorffori ynghyd â’r addasiadau hynny.

(3)Nid oes unrhyw effaith i gytundeb o dan is-adran (1) neu (2) a fyddai’n gwneud teler atodol mewn contract meddiannaeth yn anghydnaws ag un o delerau sylfaenol y contract.

(4)Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i adran 34 (methiant landlord i ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r contract) ac adran 36 (datganiad anghyflawn o’r contract).

25Effaith peidio ag ymgorffori darpariaethau atodol ac addasu darpariaethau atodol

(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys—

(a)pan na fo darpariaeth atodol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth oherwydd cytundeb o dan adran 24(1), neu

(b)pan fo darpariaeth atodol wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract ynghyd ag addasiadau iddi oherwydd cytundeb o dan adran 24(2).

(2)Os, o ganlyniad, yw’n angenrheidiol nad yw darpariaeth atodol arall yn cael ei hymgorffori, nid yw’r ddarpariaeth arall wedi ei hymgorffori.

(3)Os, o ganlyniad, yw’n angenrheidiol ymgorffori darpariaeth atodol arall ynghyd ag addasiadau iddi, mae’r ddarpariaeth arall wedi ei hymgorffori ynghyd â’r addasiadau angenrheidiol hynny (yn ogystal ag unrhyw addasiadau a wneir oherwydd cytundeb o dan adran 24(2)).

PENNOD 5MATERION ALLWEDDOL A THELERAU YCHWANEGOL CONTRACTAU MEDDIANNAETH

26Materion allweddol mewn perthynas â phob contract meddiannaeth

Mae’r canlynol yn faterion allweddol mewn perthynas â phob contract meddiannaeth—

(a)yr annedd,

(b)y dyddiad meddiannu,

(c)swm y rhent neu gydnabyddiaeth arall, a

(d)y cyfnodau rhentu.

27Materion allweddol pellach mewn perthynas â chontractau safonol

Mae’r canlynol yn faterion allweddol mewn perthynas â chontractau safonol (yn ychwanegol at y rheini a nodir yn adran 26)—

(a)pa un a yw’r contract yn un cyfnodol neu wedi ei wneud am gyfnod penodol,

(b)y cyfnod dan sylw, os yw wedi ei wneud am gyfnod penodol, ac

(c)os oes cyfnodau pan nad oes gan ddeiliad y contract hawl i feddiannu’r annedd fel cartref, y cyfnodau dan sylw (gweler adrannau 121 a 133).

28Telerau ychwanegol

(1)Telerau ychwanegol contract meddiannaeth yw unrhyw un neu ragor o delerau datganedig y contract ac eithrio—

(a)telerau sy’n ymdrin â’r materion allweddol mewn perthynas â’r contract,

(b)telerau sylfaenol y contract, ac

(c)telerau atodol y contract.

(2)Nid oes unrhyw effaith i un o delerau ychwanegol contract meddiannaeth sy’n anghydnaws ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (1).

(3)Yn y Ddeddf hon mae i “telerau ychwanegol” yr ystyr a roddir gan is-adran (1).

PENNOD 6CONTRACTAU ENGHREIFFTIOL

29Datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ragnodi datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol o gontractau ar gyfer contract meddiannaeth o unrhyw fath neu ddisgrifiad sy’n briodol yn eu barn hwy.

(2)Mae datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract ar gyfer contract meddiannaeth o fath neu ddisgrifiad penodol yn ddatganiad ysgrifenedig (gweler adran 31) sy’n ymgorffori’r holl ddarpariaethau sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i’r contract hwnnw, heb eu haddasu.

RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

PENNOD 1TROSOLWG

30Trosolwg o’r Rhan hon

Mae’r Rhan hon yn gymwys i bob contract meddiannaeth, ac yn benodol—

(a)mae’n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid roi datganiad ysgrifenedig sy’n nodi telerau’r contract meddiannaeth i ddeiliaid contract,

(b)mae’n ymwneud â blaendaliadau a roir i landlordiaid gan ddeiliaid contract, ac yn darparu bod rhaid dal blaendaliadau mewn cynllun blaendal awdurdodedig,

(c)mae’n gwneud darpariaeth ynghylch contractau meddiannaeth sydd â mwy nag un deiliad contract,

(d)mae’n rhoi hawl i ddeiliaid contract feddiannu eu cartref heb ymyrraeth gan y landlord,

(e)mae’n gwahardd ymddygiad gwrthgymdeithasol a mathau penodol eraill o ymddygiad gan ddeiliaid contract a meddianwyr ac ymwelwyr eraill,

(f)mae’n gwahardd delio â chontract meddiannaeth, ond mae hyn yn ddarostyngedig i eithriadau ynghylch contractau isfeddiannaeth, trosglwyddo contractau ac olynu i gontractau,

(g)mae’n ymwneud â cheisio cydsyniad landlord a rhoi cydsyniad landlord, ac

(h)mae’n ymwneud â thâl digolledu y gall deiliaid contract fod â hawl iddo o dan y Ddeddf hon.

PENNOD 2DARPARU GWYBODAETH

Datganiad ysgrifenedig o’r contract

31Datganiad ysgrifenedig

(1)Rhaid i’r landlord o dan gontract meddiannaeth roi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad meddiannu.

(2)Os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn newid, rhaid i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad newydd y contract cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau—

(a)â’r diwrnod y mae deiliad y contract yn newid, neu

(b)os yw’n hwyrach, â’r diwrnod y daw’r landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, unrhyw un ohonynt) i wybod bod deiliad y contract wedi newid.

(3)Ni chaiff y landlord godi ffi am ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan is-adran (1) neu (2).

(4)Caiff deiliad y contract ofyn am ddatganiad ysgrifenedig pellach o’r contract unrhyw bryd.

(5)Caiff y landlord godi ffi resymol am ddarparu datganiad ysgrifenedig pellach.

(6)Rhaid i’r landlord roi’r datganiad ysgrifenedig pellach i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau—

(a)â’r diwrnod y gwneir y cais, neu

(b)os yw’r landlord yn codi ffi, â’r diwrnod y mae deiliad y contract yn talu’r ffi.

(7)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

32Yr hyn y mae datganiad ysgrifenedig i’w gynnwys

(1)Rhaid i ddatganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth nodi enwau’r partïon i’r contract.

(2)Rhaid iddo hefyd nodi—

(a)telerau’r contract sy’n ymdrin â materion allweddol mewn perthynas â’r contract,

(b)telerau sylfaenol y contract,

(c)telerau atodol y contract, a

(d)unrhyw delerau ychwanegol.

(3)Rhaid iddo nodi—

(a)unrhyw ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i’r contract nad yw wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract oherwydd adran 20(1) neu 21(2), a

(b)unrhyw ddarpariaeth atodol sy’n gymwys i’r contract nad yw wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract oherwydd adran 21(2), 24(1) neu 25(2).

(4)Rhaid iddo gynnwys gwybodaeth esboniadol am unrhyw faterion a ragnodir.

33Newidiadau golygyddol

(1)Caiff y datganiad ysgrifenedig nodi telerau sylfaenol a thelerau atodol y contract meddiannaeth ynghyd â newidiadau golygyddol iddynt.

(2)Newidiadau i eiriad teler sylfaenol neu deler atodol yw newidiadau golygyddol, nad ydynt yn newid sylwedd y teler hwnnw mewn unrhyw ffordd; er enghraifft rhoi enwau’r landlord neu ddeiliad y contract yn lle cyfeiriadau at “y landlord”, “y landlord o dan gontract meddiannaeth”, “deiliad y contract”, “deiliad y contract o dan gontract diogel” etc.

34Methu â darparu datganiad ysgrifenedig etc.

(1)Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth wedi methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan adran 31, caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys am ddatganiad llys ynghylch telerau’r contract.

(2)Pan wneir cais o dan is-adran (1) mae pob darpariaeth sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i’r contract i’w thrin fel pe bai wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract heb ei haddasu, oni bai bod deiliad y contract yn honni nad oedd wedi ei hymgorffori neu’n honni ei bod wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi.

(3)Os yw deiliad y contract yn gwneud honiad o fath a grybwyllir yn is-adran (2), rhaid i’r llys ddyfarnu ar yr honiad hwnnw.

(4)Nid yw is-adran (3) yn gymwys os gellir priodoli methiant y landlord i gydymffurfio ag adran 31 i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.

(5)Caiff y llys—

(a)cysylltu datganiad o’r contract meddiannaeth i’w ddatganiad, neu

(b)gorchymyn i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract.

35Methu â darparu datganiad: digolledu

(1)Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth wedi methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan adran 31, mae’r landlord yn atebol i dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.

(2)Mae’r tâl digolledu yn daladwy ar gyfer y dyddiad perthnasol a phob diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol—

(a)hyd y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract, neu

(b)os yw hynny’n gynharach, hyd ddiwrnod olaf y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.

(3)Mae llog yn daladwy ar y tâl digolledu os yw’r landlord wedi methu â rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)⁠(b) neu cyn hynny.

(4)Mae’r llog yn dechrau cronni ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b), ar y raddfa sy’n bodoli o dan adran 6 o Ddeddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998 (p. 20) ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.

(5)Nid yw’r adran hon yn gymwys os gellir priodoli methiant y landlord i gydymffurfio ag adran 31 i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.

(6)Y dyddiad perthnasol yw diwrnod cyntaf y cyfnod yr oedd yn ofynnol i’r landlord roi’r datganiad ysgrifenedig cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

36Datganiad ysgrifenedig anghyflawn

(1)Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn darparu datganiad ysgrifenedig anghyflawn o’r contract, caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys am ddatganiad llys ynghylch telerau’r contract.

(2)Mae datganiad ysgrifenedig yn anghyflawn os nad yw’n cynnwys popeth y mae’n ofynnol iddo ei gynnwys o dan adran 32.

(3)Ni chaiff deiliad y contract wneud cais i’r llys o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau—

(a)os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o dan adran 31(1), â’r dyddiad meddiannu;

(b)os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o dan adran 31(2), â’r diwrnod y rhoddodd y landlord y datganiad ysgrifenedig i ddeiliad newydd y contract;

(c)os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig pellach o dan adran 31(4) i (6), â diwrnod cyntaf y cyfnod a grybwyllir yn adran 31(6).

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys os nad yw’r datganiad ysgrifenedig—

(a)yn nodi darpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i’r contract ac os nad yw’n cynnwys datganiad nad yw’r ddarpariaeth wedi ei hymgorffori oherwydd adran 20(1) neu 21(2), neu

(b)yn nodi darpariaeth atodol sy’n gymwys i’r contract ac os nad yw’n cynnwys datganiad nad yw’r ddarpariaeth wedi ei hymgorffori oherwydd adran 21(2), 24(1) neu 25(2).

(5)Mae’r ddarpariaeth honno i’w thrin fel pe bai wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract heb ei haddasu oni bai—

(a)bod adran 21 neu 25 yn gymwys mewn perthynas â hi, neu

(b)bod deiliad y contract yn honni nad oedd wedi ei hymgorffori neu’n honni ei bod wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi.

(6)Os yw deiliad y contract yn gwneud honiad o’r fath a grybwyllir yn is-adran (5)(b), rhaid i’r llys ddyfarnu ar yr honiad hwnnw.

(7)Nid yw is-adran (6) yn gymwys os gellir priodoli hepgor y ddarpariaeth neu’r datganiad ysgrifenedig i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.

(8)Caiff y llys—

(a)cysylltu datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i’w ddatganiad, neu

(b)gorchymyn i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig cyflawn o’r contract i ddeiliad y contract.

(9)Os yw’r llys wedi ei fodloni bod y datganiad ysgrifenedig yn anghyflawn oherwydd diffyg bwriadol ar ran y landlord, caiff orchymyn i’r landlord dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.

(10)Mae’r tâl digolledu yn daladwy ar gyfer y cyfnod, heb fod yn hwy na dau fis, a bennir gan y llys; a chaiff y llys orchymyn i’r landlord dalu llog ar unrhyw raddfa ac wedi’i gyfrifo mewn unrhyw fodd sy’n briodol yn ei farn.

37Datganiad anghywir: cais deiliad y contract i’r llys

(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth wneud cais i’r llys am ddatganiad bod datganiad ysgrifenedig o’r contract—

(a)yn nodi un neu ragor o delerau’r contract yn anghywir neu’n nodi teler nad oes iddo unrhyw effaith,

(b)yn datgan yn anghywir nad yw darpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i’r contract wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract oherwydd adran 20(1) neu 21(2),

(c)yn datgan yn anghywir nad yw darpariaeth atodol sy’n gymwys i’r contract wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract oherwydd adran 21(2), 24(1) neu 25(2), neu

(d)yn nodi teler nad yw’n un o delerau’r contract.

(2)Ond nid yw datganiad ysgrifenedig yn anghywir ond am nad yw’n nodi teler a amrywiwyd yn unol â’r contract neu drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad, os rhoddwyd—

(a)datganiad ysgrifenedig o’r teler a amrywiwyd yn unol ag adran 109, 128 neu 136, neu

(b)hysbysiad o’r amrywiad yn unol ag adran 104, 105(2) i (4) neu 107(1)(b) a (2) i (6) (amrywio contractau diogel) neu adran 123, 124(2) i (4) neu 126(1) i (4) (amrywio contractau safonol cyfnodol),

oni bai bod y datganiad wedi ei roi o dan adran 31(2) neu (4) ar ôl i unrhyw amrywiad o’r fath i deler gael effaith.

(3)Ni chaiff deiliad y contract wneud cais i’r llys o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau—

(a)os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o dan adran 31(1), â’r dyddiad meddiannu;

(b)os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o dan adran 31(2), â’r diwrnod y rhoddodd y landlord y datganiad ysgrifenedig i ddeiliad newydd y contract;

(c)os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig pellach o dan adran 31(4) i (6), â diwrnod cyntaf y cyfnod a grybwyllir yn adran 31(6).

(4)Os yw’r llys yn fodlon bod y sail yn is-adran (1)(a), (1)(b) neu (1)(c) wedi ei phrofi, caiff wneud datganiad sy’n nodi’r teler cywir.

(5)Os yw’r llys yn fodlon bod y sail yn is-adran (1)(d) wedi ei phrofi, caiff wneud datganiad nad yw’r teler yn un o delerau’r contract.

(6)Caiff y llys—

(a)cysylltu datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i’w ddatganiad, neu

(b)gorchymyn i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig wedi ei gywiro o’r contract i ddeiliad y contract.

(7)Os yw’r llys yn fodlon bod y datganiad ysgrifenedig yn anghywir fel y disgrifir yn is-adran (1) oherwydd diffyg bwriadol ar ran y landlord, caiff orchymyn i’r landlord dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.

(8)Mae’r tâl digolledu yn daladwy ar gyfer y cyfnod, heb fod yn hwy na dau fis, a bennir gan y llys; a chaiff y llys orchymyn i’r landlord dalu llog ar unrhyw raddfa ac wedi ei gyfrifo mewn unrhyw fodd sy’n briodol yn ei farn.

38Datganiad anghywir: cais landlord i’r llys am ddatganiad bod contract yn gontract safonol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn landlord cymunedol, ac os yw wedi rhoi i ddeiliad y contract—

(a)hysbysiad o dan adran 13 (hysbysiad o gontract safonol), ond

(b)datganiad ysgrifenedig o’r contract sy’n gyson â chontract diogel.

(2)Caiff y landlord wneud cais i’r llys am ddatganiad bod y contract yn gontract safonol.

(3)Ni chaiff y llys wneud y datganiad os yw’n fodlon mai bwriad y landlord, ar yr adeg y rhoddodd y datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract, oedd y dylai’r contract fod yn gontract diogel.

(4)Os yw’r llys yn gwneud y datganiad mae pob darpariaeth sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i’r contract wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract heb ei haddasu, oni bai bod deiliad y contract yn honni nad oedd wedi ei hymgorffori neu ei bod wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi.

(5)Os yw deiliad y contract yn gwneud honiad o fath a grybwyllir yn is-adran (4), rhaid i’r llys ddyfarnu ar yr honiad hwnnw.

(6)Caiff y llys—

(a)cysylltu datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i’w ddatganiad, neu

(b)gorchymyn i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig wedi ei gywiro o’r contract i ddeiliad y contract.

Y landlord yn darparu gwybodaeth am y landlord

39Y landlord yn darparu gwybodaeth am y landlord

(1)Rhaid i’r landlord o dan gontract meddiannaeth hysbysu deiliad y contract o gyfeiriad y caiff deiliad y contract anfon dogfennau a fwriedir ar gyfer y landlord iddo, a hynny cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract.

(2)Os yw’r landlord yn newid, rhaid i’r landlord newydd roi hysbysiad i ddeiliad y contract bod y landlord wedi newid a’i hysbysu o gyfeiriad y gall deiliad y contract anfon dogfennau a fwriedir ar gyfer y landlord newydd iddo, a hynny cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn newid.

(3)Os yw’r cyfeiriad y gall deiliad y contract anfon dogfennau a fwriedir ar gyfer y landlord iddo yn newid, rhaid i’r landlord hysbysu deiliad y contract o’r cyfeiriad newydd, a hynny cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r cyfeiriad yn newid.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

40Digolledu am dorri amodau adran 39

(1)Os yw’r landlord wedi methu â chydymffurfio â rhwymedigaeth o dan adran 39, mae’r landlord yn atebol i dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.

(2)Mae’r tâl digolledu yn daladwy ar gyfer y dyddiad perthnasol a phob diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol—

(a)hyd y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad dan sylw, neu

(b)os yw’n gynharach, hyd ddiwrnod olaf y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.

(3)Mae llog yn daladwy ar y tâl digolledu os yw’r landlord wedi methu â rhoi’r hysbysiad i ddeiliad y contract ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b) neu cyn hynny.

(4)Mae’r llog yn dechrau cronni ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b), ar y raddfa sy’n bodoli o dan adran 6 o Ddeddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998 (p. 20) ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.

(5)Y dyddiad perthnasol yw diwrnod cyntaf y cyfnod yr oedd yn ofynnol i’r landlord roi’r hysbysiad cyn iddo ddod i ben.

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Ffurf hysbysiadau, datganiadau a dogfennau eraill

41Ffurf hysbysiadau etc.

(1)Rhaid i unrhyw hysbysiad, datganiad neu ddogfen arall y mae’n ofynnol ei roi neu ei wneud (neu ei rhoi neu ei gwneud) neu yr awdurdodwyd ei roi neu ei wneud (neu ei rhoi neu ei gwneud) gan gontract meddiannaeth, fod mewn ysgrifen.

(2)Mae adrannau 236 a 237 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch ffurf hysbysiadau a dogfennau eraill, ac ynghylch sut i ddanfon neu roi dogfen y mae’n ofynnol neu yr awdurdodwyd ei rhoi i berson gan y Ddeddf hon neu o’i herwydd.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

PENNOD 3PRYD Y GELLIR GORFODI CONTRACT

42Pryd y gellir gorfodi telerau contract meddiannaeth

(1)Ni ellir gorfodi unrhyw un o delerau contract meddiannaeth yn erbyn deiliad y contract cyn y cynharaf o’r canlynol—

(a)y landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract o dan adran 31(1) i ddeiliad y contract, a

(b)y dyddiad meddiannu.

(2)Os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn newid, ni ellir gorfodi unrhyw un o delerau’r contract meddiannaeth yn erbyn deiliad newydd y contract cyn y cynharaf o’r canlynol—

(a)y landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract o dan adran 31(2) i ddeiliad newydd y contract, a

(b)y diwrnod y daw deiliad newydd y contract â’r hawl i feddiannu’r annedd.

PENNOD 4BLAENDALIADAU A CHYNLLUNIAU BLAENDAL

Sicrwydd

43Ffurf sicrwydd

(1)Ni chaiff y landlord o dan gontract meddiannaeth ei gwneud yn ofynnol i sicrwydd gael ei roi ar unrhyw ffurf heblaw—

(a)arian, neu

(b)gwarant.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

44Ffurf sicrwydd: dwyn achosion gerbron y llys sirol

(1)Mae’r adran hon yn berthnasol—

(a)os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn ei gwneud yn ofynnol i sicrwydd gael ei roi ar ffurf nad yw’n cael ei chaniatáu gan adran 43, a

(b)os yw sicrwydd yn cael ei roi ar y ffurf honno.

(2)Caiff deiliad y contract (neu unrhyw berson sydd wedi rhoi’r sicrwydd ar ei ran) wneud cais i’r llys sirol am orchymyn o dan is-adran (3).

(3)Gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person yr ymddengys ei fod yn dal yr eiddo sy’n ffurfio’r sicrwydd ei ddychwelyd yw gorchymyn o dan yr is-adran hon.

Cynlluniau blaendal

45Gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal

(1)Os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn talu blaendal (neu os yw person arall yn talu blaendal ar ei ran), rhaid ymdrin â’r blaendal yn unol â chynllun blaendal awdurdodedig.

(2)Cyn diwedd y cyfnod o 30 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r blaendal yn cael ei dalu, rhaid i’r landlord—

(a)cydymffurfio â gofynion cychwynnol cynllun blaendal awdurdodedig, a

(b)rhoi’r wybodaeth ofynnol i ddeiliaid y contract (ac i unrhyw berson sydd wedi talu’r blaendal ar ei ran).

(3)Y cyfryw wybodaeth a gaiff ei rhagnodi yw’r wybodaeth ofynnol, sy’n ymwneud ag—

(a)y cynllun blaendal awdurdodedig sy’n gymwys,

(b)cydymffurfiaeth y landlord â gofynion cychwynnol y cynllun, ac

(c)gweithrediad y Bennod hon, gan gynnwys hawliau deiliad y contract (a hawliau unrhyw berson sydd wedi talu’r blaendal ar ei ran) mewn perthynas â’r blaendal.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.

46Cynlluniau blaendal: darpariaeth bellach

(1)Mae Atodlen 5 yn cynnwys darpariaeth bellach ynghylch cynlluniau blaendal.

(2)Mae adrannau 177 a 198 yn gwneud darpariaeth yn ymwneud â chontractau safonol cyfnodol a chontractau safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys cymal terfynu’r landlord, sy’n atal landlord rhag rhoi hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad contract ildio meddiant os nad yw’r landlord wedi cydymffurfio â gofynion penodol yn ymwneud â thalu sicrwydd neu’n ymwneud â chynlluniau blaendal.

47Cynlluniau blaendal: dehongli

(1)Yn y Ddeddf hon—

(2)Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at flaendal, mewn perthynas ag adeg ar ôl i flaendal gael ei dalu, yn gyfeiriadau at swm sy’n cynrychioli’r blaendal.

PENNOD 5CYD-DDEILIAID CONTRACT A CHYD-LANDLORDIAID

Cyd-ddeiliaid contract

48Cyd-ddeiliaid contract: cyd-atebolrwydd etc.

(1)Os oes dau neu ragor o gyd-ddeiliaid contract o dan gontract meddiannaeth, mae pob cyd-ddeiliad contract yn llwyr atebol i’r landlord am gyflawni pob rhwymedigaeth sy’n ddyledus i’r landlord o dan y contract.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at ddeiliad y contract, ac eithrio pan ddarperir fel arall, yn gyfeiriadau at gyd-ddeiliaid y contract.

(3)Mae is-adran (2) yn gymwys hyd yn oed os yw’r contract meddiannaeth yn denantiaeth a’r ystad lesddaliol wedi ei breinio yn un neu ragor, ond nid ym mhob un, o gyd-ddeiliaid y contract.

49Ychwanegu cyd-ddeiliad contract

(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth a pherson arall, gyda chaniatâd y landlord, wneud y person arall hwnnw yn gyd-ddeiliad contract o dan y contract.

(2)Os gwneir person yn gyd-ddeiliad contract o dan yr adran hon bydd ganddo’r hawl i’r holl hawliau, a bydd yn ddarostyngedig i holl rwymedigaethau deiliad contract o dan y contract o’r diwrnod y daw’n gyd-ddeiliad contract.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

50Ychwanegu cyd-ddeiliad contract: cydsyniad landlord

Pan fo landlord yn gwrthod cydsynio i ychwanegu cyd-ddeiliad contract o dan adran 49, neu’n cydsynio yn ddarostyngedig i amodau, mae’r hyn sy’n rhesymol at ddibenion adran 84 (cydsyniad landlord) i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 6.

51Ychwanegu cyd-ddeiliad contract: materion ffurfiol

(1)Ni ellir ychwanegu cyd-ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth ond drwy ddogfen wedi ei llofnodi neu ei chyflawni gan bob un o’r partïon i’r trafodiad.

(2)Os yw’r contract yn ei gwneud yn ofynnol cael cydsyniad y landlord i’r ychwanegiad, rhaid i’r landlord lofnodi neu gyflawni’r ddogfen hefyd.

(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw’r landlord yn cael ei drin fel pe bai wedi cydsynio o dan adran 84(6), (8) neu (10).

Cyd-ddeiliaid contract: goroesi

52Cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaeth

(1)Os yw cyd-ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth yn marw, neu’n peidio â bod yn barti i’r contract am ryw reswm arall, o’r adeg y mae’n peidio â bod yn barti—

(a)mae gan weddill cyd-ddeiliaid y contract hawl lwyr i’r holl hawliau o dan y contract, a

(b)mae gweddill cyd-ddeiliaid y contract yn llwyr atebol am gyflawni pob rhwymedigaeth sy’n ddyledus i’r landlord o dan y contract.

(2)Nid oes hawl gan gyd-ddeiliad y contract i unrhyw hawl ac nid yw’n atebol am unrhyw rwymedigaeth o ran y cyfnod ar ôl iddo beidio â bod yn barti i’r contract.

(3)Nid oes dim yn is-adran (1) na (2) yn dileu unrhyw hawl nac yn ildio unrhyw atebolrwydd ar ran cyd-ddeiliad y contract sy’n cronni cyn iddo beidio â bod yn barti i’r contract.

(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys pan fo cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract am fod ei hawliau a’i rwymedigaethau o dan y contract yn cael eu trosglwyddo yn unol â’r contract.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.

Cyd-landlordiaid

53Cyd-landlordiaid

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw dau berson ar y cyd, neu ragor, yn landlord o dan gontract meddiannaeth.

(2)Mae pob un ohonynt yn llwyr atebol i ddeiliaid y contract am gyflawni pob rhwymedigaeth sy’n ddyledus i ddeiliad y contract o dan y contract.

(3)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y landlord yn gyfeiriadau at y personau sydd, ar y cyd, yn landlord.

PENNOD 6YR HAWL I FEDDIANNU HEB YMYRRAETH

54Yr hawl i feddiannu heb ymyrraeth gan y landlord

(1)Ni chaiff y landlord o dan gontract meddiannaeth, drwy unrhyw weithred neu anwaith, ymyrryd â hawl deiliad y contract i feddiannu’r annedd.

(2)Nid yw’r landlord yn ymyrryd â hawl deiliad y contract i feddiannu’r annedd drwy arfer hawliau’r landlord o dan y contract yn rhesymol.

(3)Nid yw’r landlord yn ymyrryd â hawl deiliad y contract i feddiannu’r annedd oherwydd methiant i gydymffurfio â rhwymedigaethau atgyweirio (o fewn ystyr adran 100(2)).

(4)Mae’r landlord i’w drin fel pe bai wedi ymyrryd â hawl deiliad y contract os yw person—

(a)sy’n gweithredu ar ran y landlord, neu

(b)sydd â buddiant yn yr annedd, neu ran ohoni, sy’n rhagori ar fuddiant y landlord,

yn ymyrryd â hawl deiliad y contract drwy unrhyw weithred neu anwaith cyfreithlon.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

PENNOD 7YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL AC YMDDYGIAD GWAHARDDEDIG ARALL

55Ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall

(1)Rhaid i ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth beidio ag ymddwyn na bygwth ymddwyn mewn modd a allai beri niwsans neu annifyrrwch i berson sydd â hawl (o ba bynnag ddisgrifiad)—

(a)i fyw yn yr annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth, neu

(b)i fyw mewn annedd neu lety arall yng nghyffiniau’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth.

(2)Rhaid i ddeiliad y contract beidio ag ymddwyn na bygwth ymddwyn mewn modd a allai beri niwsans neu annifyrrwch i berson sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch cyfreithlon—

(a)yn yr annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth, neu

(b)yng nghyffiniau’r annedd honno.

(3)Rhaid i ddeiliad y contract beidio ag ymddwyn na bygwth ymddwyn mewn modd—

(a)a allai beri niwsans neu annifyrrwch—

(i)i’r landlord o dan y contract meddiannaeth, neu

(ii)i berson (boed wedi ei gyflogi gan y landlord ai peidio) sy’n gweithredu mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r landlord o ran rheoli tai, a

(b)sy’n ymwneud yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol â swyddogaethau’r landlord o ran rheoli tai, neu’n effeithio arnynt.

(4)Ni chaiff deiliad y contract ddefnyddio na bygwth defnyddio’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth, gan gynnwys unrhyw rannau cyffredin ac unrhyw ran arall o adeilad sy’n ffurfio’r annedd, at ddibenion troseddol.

(5)Rhaid i ddeiliad y contract beidio, drwy unrhyw weithred neu anwaith—

(a)caniatáu, cymell nac annog unrhyw berson sy’n byw yn yr annedd neu’n ymweld â’r annedd, i ymddwyn fel y crybwyllir yn is-adrannau (1) i (3), na

(b)caniatáu, cymell nac annog unrhyw berson i ymddwyn fel y crybwyllir yn is-adran (4).

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.

56Y pŵer i ddiwygio adran 55

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio adran 55 drwy reoliadau.

PENNOD 8DELIO

Hawliau i ddelio â chontract meddiannaeth

57Dulliau o ddelio a ganiateir

(1)Ni chaiff deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth ddelio â’r contract meddiannaeth, yr annedd nac unrhyw ran o’r annedd ac eithrio—

(a)mewn ffordd a ganiateir gan y contract, neu

(b)yn unol â gorchymyn eiddo teuluol (gweler adran 251).

(2)Ni chaiff cyd-ddeiliad contract ddelio â’i hawliau a’i rwymedigaethau o dan y contract meddiannaeth (nac â’r contract meddiannaeth, yr annedd nac unrhyw ran o’r annedd), ac eithrio—

(a)mewn ffordd a ganiateir gan y contract, neu

(b)yn unol â gorchymyn eiddo teuluol.

(3)Os yw deiliad y contract yn gwneud unrhyw beth sy’n torri is-adran (1), neu os yw cyd-ddeiliad contract yn gwneud unrhyw beth sy’n torri is-adran (2)—

(a)nid yw’r trafodiad yn rhwymo’r landlord, a

(b)mae deiliad y contract neu gyd-ddeiliad y contract yn torri’r contract (er nad yw’r trafodiad yn rhwymo’r landlord).

(4)Mae “delio” yn cynnwys—

(a)creu tenantiaeth, neu greu trwydded sy’n rhoi’r hawl i feddiannu’r annedd;

(b)trosglwyddo;

(c)morgeisio neu arwystlo mewn ffordd arall.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

58Delio, a chydsyniad y landlord

(1)Pan na fo teler mewn contract meddiannaeth yn caniatáu i ddeiliad y contract neu gyd-ddeiliad y contract ddelio ag unrhyw beth a grybwyllir yn adran 57(1) neu (2) oni chafwyd cydsyniad y landlord, mae’r hyn sy’n rhesymol at ddibenion adran 84 (cydsyniad landlord) i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 6.

(2)Nid yw adran 19(1) o Ddeddf Landlord a Thenant 1927 (p. 36) (effaith cyfamodau i beidio ag aseinio etc. heb gydsyniad) yn gymwys i denantiaeth sy’n gontract meddiannaeth.

Contractau isfeddiannaeth

59Contractau isfeddiannaeth: dehongli

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion dehongli’r Ddeddf hon.

(2)Mae “contract isfeddiannaeth” yn gontract meddiannaeth—

(a)a wneir gyda landlord sy’n ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth, a

(b)sy’n ymwneud â’r annedd i gyd neu ran o’r annedd y mae’r contract hwnnw yn berthnasol iddi.

(3)Ystyr “isddeiliad” yw deiliad y contract o dan y contract isfeddiannaeth.

(4)Ystyr “prif landlord” yw’r landlord o dan y prif gontract.

60Nid yw contract isfeddiannaeth byth yn cael effaith fel trosglwyddiad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn gwneud contract isfeddiannaeth, a bod cyfnod y contract isfeddiannaeth yn dod i ben ar yr un pryd â chyfnod y prif gontract.

(2)Mae’r contract isfeddiannaeth yn cael effaith fel contract isfeddiannaeth (ac nid fel trosglwyddiad i’r isddeiliad).

61Methiant i gydymffurfio ag amodau a osodir gan y prif landlord

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw contract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn caniatáu i ddeiliad y contract ymrwymo i gontract isfeddiannaeth gyda chydsyniad y prif landlord.

(2)Os yw’r prif landlord yn cydsynio yn ddarostyngedig i amodau (gweler adran 84), cyn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth gyda pherson rhaid i ddeiliad y contract hysbysu’r person hwnnw o’r amodau hynny.

(3)Os nad yw deiliad y contract yn cydymffurfio â’r gofyniad yn is-adran (2) ac yr ymrwymir i gontract isfeddiannaeth, mae deiliad y contract i’w drin fel pe bai wedi cyflawni tor contract ymwrthodol o’r contract isfeddiannaeth (gweler adran 154).

(4)Os yw’r prif landlord yn cydsynio yn ddarostyngedig i amodau ac yr ymrwymir i gontract isfeddiannaeth—

(a)mae adran 32 i’w darllen mewn perthynas â’r contract hwnnw fel pe bai’n darparu (yn ychwanegol at y gofynion eraill yn yr adran honno) fod yn rhaid i’r datganiad ysgrifenedig o’r contract isfeddiannaeth nodi’r amodau a osodir gan y prif landlord, a

(b)mae adran 37 i’w darllen mewn perthynas â’r contract hwnnw fel pe bai’n darparu (yn ychwanegol at y darpariaethau eraill yn yr adran honno)—

(i)yn is-adran (1), y caiff yr is-ddeiliad wneud cais i’r llys am ddatganiad bod y datganiad ysgrifenedig yn nodi amod yn anghywir neu’n nodi amod na chafodd ei gosod gan y prif landlord,

(ii)bod gan y prif landlord hawl i fod yn barti i’r achos ar y cais, a

(iii)y caiff y llys, os yw’n fodlon bod y naill neu’r llall o’r seiliau yn is-baragraff (i) wedi ei phrofi, wneud datganiad yn nodi’r amod cywir neu, yn ôl y digwydd, y caiff ddatgan nad yw’r amod yn amod a osodwyd gan y prif landlord.

(5)Nid yw contract isfeddiannaeth wedi ei wneud yn unol â’r prif gontract ond oherwydd—

(a)bod y prif landlord yn cydsynio yn ddarostyngedig i amodau, a

(b)na chydymffurfir â’r amodau.

(6)Mewn achos o’r fath caiff y prif landlord ddewis trin y contract isfeddiannaeth fel contract safonol cyfnodol sydd â’r nodweddion a ganlyn—

(a)mae’r holl ddarpariaethau sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i gontract safonol cyfnodol wedi eu hymgorffori heb eu haddasu,

(b)nid oes effaith i unrhyw delerau yn y contract diogel neu’r contract safonol cyfnod penodol sy’n anghydnaws â’r darpariaethau sylfaenol neu atodol hynny, ac

(c)fel arall, mae telerau’r contract safonol cyfnodol yr un fath â thelerau’r contract diogel neu’r contract safonol cyfnod penodol.

(7)Os yw’r prif landlord yn dewis ei drin fel contract safonol cyfnodol o dan is-adran (6), rhaid i’r prif landlord hysbysu deiliad y contract a’r isddeiliad am y dewis hwnnw.

(8)Dim ond ar ôl i’r contract isfeddiannaeth gael ei wneud a chyn diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r prif gontract yn dod i ben y caiff y prif landlord roi hysbysiad o dan is-adran (7).

(9)Os yw’r prif landlord yn rhoi hysbysiad yn unol ag is-adrannau (7) a (8), mae’r contract i’w drin fel contract safonol cyfnodol sydd â’r nodweddion a grybwyllir yn is-adran (6) o ran unrhyw gwestiwn sy’n codi rhwng yr isddeiliad ac unrhyw berson heblaw deiliad y contract.

62Y prif gontract yn dod i ben

(1)Mae’r adran hon yn gymwys (yn ddarostyngedig i is-adran (6))—

(a)os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth yn unol â’r prif gontract, a

(b)os yw’r prif gontract yn dod i ben ar ôl dyddiad meddiannu’r prif gontract.

(2)Os yw’r contract isfeddiannaeth yn dal i fodoli yn union cyn i’r prif gontract ddod i ben⁠—

(a)mae’r contract isfeddiannaeth yn parhau (fel contract meddiannaeth nad yw’n gontract isfeddiannaeth), a

(b)mae hawliau a rhwymedigaethau deiliad y contract fel landlord o dan y contract isfeddiannaeth yn cael eu trosglwyddo i’r prif landlord.

(3)Os yw’r isddeiliad yn gofyn i’r prif landlord am ddatganiad ysgrifenedig pellach o’r contract o dan adran 31(4), (ac nad yw is-adran (5) o’r adran hon yn gymwys), mae’r cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn adrannau 34(4) a 35(5) (methiant i ddarparu datganiad) yn cynnwys y person a oedd yn ddeiliad y contract o dan y prif gontract.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo—

(a)prif landlord wedi rhoi hysbysiad yn unol ag adran 61(7) a (8), mewn perthynas â chontract, a

(b)y contract yn parhau oherwydd is-adran (2)(a) o’r adran hon.

(5)Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, at ddibenion adran 31(1) (datganiad ysgrifenedig o’r contract) mae dyddiad meddiannu’r contract i’w drin—

(a)os rhoddir yr hysbysiad a grybwyllir yn adran 61(7) i’r isddeiliad cyn diwedd y prif gontract, fel y diwrnod y mae’r prif gontract yn dod i ben;

(b)os rhoddir yr hysbysiad i’r isddeiliad ar y diwrnod y mae’r prif gontract yn dod i ben neu ar ôl hynny, fel y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys os yw’r prif gontract yn gontract safonol cyfnod penodol sy’n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod penodol.

63Y prif gontract yn dod i ben: darpariaeth bellach

(1)Nid oes dim yn adran 62 yn effeithio ar unrhyw hawl sydd gan y prif landlord o dan adran 61(6) (y pŵer i drin contract isfeddiannaeth fel contract safonol cyfnodol).

(2)Nid oes dim yn adran 62 yn gwneud y prif landlord yn atebol i’r isddeiliad mewn perthynas ag unrhyw dor contract isfeddiannaeth a gyflawnwyd gan ddeiliad y contract.

(3)Nid oes dim yn adran 62 yn gwneud yr isddeiliad yn atebol i’r prif landlord mewn perthynas ag unrhyw dor contract isfeddiannaeth gan yr isddeiliad a ddigwyddodd cyn i’r prif gontract ddod i ben.

(4)Ond gall y prif landlord fod yn atebol i’r isddeiliad, neu’r isddeiliad i’r prif landlord, i’r graddau y mae unrhyw dor contract isfeddiannaeth yn parhau ar ôl i’r prif gontract ddod i ben.

(5)Nid yw is-adrannau (3) a (4) yn effeithio ar unrhyw bŵer y mae’r contract isfeddiannaeth yn ei roi i’r prif landlord.

64Hawliad meddiant yn erbyn deiliad y contract pan fo isddeiliad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw deiliad y contract (“D”) o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth yn unol â’r prif gontract, a

(b)os yw landlord D, ar ôl i’r contract isfeddiannaeth gael ei wneud, yn rhoi hysbysiad adennill meddiant i D, neu hysbysiad arall yn hysbysu D bod rhaid iddo ildio meddiant.

(2)Ar yr un pryd ag y mae’n rhoi hysbysiad a grybwyllir yn is-adran (1)(b) i D, rhaid i landlord D roi hysbysiad i’r isddeiliad—

(a)sy’n datgan ei fod yn bwriadu gwneud hawliad meddiant yn erbyn D, a

(b)sy’n pennu’r sail ar gyfer gwneud yr hawliad.

65Gorchymyn adennill meddiant estynedig yn erbyn isddeiliad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw deiliad y contract (“D”) o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth yn unol â’r prif gontract, a

(b)os yw landlord D yn gwneud hawliad meddiant yn erbyn D ar ôl i’r contract isfeddiannaeth gael ei wneud.

(2)Yn yr achos ar yr hawliad yn erbyn D, caiff landlord D wneud cais am orchymyn adennill meddiant yn erbyn yr isddeiliad (“I”) (“gorchymyn adennill meddiant estynedig”); ond ni chaniateir gwneud cais o dan yr is-adran hon oni bai bod—

(a)y gofynion a ddynodir yn is-adran (3) wedi eu bodloni, neu

(b)y llys o’r farn ei bod yn rhesymol hepgor y gofynion hynny.

(3)Mae’r gofynion fel a ganlyn—

(a)rhaid i landlord D fod wedi rhoi copi o’r hysbysiad a grybwyllir yn is-adran (1)(b) o adran 64 i I yn unol ag is-adran (2) o’r adran honno, a

(b)ar yr un pryd, rhaid i landlord D fod wedi rhoi hysbysiad i I—

(i)o fwriad landlord D i wneud cais am orchymyn adennill meddiant estynedig yn yr achos ar yr hawliad yn erbyn D, a

(ii)o hawl I i fod yn barti i’r achos ar yr hawliad yn erbyn D.

(4)Pan ganiateir i landlord D wneud cais am orchymyn adennill meddiant estynedig yn erbyn I, mae gan I hawl i fod yn barti i’r achos ar yr hawliad meddiant yn erbyn D (ni waeth pa un a yw landlord D yn gwneud cais am orchymyn adennill meddiant estynedig yn yr achos ai peidio).

(5)Ni chaiff y llys ystyried cais landlord D am orchymyn adennill meddiant estynedig onid yw wedi penderfynu gwneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn D.

(6)Ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant estynedig yn erbyn I oni bai y byddai’r llys, pe byddai D wedi gwneud hawliad meddiant yn erbyn I, wedi gwneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn I.

66Gwahardd deiliad y contract ar ôl cefnu ar gontractau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw deiliad contract (“D”) o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth yn unol â’r prif gontract, a

(b)bod yr isddeiliad (“I”) yn credu nad yw D mwyach yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth.

(2)Caiff I weithredu i ddod â’r prif gontract i ben yn unol â’r adran hon.

(3)Rhaid i I roi hysbysiad i D—

(a)yn datgan bod I yn credu nad yw D mwyach yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth,

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i D hysbysu I mewn ysgrifen cyn diwedd y cyfnod rhybuddio os yw’n ystyried ei fod yn barti i un o’r contractau hynny, neu i’r ddau ohonynt, ac

(c)yn hysbysu D y caniateir i’r prif gontract gael ei derfynu ar ôl y cyfnod rhybuddio ac y caniateir i’w hawliau a’i rwymedigaethau o dan y contract isfeddiannaeth gael eu trosglwyddo i landlord D.

(4)Rhaid i I roi copi o’r hysbysiad i landlord D.

(5)Yn ystod y cyfnod rhybuddio, rhaid i I wneud y cyfryw ymholiadau sy’n angenrheidiol i’w fodloni ei hun nad yw D mwyach yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth.

(6)Ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio caiff I, os yw wedi ei fodloni fel y disgrifir yn is-adran (5), wneud cais i’r llys am orchymyn—

(a)sy’n dod â’r prif gontract i ben, a

(b)bod hawliau a rhwymedigaethau D fel landlord o dan y contract isfeddiannaeth i’w trosglwyddo i landlord D yn unol ag adrannau 62 a 63.

(7)Ni chaiff y llys wrando ar gais I o dan is-adran (6) os yw I wedi methu â chydymffurfio â’r gofyniad yn is-adran (4); ond os yw’n ystyried bod hynny’n rhesymol caiff y llys hepgor y gofyniad hwnnw.

(8)Mae gan landlord D hawl i fod yn barti i achos ar gais a wneir gan I o dan is-adran (6).

(9)Os yw’r llys yn fodlon nad yw D yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth, caiff wneud y gorchymyn y gwnaed cais amdano o dan is-adran (6); ac os yw’n gwneud hynny rhaid iddo bennu’r dyddiad y daw’r prif gontract i ben.

(10)Ond ni chaiff y llys wneud gorchymyn o dan is-adran (9)—

(a)os yw landlord D yn barti i’r achos,

(b)os yw landlord D yn haeru y byddai’r llys wedi gwneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn I, pe byddai D wedi gwneud cais am orchymyn o’r fath mewn hawliad meddiant a wnaed gan D yn erbyn I, ac

(c)os yw’r llys yn fodlon y byddai wedi gwneud y gorchymyn adennill meddiant yn erbyn I yn yr amgylchiadau hynny.

(11)Y cyfnod rhybuddio yw’r cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (3) i D.

67Rhwymedïau’r deiliad contract sydd wedi ei wahardd

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r llys yn gwneud gorchymyn yn erbyn D o dan adran 66(9).

(2)Cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y gorchymyn, caiff D wneud cais i’r llys ar un neu ragor o’r seiliau yn is-adran (3) am orchymyn a datganiad o dan is-adran (4)(a).

(3)Y seiliau yw—

(a)bod I wedi methu â rhoi hysbysiad i D o dan adran 66(3) neu wedi methu â gwneud yr ymholiadau sy’n ofynnol yn ôl adran 66(5);

(b)bod D yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract neu’r contract isfeddiannaeth neu’r ddau ohonynt a bod rheswm da dros ei fethiant i ymateb (neu i ymateb yn ddigonol) i’r hysbysiad o dan adran 66(3);

(c)nad oedd gan I, pan wnaeth gais i’r llys, seiliau rhesymol dros fod yn fodlon bod D yn ystyried nad oedd yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth.

(4)Os yw’r llys yn canfod bod un neu ragor o’r seiliau wedi ei phrofi, caiff—

(a)dadwneud ei orchymyn o dan adran 66(9) drwy orchymyn, a gwneud datganiad bod y prif gontract yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r annedd, a

(b)gwneud unrhyw orchymyn pellach y mae’n ei ystyried yn briodol.

68Y pŵer i amrywio cyfnodau sy’n ymwneud â gwahardd ar ôl achos o gefnu ar gontract

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)diwygio adran 66(11) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd;

(b)diwygio adran 67(2) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd.

Trosglwyddo

69Ffurf trosglwyddiad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i’r canlynol (yn ddarostyngedig i is-adran (6))—

(a)trosglwyddiad contract meddiannaeth gan ddeiliad y contract;

(b)trosglwyddiad gan gyd-ddeiliad contract o’i hawliau a’i rwymedigaethau o dan gontract meddiannaeth.

(2)Rhaid i’r trosglwyddiad gael ei lofnodi neu ei gyflawni gan bob un o’r partïon i’r trosglwyddiad.

(3)Os yw’r contract yn ei gwneud yn ofynnol cael cydsyniad y landlord i’r trosglwyddiad, rhaid i’r trosglwyddiad hefyd gael ei lofnodi neu ei gyflawni gan y landlord.

(4)Ond nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw’r landlord yn cael ei drin fel pe bai wedi cydsynio o dan adran 84(6), (8) neu (10).

(5)Nid yw trosglwyddiad y mae’r adran hon yn gymwys iddo yn cael unrhyw effaith os nad yw’n cydymffurfio ag is-adran (2) ac, os yw’n gymwys, is-adran (3).

(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys i drosglwyddiad yn unol â theler sydd wedi ei gynnwys yn y contract o dan adran 139 neu 142 (trosglwyddiadau penodol o gontractau safonol cyfnod penodol).

70Effaith trosglwyddiad awdurdodedig

(1)Os yw contract meddiannaeth yn cael ei drosglwyddo gan ddeiliad y contract i berson (“P”) yn unol â’r contract ac adran 69, ar y dyddiad trosglwyddo—

(a)bydd gan P hawl i’r holl hawliau, a bydd yn ddarostyngedig i holl rwymedigaethau deiliad y contract o dan y contract, a

(b)ni fydd gan ddeiliad y contract hawl i unrhyw hawliau, a bydd yn peidio â bod yn ddarostyngedig i unrhyw rwymedigaethau o dan y contract.

(2)Os yw hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn cael eu trosglwyddo i berson (“P”) yn unol â’r contract ac adran 69, ar y dyddiad trosglwyddo—

(a)bydd gan P hawl i’r holl hawliau, a bydd yn ddarostyngedig i holl rwymedigaethau cyd-ddeiliad y contract o dan y contract, a

(b)ni fydd gan gyd-ddeiliad y contract hawl i unrhyw hawliau, a bydd yn peidio â bod yn ddarostyngedig i unrhyw rwymedigaethau o dan y contract.

(3)Mae is-adran (2)(a) yn ddarostyngedig i unrhyw deler sydd wedi ei gynnwys yn y contract oherwydd adran 141(3) neu 142(3) (contractau safonol cyfnod penodol: trosglwyddiadau o fuddiant cyd-ddeiliad contract).

(4)Nid oes dim yn is-adran (1)(b) na (2)(b) yn dileu unrhyw hawl nac yn ildio unrhyw atebolrwydd sy’n cronni cyn y dyddiad trosglwyddo.

(5)Y dyddiad trosglwyddo yw’r dyddiad y mae deiliad y contract a P yn cytuno arno fel y diwrnod y mae’r trosglwyddiad yn cael effaith.

71Effaith trosglwyddiad heb ei awdurdodi

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i—

(a)trosglwyddiad contract meddiannaeth gan ddeiliad y contract i berson (“P”) nad yw’n unol â’r contract, a

(b)trosglwyddiad gan gyd-ddeiliad contract o’i hawliau a’i rwymedigaethau o dan gontract meddiannaeth i berson (“P”), nad yw’n unol â’r contract.

(2)Os yw’r landlord yn derbyn taliadau oddi wrth P mewn perthynas â meddiannaeth P o’r annedd, ar adeg—

(a)pan fo’r landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, unrhyw un ohonynt) yn gwybod nad oedd y trosglwyddiad wedi ei wneud yn unol â’r contract, neu

(b)pan ddylai’r landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, unrhyw un ohonynt) wybod yn rhesymol nad oedd y trosglwyddiad wedi ei wneud yn unol â’r contract,

bydd y trosglwyddiad yn rhwymo’r landlord o’r diwrnod yn union ar ôl diwrnod olaf y cyfnod perthnasol.

(3)Mae adran 70 yn gymwys—

(a)fel pe bai’r trosglwyddiad wedi ei wneud yn unol â’r contract ac adran 69, a

(b)fel pe bai’r dyddiad trosglwyddo oedd y diwrnod yn union ar ôl diwrnod olaf y cyfnod perthnasol.

(4)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff taliadau eu derbyn gyntaf fel y disgrifir yn is-adran (2).

(5)Nid yw is-adrannau (2) a (3) yn gymwys os yw’r landlord, cyn diwedd y cyfnod perthnasol—

(a)yn cymryd camau i ddod â’r contract meddiannaeth i ben, neu

(b)yn dod ag achos llys i droi P allan fel tresmaswr neu’n dangos bwriad i drin P fel tresmaswr mewn unrhyw ffordd arall.

(6)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at drosglwyddiad yn cynnwys trosglwyddiad honedig nad yw’n cydymffurfio ag adran 69.

72Gweithredoedd a chyfamodau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i gontractau meddiannaeth sy’n denantiaethau.

(2)Nid yw adran 52 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (p. 20) (rhaid trosglwyddo tir drwy weithred) yn gymwys i drosglwyddiad o’r contract.

(3)Nid yw Deddf Landlord a Thenant (Cyfamodau) 1995 (p. 30) yn gymwys i—

(a)trosglwyddiad gan ddeiliad contract o unrhyw un neu ragor o’r pethau a grybwyllir yn adran 57(1), neu gan gyd-ddeiliad contract o unrhyw un neu ragor o’r pethau a grybwyllir yn adran 57(2), neu

(b)trosglwyddiad a gâi ei drin o dan adran 28(6)(b) o’r Ddeddf honno fel aseiniad o’r annedd.

Olynu

73Olynu yn dilyn marwolaeth

(1)Mae’r adran hon yn gymwys yn dilyn marwolaeth yr unig ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth (yn ddarostyngedig i adran 139(2), sy’n ymwneud â chontractau safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys darpariaeth benodol ynghylch trosglwyddiad yn dilyn marwolaeth unig ddeiliad contract).

(2)Os un person yn unig sy’n gymwys i olynu deiliad y contract mae’r person hwnnw yn olynu i’r contract.

(3)Os oes mwy nag un person yn gymwys i olynu deiliad y contract, mae’r person a nodir yn unol ag adran 78 yn olynu i’r contract.

74Personau sy’n gymwys i olynu

(1)Mae person yn gymwys i olynu deiliad y contract os yw’r person hwnnw—

(a)yn olynydd â blaenoriaeth i ddeiliad y contract neu’n olynydd wrth gefn i ddeiliad y contract, a

(b)heb ei eithrio gan is-adran (3) na (4).

(2)Ond os oedd deiliad y contract yn olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract meddiannaeth, nid oes unrhyw berson yn gymwys i’w olynu.

(3)Mae person wedi ei eithrio os nad yw wedi cyrraedd 18 oed ar adeg marwolaeth deiliad y contract.

(4)Mae person wedi ei eithrio os oedd, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â marwolaeth deiliad y contract, yn meddiannu’r annedd neu ran ohoni o dan gontract isfeddiannaeth.

(5)Nid yw person wedi ei eithrio gan is-adran (4)—

(a)os yw’n olynydd â blaenoriaeth i ddeiliad y contract, neu’n olynydd wrth gefn i ddeiliad y contract sy’n bodloni’r amod aelod o’r teulu yn adran 76(2) oherwydd adran 250(1)(a) neu (b) (priod, partner sifil etc.), a

(b)os daeth y contract isfeddiannaeth yr oedd yn meddiannu’r annedd neu ran ohoni oddi tano i ben cyn marwolaeth deiliad y contract.

75Olynydd â blaenoriaeth

(1)Mae person yn olynydd â blaenoriaeth i ddeiliad y contract—

(a)os yw—

(i)yn briod neu’n bartner sifil i ddeiliad y contract, neu

(ii)os yw’n byw gyda deiliad y contract fel pe baent yn briod neu’n bartneriaid sifil, a

(b)os oedd yn meddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref pan fu farw deiliad y contract.

(2)Ond nid oes unrhyw berson yn olynydd â blaenoriaeth i ddeiliad y contract os oedd deiliad y contract yn olynydd â blaenoriaeth mewn perthynas â’r contract meddiannaeth.

76Olynydd wrth gefn: aelod o’r teulu

(1)Mae person yn olynydd wrth gefn i ddeiliad y contract os nad yw’n olynydd â blaenoriaeth i ddeiliad y contract ac—

(a)os yw’n bodloni’r amod aelod o’r teulu,

(b)os oedd yn meddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref pan fu farw deiliad y contract, ac

(c)os yw’n bodloni’r amod aelod o’r teulu oherwydd adran 250(1)(c) (aelodau o’r teulu heblaw priod, partner sifil etc.), ei fod hefyd yn bodloni’r amod preswyliad sylfaenol.

(2)Mae person yn bodloni’r amod aelod o’r teulu os yw’n aelod o deulu deiliad y contract.

(3)Mae person yn bodloni’r amod preswyliad sylfaenol os oedd, drwy gydol y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â marwolaeth deiliad y contract—

(a)yn meddiannu’r annedd, neu

(b)yn byw gyda deiliad y contract.

(4)Os oedd deiliad y contract yn olynydd â blaenoriaeth mewn perthynas â’r contract meddiannaeth, mae’r cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn is-adrannau (2) a (3)(b) yn cynnwys y person a olynwyd gan ddeiliad y contract.

77Olynydd wrth gefn: gofalwr

(1)Mae person yn olynydd wrth gefn i ddeiliad y contract os nad yw’n olynydd â blaenoriaeth i ddeiliad y contract ac—

(a)os yw’n bodloni’r amod gofalwr,

(b)os oedd yn meddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref pan fu farw deiliad y contract, ac

(c)os yw’n bodloni’r amod preswyliad gofalwr.

(2)Mae person yn bodloni’r amod gofalwr os oedd, ar unrhyw adeg yn ystod y 12 mis sy’n dod i ben â marwolaeth deiliad y contract, yn ofalwr mewn perthynas â—

(a)deiliad y contract, neu

(b)aelod o deulu deiliad y contract a oedd, ar adeg darparu’r gofal, yn byw gyda deiliad y contract.

(3)Os oedd deiliad y contract yn olynydd â blaenoriaeth mewn perthynas â’r contract meddiannaeth, mae’r cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn is-adran (2) yn cynnwys y person a olynwyd gan ddeiliad y contract.

(4)Mae person yn bodloni’r amod preswyliad gofalwr—

(a)os yw’n bodloni’r amod preswyliad sylfaenol yn adran 76(3) a (4), a

(b)os nad oedd gan y person, pan fu farw deiliad y contract, hawl i feddiannu unrhyw annedd arall fel cartref.

(5)Ystyr “gofalwr” yw person—

(a)sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal sylweddol i berson arall yn rheolaidd, a

(b)nad yw’n darparu neu na fydd yn darparu’r gofal hwnnw oherwydd contract cyflogaeth neu unrhyw gontract arall ag unrhyw berson.

(6)Nid yw person yn darparu gofal oherwydd contract ond am fod bwyd neu lety yn cael eu rhoi iddo, neu ond oherwydd y gall ddod yn gymwys i olynu fel olynydd wrth gefn.

78Mwy nag un olynydd cymwys

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo mwy nag un person yn gymwys i olynu deiliad y contract.

(2)Os yw un o’r personau yn olynydd â blaenoriaeth, mae’r olynydd â blaenoriaeth yn olynu i’r contract.

(3)Os yw dau neu ragor o’r personau yn olynwyr â blaenoriaeth, y person (neu’r personau) sy’n olynu i’r contract yw—

(a)yr olynydd (neu’r olynwyr) â blaenoriaeth sydd wedi ei ddethol (neu eu dethol) drwy gytundeb rhwng yr olynwyr â blaenoriaeth, neu

(b)os ydynt yn methu â chytuno (neu’n methu â hysbysu’r landlord o gytundeb) o fewn cyfnod rhesymol, pa un bynnag ohonynt y mae’r landlord yn ei ddethol.

(4)Os yw’r holl bersonau yn olynwyr wrth gefn, y person (neu’r personau) sy’n olynu i’r contract yw—

(a)y person (neu’r personau) sydd wedi ei ddethol (neu eu dethol) drwy gytundeb rhwng yr olynwyr wrth gefn, neu

(b)os ydynt yn methu â chytuno (neu’n methu â hysbysu’r landlord o gytundeb) o fewn cyfnod rhesymol, pa un bynnag ohonynt y mae’r landlord yn ei ddethol.

(5)Pan fo’r landlord yn dethol o dan is-adran (3)(b), caiff olynydd â blaenoriaeth nad yw’n cael ei ddethol apelio i’r llys yn erbyn detholiad y landlord.

(6)Pan fo’r landlord yn dethol o dan is-adran (4)(b), caiff olynydd wrth gefn nad yw’n cael ei ddethol apelio i’r llys yn erbyn detholiad y landlord.

(7)Rhaid gwneud cais am apêl o dan is-adran (5) neu (6) cyn diwedd y cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn hysbysu’r person nad yw wedi ei ddethol.

(8)Rhaid i’r llys ddyfarnu’r apêl ar sail ei rinweddau (ac nid drwy adolygiad).

79Effaith olyniaeth

(1)Mae person sy’n olynu i gontract meddiannaeth o dan adran 73(2) neu adrannau 73(3) a 78(2) yn dod yn ddeiliad y contract ar y dyddiad perthnasol.

(2)Mae person (neu bersonau) sy’n olynu i gontract meddiannaeth o dan adrannau 73(3) a 78(3) neu (4) yn dod yn ddeiliad y contract (neu yn dod yn ddeiliaid y contract) ar ba un bynnag o’r canlynol sydd hwyraf—

(a)y dyddiad perthnasol, a

(b)y dyddiad y deuir i gytundeb neu’r diwrnod y mae’r landlord yn dethol rhywun.

(3)Mae person (neu bersonau) sy’n olynu i gontract meddiannaeth yn dilyn apêl o dan adran 78(5) neu (6) yn erbyn detholiad y landlord yn dod yn ddeiliad y contract (neu yn dod yn ddeiliaid y contract) ar ba un bynnag o’r canlynol sydd hwyraf—

(a)y dyddiad perthnasol, a

(b)y diwrnod y dyfernir yn derfynol ar yr apêl.

(4)Y dyddiad perthnasol yw’r diwrnod y byddai’r contract wedi dod i ben o dan adran 155 pe na byddai unrhyw un yn gymwys i olynu i’r contract.

(5)Yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben pan fydd person (neu bersonau) yn dod yn ddeiliad y contract o dan is-adran (2) neu (3)—

(a)nid yw’r olynwyr perthnasol i’w trin fel tresmaswyr mewn perthynas â’r annedd, a

(b)at ddibenion unrhyw atebolrwydd o dan y contract, mae’r olynwyr perthnasol i’w trin fel pe baent yn gyd-ddeiliaid contract o dan y contract.

(6)“Yr olynwyr perthnasol” yw’r personau—

(a)sy’n gymwys i olynu deiliad y contract a fu farw, a

(b)sy’n byw yn yr annedd.

80Amnewid olynydd ar ôl terfynu’n gynnar

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo person (“O”) yn olynu i gontract meddiannaeth o dan adran 78(2) (olynwyr â blaenoriaeth),

(b)pan fo O, cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â marwolaeth y deiliad contract blaenorol, yn rhoi hysbysiad o dan ddarpariaeth hysbysiad deiliad contract ei fod yn bwriadu terfynu’r contract, neu’n cytuno â’r landlord y dylai’r contract ddod i ben, ac

(c)pan fyddai’r contract wedi dod i ben, oni bai am yr adran hon, yn unol â darpariaeth hysbysiad deiliad y contract neu â’r cytundeb.

(2)Nid yw’r contract yn dod i ben os oes un neu ragor o bersonau yn gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol.

(3)Os un person yn unig sy’n gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol, mae’r person hwnnw yn olynu i’r contract.

(4)Os oes mwy nag un person yn gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol, mae’r person a nodir yn unol ag adran 78(4) yn olynu i’r contract.

(5)Dyfernir a oes person sy’n gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol drwy gymhwyso adran 74 mewn perthynas â’r deiliad contract blaenorol; ond mae O i’w drin fel pe na bai’n gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol.

(6)Yn yr adran hon—

81Effaith amnewid olynydd

(1)Mae person sy’n olynu i gontract meddiannaeth o dan adran 80(3) yn dod yn ddeiliad y contract ar y dyddiad perthnasol.

(2)Mae person (neu bersonau) sy’n olynu i gontract meddiannaeth o dan adrannau 80(4) a 78(4) yn dod yn ddeiliad y contract (neu yn dod yn ddeiliaid y contract) o dan y contract ar ba un bynnag o’r canlynol sydd hwyraf—

(a)y dyddiad perthnasol, a

(b)y diwrnod y deuir i gytundeb neu’r diwrnod y mae’r landlord yn gwneud detholiad.

(3)Mae person (neu bersonau) sy’n olynu i gontract meddiannaeth yn dilyn apêl o dan adran 78(6) yn erbyn detholiad y landlord yn dod yn ddeiliad y contract (neu yn dod yn ddeiliaid y contract) ar ba un bynnag o’r canlynol sydd hwyraf—

(a)y dyddiad perthnasol, a

(b)y diwrnod y dyfernir yn derfynol ar yr apêl.

(4)Y dyddiad perthnasol yw’r diwrnod y byddai’r contract wedi dod i ben, oni bai am adran 80(2).

(5)Yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben pan fydd person (neu bersonau) yn dod yn ddeiliad y contract o dan is-adran (2) neu (3)—

(a)nid yw’r olynwyr perthnasol i’w trin fel tresmaswyr mewn perthynas â’r annedd, a

(b)at ddibenion unrhyw atebolrwydd o dan y contract, mae’r olynwyr perthnasol i’w trin fel pe baent yn gyd-ddeiliaid contract o dan y contract.

(6)“Yr olynwyr perthnasol” yw personau—

(a)sy’n gymwys i olynu deiliad y contract a fu farw (ac y digwyddodd yr olyniaeth o dan adran 78(2) o ganlyniad i’w farwolaeth), a

(b)sy’n byw yn yr annedd.

82Hysbysiad o hawliau o dan adran 80

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo landlord o dan gontract meddiannaeth—

(a)yn derbyn hysbysiad o dan ddarpariaeth hysbysiad deiliad contract, neu

(b)yn cytuno â deiliad y contract i ddod â’r contract i ben,

yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn adran 80(1)(a) a (b).

(2)Rhaid i’r landlord, cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn derbyn hysbysiad O neu (yn ôl y digwydd) â’r diwrnod y gwneir y cytundeb, roi hysbysiad i—

(a)meddianwyr yr annedd (ac eithrio O), a

(b)unrhyw olynwyr posibl nad ydynt yn meddiannu’r annedd, y mae eu cyfeiriad yn hysbys i’r landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, i unrhyw un ohonynt).

(3)Person sy’n gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol o dan adran 80 yw olynydd posibl.

(4)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)datgan bod O wedi rhoi hysbysiad ei fod yn bwriadu dod â’r contract i ben neu fod O a’r landlord wedi cytuno i ddod â’r contract i ben, a

(b)egluro effaith adran 80.

83Olyniaeth: dehongli

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at bwrpas dehongli’r Ddeddf hon.

(2)Mae deiliad contract yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â chontract meddiannaeth os olynodd i’r contract fel olynydd â blaenoriaeth neu olynydd wrth gefn i ddeiliad y contract mewn perthynas â’r contract meddiannaeth hwnnw a fu farw.

(3)Os yw deiliad contract yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â chontract safonol cyfnod penodol, mae hefyd yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas ag—

(a)unrhyw gontract safonol cyfnodol sy’n dod i fodolaeth yn sgil adran 184(2) ar ddiwedd y cyfnod penodol, a

(b)oni bai bod y contract yn darparu fel arall, unrhyw gontract o dan adran 184(6).

(4)Os yw deiliad contract yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â chontract meddiannaeth a derfynir o dan adran 220 (achos o gefnu), mae hefyd yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas ag unrhyw gontract meddiannaeth y daw yn ddeiliad y contract oddi tano o ganlyniad i orchymyn o dan adran 222(3)(b) (darparu llety addas arall yn dilyn apêl).

(5)Mae deiliad contract y trosglwyddir contract meddiannaeth iddo drwy neu yn unol â gorchymyn eiddo teuluol yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract os oedd y person y trosglwyddwyd y contract oddi wrtho yn olynydd o’r fath.

(6)Mae deiliad contract yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â chontract meddiannaeth os oedd ei drin fel olynydd â blaenoriaeth neu olynydd wrth gefn yn amod o ran cydsynio i drafodiad yn ymwneud â’r contract.

(7)Mae is-adran (8) yn gymwys os yw, cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae contract diogel (“y contract cyntaf”) yn dod i ben—

(a)deiliad y contract o dan y contract cyntaf yn dod yn ddeiliad contract o dan gontract diogel arall (“yr ail gontract”), a

(b)naill ai’r annedd neu’r landlord yr un fath o dan yr ail gontract ag o dan y contract cyntaf.

(8)Os oedd deiliad y contract yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract cyntaf mae hefyd yn olynydd o’r fath mewn perthynas â’r ail gontract, oni bai bod yr ail gontract yn darparu fel arall.

PENNOD 9CYDSYNIAD Y LANDLORD

84Cydsyniad y landlord: rhesymoldeb

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o delerau contract meddiannaeth nad yw ond yn caniatáu i rywbeth gael ei wneud â chydsyniad y landlord.

(2)Ni chaiff y landlord—

(a)gwrthod cydsyniad yn afresymol, na

(b)cydsynio yn ddarostyngedig i amodau afresymol.

(3)Rhaid i gais am gydsyniad y landlord gael ei wneud mewn ysgrifen, ac mae cyfeiriadau yn yr adran hon at gais yn gyfeiriadau at gais ysgrifenedig.

(4)Caiff y landlord ofyn am wybodaeth i’w alluogi i ymdrin â chais; ond ni chaiff y landlord wneud hynny ar ôl diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y cais.

(5)Os yw’r landlord yn gofyn am wybodaeth nad yw’n rhesymol iddo ofyn amdani, mae’r landlord i’w drin fel pe na bai wedi gofyn am yr wybodaeth honno.

(6)Os nad yw’r landlord yn rhoi cydsyniad mewn ysgrifen nac yn gwrthod cydsyniad mewn ysgrifen cyn diwedd y cyfnod perthnasol, mae’r landlord i’w drin fel pe bai wedi cydsynio heb amodau.

(7)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o fis sy’n dechrau ar ba un bynnag o’r canlynol sydd hwyraf—

(a)y diwrnod y gwneir y cais am gydsyniad, neu

(b)os yw’r landlord yn gofyn am wybodaeth yn unol ag is-adran (4), y diwrnod y darperir yr wybodaeth.

(8)Os yw’r landlord yn cydsynio yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i’r landlord roi hysbysiad ysgrifenedig o’r amodau i ddeiliad y contract ar yr un pryd ag y mae’n cydsynio; ac os nad yw’r landlord yn gwneud hynny, mae’r landlord i’w drin fel pe bai wedi cydsynio heb amodau.

(9)Os yw’r landlord yn gwrthod cydsynio neu’n cydsynio yn ddarostyngedig i amodau, caiff y person a wnaeth y cais ofyn am ddatganiad ysgrifenedig o resymau’r landlord.

(10)Os nad yw’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r rhesymau cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod y gofynnir am y datganiad, mae’r landlord i’w drin fel pe bai wedi cydsynio heb amodau.

85Cais i’r llys yn ymwneud â chydsyniad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r landlord, o dan adran 84, yn rhoi datganiad ysgrifenedig o resymau dros wrthod cydsynio neu dros gydsynio yn ddarostyngedig i amodau.

(2)Caiff y person a wnaeth y cais am gydsyniad wneud cais i’r llys ar y sail—

(a)ei bod yn afresymol bod y landlord wedi gwrthod cydsynio, neu

(b)bod un neu ragor o’r amodau a osodwyd yn afresymol.

(3)Os yw’r llys yn fodlon bod y sail yn is-adran (2)(a) wedi ei phrofi caiff ddatgan bod y landlord wedi gwrthod cydsyniad yn afresymol, a chaiff hefyd—

(a)datgan bod y landlord i’w drin fel pe bai wedi cydsynio heb amodau, neu

(b)cyfarwyddo’r landlord i ailystyried y cais am gydsyniad.

(4)Os yw’r llys yn fodlon bod y sail yn is-adran (2)(b) wedi ei phrofi caiff ddatgan bod un neu ragor o’r amodau yn afresymol, a chaiff hefyd—

(a)datgan bod y landlord i’w drin fel pe bai wedi cydsynio heb amodau neu’n ddarostyngedig i’r amodau hynny nas datganwyd yn afresymol, neu

(b)cyfarwyddo’r landlord i ailystyried y cais am gydsyniad.

(5)Os yw’r llys yn gwneud datganiad o dan is-adran (3) neu (4) caiff wneud unrhyw orchymyn arall y mae’n ei ystyried yn briodol.

86Cydsyniad y landlord: amseriad

(1)Os yw teler mewn contract meddiannaeth yn caniatáu i rywbeth gael ei wneud gyda chydsyniad y landlord, caiff y landlord gydsynio ar ôl i’r peth gael ei wneud.

(2)Ond nid yw hyn yn gymwys i—

(a)adran 49 (ychwanegu cyd-ddeiliad contract), neu

(b)unrhyw deler o’r contract meddiannaeth sy’n caniatáu trosglwyddo’r contract, neu drosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract o dan y contract.

PENNOD 10DIGOLLEDU

87Digolledu oherwydd methiannau yn ymwneud â darparu datganiadau ysgrifenedig etc.

(1)Mae’r adrannau canlynol yn nodi’r amgylchiadau y gall landlord ddod yn atebol i dalu tâl digolledu o dan yr adran hon—

(a)adran 35 (methiant i ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan adran 31);

(b)adran 36 (darparu datganiad ysgrifenedig anghyflawn);

(c)adran 37 (darparu datganiad ysgrifenedig anghywir);

(d)adran 40 (methiant i ddarparu gwybodaeth am y landlord o dan adran 39);

(e)adran 110 (methiant i ddarparu datganiad ysgrifenedig ynghylch amrywio contract diogel);

(f)adran 129 (methiant i ddarparu datganiad ysgrifenedig ynghylch amrywio contract safonol cyfnodol);

(g)adran 137 (methiant i ddarparu datganiad ysgrifenedig ynghylch amrywio contract safonol cyfnod penodol).

(2)Pan fo’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn atebol i dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan yr adran hon, mae swm y tâl digolledu sy’n daladwy ar gyfer diwrnod penodol yn gyfwerth â swm y rhent sy’n daladwy o dan y contract ar gyfer y diwrnod hwnnw.

(3)Os yw’r contract yn darparu bod rhent i’w dalu ar gyfer cyfnodau heblaw diwrnod, swm y rhent sy’n daladwy ar gyfer un diwrnod yw’r gyfran briodol o’r rhent sy’n daladwy ar gyfer y cyfnod y mae’r diwrnod hwnnw’n perthyn iddo.

(4)Os yw tâl digolledu yn daladwy oherwydd adran 35, 110, 129 neu 137 (methiant i ddarparu datganiad) caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys am orchymyn sy’n cynyddu swm y tâl digolledu ar y sail fod methiant y landlord i ddarparu datganiad ysgrifenedig yn fwriadol.

(5)Os yw tâl digolledu yn daladwy oherwydd adran 36 neu 37 (datganiad anghyflawn neu anghywir), caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys am orchymyn sy’n cynyddu swm y tâl digolledu.

(6)Os gwneir cais o dan is-adran (4) neu (5), caiff y llys gynyddu swm y tâl digolledu sy’n daladwy ar gyfer diwrnod penodol o unrhyw ganran sy’n briodol yn ei farn, heb fod yn fwy na 100 y cant.

88Yr hawl i osod yn erbyn

(1)Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn atebol i dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87, caiff deiliad y contract osod yr atebolrwydd hwnnw yn erbyn rhent.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

RHAN 4CYFLWR ANHEDDAU

PENNOD 1RHAGARWEINIAD

89Cymhwyso’r Rhan

(1)Mae Pennod 2 yn gymwys mewn perthynas â phob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd (gweler adran 90).

(2)Mae Pennod 3 yn gymwys mewn perthynas â phob contract meddiannaeth.

90Contractau safonol cyfnod penodol: canfod hyd y cyfnod

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion canfod am ba hyd y gwneir contract safonol cyfnod penodol.

(2)Os yw contract safonol cyfnod penodol yn denantiaeth, mae i’w drin fel pe bai wedi ei wneud am gyfnod sy’n dechrau pan gafodd y denantiaeth ei rhoi.

(3)Os yw contract safonol cyfnod penodol yn drwydded, mae i’w drin fel pe bai wedi ei wneud am gyfnod sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract.

(4)Mae contract safonol cyfnod penodol i’w drin fel pe bai wedi ei wneud am gyfnod o lai na saith mlynedd os yw’n opsiwn i’r landlord ei derfynu cyn diwedd y cyfnod o saith mlynedd sy’n dechrau pan fydd cyfnod y contract yn dechrau.

(5)Os yw contract safonol cyfnod penodol yn rhoi opsiwn i ddeiliad y contract adnewyddu’r contract am gyfnod a fyddai, o’i gyfuno â chyfnod gwreiddiol y contract, yn dod i saith mlynedd neu ragor, nid yw i’w drin fel pe bai wedi ei wneud am gyfnod o lai na saith mlynedd (oni bai bod is-adran (4) yn gymwys).

PENNOD 2CYFLWR ANHEDDAU(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT DIOGEL, POB CONTRACT SAFONOL CYFNODOL A PHOB CONTRACT SAFONOL CYFNOD PENODOL A WNEIR AM GYFNOD O LAI NA SAITH MLYNEDD)

Rhwymedigaethau’r landlord o ran cyflwr annedd

91Rhwymedigaeth y landlord: annedd ffit i bobl fyw ynddi

(1)Rhaid i’r landlord o dan gontract diogel, contract safonol cyfnodol neu gontract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd sicrhau bod yr annedd yn ffit i bobl fyw ynddi—

(a)ar ddyddiad meddiannu’r contract, a

(b)tra pery’r contract.

(2)Mae’r cyfeiriad at yr annedd yn is-adran (1) yn cynnwys, os yw’r annedd yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, strwythur yr adeilad a’r tu allan i’r adeilad, ynghyd â’r rhannau cyffredin.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

92Rhwymedigaeth y landlord i gadw annedd mewn cyflwr da

(1)Rhaid i’r landlord o dan gontract diogel, contract safonol cyfnodol neu gontract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd—

(a)cadw’r strwythur a’r tu allan i’r annedd (gan gynnwys draeniau, landeri a phibellau allanol) mewn cyflwr da, a

(b)cadw’r gosodiadau gwasanaeth yn yr annedd mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn.

(2)Os yw’r annedd yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, rhaid i’r landlord—

(a)cadw’r strwythur a’r tu allan i unrhyw ran arall o’r adeilad y mae gan y landlord ystad neu fuddiant ynddi (gan gynnwys draeniau, landeri a phibellau allanol) mewn cyflwr da, a

(b)cadw unrhyw osodiadau gwasanaeth sy’n gwasanaethu’r annedd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ac sydd naill ai—

(i)yn ffurfio rhan o unrhyw ran o’r adeilad y mae gan y landlord ystad neu fuddiant ynddi, neu

(ii)yn eiddo i’r landlord neu o dan reolaeth y landlord,

mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn.

(3)Y safon sy’n ofynnol yn ôl is-adrannau (1) a (2), o ran cyflwr yr annedd, yw’r hyn sy’n rhesymol o ystyried oed a chymeriad yr annedd, a’r cyfnod y mae’r annedd yn debygol o fod ar gael i’w meddiannu fel cartref.

(4)Yn y Rhan hon, ystyr “gosodiad gwasanaeth” yw gosodiad i gyflenwi dŵr, nwy neu drydan, ar gyfer glanweithdra, i gynhesu lle neu i gynhesu dŵr.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

93Rhwymedigaethau o dan adrannau 91 a 92: atodol

(1)Rhaid i’r landlord unioni unrhyw ddifrod a achosir gan waith ac atgyweiriadau a wneir er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaethau’r landlord o dan adran 91 neu 92.

(2)Ni chaiff y landlord osod unrhyw rwymedigaeth ar ddeiliad y contract os bydd deiliad y contract yn gorfodi neu’n dibynnu ar rwymedigaethau’r landlord o dan adran 91 neu 92.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

94Penderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ragnodi materion ac amgylchiadau y mae’n rhaid rhoi sylw iddynt wrth benderfynu, at ddibenion adran 91(1), a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi ai peidio.

(2)Wrth arfer y pŵer yn is-adran (1), caiff Gweinidogion Cymru ragnodi materion ac amgylchiadau—

(a)drwy gyfeirio at unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 2 o Ddeddf Tai 2004 (p. 34) (ystyr perygl categori 1 (“category 1 hazard”) a pherygl categori 2 (“category 2 hazard”));

(b)a allai godi oherwydd methiant i gydymffurfio â rhwymedigaeth o dan adran 92.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol drwy reoliadau—

(a)gosod gofynion ar landlordiaid at ddiben atal unrhyw faterion neu amgylchiadau rhag codi a allai olygu nad yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi;

(b)rhagnodi, os na chydymffurfir â gofynion a osodir o dan baragraff (a) mewn cysylltiad ag annedd, bod yr annedd i’w thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi.

Cyfyngiadau ar rwymedigaethau’r landlord o dan y Bennod hon

95Cyfyngiadau ar adrannau 91 a 92: cyffredinol

(1)Nid yw adran 91(1) yn gosod unrhyw atebolrwydd ar landlord mewn perthynas ag annedd nad yw’r landlord yn gallu ei gwneud yn ffit i bobl fyw ynddi am gost resymol.

(2)Nid yw adrannau 91(1) a 92(1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r landlord—

(a)cadw mewn cyflwr da unrhyw beth y mae gan ddeiliad y contract hawl mynd ag ef o’r annedd, na

(b)ailadeiladu neu adfer cyflwr yr annedd neu unrhyw ran ohoni, os caiff ei dinistrio neu ei difrodi gan achos perthnasol.

(3)Os yw’r annedd yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, nid yw adrannau 91(1) a 92(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r landlord ailadeiladu nac adfer cyflwr unrhyw ran arall o’r adeilad y mae gan y landlord ystad neu fuddiant ynddi, os caiff ei dinistrio neu ei difrodi gan achos perthnasol.

(4)Tân, storm, llifogydd neu unrhyw ddamwain anochel arall yw’r achosion perthnasol.

(5)Nid yw adran 92(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r landlord wneud gwaith nac atgyweiriadau oni bai bod y methiant i gadw mewn cyflwr da, neu’r methiant i gadw mewn cyflwr sy’n gweithio’n iawn, yn effeithio ar fwynhad deiliad y contract—

(a)o’r annedd, neu

(b)o’r rhannau cyffredin y mae gan ddeiliad y contract hawl i’w defnyddio o dan y contract meddiannaeth.

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

96Cyfyngiadau ar adrannau 91 a 92: bai deiliad y contract

(1)Nid yw adran 91(1) yn gosod unrhyw atebolrwydd ar y landlord os nad yw’r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi yn llwyr neu’n bennaf oherwydd gweithred neu anwaith (gan gynnwys gweithred neu anwaith sy’n gyfystyr â diffyg gofal) ar ran deiliad y contract neu feddiannydd a ganiateir i feddiannu’r annedd.

(2)Nid oes rhwymedigaeth ar y landlord yn sgil adran 92(1) na (2) i wneud gwaith nac atgyweiriadau os gellir priodoli’r methiant i gadw mewn cyflwr da, neu fethiant gosodiad gwasanaeth i weithio, yn llwyr neu’n bennaf i ddiffyg gofal ar ran deiliad y contract neu feddiannydd a ganiateir i feddiannu’r annedd.

(3)Ystyr “diffyg gofal” yw methu â gofalu’n briodol—

(a)am yr annedd, neu

(b)os yw’r annedd yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, am y rhannau cyffredin y mae gan ddeiliad y contract hawl i’w defnyddio o dan y contract meddiannaeth.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

97Cyfyngiadau ar adrannau 91 a 92: hysbysiad

(1)Nid yw rhwymedigaethau’r landlord o dan adrannau 91(1)(b) a 92(1) a (2) yn codi hyd nes bod y landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, unrhyw un ohonynt) yn dod i wybod bod angen gwaith neu atgyweiriadau.

(2)Mae’r landlord yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau o dan y darpariaethau hynny os yw’n gwneud y gwaith neu’r atgyweiriadau angenrheidiol o fewn cyfnod rhesymol ar ôl y diwrnod y daw’r landlord i wybod bod ei angen neu eu hangen.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys—

(a)os yw’r landlord (yr “hen landlord”) yn trosglwyddo buddiant yr hen landlord yn yr annedd i berson arall (y “landlord newydd”), a

(b)os yw’r hen landlord (neu os dau neu ragor o bersonau ar y cyd yw’r hen landlord, unrhyw un ohonynt) yn gwybod cyn dyddiad y trosglwyddiad bod gwaith neu atgyweiriadau’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio ag adran 91(1) neu 92(1) neu (2).

(4)Mae’r landlord newydd i’w drin fel pe bai’n dod i wybod bod angen y gwaith hwnnw neu’r atgyweiriadau hynny ar ddyddiad y trosglwyddiad, ond nid cyn hynny.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

Mynediad i anheddau a hawliau meddianwyr a ganiateir

98Hawl y landlord i fynd i’r annedd

(1)Caiff y landlord fynd i’r annedd ar unrhyw adeg resymol at ddiben—

(a)arolygu ei stad ac arolygu a yw mewn cyflwr da, neu

(b)gwneud gwaith neu atgyweiriadau y mae angen ei wneud neu eu gwneud er mwyn cydymffurfio ag adran 91 neu 92.

(2)Rhaid i’r landlord roi o leiaf 24 awr o rybudd i ddeiliad y contract cyn arfer yr hawl honno.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys—

(a)pan fo’r annedd yn ffurfio rhan o adeilad yn unig, a

(b)os oes angen i’r landlord wneud gwaith neu atgyweiriadau mewn rhan arall o’r adeilad er mwyn cydymffurfio ag adran 91 neu 92.

(4)Nid yw’r landlord yn atebol am fethu â chydymffurfio ag adran 91 neu 92 os nad oes gan y landlord hawliau digonol dros y rhan arall honno o’r adeilad i allu gwneud y gwaith neu’r atgyweiriadau, ac os nad oedd yn gallu cael yr hawliau hynny ar ôl gwneud ymdrech resymol i’w cael.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

99Hawliau meddianwyr a ganiateir i orfodi’r Bennod

(1)Caiff meddiannydd a ganiateir sy’n cael anaf personol, neu’n dioddef colled neu ddifrod i eiddo personol o ganlyniad i fethiant y landlord i gydymffurfio ag adran 91 neu 92, orfodi’r adran berthnasol yn ei hawl ei hun drwy ddod ag achos mewn cysylltiad â’r anaf, y golled neu’r difrod.

(2)Ond os yw meddiannydd a ganiateir yn lletywr neu’n isddeiliad, ni chaiff wneud hynny oni chaniateir i’r lletywr fyw yn yr annedd, neu oni wneir y contract isfeddiannaeth, yn unol â’r contract meddiannaeth.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

PENNOD 3AMRYWIOL(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)

100Cyflawni rhwymedigaethau atgyweirio yn llythrennol

(1)Mewn unrhyw achos am dorri rhwymedigaeth atgyweirio o dan gontract meddiannaeth, caiff y llys orchymyn bod y rhwymedigaeth yn cael ei chyflawni’n llythrennol er gwaethaf unrhyw reol ecwitïol sy’n cyfyngu ar argaeledd y rhwymedi hwnnw.

(2)Y rhwymedigaethau atgyweirio yw—

(a)rhwymedigaethau i atgyweirio unrhyw eiddo (neu i gadw eiddo mewn cyflwr da neu sicrhau ei fod ar gael mewn cyflwr da), neu i’w gynnal, ei adnewyddu, ei adeiladu neu ei amnewid, a

(b)rhwymedigaethau i gadw unrhyw annedd mewn cyflwr ffit i bobl fyw ynddi sut bynnag y mynegir hynny,

ac maent yn cynnwys rhwymedigaethau’r landlord o dan adrannau 91 a 92.

101Gwast ac ymddwyn fel tenant

(1)Nid yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn atebol am unrhyw wast o ran yr annedd.

(2)Nid yw’r rheol gyfreithiol bod dyletswydd oblygedig ar denant i ymddwyn fel tenant wrth ddefnyddio annedd sydd ar les (yn yr ystyr sydd i “tenant-like user” yn ôl y gyfraith gyffredin) yn gymwys i ddeiliad contract os yw’r denantiaeth yn gontract meddiannaeth.

RHAN 5DARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU DIOGEL

PENNOD 1TROSOLWG

102Trosolwg o’r Rhan

(1)Nid yw Penodau 1 i 5 o’r Rhan hon ond yn gymwys i gontractau diogel, ac maent yn ymwneud ag—

(a)amrywio contractau diogel,

(b)cyd-ddeiliaid contract yn tynnu’n ôl,

(c)delio (hynny yw, cymryd lletywr a throsglwyddo’r contract), a

(d)arddodi contractau safonol ymddygiad gwaharddedig (pan fo’r landlord yn landlord cymunedol neu’n elusen gofrestredig).

(2)Mae Pennod 6 yn cynnwys darpariaeth sylfaenol ynghylch trosglwyddo contract diogel i berson sy’n ddeiliad contract o dan gontract diogel arall; mae’r ddarpariaeth sylfaenol hon yn gymwys i gontractau diogel y mae’r landlord oddi tanynt yn landlord cymunedol.

PENNOD 2AMRYWIO CONTRACTAU

103Amrywio

(1)Ni chaniateir amrywio contract diogel ac eithrio—

(a)yn unol ag adrannau 104 i 107, neu

(b)drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.

(2)Rhaid i unrhyw amrywiad a wneir i gontract diogel (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad) fod yn unol ag adran 108.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori is-adrannau (1)(b) a (2) o’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori is-adrannau (1)(b) a (2) o’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddynt.

104Amrywio’r rhent

(1)Caiff y landlord amrywio’r rhent sy’n daladwy o dan gontract diogel drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract yn nodi rhent newydd sydd i gael effaith ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Ni chaiff y cyfnod rhwng y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract a’r dyddiad a bennir fod yn llai na dau fis.

(3)Yn ddarostyngedig i hynny—

(a)caiff yr hysbysiad cyntaf bennu unrhyw ddyddiad, a

(b)ni chaiff hysbysiadau diweddarach bennu dyddiad sy’n gynharach na blwyddyn ar ôl y dyddiad pan gafodd rhent newydd effaith ddiwethaf.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel y mae rhent yn daladwy oddi tano.

105Amrywio cydnabyddiaeth arall

(1)Pan fo cydnabyddiaeth heblaw rhent yn daladwy o dan gontract diogel, caniateir amrywio swm y gydnabyddiaeth—

(a)drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract, neu

(b)gan y landlord yn unol ag is-adrannau (2) i (4).

(2)Caiff y landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract sy’n nodi swm newydd o gydnabyddiaeth sydd i gael effaith ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Ni chaiff y cyfnod rhwng y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract a’r dyddiad a bennir fod yn llai na dau fis.

(4)Yn ddarostyngedig i hynny—

(a)caiff yr hysbysiad cyntaf bennu unrhyw ddyddiad, a

(b)ni chaiff hysbysiadau diweddarach bennu dyddiad sy’n gynharach na blwyddyn ar ôl y dyddiad pan gafodd swm newydd o gydnabyddiaeth effaith ddiwethaf.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel y mae cydnabyddiaeth heblaw rhent yn daladwy oddi tano.

106Amrywio telerau sylfaenol

(1)Caniateir amrywio unrhyw un o delerau sylfaenol contract diogel drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract (yn ddarostyngedig i adran 108).

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

107Amrywio telerau atodol a thelerau ychwanegol

(1)Caniateir amrywio unrhyw un o delerau atodol neu delerau ychwanegol contract diogel (yn ddarostyngedig i adran 108)—

(a)drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract, neu

(b)wrth i’r landlord roi hysbysiad amrywio i ddeiliad y contract.

(2)Cyn rhoi hysbysiad amrywio rhaid i’r landlord roi hysbysiad rhagarweiniol i ddeiliad y contract—

(a)yn hysbysu deiliad y contract fod y landlord yn bwriadu rhoi hysbysiad amrywio,

(b)yn nodi’r amrywiad arfaethedig ac yn hysbysu deiliad y contract o’i natur a’i effaith, ac

(c)yn gwahodd deiliad y contract i roi sylwadau ar yr amrywiad arfaethedig o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Rhaid i’r cyfnod a bennir roi cyfle rhesymol i ddeiliad y contract wneud sylwadau.

(4)Rhaid i’r hysbysiad amrywio bennu’r amrywiad y mae’n rhoi effaith iddo a’r dyddiad y mae’r amrywiad yn cael effaith.

(5)Ni chaiff y cyfnod rhwng y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad amrywio i ddeiliad y contract a’r dyddiad y mae’r amrywiad yn cael effaith fod yn llai na mis.

(6)Wrth roi hysbysiad amrywio rhaid i’r landlord hefyd roi i ddeiliad y contract unrhyw wybodaeth y mae’r landlord yn ei hystyried yn angenrheidiol er mwyn hysbysu deiliad y contract o natur ac effaith yr amrywiad.

(7)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

108Cyfyngiad ar amrywio

(1)Ni chaniateir amrywio unrhyw un o delerau sylfaenol contract diogel sy’n ymgorffori unrhyw un o’r darpariaethau sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad).

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r darpariaethau sylfaenol a ganlyn—

(a)adran 103(1)(b) a (2) a’r adran hon,

(b)adran 45 (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal),

(c)adran 52 (cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaeth),

(d)adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall),

(e)adran 148 (terfynu a ganiateir),

(f)adran 149 (hawliadau meddiant),

(g)adran 155 (marwolaeth unig ddeiliad contract), ac

(h)adran 158 (sicrhau contract drwy ddatganiad ffug).

(3)Nid yw amrywiad i unrhyw deler sylfaenol arall (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad) yn cael unrhyw effaith—

(a)oni bai, o ganlyniad i’r amrywiad—

(i)y byddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori heb ei haddasu, neu

(ii)na fyddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori neu y byddai wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi, ond ym marn deiliad y contract effaith hyn fyddai bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella;

(b)pe byddai’r amrywiad (boed o fewn paragraff (a) ai peidio) yn golygu bod y teler sylfaenol yn anghydnaws â theler sylfaenol sy’n ymgorffori darpariaeth sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddi.

(4)Nid yw amrywiad i un o delerau contract diogel yn cael unrhyw effaith pe byddai’n golygu bod un neu ragor o delerau’r contract yn anghydnaws â theler sylfaenol (oni bai yr amrywir y teler sylfaenol hwnnw hefyd yn unol â’r adran hon mewn ffordd a fyddai’n osgoi‘r anghydnawsedd).

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i amrywiad a wneir drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.

109Datganiad ysgrifenedig yn cofnodi amrywiad

(1)Os yw contract diogel yn cael ei amrywio yn unol â’r contract neu drwy neu o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad, rhaid i’r landlord, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, roi i ddeiliad y contract—

(a)datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau sy’n cael ei amrywio neu eu hamrywio, neu

(b)datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth fel y’i hamrywiwyd,

oni bai bod y landlord wedi rhoi hysbysiad o’r amrywiad yn unol ag adran 104, 105(2) i (4) neu 107(1)(b) a (2) i (6).

(2)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod yr amrywir y contract.

(3)Ni chaiff y landlord godi ffi am ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan is-adran (1).

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

110Methu â darparu datganiad ysgrifenedig etc.

(1)Os yw’r landlord wedi methu â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 109 mae’r landlord yn atebol i dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.

(2)Mae’r tâl digolledu yn daladwy mewn perthynas â’r dyddiad perthnasol a phob diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol—

(a)hyd y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau a amrywiwyd, neu o’r contract fel y’i hamrywiwyd, i ddeiliad y contract, neu

(b)os yw hynny’n gynharach, hyd ddiwrnod olaf y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.

(3)Mae llog yn daladwy ar y tâl digolledu os yw’r landlord wedi methu â rhoi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b) neu cyn hynny.

(4)Mae’r llog yn dechrau cronni ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b), ar y raddfa sy’n bodoli o dan adran 6 o Ddeddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998 (p. 20) ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.

(5)Y dyddiad perthnasol yw’r dyddiad yr amrywiwyd y contract.

(6)Nid yw is-adrannau (1) i (5) yn gymwys os gellir priodoli methiant y landlord i gydymffurfio â’r gofyniad i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.

(7)Os, o dan adran 109, yw’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract fel y’i hamrywiwyd i ddeiliad y contract, mae adrannau 36 a 37 (datganiadau anghyflawn ac anghywir) yn gymwys i’r datganiad fel pe bai cyfeiriadau yn yr adrannau hynny at y dyddiad perthnasol yn gyfeiriadau at y diwrnod yr amrywiwyd y contract.

PENNOD 3CYD-DDEILIAID CONTRACT: TYNNU’N ÔL

111Tynnu’n ôl

(1)Caniateir i gyd-ddeiliad contract o dan gontract diogel dynnu’n ôl o’r contract drwy roi hysbysiad (“hysbysiad tynnu’n ôl”) i’r landlord.

(2)Rhaid i’r hysbysiad tynnu’n ôl bennu’r dyddiad y mae cyd-ddeiliad y contract yn bwriadu peidio â bod yn barti i’r contract (y “dyddiad tynnu’n ôl”).

(3)Rhaid i ddeiliad y contract roi rhybudd ysgrifenedig i gyd-ddeiliaid eraill y contract pan fydd yn rhoi’r hysbysiad tynnu’n ôl i’r landlord; a rhaid atodi copi o’r hysbysiad tynnu’n ôl i’r rhybudd.

(4)Rhaid i’r landlord roi rhybudd ysgrifenedig i gyd-ddeiliaid eraill y contract cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r landlord dderbyn yr hysbysiad tynnu’n ôl; a rhaid atodi copi o’r hysbysiad tynnu’n ôl i’r rhybudd.

(5)Mae’r cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract ar y dyddiad tynnu’n ôl.

(6)Mae hysbysiad a roddir i’r landlord gan un neu ragor (ond nid pob un) o gyd-ddeiliaid y contract sy’n honni ei fod yn hysbysiad o dan adran 163 (hysbysiad gan ddeiliad contract i derfynu contract) i’w drin fel hysbysiad tynnu’n ôl, ac mae’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad i’w drin fel y dyddiad tynnu’n ôl.

(7)Nid yw is-adran (3) yn gymwys i hysbysiad sy’n cael ei drin fel hysbysiad tynnu’n ôl oherwydd is-adran (6).

(8)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

112Tynnu’n ôl: pŵer i ragnodi terfynau amser

Rhaid i Weinidogion Cymru ragnodi darpariaethau atodol sy’n pennu’r cyfnod byrraf a ganiateir rhwng y dyddiad y rhoddir hysbysiad o dan adran 111 i’r landlord, a’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

PENNOD 4DELIO

Lletywyr

113Lletywyr

(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract diogel ganiatáu i bersonau fyw yn yr annedd fel lletywyr.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

Trosglwyddo

114Trosglwyddo i olynydd posibl

(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract diogel drosglwyddo’r contract fel y disgrifir yn yr adran hon, ond dim ond os yw’r landlord yn cydsynio.

(2)Caiff deiliad y contract drosglwyddo’r contract i—

(a)olynydd posibl, neu

(b)os oes dau neu ragor o olynwyr posibl, yr holl olynwyr posibl sy’n dymuno cael eu cynnwys yn y trosglwyddiad.

(3)Os un deiliad contract yn unig sydd, olynydd posibl yw person a fyddai, o dan adran 74, yn gymwys i olynu deiliad y contract pe byddai deiliad y contract yn marw yn union cyn y trosglwyddiad.

(4)Os oes cyd-ddeiliaid contract, olynydd posibl yw person a fyddai, o dan adran 74, yn gymwys i olynu cyd-ddeiliad contract—

(a)pe byddai’r cyd-ddeiliad contract yn marw yn union cyn y trosglwyddiad, a

(b)ar adeg y farwolaeth, os cyd-ddeiliad y contract oedd unig ddeiliad y contract.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

115Trosglwyddo i olynydd posibl: cydsyniad y landlord

Pan fo landlord yn gwrthod cydsynio neu’n cydsynio yn ddarostyngedig i amodau i drosglwyddiad a ddisgrifir yn adran 114, mae’r hyn sy’n rhesymol at ddibenion adran 84 (cydsyniad y landlord) i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 6.

PENNOD 5CONTRACTAU SAFONOL YMDDYGIAD GWAHARDDEDIG

116Gorchymyn sy’n arddodi contract safonol cyfnodol oherwydd ymddygiad gwaharddedig

(1)Os yw’r landlord o dan gontract diogel yn landlord cymunedol neu’n elusen gofrestredig, caiff y landlord wneud cais i’r llys am orchymyn o dan yr adran hon ar y sail fod deiliad y contract wedi torri adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall).

(2)Effaith gorchymyn o dan yr adran hon yw—

(a)terfynu’r contract diogel o ddyddiad a bennir yn y gorchymyn, a

(b)os yw deiliad y contract yn parhau i feddiannu ar ôl y dyddiad penodedig, creu contract safonol cyfnodol y mae ei ddyddiad meddiannu ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn (ac sy’n gontract safonol cyfnodol hyd ddiwedd y cyfnod prawf).

(3)Ni chaiff y llys wneud gorchymyn o dan yr adran hon onid yw’n fodlon—

(a)bod deiliad y contract wedi torri adran 55,

(b)y byddai wedi gwneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract) ar sail yr achos hwnnw o dor contract yn unig,

(c)y bydd y landlord yn sicrhau bod rhaglen o gymorth cymdeithasol ar gael i ddeiliad y contract, sydd â’r nod o atal ymddygiad gwaharddedig, a

(d)ei bod yn rhesymol gwneud y gorchymyn.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynglŷn â’r gweithgareddau a’r gwasanaethau (gan gynnwys gwasanaethau cymorth, cyngor a chwnsela) y caniateir eu cynnwys mewn rhaglen o gymorth cymdeithasol at ddibenion is-adran (3).

(5)Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfnodau prawf, ynghylch y weithdrefn ar gyfer cael gorchymyn o dan yr adran hon, ac ynghylch telerau contract safonol cyfnodol sy’n cael ei greu o dan yr adran hon.

(6)Yn y Ddeddf hon, ystyr “contract safonol ymddygiad gwaharddedig” yw contract sy’n gontract safonol cyfnodol sy’n cael ei greu yn sgil gorchymyn o dan yr adran hon, ac nad yw ei gyfnod prawf wedi dod i ben eto.

117Trosi i gontract diogel

(1)Mae contract safonol cyfnodol a ddaeth i fodolaeth yn sgil gorchymyn o dan adran 116 ac sy’n bodoli ar ddiwedd y cyfnod prawf—

(a)yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod prawf, a

(b)yn cael ei ddisodli gan gontract diogel sydd â dyddiad meddiannu sy’n dod yn union ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r cyfnod prawf yn dod i ben oherwydd paragraff 3(9) o Atodlen 7.

(3)Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch telerau contract diogel sy’n bodoli yn sgil diwedd cyfnod prawf.

PENNOD 6DARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU DIOGEL GYDA LANDLORDIAID CYMUNEDOL

118Trosglwyddo i ddeiliad contract diogel arall

(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract diogel y mae’r landlord oddi tano yn landlord cymunedol drosglwyddo’r contract fel y disgrifir yn yr adran hon, ond dim ond os yw’r landlord yn cydsynio.

(2)Caiff deiliad y contract drosglwyddo’r contract i berson—

(a)sydd, cyn y trosglwyddiad, yn ddeiliad contract o dan gontract diogel y mae’r landlord oddi tano yn landlord cymunedol, a

(b)a fydd, yn union cyn y trosglwyddiad, yn peidio â bod yn ddeiliad y contract o dan y contract a grybwyllir ym mharagraff (a).

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel y mae’r landlord oddi tano yn landlord cymunedol.

119Trosglwyddo i ddeiliad contract diogel arall: cydsyniad y landlord

Pan fo landlord yn gwrthod cydsynio neu’n cydsynio yn ddarostyngedig i amodau i drosglwyddiad a ddisgrifir yn adran 118, mae’r hyn sy’n rhesymol at ddibenion adran 84 (cydsyniad y landlord) i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 6.

RHAN 6DARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL CYFNODOL

PENNOD 1TROSOLWG

120Trosolwg o’r Rhan

Nid yw’r Rhan hon ond yn gymwys i gontractau safonol cyfnodol, ac mae’n ymwneud ag—

(a)gwahardd deiliad y contract o’r annedd am gyfnodau penodedig,

(b)amrywio contractau safonol cyfnodol, ac

(c)cyd-ddeiliaid contract yn tynnu’n ôl.

PENNOD 2GWAHARDD AM GYFNODAU PENODEDIG

121Gwahardd deiliad contract o annedd am gyfnodau penodedig

(1)Caiff contract safonol cyfnodol ddarparu nad oes hawl gan ddeiliad y contract i feddiannu’r annedd fel cartref yn ystod y cyfryw gyfnodau a bennir yn y contract.

(2)Caiff y contract bennu cyfnodau at ddibenion is-adran (1) drwy gyfeirio at unrhyw faterion y mae’n rhesymol i ddeiliad y contract eu canfod (yn ogystal â thrwy gyfeirio at ddyddiadau penodedig).

PENNOD 3AMRYWIO CONTRACTAU

122Amrywio

(1)Ni chaniateir amrywio contract safonol cyfnodol ac eithrio—

(a)yn unol ag adrannau 123 i 126, neu

(b)drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.

(2)Rhaid i unrhyw amrywiad a wneir i gontract safonol cyfnodol (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad) fod yn unol ag adran 127.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori is-adrannau (1)(b) a (2) o’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori is-adrannau (1)(b) a (2) o’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddynt.

123Amrywio’r rhent

(1)Caiff y landlord amrywio’r rhent sy’n daladwy o dan gontract safonol cyfnodol drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract yn nodi rhent newydd sydd i gael effaith ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Ni chaiff y cyfnod rhwng y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract a’r dyddiad a bennir fod yn llai na dau fis.

(3)Yn ddarostyngedig i hynny—

(a)caiff yr hysbysiad cyntaf bennu unrhyw ddyddiad, a

(b)ni chaiff hysbysiadau diweddarach bennu dyddiad sy’n gynharach na blwyddyn ar ôl y dyddiad pan gafodd rhent newydd effaith ddiwethaf.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol y mae rhent yn daladwy oddi tano.

124Amrywio cydnabyddiaeth arall

(1)Pan fo cydnabyddiaeth heblaw rhent yn daladwy o dan gontract safonol cyfnodol, caniateir amrywio swm y gydnabyddiaeth—

(a)drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract, neu

(b)gan y landlord yn unol ag is-adrannau (2) i (4).

(2)Caiff y landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract sy’n nodi swm newydd o gydnabyddiaeth sydd i gael effaith ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Ni chaiff y cyfnod rhwng y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract a’r dyddiad a bennir fod yn llai na dau fis.

(4)Yn ddarostyngedig i hynny—

(a)caiff yr hysbysiad cyntaf bennu unrhyw ddyddiad, a

(b)ni chaiff hysbysiadau diweddarach bennu dyddiad sy’n gynharach na blwyddyn ar ôl y dyddiad pan gafodd swm newydd o gydnabyddiaeth effaith ddiwethaf.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol y mae cydnabyddiaeth heblaw rhent yn daladwy oddi tano.

125Amrywio telerau eraill

(1)Caniateir amrywio telerau sylfaenol, telerau atodol a thelerau ychwanegol contract safonol cyfnodol (yn ddarostyngedig i adran 127)—

(a)drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract, neu

(b)gan y landlord yn unol ag adran 126.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol; ond nid yw is-adran (1)(b) wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract safonol cyfnodol nad yw’n ymgorffori adran 173 (hysbysiad y landlord i derfynu’r contract).

126Amrywio telerau eraill gan y landlord: y weithdrefn hysbysu

(1)Caiff y landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract y bydd y landlord, oni bai bod deiliad y contract yn cydsynio i amrywio’r contract o dan adran 125, yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178 (hysbysiad y landlord).

(2)Ond ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan is-adran (1) ar unrhyw adeg pan fydd y landlord yn cael ei rwystro rhag rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 173 (hysbysiad y landlord i derfynu’r contract) gan adran 175 (ni chaniateir rhoi hysbysiad yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth), adran 176 (torri’r gofynion rhoi gwybodaeth) neu adran 177 (torri gofynion sicrwydd neu flaendal).

(3)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1)—

(a)pennu natur yr amrywiad a’r dyddiad y bydd yr amrywiad yn cael effaith, a

(b)hysbysu deiliad y contract bod yr hysbysiad hefyd yn cael effaith fel hysbysiad o dan adran 173 (hysbysiad y landlord i derfynu’r contract).

(4)Ni chaiff y dyddiad a bennir fel y dyddiad y bydd yr amrywiad yn cael effaith fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

(5)Os nad yw deiliad y contract yn rhoi cydsyniad ysgrifenedig i’r amrywiad ar y dyddiad y bydd yn cael effaith neu cyn hynny, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178 (hysbysiad y landlord).

(6)Os yw’r landlord yn bodloni gofynion yr adran hon, mae’r landlord i’w drin at ddibenion gwneud yr hawliad meddiant fel pe bai wedi rhoi hysbysiad i derfynu’r contract o dan adran 173 (ac mae adran 179(1)(a) i’w darllen fel pe bai’n cyfeirio at y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad yn unol ag is-adran (3)(a) o’r adran hon).

(7)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol, ac eithrio contractau safonol cyfnodol nad ydynt yn ymgorffori adran 173 (hysbysiad y landlord i derfynu’r contract).

127Cyfyngiad ar amrywio

(1)Ni chaniateir amrywio unrhyw un o delerau sylfaenol contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad).

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r darpariaethau sylfaenol a ganlyn—

(a)adran 122(1)(b) a (2) a’r adran hon,

(b)adran 45 (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal) ac adran 177 (torri’r rheolau blaendal),

(c)adran 52 (cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaeth),

(d)adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall),

(e)adran 148 (terfynu a ganiateir),

(f)adran 149 (hawliadau meddiant),

(g)adran 155 (marwolaeth unig ddeiliad contract),

(h)adran 158 (sicrhau contract drwy ddatganiad ffug),

(i)adran 175 (cyfyngiad ar roi hysbysiad y landlord o dan gontract safonol cyfnodol yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth), a

(j)paragraff 7 o Atodlen 4 (amrywio contract diogel yr ymdrinnir ag ef mewn datganiad ysgrifenedig o gontract safonol rhagarweiniol).

(3)Nid yw amrywiad i unrhyw deler sylfaenol arall (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad) yn cael unrhyw effaith—

(a)oni bai, o ganlyniad i’r amrywiad—

(i)y byddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori heb ei haddasu, neu

(ii)na fyddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori neu y byddai wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi, ond ym marn deiliad y contract effaith hyn fyddai bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella;

(b)pe byddai’r amrywiad (boed o fewn paragraff (a) ai peidio) yn golygu bod y teler sylfaenol yn anghydnaws â theler sylfaenol sy’n ymgorffori darpariaeth sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddi.

(4)Nid yw amrywiad i un o delerau contract safonol cyfnodol yn cael unrhyw effaith pe byddai’n golygu bod un neu ragor o delerau’r contract yn anghydnaws â theler sylfaenol (oni bai yr amrywir y teler sylfaenol hwnnw hefyd yn unol â’r adran hon mewn ffordd a fyddai’n osgoi‘r anghydnawsedd).

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i amrywiad a wneir drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.

128Datganiad ysgrifenedig yn cofnodi amrywiad

(1)Os yw contract safonol cyfnodol yn cael ei amrywio yn unol â’r contract neu drwy neu o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad rhaid i’r landlord, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, roi i ddeiliad y contract—

(a)datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau sy’n cael ei amrywio neu eu hamrywio, neu

(b)datganiad ysgrifenedig o’r contract fel y’i hamrywiwyd,

oni bai bod y landlord wedi rhoi hysbysiad o’r amrywiad yn unol ag adran 123, 124(2) i (4) neu 126(1) i (4).

(2)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod yr amrywir y contract.

(3)Ni chaiff y landlord godi ffi am ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan is-adran (1).

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

129Methu â darparu datganiad ysgrifenedig etc.

(1)Os yw’r landlord wedi methu â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 128 mae’r landlord yn atebol i dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.

(2)Mae’r tâl digolledu yn daladwy mewn perthynas â’r dyddiad perthnasol a phob diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol—

(a)hyd y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau a amrywiwyd, neu o’r contract fel y’i hamrywiwyd, i ddeiliad y contract, neu

(b)os yw hynny’n gynharach, hyd ddiwrnod olaf y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.

(3)Mae llog yn daladwy ar y tâl digolledu os yw’r landlord wedi methu â rhoi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b) neu cyn hynny.

(4)Mae’r llog yn dechrau cronni ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b) ar y raddfa sy’n bodoli o dan adran 6 o Ddeddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998 (p. 20) ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.

(5)Y dyddiad perthnasol yw’r dyddiad yr amrywiwyd y contract.

(6)Nid yw is-adrannau (1) i (5) yn gymwys os gellir priodoli methiant y landlord i gydymffurfio â’r gofyniad i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.

(7)Os, o dan adran 128, yw’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract fel y’i hamrywiwyd i ddeiliad y contract, mae adrannau 36 a 37 (datganiadau anghyflawn ac anghywir) yn gymwys i’r datganiad fel pe bai cyfeiriadau yn yr adrannau hynny at y dyddiad perthnasol yn gyfeiriadau at y diwrnod yr amrywiwyd y contract.

PENNOD 4CYD-DDEILIAID CONTRACT: TYNNU’N ÔL

130Tynnu’n ôl

(1)Caniateir i gyd-ddeiliad contract o dan gontract safonol cyfnodol dynnu’n ôl o’r contract drwy roi hysbysiad (“hysbysiad tynnu’n ôl”) i’r landlord.

(2)Rhaid i’r hysbysiad tynnu’n ôl bennu’r dyddiad y mae cyd-ddeiliad y contract yn bwriadu peidio â bod yn barti i’r contract (y “dyddiad tynnu’n ôl”).

(3)Rhaid i gyd-ddeiliad y contract roi rhybudd ysgrifenedig i gyd-ddeiliaid eraill y contract pan fydd yn rhoi’r hysbysiad tynnu’n ôl i’r landlord; a rhaid atodi copi o’r hysbysiad tynnu’n ôl i’r rhybudd.

(4)Rhaid i’r landlord roi rhybudd ysgrifenedig i’r cyd-ddeiliaid contract eraill cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r landlord dderbyn yr hysbysiad tynnu’n ôl; a rhaid atodi copi o’r hysbysiad tynnu’n ôl i’r rhybudd.

(5)Mae’r cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract ar y dyddiad tynnu’n ôl.

(6)Mae hysbysiad a roddir i’r landlord gan un neu ragor (ond nid pob un) o gyd-ddeiliaid y contract sy’n honni ei fod yn hysbysiad o dan adran 168 (hysbysiad gan ddeiliad contract i derfynu contract) i’w drin fel hysbysiad tynnu’n ôl, ac mae’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad i’w drin fel y dyddiad tynnu’n ôl.

(7)Nid yw is-adran (3) yn gymwys i hysbysiad sy’n cael ei drin fel hysbysiad tynnu’n ôl oherwydd is-adran (6).

(8)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

131Tynnu’n ôl: y pŵer i ragnodi terfynau amser

Rhaid i Weinidogion Cymru ragnodi darpariaethau atodol sy’n pennu’r cyfnod byrraf a ganiateir rhwng y dyddiad y rhoddir hysbysiad o dan adran 130 i’r landlord, a’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

RHAN 7DARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL

PENNOD 1TROSOLWG

132Trosolwg o’r Rhan

Nid yw’r Rhan hon ond yn gymwys i gontractau safonol cyfnod penodol, ac mae’n ymwneud ag—

(a)gwahardd deiliad y contract o’r annedd am gyfnodau penodedig,

(b)amrywio contractau safonol cyfnod penodol,

(c)cyd-ddeiliaid contract yn tynnu’n ôl o gontractau safonol cyfnod penodol penodedig, a

(d)delio (hynny yw, trosglwyddiadau).

PENNOD 2GWAHARDD AM GYFNODAU PENODEDIG

133Gwahardd deiliad contract o annedd am gyfnodau penodedig

(1)Caiff contract safonol cyfnod penodol ddarparu nad oes hawl gan ddeiliad y contract i feddiannu’r annedd fel cartref yn ystod y cyfryw gyfnodau a bennir yn y contract.

(2)Caiff y contract bennu cyfnodau at ddibenion is-adran (1) drwy gyfeirio at unrhyw faterion y mae’n rhesymol i ddeiliad y contract eu canfod (yn ogystal â thrwy gyfeirio at ddyddiadau penodedig).

PENNOD 3AMRYWIO CONTRACTAU

134Amrywio

(1)Ni chaniateir amrywio contract safonol cyfnod penodol ac eithrio—

(a)drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract, neu

(b)drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.

(2)Rhaid i unrhyw amrywiad a wneir i gontract safonol cyfnod penodol (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad) fod yn unol ag adran 135.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori is-adrannau (1)(b) a (2) o’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori is-adrannau (1)(b) a (2) o’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddynt.

135Cyfyngiad ar amrywio

(1)Ni chaniateir amrywio unrhyw un o delerau sylfaenol contract safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad).

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r darpariaethau sylfaenol a ganlyn—

(a)adran 134(1)(b) a (2) a’r adran hon,

(b)adran 45 (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal),

(c)adran 52 (cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaeth),

(d)adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall),

(e)adran 148 (terfynu a ganiateir),

(f)adran 149 (hawliadau meddiant),

(g)adran 155 (marwolaeth unig ddeiliad contract),

(h)adran 158 (sicrhau contract drwy ddatganiad ffug),

(i)adran 186(2) a (4) (cyfyngiad ar derfynu contract safonol cyfnod penodol yn ystod chwe mis cyntaf meddiannaeth),

(j)adran 196 (cyfyngiad ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord mewn contract safonol cyfnod penodol yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth), a

(k)adran 198 (torri’r rheolau blaendal: contractau sydd â chymal terfynu landlord).

(3)Nid yw amrywiad i unrhyw deler sylfaenol arall (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad) yn cael unrhyw effaith—

(a)oni bai o ganlyniad i’r amrywiad—

(i)y byddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori heb ei haddasu, neu

(ii)na fyddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori neu y byddai wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi, ond ym marn deiliad y contract effaith hyn fyddai bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella;

(b)pe byddai’r amrywiad (boed o fewn paragraff (a) ai peidio) yn golygu bod y teler sylfaenol yn anghydnaws â theler sylfaenol sy’n ymgorffori darpariaeth sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddi.

(4)Nid yw amrywiad i un o delerau contract safonol cyfnod penodol yn cael unrhyw effaith pe byddai’n golygu bod un neu ragor o delerau’r contract yn anghydnaws â theler sylfaenol (oni bai yr amrywir y teler sylfaenol hwnnw hefyd yn unol â’r adran hon mewn ffordd a fyddai’n osgoi‘r anghydnawsedd).

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i amrywiad a wneir drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol, ond nid yw is-adran (2)(k) wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract nad yw’n cynnwys cymal terfynu deiliad y contract; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.

136Datganiad ysgrifenedig yn cofnodi amrywiad

(1)Os yw contract safonol cyfnod penodol yn cael ei amrywio yn unol â’r contract neu drwy neu o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad rhaid i’r landlord, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, roi i ddeiliad y contract—

(a)datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau sy’n cael ei amrywio neu eu hamrywio, neu

(b)datganiad ysgrifenedig o’r contract fel y’i hamrywiwyd.

(2)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod yr amrywir y contract.

(3)Ni chaiff y landlord godi ffi am ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan is-adran (1).

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol.

137Methu â darparu datganiad ysgrifenedig etc.

(1)Os yw’r landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol wedi methu â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 136 mae’r landlord yn atebol i dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.

(2)Mae’r tâl digolledu yn daladwy mewn perthynas â’r dyddiad perthnasol a phob diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol—

(a)hyd y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau a amrywiwyd, neu o’r contract fel y’i hamrywiwyd, i ddeiliad y contract, neu

(b)os yw hynny’n gynharach, hyd ddiwrnod olaf y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.

(3)Mae llog yn daladwy ar y tâl digolledu os yw’r landlord wedi methu â rhoi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b) neu cyn hynny.

(4)Mae’r llog yn dechrau cronni ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b), ar y raddfa sy’n bodoli o dan adran 6 o Ddeddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998 (p. 20) ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.

(5)Y dyddiad perthnasol yw’r diwrnod yr amrywiwyd y contract.

(6)Nid yw is-adrannau (1) i (5) yn gymwys os gellir priodoli methiant y landlord i gydymffurfio â’r gofyniad i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.

(7)Os, o dan adran 136, yw’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract fel y’i hamrywiwyd i ddeiliad y contract, mae adrannau 36 a 37 (datganiadau anghyflawn ac anghywir) yn gymwys i’r datganiad fel pe bai cyfeiriadau yn yr adrannau hynny at y dyddiad perthnasol yn gyfeiriadau at y diwrnod yr amrywiwyd y contract.

PENNOD 4CYD-DDEILIAID CONTRACT: TYNNU’N ÔL

138Cyd-ddeiliad contract yn tynnu’n ôl gan ddefnyddio cymal terfynu deiliad contract

(1)Os yw contract safonol cyfnod penodol yn cynnwys cymal terfynu deiliad contract, caiff ddarparu, os oes cyd-ddeiliaid contract, bod hysbysiad a roddir i’r landlord gan un neu ragor (ond nid pob un) ohonynt sy’n honni ei fod yn hysbysiad o dan y cymal terfynu i’w drin fel hysbysiad fod y cyd-ddeiliad hwnnw i’r contract (neu’r cyd-ddeiliaid hynny i’r contract) yn bwriadu tynnu’n ôl o’r contract (“hysbysiad tynnu’n ôl”).

(2)Os yw’n gwneud hynny, rhaid iddo hefyd wneud darpariaeth sy’n cyfateb i is-adrannau (4) a (5) o adrannau 111 a 130.

PENNOD 5DELIO: TROSGLWYDDIADAU

Un deiliad contract

139Trosglwyddiad ar farwolaeth unig ddeiliad contract

(1)Caiff contract safonol cyfnod penodol ddarparu y gellir trosglwyddo contract ar farwolaeth unig ddeiliad contract wrth weinyddu ystad deiliad y contract.

(2)Nid yw adran 73 (yr hawl i olynu) yn gymwys i gontract safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys darpariaeth o’r fath.

(3)Nid yw adran 155 (terfynu contract yn dilyn marwolaeth) wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys darpariaeth o’r fath.

Cyd-ddeiliaid contract

140Trosglwyddiadau a orfodir

(1)Caiff contract safonol cyfnod penodol ddarparu y caiff un cyd-ddeiliad contract neu ragor ohonynt (os oes rhai) ei gwneud yn ofynnol i’r cyd-ddeiliad contract arall neu’r cyd-ddeiliaid contract eraill ymuno mewn trosglwyddiad o’r contract yn unol â’r contract.

(2)Os yw’r contract yn cynnwys darpariaeth o’r fath, caiff y cyd-ddeiliad neu’r cyd-ddeiliaid contract sy’n dymuno trosglwyddo’r contract meddiannaeth wneud cais i’r llys am orchymyn fod y cyd-ddeiliad contract arall neu’r cyd-ddeiliaid contract eraill yn ymuno yn y trosglwyddiad.

(3)Caiff y llys wneud y gorchymyn y gwnaed cais amdano os yw o’r farn bod hynny’n briodol.

141Buddiant cyd-ddeiliad contract

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw contract safonol cyfnod penodol yn darparu y caiff cyd-ddeiliad contract drosglwyddo ei hawliau a’i rwymedigaethau o dan y contract.

(2)Rhaid i’r contract hefyd ddarparu na chaniateir trosglwyddo oni bai bod y trosglwyddwr yn rhoi hysbysiad i’r cyd-ddeiliaid contract eraill y gwneir trosglwyddiad.

(3)Rhaid i’r contract hefyd ddarparu nad oes gan y trosglwyddai hawl i feddiannu’r annedd heb gydsyniad y cyd-ddeiliaid contract eraill.

142Trosglwyddo ar farwolaeth cyd-ddeiliad contract

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw contract safonol cyfnod penodol yn darparu y caniateir, ar farwolaeth cyd-ddeiliad contract, trosglwyddo ei hawliau a’i rwymedigaethau o dan y contract wrth weinyddu ei ystad.

(2)Rhaid i’r contract hefyd ddarparu na chaniateir gwneud trosglwyddiad oni bai bod cyd-ddeiliad y contract yn rhoi hysbysiad i’r cyd-ddeiliaid contract eraill, cyn ei farwolaeth, y gwneir trosglwyddiad o’r fath.

(3)Rhaid i’r contract hefyd ddarparu nad oes gan y trosglwyddai hawl i feddiannu’r annedd heb gydsyniad y cyd-ddeiliaid contract eraill.

RHAN 8CONTRACTAU SAFONOL Â CHYMORTH

143Contract safonol â chymorth a llety â chymorth

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “contract safonol â chymorth” yw contract safonol sy’n perthyn i lety â chymorth.

(2)At ddibenion y Ddeddf hon mae llety yn “llety â chymorth”—

(a)os yw’n cael ei ddarparu gan landlord cymunedol neu elusen gofrestredig,

(b)os yw’r landlord neu’r elusen (neu berson sy’n gweithredu ar ran y landlord neu’r elusen) yn darparu gwasanaethau cymorth i berson sydd â hawl i feddiannu’r llety, ac

(c)os oes cysylltiad rhwng darparu’r llety a darparu’r gwasanaethau cymorth.

(3)Nid yw llety mewn sefydliad gofal (o fewn ystyr paragraff 4 o Atodlen 2) yn llety â chymorth.

(4)Mae “gwasanaethau cymorth” yn cynnwys—

(a)cymorth i reoli neu oresgyn dibyniaeth,

(b)cymorth i ddod o hyd i gyflogaeth neu lety arall, ac

(c)rhoi cymorth i rywun sy’n ei chael hi’n anodd byw yn annibynnol oherwydd oed, afiechyd, anabledd neu unrhyw reswm arall.

(5)Mae “cymorth” yn cynnwys darparu cyngor, hyfforddiant, arweiniad a chwnsela.

144Symudedd

(1)Caiff contract safonol â chymorth ddarparu mai’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract yw’r annedd, o fewn adeilad a bennir yn y contract, a bennir gan y landlord o bryd i’w gilydd.

(2)Os yw’n gwneud hynny, yna mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at yr annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth i’w darllen fel cyfeiriadau at yr annedd sydd wedi ei phennu gan y landlord ar y pryd.

145Gwahardd dros dro

(1)Os yw’r landlord o dan gontract safonol â chymorth yn credu’n rhesymol bod deiliad contract wedi gwneud unrhyw beth o fewn is-adran (2), caiff y landlord ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract—

(a)gadael yr annedd, a

(b)peidio â dychwelyd i’r annedd am gyfnod penodedig.

(2)Y gweithredoedd yw—

(a)defnyddio trais yn erbyn unrhyw berson yn yr annedd,

(b)gwneud rhywbeth yn yr annedd sy’n creu risg o niwed sylweddol i unrhyw berson, ac

(c)ymddwyn yn yr annedd mewn ffordd sy’n amharu’n ddifrifol ar allu preswylydd arall mewn llety â chymorth a ddarperir gan y landlord i fanteisio ar y cymorth a ddarperir mewn cysylltiad â’r llety hwnnw.

(3)Ni chaiff y cyfnod a bennir o dan is-adran (1)(b) fod yn hwy na 48 awr.

(4)Rhaid i’r landlord roi hysbysiad i ddeiliad contract y mae’n ofynnol iddo adael yr annedd o dan yr adran hon sy’n rhoi’r rhesymau pam y mae’n ofynnol iddo adael, a rhaid iddo wneud hynny—

(a)wrth ei gwneud yn ofynnol iddo adael, neu

(b)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny.

(5)Ni chaiff y landlord ddefnyddio’r pŵer a roddir gan yr adran hon, mewn perthynas â deiliad contract penodol, fwy na thair gwaith mewn unrhyw gyfnod o chwe mis.

(6)Yn yr adran hon (ac eithrio yn is-adran (2)(c) a’r is-adran hon), mae cyfeiriadau at “y landlord” yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw berson a ddynodir gan y landlord fel rhywun sydd â hawl i arfer y pŵer o dan yr adran hon mewn perthynas â’r annedd.

(7)Yn yr adran hon mae “annedd” yn cynnwys unrhyw rannau cyffredin.

(8)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol â chymorth.

146Gwahardd dros dro: canllawiau

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch arfer swyddogaethau o dan adran 145 gan landlordiaid.

(2)Wrth arfer y swyddogaethau hynny, rhaid i landlordiaid roi sylw i ganllawiau a ddyroddir o dan is-adran (1).

RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 1TROSOLWG A DARPARIAETHAU RHAGARWEINIOL

Trosolwg

147Trosolwg o’r Rhan

Mae’r tabl a ganlyn yn darparu trosolwg o’r Rhan hon—

TABL 1
PENNODCONTRACTAU MEDDIANNAETH Y MAE’N BERTHNASOL IDDYNTCYNNWYS Y BENNOD
1Pob contract meddiannaeth (ac eithrio adran 151, nad yw ond yn gymwys i gontractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig)
(a)

ffyrdd y gellir terfynu contractau meddiannaeth,

(b)

amgylchiadau y gall landlordiaid wneud hawliad i’r llys i adennill meddiant o annedd oddi tanynt, ac

(c)

“hysbysiadau adennill meddiant”, sef hysbysiadau y mae’n rhaid i landlordiaid eu rhoi i ddeiliaid contractau cyn gwneud hawliad meddiant o dan adran 157 (tor contract), adran 161 (mewn perthynas â seiliau rheoli ystad), adran 165 neu 170 (adennill meddiant yn dilyn hysbysiad deiliad y contract), adrannau 181 a 187 (ôl-ddyledion rhent difrifol) neu adran 191 (adennill meddiant ar ôl defnyddio cymal terfynu deiliad y contract).

2Pob contract meddiannaethAmgylchiadau penodol pryd y gall contractau meddiannaeth derfynu heb hawliad meddiant.
3Pob contract meddiannaeth

Hawliadau meddiant gan landlordiaid—

(a)

ar y sail fod deiliad y contract wedi torri’r contract, a

(b)

ar seiliau rheoli ystad.

4Contractau diogelHawl deiliad y contract i derfynu’r contract.
5Contractau safonol cyfnodol
(a)

hawl deiliad y contract i derfynu’r contract, a

(b)

hawliau’r landlord i derfynu’r contract a gwneud hawliad meddiant.

6 a 7Contractau safonol cyfnod penodol
(a)

yr hyn sy’n digwydd ar ddiwedd y cyfnod,

(b)

hawl deiliad y contract i derfynu’r contract, a

(c)

hawliau’r landlord i derfynu’r contract a gwneud hawliad meddiant.

8Contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedigAdolygiad gan landlord, pan fo’n ofynnol gan ddeiliad y contract, o benderfyniad y landlord i roi hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol ildio meddiant ar seiliau penodol.
9 a 10Pob contract meddiannaeth
(a)

pwerau’r llys mewn perthynas â phob hawliad meddiant, a

(b)

pwerau’r llys mewn perthynas â hawliadau meddiant sy’n ymwneud â seiliau meddiant yn ôl disgresiwn.

11Contractau diogelPwerau a dyletswyddau’r llys mewn perthynas â hawliadau meddiant sy’n ymwneud â hysbysiad deiliad y contract.
12Contractau safonolPwerau a dyletswyddau’r llys mewn perthynas â hawliadau meddiant sy’n ymwneud â seiliau meddiant absoliwt.
13 i 15Pob contract meddiannaeth
(a)

hawliau’r landlord pan fo deiliad y contract yn cefnu ar yr annedd,

(b)

terfynu a gwahardd pan fo cyd-ddeiliaid contract, a

(c)

fforffedu a rhybudd i ymadael heb fod ar gael mewn perthynas â chontractau meddiannaeth.

Terfynu a ganiateir, hawliadau meddiant a hysbysiadau yn ei gwneud yn ofynnol ildio meddiant

148Terfynu a ganiateir etc.

(1)Ni chaniateir terfynu contract meddiannaeth ond yn unol ag—

(a)telerau sylfaenol y contract sy’n ymgorffori darpariaethau sylfaenol a ddynodir yn y Rhan hon neu delerau eraill a gynhwysir yn y contract yn unol â’r Rhan hon, neu

(b)deddfiad.

(2)Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar—

(a)unrhyw hawl sydd gan y landlord neu ddeiliad y contract i ddad-wneud y contract, na

(b)gweithrediad cyfraith llesteirio.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.

149Hawliadau meddiant

(1)Ni chaiff y landlord o dan gontract meddiannaeth wneud hawliad i’r llys i adennill meddiant o’r annedd oddi wrth ddeiliad y contract (“hawliad meddiant”) ond yn yr amgylchiadau a amlinellir ym Mhenodau 3 i 5 a 7.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.

150Hysbysiadau adennill meddiant

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad adennill meddiant y mae’n ofynnol i landlord ei roi i ddeiliad contract cyn gwneud hawliad meddiant.

(2)Rhaid i’r hysbysiad (yn ogystal â nodi’r sail ar gyfer gwneud yr hawliad)—

(a)datgan bwriad y landlord i wneud hawliad meddiant,

(b)rhoi manylion y sail, ac

(c)datgan ar ôl pa ddyddiad y gall y landlord wneud hawliad meddiant.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Hysbysiadau yn ei gwneud yn ofynnol ildio meddiant: contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig

151Contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig: hysbysiadau o dan adrannau 173 a 181

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys i—

(a)hysbysiad a roddir yn unol ag adran 173 (hysbysiad gan landlord) mewn perthynas â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig;

(b)hysbysiad adennill meddiant a roddir yn unol ag adran 181 (ôl-ddyledion rhent difrifol) mewn perthynas â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig.

(2)Rhaid i’r hysbysiad (yn ogystal â chydymffurfio gydag unrhyw ofynion eraill o dan y Ddeddf hon) hysbysu deiliad y contract am yr hawl i wneud cais am adolygiad o dan adran 202 (adolygiad gan landlord), a’i hysbysu erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y cais.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol rhagarweiniol a phob contract safonol ymddygiad gwaharddedig.

PENNOD 2TERFYNU ETC. HEB HAWLIAD MEDDIANT(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)

152Deiliad y contract yn terfynu’n fuan

(1)Caiff deiliad y contract derfynu’r contract meddiannaeth unrhyw bryd cyn y cynharaf o’r canlynol—

(a)y landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract o dan adran 31(1) i ddeiliad y contract, neu

(b)y dyddiad meddiannu.

(2)Er mwyn terfynu’r contract o dan is-adran (1), rhaid i ddeiliad y contract roi hysbysiad i’r landlord yn datgan ei fod yn terfynu’r contract.

(3)Pan fydd yn rhoi’r hysbysiad i’r landlord, bydd deiliad y contract—

(a)yn peidio â bod ag unrhyw atebolrwydd o dan y contract, a

(b)yn dod â’r hawl i gael unrhyw flaendal, rhent neu gydnabyddiaeth arall a roddwyd i’r landlord yn unol â’r contract wedi’i ddychwelyd iddo.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

153Terfynu drwy gytundeb

(1)Os yw’r landlord a deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn cytuno i derfynu’r contract, daw’r contract i ben—

(a)pan fydd deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd yn unol â’r cytundeb, neu

(b)os nad yw’n ildio meddiant ac y gwneir contract meddiannaeth newydd i gymryd lle’r un gwreiddiol, yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract meddiannaeth newydd.

(2)Mae contract meddiannaeth yn gontract meddiannaeth newydd sy’n cymryd lle’r un gwreiddiol—

(a)os yw’n cael ei wneud mewn perthynas â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r contract gwreiddiol, a

(b)os oedd deiliad contract oddi tano hefyd yn ddeiliad contract o dan y contract gwreiddiol.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

154Tor contract ymwrthodol ar ran y landlord

(1)Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn cyflawni tor contract ymwrthodol, a bod deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd oherwydd y tor contract hwnnw, daw’r contract i ben pan fydd deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

155Marwolaeth unig ddeiliad contract

(1)Os yw unig ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn marw, daw’r contract i ben—

(a)mis ar ôl marwolaeth deiliad y contract, neu

(b)os yw’n gynharach, pan fydd y personau awdurdodedig yn hysbysu’r landlord am y farwolaeth.

(2)Y personau awdurdodedig yw—

(a)cynrychiolwyr personol deiliad y contract, neu

(b)y rheini sydd â chaniatâd i feddiannu’r annedd sy’n 18 oed a hŷn (os oes rhai) yn gweithredu gyda’i gilydd.

(3)Ni ddaw’r contract i ben os oes un neu ragor o bersonau yn gymwys i olynu deiliad y contract o dan adran 74.

(4)Ni ddaw’r contract i ben os, ar farwolaeth deiliad y contract, oes gorchymyn eiddo teuluol yn effeithiol sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract drosglwyddo’r contract i berson arall.

(5)Os, ar ôl marwolaeth deiliad y contract, yw’r gorchymyn eiddo teuluol yn peidio â chael effaith ac os nad oes unrhyw berson yn gymwys i olynu deiliad y contract, daw’r contract i ben—

(a)pan fydd y gorchymyn yn peidio â chael effaith, neu

(b)os yw’n hwyrach, pan fyddai’r contract yn dod i ben o dan is-adran (1).

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys y ddarpariaeth a grybwyllir yn adran 139(1) (trosglwyddo ar farwolaeth unig ddeiliad contract); mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.

156Marwolaeth landlord pan fo’r contract meddiannaeth yn drwydded

Mae contract meddiannaeth sy’n drwydded yn dod i ben pan fydd y landlord yn marw.

PENNOD 3TERFYNU POB CONTRACT MEDDIANNAETH (HAWLIAD MEDDIANT GAN LANDLORD)

Tor contract

157Tor contract

(1)Os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn cyflawni tor contract, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae adran 209 yn darparu na chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail honno oni bai ei fod yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny (ac mae rhesymoldeb i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 10).

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

158Datganiad ffug sy’n darbwyllo’r landlord i wneud contract i’w drin fel tor contract

(1)Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn cael ei ddarbwyllo i wneud y contract drwy ddatganiad ffug perthnasol—

(a)mae deiliad y contract i’w drin fel pe bai wedi torri’r contract meddiannaeth, a

(b)caiff y landlord, felly, wneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract).

(2)Mae datganiad ffug yn berthnasol os caiff ei wneud yn fwriadol neu’n fyrbwyll gan—

(a)deiliad y contract, neu

(b)person arall sy’n gweithredu ar symbyliad deiliad y contract.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.

159Cyfyngiadau ar adran 157

(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 157, rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.

(2)Caiff y landlord wneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar dorri adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall) ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n nodi bod yr adran honno wedi ei thorri.

(3)Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar dorri unrhyw deler arall yn y contract cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n nodi bod y teler hwnnw wedi ei dorri.

(4)Yn y naill achos a’r llall, ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Seiliau rheoli ystad

160Seiliau rheoli ystad

(1)Caiff y landlord o dan gontract meddiannaeth wneud hawliad meddiant ar un neu ragor o’r seiliau rheoli ystad.

(2)Mae’r seiliau rheoli ystad wedi eu dynodi yn Rhan 1 o Atodlen 8 (mae paragraff 10 o’r Atodlen honno yn darparu bod Rhan 1 o’r Atodlen honno yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i bob contract meddiannaeth).

(3)Mae adran 210 yn darparu na chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar sail rheoli ystad oni bai—

(a)ei fod yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny (ac mae rhesymoldeb i’w benderfynu yn unol ag Atodlen 10), a

(b)ei fod yn fodlon bod llety arall addas (mae’r hyn sy’n addas i’w benderfynu yn unol ag Atodlen 11) ar gael i ddeiliad y contract (neu y bydd ar gael i ddeiliad y contract pan fydd y gorchymyn yn cael effaith).

(4)Os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant ar sail rheoli ystad (ac nid ar unrhyw sail arall), rhaid i’r landlord dalu i ddeiliad y contract swm cyfwerth â’r treuliau rhesymol y mae deiliad y contract yn debygol o fynd iddynt wrth symud o’r annedd.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant ar Sail A neu B (y seiliau ailddatblygu) o’r seiliau rheoli ystad (ac nid ar unrhyw sail arall).

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

161Cyfyngiadau ar adran 160

(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar sail rheoli ystad, rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.

(2)Ni chaiff y landlord wneud yr hawliad—

(a)cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, na

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(3)Os yw cynllun ailddatblygu yn cael ei gymeradwyo o dan Ran 2 o Atodlen 8 yn ddarostyngedig i amodau, caiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu Sail B o’r seiliau rheoli ystad cyn bod yr amodau wedi eu bodloni.

(4)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu Sail G o’r seiliau rheoli ystad (dim angen y llety ar olynydd)—

(a)cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth y landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, unrhyw un ohonynt) i wybod am farwolaeth y deiliad contract blaenorol, neu

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o ddeuddeg mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(5)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu sail rheoli ystad H (cyd-ddeiliad contract yn gadael) i ddeiliad y contract ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad y contract i ben o dan y contract.

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

162Seiliau rheoli ystad: cynlluniau ailddatblygu

Mae Rhan 2 o Atodlen 8 (cymeradwyo cynlluniau ailddatblygu) yn gwneud darpariaeth sy’n ategu Sail B o’r seiliau rheoli ystad.

PENNOD 4TERFYNU CONTRACTAU DIOGEL (HYSBYSIAD DEILIAD Y CONTRACT)

163Hysbysiad deiliad y contract

(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract diogel derfynu’r contract drwy roi hysbysiad i’r landlord y bydd yn ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

164Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir

(1)Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 163 fod yn llai na phedair wythnos ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r landlord.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

165Adennill meddiant

(1)Os yw deiliad y contract yn methu ag ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 163, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae adran 212 yn darparu bod rhaid i’r llys, os yw’n fodlon bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

166Cyfyngiadau ar adran 165

(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 165 rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.

(2)Caiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract.

(3)Ond ni chaiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(4)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail yn adran 165 i ddeiliad y contract ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 163 fel y dyddiad y byddai deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

167Terfynu contract yn dilyn hysbysiad deiliad y contract

(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 163, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—

(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu

(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.

(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os, cyn i’r contract ddod i ben—

(a)yw deiliad y contract yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i’r landlord, a

(b)nad yw’r landlord yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

PENNOD 5TERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNODOL

Terfynu gan ddeiliad contract: hysbysiad deiliad contract

168Hysbysiad deiliad contract

(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract safonol cyfnodol derfynu’r contract drwy roi hysbysiad i’r landlord y bydd yn ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

169Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir

(1)Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 168 fod yn llai na phedair wythnos ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r landlord.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

170Adennill meddiant

(1)Os yw deiliad y contract yn methu ag ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 168, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw’n fodlon bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

171Cyfyngiadau ar adran 170

(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 170 rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.

(2)Caiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract.

(3)Ond ni chaiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(4)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail yn adran 170 i ddeiliad y contract ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 168 fel y dyddiad y byddai deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

172Terfynu contract yn dilyn hysbysiad deiliad y contract

(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 168, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—

(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu

(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y diwrnod a bennir yn unol ag adran 206.

(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os, cyn i’r contract ddod i ben—

(a)yw deiliad y contract yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i’r landlord, a

(b)nad yw’r landlord yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

Terfynu gan landlord: hysbysiad y landlord

173Hysbysiad y landlord

(1)Caiff y landlord o dan gontract safonol cyfnodol derfynu’r contract drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract fod rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

(3)Os nad yw’r adran hon wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract safonol cyfnodol, ni chaiff y landlord amrywio telerau’r contract yn unol ag adran 125(1)(b) a 126 (amrywiad drwy hysbysiad y landlord).

174Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir

(1)Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 173 fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

175Cyfyngiadau ar adran 173: ni chaniateir rhoi hysbysiad yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth

(1)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 173 cyn diwedd y cyfnod o bedwar mis sy’n dechrau â diwrnod meddiannu’r contract.

(2)Os yw’r contract yn gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 173 cyn diwedd y cyfnod o bedwar mis sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract gwreiddiol.

(3)At ddibenion is-adran (2)—

(a)mae contract meddiannaeth yn gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall—

(i)os yw dyddiad meddiannu’r contract yn dod yn union ar ôl diwedd contract meddiannaeth blaenorol,

(ii)os oedd, yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract, ddeiliad contract o dan y contract yn ddeiliad contract o dan y contract blaenorol a landlord o dan y contract yn landlord o dan y contract blaenorol, a

(iii)os yw’r contract yn ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r contract blaenorol, a

(b)ystyr “contract gwreiddiol” yw—

(i)pan fo dyddiad meddiannu’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall yn dod yn union ar ôl diwedd contract nad yw’n gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, y contract meddiannaeth sy’n rhagflaenu’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall;

(ii)pan fo cyfres o gontractau olynol yn gontractau meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, y contract meddiannaeth a oedd yn rhagflaenu’r cyntaf o’r contractau meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol, ac eithrio contractau safonol cyfnodol—

(a)nad ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract, neu

(b)sydd o fewn Atodlen 9 (pa un a ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract ai peidio),

ac mae adran 20 yn darparu bod rhaid ymgorffori’r adran hon, ac na chaniateir ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi.

176Cyfyngiadau ar adran 173: torri’r gofynion rhoi gwybodaeth

(1)Os nad yw’r landlord yn cydymffurfio ag adran 31(1) neu (2) (dyletswydd i ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r contract), ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 173 cyn diwedd y cyfnod cyfyngedig.

(2)Y cyfnod cyfyngedig yw chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract.

(3)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 173 ar unrhyw adeg pan na fo’r landlord wedi darparu hysbysiad sy’n ofynnol o dan adran 39 (dyletswydd i ddarparu gwybodaeth).

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

177Cyfyngiadau ar adran 173: torri gofynion sicrwydd a blaendal

(1)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 173 ar adeg pan na fo sicrwydd y gofynnodd y landlord amdano ar ffurf nad yw adran 43 yn ei chaniatáu wedi ei ddychwelyd i’r person a’i rhoddodd.

(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 173 ar adeg pan fo unrhyw un neu ragor o is-adrannau (3) i (5) yn gymwys oni bai—

(a)bod blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract wedi ei ddychwelyd i ddeiliad y contract (neu i unrhyw berson a dalodd y blaendal ar ei ran) naill ai’n llawn neu ar ôl tynnu unrhyw symiau a gytunwyd, neu

(b)bod cais i’r llys sirol wedi ei wneud o dan baragraff 2 o Atodlen 5 a bod y llys sirol wedi dyfarnu arno, ei fod wedi ei dynnu’n ôl, neu ei fod wedi ei setlo drwy gytundeb rhwng y partïon.

(3)Mae blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â’r contract ond ni chydymffurfiwyd â gofynion cychwynnol cynllun blaendal awdurdodedig.

(4)Mae blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â’r contract ond nid yw’r landlord wedi darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol yn ôl adran 45(2)(b).

(5)Nid yw blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract yn cael ei ddal yn unol â chynllun blaendal awdurdodedig.

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.

178Adennill meddiant

(1)Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 173, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw wedi ei fodloni bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd, oni bai bod adran 217 (troi allan dialgar: contractau safonol) yn gymwys (ac yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

179Cyfyngiad ar adran 178

(1)Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178—

(a)cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad y rhoddodd y landlord i ddeiliad y contract o dan adran 173, na

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

180Terfynu contract yn dilyn hysbysiad y landlord

(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 173, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—

(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu

(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.

(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os, cyn i’r contract ddod i ben—

(a)yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, a

(b)nad yw deiliad y contract yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

Terfynu gan landlord: ôl-ddyledion rhent difrifol

181Ôl-ddyledion rhent difrifol

(1)Os oes gan ddeiliad y contract o dan gontract safonol cyfnodol ôl-ddyledion rhent difrifol, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae gan ddeiliad y contract ôl-ddyledion rhent difrifol—

(a)pan fo’r cyfnod rhentu yn wythnos, yn bythefnos neu’n bedair wythnos, os oes o leiaf wyth wythnos o rent heb ei dalu;

(b)pan fo’r cyfnod rhentu yn fis, os oes o leiaf ddau fis o rent heb ei dalu;

(c)pan fo’r cyfnod rhentu yn chwarter, os oes rhent o leiaf un chwarter dros dri mis yn hwyr;

(d)pan fo’r cyfnod rhentu yn flwyddyn, os oes o leiaf 25% o’r rhent dros dri mis yn hwyr.

(3)Mae adran 216 yn darparu bod rhaid i’r llys (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract) wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd os yw’n fodlon bod gan ddeiliad y contract—

(a)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y rhoddodd y landlord yr hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, a

(b)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y mae’r llys yn gwrando’r achos ar yr hawliad meddiant.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

182Cyfyngiadau ar adran 181

(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 181, rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail honno i ddeiliad y contract.

(2)Ni chaiff landlord o dan gontract safonol cyfnodol nad yw’n gontract safonol rhagarweiniol neu’n gontract safonol ymddygiad gwaharddedig wneud yr hawliad—

(a)cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, na

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(3)Ni chaiff y landlord o dan gontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig wneud yr hawliad—

(a)cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, na

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(4)Mae is-adran (1) yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol, ac

(a)mae is-adran (2) yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol nad yw’n gontract safonol rhagarweiniol neu’n gontract safonol ymddygiad gwaharddedig;

(b)mae is-adran (3) yn ddarpariaeth sylfaenol nad yw ond wedi ei hymgorffori fel un o delerau contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig.

Terfynu contractau safonol cyfnodol a oedd yn gontractau safonol cyfnod penodol

183Perthnasedd digwyddiadau o dan gontract safonol cyfnod penodol

(1)Caiff y landlord o dan gontract safonol cyfnodol sy’n bodoli yn sgil adran 184(2) (contractau safonol cyfnodol sy’n bodoli yn sgil diwedd cyfnod penodol) wneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar—

(a)hysbysiad adennill meddiant, neu

(b)hysbysiad o dan adran 186,

y rhoddodd y landlord i ddeiliad y contract cyn diwedd y contract cyfnod penodol.

(2)Mae adrannau 174 i 177, 179 a 180 yn gymwys i hysbysiad o dan adran 186(1), ac i hawliad meddiant ar y sail yn adran 186(5), fel y maent yn gymwys i hysbysiad o dan adran 173 ac i hawliad meddiant ar y sail yn adran 178.

(3)Mewn unrhyw hysbysiad adennill meddiant y mae’r landlord yn ei roi i ddeiliad y contract, caiff y landlord ddibynnu ar ddigwyddiadau a ddigwyddodd cyn diwedd y contract safonol cyfnod penodol.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau contractau safonol cyfnodol sy’n bodoli yn sgil adran 184(2).

PENNOD 6CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL: DIWEDD Y CYFNOD PENODOL

184Diwedd y cyfnod penodol

(1)Mae contract safonol cyfnod penodol yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod y’i gwneir ar ei gyfer.

(2)Os yw deiliad y contract yn dal i feddiannu’r annedd ar ôl diwedd y cyfnod, mae’r landlord a deiliad y contract i’w trin fel pe baent wedi gwneud contract safonol cyfnodol newydd mewn perthynas â’r annedd.

(3)Mae gan y contract newydd—

(a)dyddiad meddiannu sy’n dod yn union ar ôl diwedd y cyfnod penodol, a

(b)cyfnodau rhentu sydd yr un fath â’r rheini yr oedd rhent yn daladwy ar eu cyfer ddiwethaf o dan y contract cyfnod penodol.

(4)Mae’r darpariaethau sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i gontractau safonol cyfnodol wedi eu hymgorffori fel telerau’r contract newydd heb eu haddasu.

(5)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4), mae i’r contract newydd yr un telerau â’r contract cyfnod penodol yn union cyn iddo ddod i ben.

(6)Nid yw contract meddiannaeth newydd yn dod i fodolaeth fel y disgrifir yn is-adran (2) os yw’r landlord a deiliad y contract wedi gwneud contract meddiannaeth newydd mewn perthynas â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) sydd â dyddiad meddiannu yn union ar ôl i’r contract cyfnod penodol ddod i ben.

(7)Os, cyn neu ar ddyddiad meddiannu contract meddiannaeth newydd sy’n dod i fodolaeth fel y disgrifir yn is-adran (2) neu (6)—

(a)yw deiliad y contract yn ymrwymo i rwymedigaeth i gyflawni gweithred a fydd yn peri i’r contract newydd ddod i ben, neu

(b)yw deiliad y contract yn rhoi unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall a fyddai, oni bai am yr is-adran hon, yn peri i’r contract newydd ddod i ben,

ni ellir gorfodi’r rhwymedigaeth neu (yn ôl y digwydd) nid oes unrhyw effaith i’r hysbysiad neu’r ddogfen.

(8)Nid yw’r gofyniad yn adran 39(1) (rhaid i landlord roi cyfeiriad cyswllt i ddeiliad contract ar ddechrau contract) yn gymwys mewn perthynas â chontract safonol cyfnodol sy’n codi o dan is-adran (2).

185Caniatáu i ddatganiad ysgrifenedig ymdrin â chontract safonol cyfnodol sy’n codi o dan adran 184(2)

(1)Caiff datganiad ysgrifenedig o gontract safonol cyfnod penodol, o ran y contract safonol cyfnodol a allai godi o dan adran 184(2) (“y contract posibl”), nodi beth fyddai telerau’r contract hwnnw o dan adran 184(3) i (5) drwy—

(a)pennu telerau’r contract safonol cyfnod penodol na fyddant yn delerau’r contract posibl, a nodi’r telerau a fydd yn gymwys i’r contract posibl yn unig, neu

(b)nodi holl delerau’r contract posibl ar wahân.

(2)Pan fo datganiad ysgrifenedig o gontract safonol cyfnod penodol yn ymdrin â’r contract posibl yn unol ag is-adran (1)—

(a)nid yw’r datganiad ysgrifenedig yn anghywir (gweler adran 37) ond am ei fod yn ymdrin â’r contract posibl;

(b)mae’r landlord i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â’r gofyniad yn adran 31(1) (darparu datganiad ysgrifenedig) mewn perthynas â’r contract posibl, ac

(c)ni chaniateir gorfodi telerau’r contract posibl yn erbyn deiliad y contract cyn dyddiad meddiannu’r contract hwnnw (ac, o ganlyniad, nid yw adran 42 yn gymwys).

PENNOD 7TERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL

Diwedd cyfnod penodol: hysbysiad y landlord

186Hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol

(1)Caiff y landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol, cyn neu ar ddiwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract ar ei gyfer, roi hysbysiad i ddeiliad y contract fod rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Ni chaiff y dyddiad a bennir fod yn llai na chwe mis ar ôl—

(a)dyddiad meddiannu’r contract, neu

(b)os yw’r contract yn gontract sy’n cymryd lle contract arall, dyddiad meddiannu’r contract gwreiddiol.

(3)Yn ddarostyngedig i is-adran (2), o ran y dyddiad a bennir—

(a)ni chaiff fod cyn diwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract ar ei gyfer, a

(b)ni chaiff fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

(4)At ddibenion is-adran (2)—

(a)mae contract meddiannaeth yn gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall—

(i)os yw dyddiad meddiannu’r contract yn dod yn union ar ôl diwedd contract meddiannaeth blaenorol,

(ii)os oedd, yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract, ddeiliad contract o dan y contract yn ddeiliad contract o dan y contract blaenorol a landlord o dan y contract yn landlord o dan y contract blaenorol, a

(iii)os yw’r contract yn ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r contract blaenorol, a

(b)ystyr “contract gwreiddiol” yw—

(i)pan fo dyddiad meddiannu’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall yn dod yn union ar ôl diwedd contract nad yw’n gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, y contract meddiannaeth sy’n rhagflaenu’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall;

(ii)pan fo cyfres o gontractau olynol yn gontractau meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, y contract meddiannaeth a oedd yn rhagflaenu’r cyntaf o’r contractau meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall.

(5)Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan is-adran (1), caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(6)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw wedi ei fodloni bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(7)Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno cyn diwedd y contract safonol cyfnod penodol.

(8)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol; mae is-adrannau (2) a (4) yn ddarpariaethau sylfaenol sydd wedi eu hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol—

(a)nad ydynt yn ymgorffori is-adran (1) fel un o delerau’r contract, neu

(b)sydd o fewn Atodlen 9 (pa un a ydynt yn ymgorffori is-adran (1) fel un o delerau’r contract ai peidio),

ac mae adran 20 yn darparu bod rhaid ymgorffori’r is-adrannau hynny, ac na chaniateir eu hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddynt.

Terfynu gan y landlord: ôl-ddyledion rhent difrifol

187Ôl-ddyledion rhent difrifol

(1)Os oes gan ddeiliad y contract o dan gontract safonol cyfnod penodol ôl-ddyledion rhent difrifol, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae gan ddeiliad y contract ôl-ddyledion rhent difrifol—

(a)pan fo’r cyfnod rhentu yn wythnos, yn bythefnos neu’n bedair wythnos, os oes o leiaf wyth wythnos o rent heb ei dalu;

(b)pan fo’r cyfnod rhentu yn fis, os oes o leiaf ddau fis o rent heb ei dalu;

(c)pan fo’r cyfnod rhentu yn chwarter, os oes rhent o leiaf un chwarter dros dri mis yn hwyr;

(d)pan fo’r cyfnod rhentu yn flwyddyn, os oes o leiaf 25% o’r rhent dros dri mis yn hwyr.

(3)Mae adran 216 yn darparu bod rhaid i’r llys (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract) wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd os yw’n fodlon bod gan ddeiliad y contract—

(a)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y rhoddodd y landlord yr hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, a

(b)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y mae’r llys yn gwrando’r achos ar yr hawliad meddiant.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol.

188Cyfyngiadau ar adran 187

(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 187, rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.

(2)Ni chaiff y landlord wneud yr hawliad—

(a)cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, na

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol.

Cymal terfynu deiliad y contract

189Cymal terfynu deiliad contract

(1)Caiff contract safonol cyfnod penodol gynnwys teler sy’n galluogi deiliad y contract i derfynu’r contract cyn diwedd y cyfnod penodol drwy roi hysbysiad i’r landlord y bydd yn ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at gymal terfynu deiliad y contract, mewn perthynas â chontract safonol cyfnod penodol, yn gyfeiriadau at y teler a grybwyllir yn is-adran (1).

190Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir

(1)Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract fod yn llai na phedair wythnos ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r landlord.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.

191Adennill meddiant

(1)Os yw deiliad contract yn methu ag ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw’n fodlon bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.

192Cyfyngiadau ar adran 191

(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 191 rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.

(2)Caiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract.

(3)Ond ni chaiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(4)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail yn adran 191 i ddeiliad y contract ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract fel y dyddiad y byddai deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.

193Terfynu contract o dan gymal terfynu deiliad y contract

(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—

(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu

(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.

(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os, cyn i’r contract ddod i ben—

(a)yw deiliad y contract yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i’r landlord, a

(b)nad yw’r landlord yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.

Cymal terfynu’r landlord

194Cymal terfynu’r landlord

(1)Caiff contract safonol cyfnod penodol gynnwys teler sy’n galluogi’r landlord i derfynu’r contract cyn diwedd y cyfnod penodol drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract y bydd yn rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at gymal terfynu’r landlord, mewn perthynas â chontract safonol cyfnod penodol, yn gyfeiriadau at y teler a grybwyllir yn is-adran (1).

195Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir

(1)Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.

196Cyfyngiadau ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord: pedwar mis cyntaf meddiannaeth

(1)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord cyn diwedd y cyfnod o bedwar mis sy’n dechrau â diwrnod meddiannu’r contract.

(2)Os yw’r contract yn gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord cyn diwedd y cyfnod o bedwar mis sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract gwreiddiol.

(3)At ddibenion is-adran (2)—

(a)mae contract meddiannaeth yn gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall—

(i)os yw dyddiad meddiannu’r contract yn dod yn union ar ôl diwedd contract meddiannaeth blaenorol,

(ii)os oedd, yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract, ddeiliad contract o dan y contract yn ddeiliad contract o dan y contract blaenorol a landlord o dan y contract yn landlord o dan y contract blaenorol, a

(iii)os yw’r contract yn ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r contract blaenorol, a

(b)ystyr “contract gwreiddiol” yw—

(i)pan fo dyddiad meddiannu’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall yn dod yn union ar ôl diwedd contract nad yw’n gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, y contract meddiannaeth sy’n rhagflaenu’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall;

(ii)pan fo cyfres o gontractau olynol yn gontractau meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, y contract meddiannaeth a oedd yn rhagflaenu’r cyntaf o’r contractau meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol—

(a)nad ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, neu

(b)sydd o fewn Atodlen 9 (pa un a ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord ai peidio),

ac mae adran 20 yn darparu bod rhaid ymgorffori’r adran hon, ac na chaniateir ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi.

197Cyfyngiadau ar y defnydd o gymal terfynu’r landlord: torri’r gofynion rhoi gwybodaeth

(1)Os nad yw’r landlord yn cydymffurfio ag adran 31(1) neu (2) (dyletswydd i ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r contract), ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord cyn diwedd y cyfnod cyfyngedig.

(2)Y cyfnod cyfyngedig yw chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract.

(3)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord ar unrhyw adeg pan na fo’r landlord wedi darparu hysbysiad sy’n ofynnol o dan adran 39 (dyletswydd i ddarparu gwybodaeth).

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.

198Cyfyngiadau ar y defnydd o gymal terfynu’r landlord: gofynion sicrwydd a blaendal

(1)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord ar adeg pan na fo sicrwydd y gofynnodd y landlord amdano ar ffurf nad yw adran 43 yn ei chaniatáu wedi ei ddychwelyd i’r person a’i rhoddodd.

(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord ar adeg pan fo unrhyw un neu ragor o is-adrannau (3) i (5) yn gymwys oni bai—

(a)bod blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract wedi ei ddychwelyd i ddeiliad y contract (neu i unrhyw berson a dalodd y blaendal ar ei ran) naill ai’n llawn neu ar ôl tynnu unrhyw symiau a gytunwyd, neu

(b)bod cais i’r llys sirol wedi ei wneud o dan baragraff 2 o Atodlen 5 a bod y llys sirol wedi dyfarnu arno, ei fod wedi ei dynnu’n ôl, neu ei fod wedi ei setlo drwy gytundeb rhwng y partïon.

(3)Mae blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â’r contract ond ni chydymffurfiwyd â gofynion cychwynnol cynllun blaendal awdurdodedig.

(4)Mae blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â’r contract ond nid yw’r landlord wedi darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol yn ôl adran 45(2)(b).

(5)Nid yw blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract yn cael ei ddal yn unol â chynllun blaendal awdurdodedig.

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.

199Adennill meddiant

(1)Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan gymal terfynu’r landlord, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw wedi ei fodloni bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd, oni bai bod adran 217 (troi allan dialgar) yn gymwys (ac yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.

200Cyfyngiad ar adran 199

(1)Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 199—

(a)cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad y rhoddodd y landlord i ddeiliad y contract o dan gymal terfynu’r landlord, na

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.

201Terfynu contract o dan gymal terfynu’r landlord

(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—

(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu

(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.

(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os, cyn i’r contract ddod i ben—

(a)yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, a

(b)nad yw deiliad y contract yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.

PENNOD 8ADOLYGIAD GAN LANDLORD O BENDERFYNIAD I ROI HYSBYSIAD YN EI GWNEUD YN OFYNNOL ILDIO MEDDIANT(NID YW’R BENNOD HON OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL RHAGARWEINIOL A CHONTRACTAU SAFONOL YMDDYGIAD GWAHARDDEDIG)

202Adolygiad o benderfyniad i derfynu contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig

(1)Nid yw’r adran hon yn gymwys ond mewn perthynas â chontractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig.

(2)Os yw’r landlord yn penderfynu rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173 (hysbysiad y landlord) neu i roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail yn adran 181 (ôl-ddyledion rhent difrifol), caiff deiliad y contract ofyn i’r landlord gynnal adolygiad o’r penderfyniad hwnnw.

(3)Rhaid gwneud cais am adolygiad i’r landlord cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod (neu unrhyw gyfnod hwy a ganiateir mewn ysgrifen gan y landlord) sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad i ddeiliad y contract.

203Adolygiad y landlord o benderfyniad i roi hysbysiad

(1)Os yw deiliad y contract, yn unol ag adran 202, yn gofyn am adolygiad o benderfyniad y landlord i roi hysbysiad, rhaid i’r landlord gynnal yr adolygiad.

(2)Yn dilyn adolygiad, caiff y landlord—

(a)cadarnhau’r penderfyniad i roi’r hysbysiad, neu

(b)gwrthdroi’r penderfyniad.

(3)Rhaid i’r landlord hysbysu deiliad y contract o ganlyniad yr adolygiad cyn y dyddiad y gall y landlord wneud hawliad meddiant ar ei ôl.

(4)Os yw’r landlord yn cadarnhau’r penderfyniad, rhaid i’r hysbysiad nodi’r rhesymau dros y cadarnhad.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi’r weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad ag adolygiad o dan yr adran hon.

(6)Caiff rheoliadau o dan is-adran (5), ymysg pethau eraill—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r adolygiad gael ei gynnal gan berson o safle uwch priodol nad yw wedi bod yn ymwneud â’r penderfyniad, a

(b)dynodi amgylchiadau pan fo hawl gan ddeiliad y contract i wrandawiad llafar, a dynodi a ganiateir iddo gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad o’r fath, a chan bwy.

PENNOD 9HAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)

204Hawliadau meddiant

(1)Ni chaiff y llys wrando hawliad meddiant a wneir gan y landlord o dan gontract meddiannaeth—

(a)os yw’r landlord wedi methu â gweithredu yn unol â pha un bynnag o’r darpariaethau a ganlyn sy’n gymwys—

(i)adran 126 (amrywio contract safonol cyfnodol drwy hysbysiad y landlord);

(ii)adran 159 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn tor contract);

(iii)adran 161 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant ar seiliau rheoli ystad);

(iv)adran 166 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn hysbysiad deiliad y contract: contractau diogel);

(v)adran 171 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnodol);

(vi)adran 175 (cyfyngiad ar roi hysbysiad y landlord o dan gontract safonol cyfnodol yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth);

(vii)adrannau 176, 177 a 179 (cyfyngiadau yn ymwneud â hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnodol);

(viii)adran 182 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnodol);

(ix)adran 186 (cyfyngiad yn ymwneud â hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol);

(x)adran 188 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnod penodol);

(xi)adran 192 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant ar ôl defnyddio cymal terfynu deiliad contract mewn contract safonol cyfnod penodol);

(xii)adran 196 (cyfyngiad ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord mewn contract safonol cyfnod penodol yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth);

(xiii)adrannau 197, 198 a 200 (cyfyngiadau yn ymwneud â chymal terfynu’r landlord mewn contract safonol cyfnod penodol);

(xiv)adran 203 (adolygiad o benderfyniad i roi hysbysiad yn ceisio meddiant: contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig), neu

(b)os oedd yn ofynnol i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant a’i fod wedi methu â chydymffurfio ag adran 150 neu (mewn perthynas â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig) adran 151.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r llys yn ystyried ei bod yn rhesymol hepgor y gofynion a grybwyllir yn yr is-adran honno.

(3)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i gais am orchymyn adennill meddiant yn erbyn isddeiliad o dan adran 65(2) (gorchymyn adennill meddiant estynedig).

205Gorchmynion adennill meddiant

(1)Ni chaiff y llys wneud gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth ildio meddiant o’r annedd ond ar un neu ragor o’r seiliau yn—

(a)adran 157 (tor contract);

(b)adran 160 (rheoli ystad);

(c)adran 165 (hysbysiad deiliad y contract: contractau diogel);

(d)adran 170 (hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnodol);

(e)adran 178 (hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnodol);

(f)adran 181 (ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnodol);

(g)adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol);

(h)adran 187 (ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnod penodol);

(i)adran 191 (hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnod penodol);

(j)adran 199 (hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnod penodol).

(2)Pan fo’n ofynnol i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar sail nad yw wedi ei phennu yn hysbysiad adennill meddiant y landlord.

(3)Ond caiff y llys ganiatáu addasu neu ychwanegu at y sail (neu’r seiliau) a bennir yn yr hysbysiad adennill meddiant ar unrhyw adeg cyn i’r llys wneud gorchymyn adennill meddiant.

206Effaith gorchymyn adennill meddiant

(1)Os yw’r llys yn gwneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn y gorchymyn, daw’r contract i ben—

(a)os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad hwnnw, neu cyn hynny, ar y dyddiad hwnnw,

(b)os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond cyn gweithredu’r gorchymyn adennill meddiant, ar y diwrnod y mae’n ildio meddiant o’r annedd, neu

(c)os nad yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd cyn gweithredu’r gorchymyn adennill meddiant, pan weithredir y gorchymyn adennill meddiant.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys—

(a)os yw’n amod o’r gorchymyn fod yn rhaid i’r landlord gynnig contract meddiannaeth newydd mewn perthynas â’r un annedd i un neu ragor o’r cyd-ddeiliaid contract (ond nid pob un ohonynt), a

(b)os yw’r cyd-ddeiliad contract hwnnw (neu’r cyd-ddeiliaid contract hynny) yn parhau i feddiannu’r annedd ar ddiwrnod meddiannu’r contract newydd ac ar ôl hynny.

(3)Daw’r contract meddiannaeth y gwnaed y gorchymyn adennill meddiant mewn perthynas ag ef i ben yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract newydd.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

207Cymryd rhan mewn achos

(1)Mae hawl gan berson sy’n meddiannu annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth, ac sydd â hawliau cartref, cyhyd ag y bo’r person yn parhau i’w meddiannu—

(a)i fod yn barti i unrhyw achos ar hawliad meddiant sy’n ymwneud â’r annedd, neu mewn cysylltiad â gorchymyn adennill meddiant o’r annedd, neu

(b)i geisio gohiriad, ataliad neu oediad o dan adran 211, 214 neu 219.

(2)Mae i “hawliau cartref” yr un ystyr ag a roddir i “home rights” yn adran 30(2) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 (p. 27).

208Camliwio neu gelu ffeithiau i gael gorchymyn adennill meddiant

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r llys, ar ôl i’r landlord o dan gontract meddiannaeth gael gorchymyn adennill meddiant yn erbyn deiliad y contract, yn fodlon bod y gorchymyn wedi ei gael drwy gamliwio neu gelu ffeithiau perthnasol.

(2)Caiff y llys orchymyn i’r landlord dalu i ddeiliad y contract unrhyw swm sy’n ymddangos yn ddigollediad digonol am niwed neu golled a gafodd deiliad y contract o ganlyniad i’r gorchymyn.

PENNOD 10HAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS MEWN PERTHYNAS Â SEILIAU YN ÔL DISGRESIWN(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)

209Sail tor contract

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract).

(2)Ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail honno oni bai ei fod yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny.

(3)Nid yw’r llys wedi ei atal rhag gwneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail honno ond am fod deiliad y contract wedi rhoi’r gorau i gyflawni’r tor contract cyn i’r landlord wneud yr hawliad meddiant.

(4)Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhesymoldeb gwneud gorchymyn adennill meddiant.

210Seiliau rheoli ystad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn gwneud hawliad meddiant o dan adran 160 ar un neu ragor o’r seiliau rheoli ystad.

(2)Ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail honno (neu ar y seiliau hynny) oni bai—

(a)ei fod yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny, a

(b)ei fod yn fodlon bod llety arall addas ar gael i ddeiliad y contract (neu y bydd ar gael i ddeiliad y contract pan fydd y gorchymyn yn cael effaith).

(3)Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhesymoldeb gwneud gorchymyn am feddiant.

(4)Penderfynir a oes llety arall addas ar gael i ddeiliad y contract neu a fydd ar gael gan roi sylw i Atodlen 11.

(5)Os yw’r landlord yn gwneud hawliad meddiant ar Sail B o’r seiliau rheoli ystad a bod y cynllun ailddatblygu yn cael ei gymeradwyo o dan Ran 2 o Atodlen 8 yn ddarostyngedig i amodau, ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant oni bai ei fod yn fodlon bod yr amodau wedi eu bodloni, neu y cânt eu bodloni.

(6)Os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant a’i bod yn ofynnol i’r landlord dalu swm i ddeiliad y contract o dan adran 160(4), o ran y swm sy’n daladwy—

(a)os nad yw wedi ei gytuno rhwng y landlord a deiliad y contract, mae i’w ddyfarnu gan y llys, a

(b)gellir ei adennill oddi wrth y landlord fel dyled sifil.

211Pwerau i ohirio achosion ac i ohirio ildio meddiant

(1)Os yw hawliad meddiant a wneir gan landlord yn dibynnu ar y sail yn adran 157 (tor contract) neu ar un neu ragor o’r seiliau rheoli ystad, caiff y llys ohirio’r achos ar yr hawliad am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy’n rhesymol yn ei farn.

(2)Os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant o dan adran 209 neu 210, caiff (wrth wneud y gorchymyn neu ar unrhyw adeg cyn gweithredu’r gorchymyn) ohirio ildio meddiant am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy’n briodol yn ei farn.

(3)Gellir gohirio ildio meddiant drwy’r gorchymyn adennill meddiant, neu drwy atal neu oedi cyn gweithredu’r gorchymyn adennill meddiant.

(4)Pan geir gohiriad o dan yr adran hon, rhaid i’r llys osod amodau o ran—

(a)talu ôl-ddyledion rhent (os oes rhai) gan ddeiliad y contract, a

(b)parhau i dalu’r rhent (os oes rhent i’w dalu),

oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud hynny’n achosi caledi eithriadol i ddeiliad y contract neu y byddai’n afresymol fel arall.

(5)Caiff y llys osod unrhyw amodau eraill sy’n briodol yn ei farn.

(6)Os yw deiliad y contract yn cydymffurfio â’r amodau, caiff y llys ryddhau’r gorchymyn am feddiant.

(7)Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhesymoldeb gohiriad.

PENNOD 11HAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS MEWN PERTHYNAS Â SEILIAU ABSOLIWT(NID YW’R BENNOD HON OND YN GYMWYS I GONTRACTAU DIOGEL)

212Sail hysbysiad deiliad y contract

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os—

(a)yw’r landlord o dan gontract diogel yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 165 (hysbysiad deiliad y contract), a

(b)yw’r llys yn fodlon bod y sail wedi ei phrofi.

(2)Rhaid i’r llys wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 213 (adolygiad gan y llys sirol).

213Adolygiad o hawliad a wneir ar sail absoliwt

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw landlord o dan gontract diogel yn gwneud hawliad meddiant yn y llys sirol ar y sail yn adran 165 (deiliad y contract yn methu ag ildio meddiant yn dilyn hysbysiad deiliad y contract), ac—

(a)bod y landlord yn landlord cymunedol, neu

(b)bod penderfyniad y landlord i wneud hawliad meddiant ar y sail honno yn ddarostyngedig i adolygiad barnwrol.

(2)Caiff deiliad y contract wneud cais yn yr achos adennill meddiant am adolygiad gan y llys sirol o benderfyniad y landlord i wneud yr hawliad.

(3)Caiff y llys sirol gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu.

(4)Wrth ystyried a ddylai gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu, rhaid i’r llys sirol gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys pan wneir cais am adolygiad barnwrol.

(5)Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad caiff—

(a)rhoi’r hysbysiad adennill meddiant o’r neilltu a gwrthod yr achos adennill meddiant;

(b)gwneud unrhyw orchymyn y gallai’r Uchel Lys ei wneud wrth wneud gorchymyn diddymu ar gais am adolygiad barnwrol.

(6)Ni chaiff deiliad y contract wneud cais o dan is-adran (2) ar ôl i orchymyn adennill meddiant gael ei wneud mewn perthynas â’r annedd.

214Pwerau i ohirio ildio meddiant

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant o annedd o dan adran 212.

(2)Ni chaiff y llys ohirio ildio meddiant hyd ddyddiad diweddarach na 14 diwrnod ar ôl gwneud y gorchymyn, oni bai ei bod yn ymddangos i’r llys y câi caledi eithriadol ei achosi pe na byddai ildio meddiant yn cael ei ohirio hyd ddyddiad diweddarach.

(3)Ni chaniateir gohirio ildio meddiant hyd ddyddiad diweddarach na chwe wythnos ar ôl gwneud y gorchymyn mewn unrhyw achos.

(4)Caniateir gohirio ildio meddiant drwy’r gorchymyn adennill meddiant, neu drwy atal neu oedi cyn gweithredu’r gorchymyn adennill meddiant.

PENNOD 12HAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS MEWN PERTHYNAS Â SEILIAU ABSOLIWT(NID YW’R BENNOD HON OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL)

Seiliau meddiant absoliwt mewn perthynas â chontractau safonol

215Seiliau rhoi hysbysiad

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os—

(a)yw’r landlord o dan gontract safonol yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 170 neu 191 (hysbysiad deiliad y contract) neu adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol), a

(b)yw’r llys yn fodlon bod y sail wedi ei phrofi.

(2)Rhaid i’r llys wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys os—

(a)yw’r landlord o dan gontract safonol yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178 neu 199 (hysbysiad y landlord), a

(b)yw’r llys yn fodlon bod y sail wedi ei phrofi.

(4)Rhaid i’r llys wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd oni bai bod adran 217 (troi allan dialgar) yn gymwys (ac yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(5)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 218 (adolygiad gan y llys sirol).

216Seiliau ôl-ddyledion rhent difrifol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract safonol yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 181 neu 187 (ôl-ddyledion rhent difrifol).

(2)Os yw’r llys yn fodlon bod gan ddeiliad y contract—

(a)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y rhoddodd y landlord hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, a

(b)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y mae’r llys yn gwrando’r achos ar yr hawliad meddiant,

rhaid iddo wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae adran 181(2) neu (yn ôl y digwydd) adran 187(2) yn gymwys er mwyn penderfynu a oes gan ddeiliad contract ôl-ddyledion rhent difrifol.

(4)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 218 (adolygiad gan y llys sirol).

Troi allan dialgar: sail absoliwt sy’n dod yn sail yn ôl disgresiwn

217Hawliadau meddiant dialgar er mwyn osgoi rhwymedigaethau i atgyweirio etc.

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw landlord o dan gontract safonol yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178 neu adran 199 (hysbysiad y landlord), a

(b)os yw’r llys o’r farn bod yr hawliad yn hawliad dialgar.

(2)Caiff y llys wrthod gwneud gorchymyn adennill meddiant.

(3)Mae hawliad meddiant yn hawliad dialgar—

(a)os yw deiliad y contract wedi gorfodi rhwymedigaethau’r landlord o dan adran 91 neu 92 neu wedi dibynnu arnynt, a

(b)os yw’r llys yn fodlon bod y landlord wedi gwneud yr hawliad meddiant er mwyn osgoi cydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy reoliadau at ddiben darparu ar gyfer disgrifiadau pellach o hawliad dialgar.

Adolygiad a gohirio

218Adolygiad o hawliad a wneir ar sail absoliwt

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw landlord o dan gontract safonol yn gwneud hawliad meddiant yn y llys sirol ar sail mewn adran y mae is-adran (2) yn gymwys iddi, a—

(a)bod y landlord yn landlord cymunedol, neu

(b)bod penderfyniad y landlord i wneud hawliad meddiant ar y sail honno yn ddarostyngedig i adolygiad barnwrol.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r adrannau a ganlyn—

(a)adran 170 (hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnodol),

(b)adran 178 (hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnodol),

(c)adran 181 (ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnodol),

(d)adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol),

(e)adran 187 (ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnod penodol),

(f)adran 191 (hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnod penodol), ac

(g)adran 199 (hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnod penodol).

(3)Caiff deiliad y contract wneud cais yn ystod yr achos adennill meddiant am adolygiad gan y llys sirol o benderfyniad y landlord i wneud yr hawliad.

(4)Caiff deiliad y contract wneud cais o dan yr adran hon ni waeth a ofynnodd am adolygiad gan y landlord o dan adran 202 (contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig) ai peidio.

(5)Ond ni chaiff deiliad y contract wneud cais o dan yr adran hon ar y sail fod yr hawliad meddiant yn hawliad dialgar (o fewn ystyr adran 217).

(6)Caiff y llys sirol gadarnhau’r penderfyniad i wneud yr hawliad neu ei ddiddymu.

(7)Wrth ystyried a ddylai gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu, rhaid i’r llys sirol gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys pan wneir cais am adolygiad barnwrol.

(8)Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad caiff—

(a)rhoi’r hysbysiad adennill meddiant neu (yn ôl y digwydd) hysbysiad y landlord o’r neilltu a gwrthod yr achos adennill meddiant;

(b)gwneud unrhyw orchymyn y gallai’r Uchel Lys ei wneud wrth wneud gorchymyn diddymu ar gais am adolygiad barnwrol.

(9)Ni chaiff deiliad y contract wneud cais o dan is-adran (3) ar ôl i orchymyn adennill meddiant gael ei wneud mewn perthynas â’r annedd.

219Pwerau i ohirio ildio meddiant

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant o annedd o dan adran 215 neu 216.

(2)Ni chaiff y llys ohirio ildio meddiant hyd ddyddiad diweddarach na 14 diwrnod ar ôl gwneud y gorchymyn, oni bai ei bod yn ymddangos i’r llys y câi caledi eithriadol ei achosi pe na byddai ildio meddiant yn cael ei ohirio tan ddyddiad diweddarach.

(3)Ni chaniateir gohirio ildio meddiant hyd ddyddiad diweddarach na chwe wythnos ar ôl gwneud y gorchymyn mewn unrhyw achos.

(4)Caniateir gohirio ildio meddiant drwy’r gorchymyn adennill meddiant, neu drwy atal neu oedi cyn gweithredu’r gorchymyn adennill meddiant.

PENNOD 13CEFNU(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)

220Meddiannu anheddau y cefnwyd arnynt

(1)Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth perthnasol yn credu bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd, caiff y landlord adennill meddiant o’r annedd yn unol â’r adran hon.

(2)Mae contract meddiannaeth yn berthnasol os yw’n un o delerau’r contract (ym mha fodd bynnag y’i mynegir) bod yn rhaid i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref.

(3)Rhaid i’r landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract—

(a)yn datgan bod y landlord yn credu bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd,

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract hysbysu’r landlord mewn ysgrifen cyn diwedd y cyfnod rhybuddio os nad yw deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd, ac

(c)yn hysbysu deiliad y contract o fwriad y landlord i derfynu’r contract os yw’r landlord, ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio, yn fodlon bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd.

(4)Yn ystod y cyfnod rhybuddio rhaid i’r landlord wneud unrhyw ymholiadau sy’n angenrheidiol er mwyn bodloni ei hun bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd.

(5)Ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio caiff y landlord, os yw’n fodlon fel y disgrifir yn is-adran (4), derfynu’r contract drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract.

(6)Daw’r contract i ben pan roddir yr hysbysiad o dan is-adran (5) i ddeiliad y contract.

(7)Os terfynir contract meddiannaeth o dan yr adran hon caiff y landlord adennill meddiant o’r annedd heb achos llys.

(8)Y cyfnod rhybuddio yw’r cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (3) i ddeiliad y contract.

(9)Rhaid i’r landlord roi copi o hysbysiad o dan is-adran (3) a chopi o hysbysiad o dan is-adran (5) i unrhyw letywr neu isddeiliad i ddeiliad y contract.

221Gwaredu eiddo

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau mewn cysylltiad â diogelu eiddo (ac eithrio eiddo’r landlord) sydd yn yr annedd pan ddaw contract i ben o dan adran 220, a’i draddodi i’w berchennog.

(2)Caiff y rheoliadau, ymysg pethau eraill—

(a)darparu bod traddodi eiddo yn amodol ar dalu treuliau yr aed iddynt gan y landlord;

(b)awdurdodi gwaredu eiddo ar ôl cyfnod rhagnodedig;

(c)caniatáu i’r landlord gymhwyso unrhyw enillion o werthi eiddo tuag at dalu’r treuliau yr aed iddynt gan y landlord a’r symiau sy’n ddyledus gan ddeiliad y contract o dan y contract.

222Rhwymedïau deiliad y contract

(1)Caiff deiliad contract, cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 220(5), wneud cais i’r llys ar un neu ragor o’r seiliau yn is-adran (2) am ddatganiad neu orchymyn o dan is-adran (3).

(2)Y seiliau yw—

(a)bod y landlord wedi methu â rhoi hysbysiad o dan adran 220(3) neu wedi methu â gwneud yr ymholiadau sy’n ofynnol yn ôl adran 220(4);

(b)nad oedd deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd a bod rheswm da dros ei fethiant i ymateb (neu i ymateb yn ddigonol) i’r hysbysiad o dan adran 220(3);

(c)nad oedd gan y landlord, pan roddodd yr hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 220(5), seiliau rhesymol dros fod yn fodlon bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd.

(3)Os yw’r llys yn canfod bod un neu ragor o’r seiliau wedi ei phrofi neu eu profi, caiff—

(a)gwneud datganiad nad oes unrhyw effaith i’r hysbysiad o dan adran 220(5) a bod y contract meddiannaeth yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r annedd,

(b)gorchymyn i’r landlord ddarparu llety arall addas i ddeiliad y contract, neu

(c)gwneud unrhyw orchymyn arall sy’n briodol yn ei farn.

(4)Os yw’r llys yn gwneud y naill neu’r llall o’r pethau a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b) o is-adran (3), caiff wneud unrhyw orchymyn arall y mae’n ei ystyried yn briodol.

(5)Mae addasrwydd llety arall i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 11.

223Pŵer i amrywio cyfnodau yn ymwneud â chefnu

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)diwygio adran 220(8) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd;

(b)diwygio adran 222(1) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd.

224Hawliau mynediad

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth perthnasol yn credu’n rhesymol bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd.

(2)Caiff y landlord fynd i’r annedd unrhyw bryd er mwyn ei gwneud yn ddiogel neu i ddiogelu ei chynnwys ac unrhyw osodion neu ffitiadau, a chaiff ddefnyddio grym rhesymol i wneud hynny.

(3)Mae contract meddiannaeth yn berthnasol os yw’n un o delerau’r contract (ym mha fodd bynnag y’i mynegir) bod rhaid i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref.

PENNOD 14CYD-DDEILIAID CONTRACT: GWAHARDD A THERFYNU(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)

Gwahardd cyd-ddeiliaid contract

225Anfeddiannaeth: gwahardd gan y landlord

(1)Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn credu nad yw cyd-ddeiliad contract y mae’n ofynnol iddo feddiannu’r annedd (“C”)—

(a)yn meddiannu’r annedd, na

(b)yn bwriadu ei meddiannu,

caiff y landlord derfynu hawliau a rhwymedigaethau C yn unol â’r adran hon.

(2)Mae’n ofynnol i gyd-ddeiliad contract feddiannu’r annedd os yw’n un o delerau’r contract (ym mha fodd bynnag y’i mynegir) bod yn rhaid iddo feddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref.

(3)Rhaid i’r landlord roi hysbysiad i C—

(a)yn datgan bod y landlord yn credu nad yw C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu,

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i C hysbysu’r landlord mewn ysgrifen cyn diwedd y cyfnod rhybuddio os yw C yn meddiannu neu’n bwriadu meddiannu’r annedd, ac

(c)yn hysbysu C o fwriad y landlord i derfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract os yw’r landlord, ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio, yn fodlon nad yw C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu.

(4)Y cyfnod rhybuddio yw’r cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (3) i C.

(5)Yn ystod y cyfnod rhybuddio rhaid i’r landlord wneud unrhyw ymholiadau sy’n angenrheidiol er mwyn bodloni ei hun nad yw C yn meddiannu’r annedd nac yn bwriadu ei meddiannu.

(6)Ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio caiff y landlord, os yw’n fodlon fel y disgrifir yn is-adran (5), derfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract drwy roi hysbysiad iddo.

(7)Mae C yn peidio â bod yn barti i’r contract ar ddiwedd y cyfnod o wyth wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad iddo o dan is-adran (6).

(8)Rhaid i’r landlord roi copi o hysbysiad o dan is-adran (3) a chopi (os rhoddwyd un i C) o hysbysiad o dan is-adran (6) i bob un o’r cyd-ddeiliaid contract eraill.

226Rhwymedïau am wahardd o dan adran 225

(1)Caiff C, cyn diwedd y cyfnod o wyth wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 225(6), wneud cais i’r llys ar un neu ragor o’r seiliau yn is-adran (2) am ddatganiad o dan is-adran (3).

(2)Y seiliau yw—

(a)bod y landlord wedi methu â rhoi hysbysiad o dan adran 225(3) neu wedi methu â gwneud yr ymholiadau sy’n ofynnol yn ôl adran 225(5);

(b)bod C yn meddiannu’r annedd, neu’n bwriadu ei meddiannu, a bod rheswm da dros ei fethiant i ymateb (neu i ymateb yn ddigonol) i’r hysbysiad o dan adran 225(3);

(c)nad oedd gan y landlord, pan roddodd yr hysbysiad i C o dan adran 225(6), seiliau rhesymol dros fod yn fodlon nad oedd C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu.

(3)Os yw’r llys yn canfod bod un neu ragor o’r seiliau wedi ei phrofi neu eu profi, caiff—

(a)gwneud datganiad nad oes unrhyw effaith i’r hysbysiad o dan adran 225(6) a bod C yn parhau i fod yn barti i’r contract, a

(b)gwneud unrhyw orchymyn pellach y mae’n ei ystyried yn briodol.

227Anfeddiannaeth: gwahardd gan gyd-ddeiliad contract

(1)Os yw cyd-ddeiliad contract (“A”) yn credu nad yw cyd-ddeiliad contract arall (“C”) y mae’n ofynnol iddo feddiannu’r annedd o dan gontract meddiannaeth—

(a)yn meddiannu’r annedd, na

(b)yn bwriadu ei meddiannu,

caniateir terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract yn unol â’r adran hon.

(2)Mae’n ofynnol i gyd-ddeiliad contract feddiannu’r annedd os yw’n un o delerau’r contract (ym mha fodd bynnag y’i mynegir) bod yn rhaid iddo feddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref.

(3)Rhaid i A roi hysbysiad i C—

(a)yn datgan bod A yn credu nad yw C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu,

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i C hysbysu A mewn ysgrifen cyn diwedd y cyfnod rhybuddio os yw C yn meddiannu neu’n bwriadu meddiannu’r annedd, ac

(c)yn hysbysu C y gall hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract gael eu terfynu os yw A yn fodlon, ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio, nad yw C yn meddiannu’r annedd nac yn bwriadu ei meddiannu.

(4)Rhaid i A roi copi o hysbysiad o dan is-adran (3)—

(a)i’r landlord, a

(b)os oes cyd-ddeiliaid contract heblaw A ac C, i bob un o’r cyd-ddeiliaid contract eraill hynny.

(5)Yn ystod y cyfnod rhybuddio, rhaid i A wneud unrhyw ymholiadau sy’n angenrheidiol er mwyn ei fodloni ei hun nad yw C yn meddiannu’r annedd nac yn bwriadu ei meddiannu.

(6)Ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio caiff A, os yw’n fodlon fel y disgrifir yn is-adran (5), wneud cais i’r llys am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract meddiannaeth.

(7)Os yw’r llys yn fodlon nad yw C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu, caiff wneud y gorchymyn y gwneir cais amdano o dan is-adran (6).

(8)Ond ni chaiff wneud y gorchymyn os gellir priodoli’r ffaith nad yw C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu, i’r ffaith bod A neu gyd-ddeiliad contract arall wedi methu â chydymffurfio ag adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall).

(9)Os yw’r llys yn gwneud y gorchymyn, mae C yn peidio â bod yn barti i’r contract ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn.

(10)Y cyfnod rhybuddio yw’r cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (3) i C.

228Rhwymedïau am wahardd o dan adran 227

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw’r llys yn gwneud gorchymyn o dan adran 227(7) sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract meddiannaeth.

(2)Cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y gorchymyn, caiff C wneud cais i’r llys ar un neu ragor o’r seiliau yn is-adran (3) am orchymyn a datganiad o dan is-adran (4)(a).

(3)Y seiliau yw—

(a)bod A wedi methu â rhoi hysbysiad o dan adran 227(3) neu wedi methu â gwneud yr ymholiadau sy’n ofynnol yn ôl adran 227(5);

(b)bod C yn meddiannu neu’n bwriadu meddiannu’r annedd a bod rheswm da dros ei fethiant i ymateb (neu i ymateb yn ddigonol) i’r hysbysiad o dan adran 227(3);

(c)nad oedd gan A, pan wnaeth gais i’r llys, seiliau rhesymol dros fod yn fodlon nad oedd C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu.

(4)Os yw’r llys yn canfod bod un neu ragor o’r seiliau wedi ei phrofi neu eu profi caiff—

(a)dadwneud ei orchymyn drwy orchymyn o dan adran 227, a gwneud datganiad bod C yn parhau i fod yn barti i’r contract meddiannaeth, a

(b)gwneud unrhyw orchymyn pellach y mae’n ei ystyried yn briodol.

229Pŵer i amrywio cyfnodau sy’n ymwneud â gwahardd cyd-ddeiliad contract

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)diwygio adran 225(4) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd;

(b)diwygio adran 226(1) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd;

(c)diwygio adran 227(10) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd;

(d)diwygio adran 228(2) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd.

230Ymddygiad gwaharddedig: gwahardd gan y landlord

(1)Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn credu bod cyd-ddeiliad contract (“C”) wedi torri adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall), caniateir terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract yn unol â’r adran hon.

(2)Rhaid i’r landlord roi hysbysiad i C—

(a)yn datgan bod y landlord yn credu bod C wedi torri adran 55,

(b)yn rhoi manylion y toriad, ac

(c)yn datgan y bydd y landlord yn gwneud cais i’r llys am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract.

(3)Rhaid i’r landlord roi hysbysiad i’r cyd-ddeiliaid contract eraill—

(a)yn datgan bod y landlord yn credu bod C wedi torri adran 55, a

(b)yn datgan y bydd y landlord yn gwneud cais i’r llys am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract.

(4)Caiff y landlord wneud cais i’r llys am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad i C o dan is-adran (2).

(5)Caiff y llys wneud gorchymyn o’r fath pe byddai wedi gwneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn C pe byddai’r amgylchiadau wedi bod y rheini a grybwyllir yn is-adran (6).

(6)Yr amgylchiadau yw—

(a)mai C oedd yr unig ddeiliad contract o dan y contract, a

(b)bod y landlord wedi gwneud hawliad meddiant yn erbyn C ar y sail bod C wedi torri adran 55.

(7)Os yw’r llys yn gwneud y gorchymyn, mae C yn peidio â bod yn barti i’r contract ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn.

Terfynu

231Terfynu contract meddiannaeth sydd â chyd-ddeiliaid contract

(1)Os oes cyd-ddeiliaid contract o dan gontract meddiannaeth, ni ellir dod â’r contract i ben drwy weithred gan un neu ragor o gyd-ddeiliaid y contract yn gweithredu heb y cyd-ddeiliad contract arall neu’r cyd-ddeiliaid contract eraill.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

PENNOD 15FFORFFEDIAD A RHYBUDD I YMADAEL HEB FOD AR GAEL

232Fforffediad a rhybuddion i ymadael

(1)Ni chaiff landlord o dan gontract meddiannaeth ddibynnu ar—

(a)unrhyw ddarpariaeth yn y contract ar gyfer ailfynediad neu fforffediad, na

(b)unrhyw ddeddfiad (oni bai am y Ddeddf hon neu ddeddfiad a wneir oddi tani) neu reol gyfreithiol yn ymwneud ag ailfynediad neu fforffediad.

(2)Ni chaiff landlord o dan gontract meddiannaeth gyflwyno rhybudd i ymadael.

(3)Yn unol â hynny nid oes unrhyw effaith i unrhyw ddarpariaeth mewn contract meddiannaeth ar gyfer ailfynediad neu fforffediad, neu’n ymwneud â rhybudd i ymadael gan y landlord neu’r amgylchiadau y caniateir cyflwyno rhybudd o’r fath.

RHAN 10AMRYWIOL

PENNOD 1DARPARIAETHAU PELLACH YN YMWNEUD Â CHONTRACTAU MEDDIANNAETH

Effaith cyrraedd 18

233Effaith cyrraedd 18

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i denantiaeth neu drwydded nad yw’n gontract meddiannaeth am fod paragraff 7(2) o Atodlen 2 (pob un o’r rheini y gwneir tenantiaeth neu drwydded â hwy o dan 18) yn gymwys iddi.

(2)Pan fydd y person perthnasol yn cyrraedd 18 oed, rhaid ateb y cwestiynau canlynol fel pe bai’r denantiaeth neu’r drwydded wedi ei gwneud ar y diwrnod y mae’r person yn cyrraedd yr oed hwnnw—

(a)pa un a yw’r denantiaeth neu’r drwydded yn gontract meddiannaeth,

(b)pwy yw deiliaid y contract o dan y contract, ac

(c)a yw’n gontract diogel neu’n gontract safonol.

(3)Y person perthnasol—

(a)os gwneir y denantiaeth neu’r drwydded gydag un person, yw’r person hwnnw, a

(b)os gwneir y denantiaeth neu’r drwydded gyda mwy nag un person, yw’r cyntaf ohonynt i gyrraedd 18 oed.

Rhwymedigaethau landlordiaid cymunedol i ymgynghori

234Trefniadau ymgynghori

(1)Rhaid i landlord cymunedol wneud a chynnal unrhyw drefniadau sy’n briodol yn ei farn⁠—

(a)er mwyn hysbysu deiliaid contract o dan gontractau meddiannaeth gyda’r landlord am gynigion perthnasol ar faterion rheoli tai, a

(b)er mwyn rhoi cyfle rhesymol i ddeiliaid contract wneud sylwadau ar y cynigion.

(2)Nid yw’r dyletswyddau yn is-adran (1)—

(a)ond yn gymwys pan fo cynnig perthnasol ar fater rheoli tai yn debygol o effeithio’n sylweddol ar yr holl ddeiliaid contract o dan gontractau meddiannaeth gyda’r landlord, neu ar grŵp perthnasol o ddeiliaid contract o’r fath, a

(b)ond yn gymwys mewn perthynas â’r deiliaid contract sy’n debygol o gael eu heffeithio’n sylweddol.

(3)Cyn gwneud unrhyw benderfyniad ar gynnig perthnasol ar fater rheoli tai, rhaid i’r landlord ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan ddeiliaid contract yn unol â’r trefniadau.

(4)Ystyr “cynnig perthnasol ar fater rheoli tai” yw cynnig sydd, ym marn y landlord, yn ymwneud â—

(a)rhaglen newydd i gynnal, gwella neu ddymchwel anheddau sy’n ddarostyngedig i gontractau meddiannaeth, neu

(b)newid arferion neu bolisi’r landlord o ran rheoli, cynnal, gwella neu ddymchwel anheddau o’r fath.

(5)Ond nid yw cynnig yn gynnig perthnasol ar fater rheoli tai i’r graddau y mae’n ymwneud ag—

(a)y rhent sy’n daladwy neu gydnabyddiaeth arall sy’n ddyledus i’r landlord, neu

(b)tâl a godir am wasanaethau a chyfleusterau a ddarperir gan y landlord.

(6)Ystyr “grŵp perthnasol” yw grŵp sy’n—

(a)ffurfio grŵp cymdeithasol penodol, neu

(b)meddiannu anheddau sy’n ffurfio dosbarth penodol (boed drwy gyfeiriad at y math o annedd, neu’r ystad dai neu ardal arall mwy o faint y maent wedi eu lleoli ynddi).

(7)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i baragraff 12(7) yn Rhan 2 o Atodlen 8 (cymeradwyo cynlluniau ailddatblygu).

235Datganiad o drefniadau ymgynghori

(1)Rhaid i landlord y mae’n ofynnol iddo wneud trefniadau o dan adran 234 baratoi a chyhoeddi datganiad o’r trefniadau.

(2)Os yw’r landlord yn awdurdod tai lleol, rhaid iddo sicrhau bod copi o’r datganiad ar gael i’w archwilio gan aelodau’r cyhoedd ar bob adeg resymol, yn ddi-dâl, ym mhrif swyddfa’r landlord.

(3)Os yw’r landlord yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig, rhaid iddo anfon copi o’r datganiad at Weinidogion Cymru a’r awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y mae’r anheddau wedi ei lleoli ynddi.

(4)Rhaid i awdurdod tai lleol yr anfonir copi ato o dan is-adran (3) sicrhau ei fod ar gael i’w archwilio gan aelodau’r cyhoedd ar bob adeg resymol, yn ddi-dâl, yn ei brif swyddfa.

(5)Rhaid i’r landlord roi copi o’r datganiad—

(a)i unrhyw ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth gyda’r landlord sy’n gofyn am un, yn ddi-dâl, a

(b)i unrhyw berson arall sy’n gofyn am un, o dalu ffi resymol.

(6)Rhaid i’r landlord hefyd—

(a)paratoi crynodeb o’r datganiad, a

(b)darparu copi o’r crynodeb yn ddi-dâl i unrhyw berson sy’n gofyn am un.

Hysbysiadau, datganiadau a dogfennau eraill

236Ffurf hysbysiadau, datganiadau a dogfennau eraill

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall (gan gynnwys copi o ddogfen) y mae’n ofynnol neu yr awdurdodir ei roi neu ei wneud (neu ei rhoi neu ei gwneud) gan y Ddeddf hon neu oherwydd y Ddeddf hon.

(2)Rhaid i’r hysbysiad neu’r ddogfen fod mewn ysgrifen.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi ffurf yr hysbysiad neu’r ddogfen, ac oni bai bod y rheoliadau yn darparu fel arall, nid oes unrhyw effaith i hysbysiad neu ddogfen nad yw yn y ffurf ragnodedig.

(4)Caiff yr hysbysiad neu’r ddogfen fod ar ffurf electronig (yn ddarostyngedig i adran 237(4)) ar yr amod—

(a)ei fod neu ei bod yn cynnwys llofnod electronig ardystiedig pob person y mae’n ofynnol iddo ei lofnodi neu ei gyflawni (neu ei llofnodi neu ei chyflawni), a

(b)ei fod neu ei bod yn cydymffurfio ag unrhyw amodau eraill a gaiff eu rhagnodi.

(5)Mae hysbysiad neu ddogfen o fewn is-adran (4) i’w drin neu ei thrin fel pe bai wedi ei lofnodi neu ei gyflawni (neu ei llofnodi neu ei chyflawni) gan bob person y mae ei lofnod electronig wedi ei ddilysu arno neu arni.

(6)Os yw hysbysiad neu ddogfen ar ffurf electronig yn cael ei ddilysu neu ei dilysu gan berson fel asiant, mae i’w hystyried at ddibenion unrhyw ddeddfiad fel pe bai wedi ei ddilysu neu ei dilysu gan y person hwnnw o dan awdurdod ysgrifenedig pennaeth y person hwnnw.

(7)Mae cyfeiriadau at lofnod electronig ac at ardystio llofnod o’r fath i’w darllen yn unol ag adran 7(2) a (3) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000 (p. 7).

237Rhoi hysbysiadau, datganiadau a dogfennau eraill

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r Ddeddf hon yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi person—

(a)i hysbysu person am rywbeth, neu

(b)i roi dogfen i berson (gan gynnwys hysbysiad neu gopi o ddogfen).

(2)Caniateir rhoi’r hysbysiad neu’r ddogfen i berson—

(a)drwy ei ddanfon neu ei danfon i’r person,

(b)drwy ei adael neu ei gadael yn, neu ei bostio neu ei phostio i, un o’r mannau a grybwyllir yn is-adran (3), neu

(c)os bodlonir yr amodau yn is-adran (4), drwy ei anfon neu ei hanfon at y person ar ffurf electronig.

(3)Y mannau yw—

(a)preswylfa neu fan busnes hysbys olaf y person,

(b)unrhyw fan a bennir gan y person fel rhywle y gellir rhoi hysbysiadau neu ddogfennau i’r person, neu

(c)os rhoddir yr hysbysiad neu’r ddogfen i berson yn rhinwedd y ffaith ei fod yn ddeiliad contract, yr annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth.

(4)Caniateir rhoi hysbysiad neu ddogfen i berson drwy ei anfon neu ei hanfon ar ffurf electronig os yw’n bodloni’r amodau yn adran 236(4), ac unrhyw amodau a wneir o dan yr is-adran honno, ac—

(a)bod y person wedi nodi parodrwydd i dderbyn yr hysbysiad neu’r ddogfen yn electronig,

(b)bod y testun yn cael ei dderbyn gan y person ar ffurf ddarllenadwy, ac

(c)y gellir defnyddio’r testun er mwyn cyfeirio ato yn ddiweddarach.

(5)Caniateir rhoi’r hysbysiad neu’r ddogfen i gorff corfforaethol drwy ei roi neu ei rhoi i ysgrifennydd neu i glerc y corff hwnnw.

(6)Mae hysbysiad neu ddogfen a roddir i berson drwy ei adael neu ei gadael yn unrhyw un o’r mannau a grybwyllir yn is-adran (3) i’w drin neu i’w thrin fel pe bai wedi ei roi neu ei rhoi ar yr adeg y’i gadawyd yn y fan honno.

PENNOD 2TRESMASWYR: TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU GOBLYGEDIG

238Tenantiaethau a thrwyddedau goblygedig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw annedd nad yw’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth yn cael ei meddiannu fel cartref gan berson (“T”) sy’n dresmaswr mewn perthynas â’r annedd honno, a

(b)os yw T yn gwneud taliadau mewn perthynas â’i feddiannaeth o’r annedd i berson (“P”) y byddai ganddo hawl (boed ar ei ben ei hun neu ar y cyd) i ddod ag achos yn erbyn T i’w droi allan fel tresmaswr.

(2)Os yw P yn derbyn taliadau o’r fath gan T—

(a)gan wybod bod T yn dresmaswr mewn perthynas â’r annedd, neu

(b)ar adeg pan ddylai P wybod yn rhesymol bod T yn dresmaswr mewn perthynas â’r annedd,

mae P i’w drin fel pe bai wedi gwneud contract cyfnodol â T yn union ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol.

(3)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf y mae P yn derbyn taliad oddi wrth T fel y crybwyllir yn is-adran (2).

(4)Nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw P, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, yn dod ag achos yn erbyn T i’w droi allan fel tresmaswr neu’n dangos bwriad i drin T fel tresmaswr mewn ffordd arall.

(5)Mae contract o dan is-adran (2) naill ai’n denantiaeth neu’n drwydded.

(6)Mae’r denantiaeth neu’r drwydded yn rhoi’r hawl i T feddiannu’r annedd fel cartref o’r diwrnod yn union ar ôl diwrnod olaf y cyfnod perthnasol.

(7)Mae swm y rhent a’r cyfnodau rhentu i’w pennu gan roi sylw i swm ac amlder y taliad neu’r taliadau a wneir gan T ac unrhyw amgylchiadau perthnasol eraill.

(8)Ni chaiff tenantiaeth neu drwydded sy’n rhoi’r hawl i T feddiannu’r annedd fel cartref oddi tani fod yn oblygedig ac eithrio fel y darperir yn yr adran hon; ond nid oes dim yn yr adran hon yn atal P a T rhag gwneud tenantiaeth neu drwydded ffurfiol o’r fath cyn diwedd y cyfnod perthnasol.

PENNOD 3TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU SY’N BODOLI CYN I’R BENNOD HON DDOD I RYM

239Diddymu tenantiaethau sicr, tenantiaethau diogel a thenantiaethau eraill

(1)Ar y diwrnod penodedig ac ar ôl hynny, ni all unrhyw denantiaeth na thrwydded (pryd bynnag y’i gwnaed) fod yn—

(a)contract cyfyngedig;

(b)tenantiaeth fyrddaliol warchodedig;

(c)tenantiaeth ddiogel;

(d)tenantiaeth sicr (sy’n cynnwys tenantiaeth fyrddaliol sicr);

(e)tenantiaeth ragarweiniol;

(f)tenantiaeth isradd.

(2)Pe gallai’r landlord o dan denantiaeth warchodedig neu denantiaeth statudol, yn union cyn y diwrnod penodedig, fod wedi adennill meddiant o’r tŷ annedd sy’n ddarostyngedig i’r denantiaeth o dan Achos 19 o Atodlen 15 i Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) (tenantiaethau byrddaliol gwarchodedig blaenorol), mae’r denantiaeth yn peidio â bod yn denantiaeth warchodedig neu’n denantiaeth statudol ar y diwrnod penodedig.

(3)Nid oes dim yn yr adran hon yn terfynu tenantiaeth neu drwydded sydd o fewn is-adran (1) neu (2).

240Trosi tenantiaethau a thrwyddedau sydd yn bodoli cyn i’r Bennod ddod i rym

(1)At ddibenion penderfynu ar y materion yn is-adran (2), mae tenantiaeth neu drwydded a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig i’w thrin fel pe bai wedi ei gwneud ar y diwrnod penodedig.

(2)Y materion yw—

(a)pa un a yw’r denantiaeth neu’r drwydded yn gontract meddiannaeth,

(b)pwy yw deiliaid y contract o dan y contract, ac

(c)a yw’r contract yn gontract diogel neu’n gontract safonol.

(3)Mae is-adrannau (4) i (7) yn gymwys i denantiaeth neu drwydded sy’n dod yn gontract meddiannaeth ar y diwrnod penodedig.

(4)Mae’r darpariaethau sylfaenol sy’n gymwys i’r contract wedi eu hymgorffori fel telerau o’r contract.

(5)Mae telerau presennol y contract yn parhau i gael effaith, ac eithrio i’r graddau y maent⁠—

(a)yn anghydnaws â darpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract, neu

(b)yn delerau’r contract oherwydd deddfiad a ddiddymir neu a ddirymir o dan y Ddeddf hon.

(6)Mae’r darpariaethau atodol sy’n gymwys i’r contract wedi eu hymgorffori fel telerau o’r contract, ac eithrio i’r graddau y maent yn anghydnaws â thelerau presennol y contract.

(7)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i Atodlen 12 (sy’n gwneud darpariaeth bellach ynghylch tenantiaethau a thrwyddedau sydd eisoes yn bodoli, sy’n addasu’r modd y cymhwysir y Ddeddf hon, ac sy’n cynnwys darpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i gontractau safonol penodol).

241Contractau sydd eisoes yn bodoli

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan wneir, ar neu ar ôl y diwrnod penodedig, denantiaeth neu drwydded yn unol â chontract a wnaed cyn y diwrnod y gwneir y gorchymyn sy’n pennu’r diwrnod penodedig gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae adran 240 ac Atodlen 12 yn gymwys i’r denantiaeth neu’r drwydded—

(a)fel pe bai wedi ei gwneud ar y diwrnod penodedig, a

(b)fel pe bai, yn union cyn y diwrnod hwnnw, yn denantiaeth neu’n drwydded o’r math y byddai wedi bod ar y diwrnod hwnnw oni bai am y Ddeddf hon.

(3)Nid yw paragraffau 2(3), 4(1) a (3), 11, 12, 13 a 23(3) a (7) o Atodlen 12 yn gymwys mewn perthynas â’r denantiaeth neu’r drwydded.

242Dehongli’r Bennod

Yn y Bennod hon—

RHAN 11DARPARIAETHAU TERFYNOL

Dehongli’r Ddeddf

243Awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion dehongli’r Ddeddf hon.

(2)Mae’r canlynol yn awdurdodau lleol—

(a)cyngor sir ar gyfer ardal yng Nghymru,

(b)cyngor bwrdeistref sirol, ac

(c)comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.

(3)Ystyr “awdurdod tai lleol” (ac eithrio ym mharagraff 12 o Atodlen 2) yw cyngor sir ar gyfer ardal yng Nghymru neu gyngor bwrdeistref sirol.

(4)Ystyr “ymddiriedolaeth gweithredu tai” yw ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) ac mae’n cynnwys unrhyw gorff a sefydlwyd o dan adran 88 o’r Ddeddf honno.

(5)Mae i “corfforaeth dref newydd” yr un ystyr â “new town corporation” yn Neddf Tai 1985 (p. 68) (gweler adran 4 o’r Ddeddf honno).

(6)Ystyr “corfforaeth datblygu trefol” yw corfforaeth datblygu trefol a sefydlwyd o dan Ran 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p. 65) ac mae’n cynnwys unrhyw gorff a sefydlwyd o dan adran 165B o’r Ddeddf honno.

244Landlord, lletywr a meddiannydd a ganiateir

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion dehongli’r Ddeddf hon.

(2)Y landlord, mewn perthynas â chontract meddiannaeth, yw’r person sydd (neu sy’n honni ei fod) â hawl i roi’r hawl i unigolyn feddiannu’r annedd fel cartref.

(3)Mae person yn byw mewn annedd fel lletywr os yw’r denantiaeth neu’r drwydded y mae’n meddiannu’r annedd oddi tani yn dod o fewn paragraff 6 o Atodlen 2 (llety a rennir â’r landlord).

(4)Ond nid yw person yn byw mewn annedd fel lletywr os rhoddir hysbysiad iddo o dan baragraff 3 o Atodlen 2 bod ei denantiaeth neu drwydded yn gontract meddiannaeth.

(5)Mae person yn feddiannydd a ganiateir mewn annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth—

(a)os yw’n byw yn yr annedd fel lletywr neu isddeiliad i ddeiliad y contract, neu

(b)os nad yw’n lletywr nac yn isddeiliad ond bod deiliad y contract yn caniatáu iddo fyw yn yr annedd fel cartref.

245Dyddiad meddiannu contract meddiannaeth

Yn y Ddeddf hon, dyddiad meddiannu contract meddiannaeth yw’r diwrnod y mae gan ddeiliad y contract hawl i ddechrau meddiannu’r annedd.

246Annedd

(1)At ddibenion y Ddeddf hon, ystyr “annedd” yw annedd sy’n gyfan gwbl yng Nghymru, ac—

(a)nid yw’n cynnwys unrhyw strwythur neu gerbyd y gellir ei symud o un lle i’r llall, ond

(b)mae’n cynnwys unrhyw dir a feddiennir ynghyd â’r annedd, oni bai bod y tir yn dir amaethyddol sy’n fwy na 0.809 hectar.

(2)Ystyr “tir amaethyddol” yw—

(a)tir a ddefnyddir fel tir âr, doldir neu borfa yn unig;

(b)tir a ddefnyddir ar gyfer planhigfa neu goedwig neu ar gyfer tyfu prysgwydd y gellir eu gwerthu;

(c)tir a ddefnyddir at ddiben ffermio dofednod, gerddi marchnad, tiroedd planhigfa, perllannau neu randiroedd, gan gynnwys gerddi rhandir o fewn ystyr Deddf Rhandiroedd 1922 (p. 51),

ond nid yw’n cynnwys tir a feddiennir ynghyd â thŷ fel parc, gerddi (ac eithrio fel y crybwyllir ym mharagraff (c)) neu diroedd hamdden, tir a ddefnyddir yn bennaf neu’n llwyr at ddibenion chwaraeon neu hamdden neu dir a ddefnyddir fel cae ras.

(3)Ystyr annedd, mewn perthynas â chontract meddiannaeth, yw’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract.

247Ystyr “amrywio” contract meddiannaeth

Yn y Ddeddf hon, mewn perthynas â chontract meddiannaeth—

(a)mae “amrywio” yn cynnwys ychwanegu teler i’r contract neu ddileu un o delerau’r contract;

(b)nid yw “amrywio” yn cynnwys unrhyw newid o ran pwy yw’r landlord na deiliad y contract o dan y contract.

248Y llys

Yn y Ddeddf hon, ystyr “y llys” yw’r Uchel Lys neu’r llys sirol.

249Les, tenantiaeth ac ymadroddion cysylltiedig

(1)Yn y Ddeddf hon, mae i “les” a “tenantiaeth” yr un ystyr.

(2)Mae’r naill ymadrodd a’r llall yn cynnwys—

(a)is-les neu is-denantiaeth, a

(b)les neu denantiaeth (neu is-les neu is-denantiaeth) mewn ecwiti.

(3)Mae’r ymadroddion “lesydd” a “lesddeiliad” a “landlord” a “tenant”, a chyfeiriadau at osod, at roi neu wneud les neu at gyfamodau neu delerau, i’w darllen yn unol â hynny.

(4)Ystyr “tenantiaeth” a “trwydded” yw tenantiaeth neu drwydded sy’n berthnasol i annedd (gweler adran 246).

250Aelodau o deulu

(1)Mae person yn aelod o deulu rhywun arall at ddibenion y Ddeddf hon—

(a)os yw’n briod neu’n bartner sifil i’r person hwnnw,

(b)os yw’n byw gyda’r person hwnnw fel pe baent yn briod neu’n bartneriaid sifil, neu

(c)os yw’n rhiant, yn fam-gu/nain neu’n dad-cu/taid, yn blentyn, yn ŵyr neu wyres, yn frawd, yn chwaer, yn ewythr, yn fodryb, yn nai neu’n nith i’r person hwnnw.

(2)At ddibenion is-adran (1)(c)—

(a)mae perthynas drwy briodas neu bartneriaeth sifil i’w thrin fel perthynas waed,

(b)mae perthynas rhwng personau nad oes ganddynt ond un rhiant yn gyffredin i’w thrin fel perthynas rhwng personau sydd â’r naill riant a’r llall yn gyffredin, ac

(c)ac eithrio at ddibenion paragraff (b), mae llysblentyn person i’w drin fel ei blentyn.

251Gorchymyn eiddo teuluol

(1)At ddibenion y Ddeddf hon gorchymyn eiddo teuluol yw gorchymyn o dan—

(a)adran 24 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 (p. 18) (gorchmynion ad-drefnu eiddo mewn cysylltiad ag achosion priodasol),

(b)adran 17 neu 22 o Ddeddf Achosion Priodasol a Theuluol 1984 (p. 42) (gorchmynion ad-drefnu eiddo etc. ar ôl ysgariad mewn gwlad dramor),

(c)paragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Plant 1989 (p. 41) (gorchmynion am gymorth ariannol yn erbyn rhieni),

(d)Atodlen 7 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 (p. 27) (trosglwyddo tenantiaethau ar ôl ysgaru neu wahanu),

(e)Rhan 2 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) (gorchmynion ad-drefnu eiddo mewn cysylltiad â phartneriaeth sifil), neu

(f)paragraff 9 neu 13 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (gorchmynion ad-drefnu eiddo etc. yn dilyn diddymu partneriaeth sifil mewn gwlad dramor).

(2)Mae gorchymyn o dan Atodlen 1 i Ddeddf Cartrefi Priodasol 1983 (p. 19) (fel y mae’n parhau i gael effaith oherwydd Atodlen 9 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996) hefyd yn orchymyn eiddo teuluol.

252Mân ddiffiniadau

Yn y Ddeddf hon—

253Mynegai

Mae’r tabl canlynol yn cynnwys mynegai o’r termau a ddefnyddir yn y Ddeddf hon (ac eithrio mewn adrannau neu baragraffau lle mae’r term a ddefnyddir wedi ei ddiffinio neu ei esbonio yn yr adran honno neu’r paragraff hwnnw)—

TABL 2
aelod o deulu (“member of a family”)adran 250
amrywiad (“variation”)adran 247
annedd (“dwelling”)adran 246
awdurdod lleol (“local authority”)adran 243
awdurdod tai lleol (ac eithrio ym mharagraff 12 o Atodlen 2 (“local housing authority”)adran 243
blaendal (“deposit”)adran 47
contract cyflogaeth (“contract of employment”)adran 252
contract cyfnod penodol (“fixed term contract”)adran 252
contract cyfyngedig (“restricted contract”)adran 242
contract diogel (“secure contract”)adran 8
contract isfeddiannaeth (“sub-occupation contract”)adran 59
contract meddiannaeth (“occupation contract”)adran 7
contract safonol (“standard contract”)adran 8
contract safonol â chymorth (“supported standard contract”)adran 143
contract safonol rhagarweiniol (“introductory standard contract”)adran 16
contract safonol ymddygiad gwaharddedig (“prohibited conduct standard contract”)adran 116
corfforaeth datblygu trefol (“urban development corporation”)adran 243
corfforaeth tref newydd (“new town corporation”)adran 243
cyfnod prawf (“probation period”)paragraff 3 o Atodlen 7
cyfnod rhagarweiniol (“introductory period”)paragraff 1 o Atodlen 4
cyfnod rhentu (“rental period”)adran 252
cymal terfynu deiliad contract (“contract-holder’s break clause”)adran 189
cymal terfynu’r landlord (“landlord’s break clause”)adran 194
cymdeithas dai (“housing association”)adran 252
cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol (“fully mutual housing association”)adran 9
cymdeithas dai gydweithredol (“co-operative housing association”)adran 9
cynllun blaendal awdurdodedig (“authorised deposit scheme”)adran 47
darpariaeth atodol (ac eithrio yn adrannau 255 a 256) (“supplementary provision”)adran 23
darpariaeth sylfaenol (“fundamental provision”)adran 18 (gweler adran 19 hefyd)
darparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig (“private registered provider of social housing”)adran 9
deddfiad (“enactment”)adran 252
deiliad contract (“contract-holder”)adran 7 (gweler adran 48 hefyd)
diwrnod penodedig (“appointed day”)adran 242
dyddiad cyflwyno (“introduction date”)paragraffau 1 a 2 o Atodlen 4
dyddiad meddiannu (“occupation date”)adran 245
elusen gofrestredig (“registered charity”)adran 252
gofynion cychwynnol (o ran cynllun blaendal awdurdodedig) (“initial requirements (in relation to an authorised deposit scheme)”)adran 47
gosodiad gwasanaeth (“service installation”)adran 92
gorchymyn eiddo teuluol (“family property order”)adran 251
hawliau Confensiwn (“Convention rights”)adran 252
hawliad meddiant (“possession claim”)adran 149
hysbysiad adennill meddiant (“possession notice”)adran 150
isddeiliad (“sub-holder”)adran 59
landlord (“landlord”)adran 244 (gweler adran 53 hefyd)
landlord cymdeithasol cofrestredig (“registered social landlord”)adran 9
landlord cymunedol (“community landlord”)adran 9
landlord preifat (“private landlord”)adran 10
les (“lease”)adran 249
llety â chymorth (“supported accommodation”)adran 143
lletywr (“lodger”)adran 244
llys (“court”)adran 248
mater allweddol (o ran contract meddiannaeth) (“key matter (in relation to an occupation contract)”)adrannau 26 a 27
meddiannydd a ganiateir (“permitted occupier”)adran 244
olynydd â blaenoriaeth (i ddeiliad contract) (“priority successor (of a contract-holder)”)adran 75
olynydd â blaenoriaeth (o ran contract meddiannaeth) (“priority successor (in relation to an occupation contract)”)adran 83
olynydd wrth gefn (i ddeiliad contract) (“reserve successor (of a contract-holder)”)adrannau 76 a 77
olynydd wrth gefn (o ran contract meddiannaeth) (“reserve successor (in relation to an occupation contract)”)adran 83
prif landlord (“head landlord”)adran 59
rhagnodedig (“prescribed”)adran 252
rhannau cyffredin (“common parts”)adran 252
rhent (“rent”)adran 252
seiliau rheoli ystad (“estate management grounds”)adran 160 ac Atodlen 8
sicrwydd (“security”)adran 47
teler atodol (“supplementary term”)adran 23
teler sylfaenol (“fundamental term”)adran 19
telerau ychwanegol (contract meddiannaeth) (“additional terms (of an occupation contract)”)adran 28
tenantiaeth (“tenancy”)adran 249
tenantiaeth ddiogel (“secure tenancy”)adran 242
tenantiaeth fyrddaliol sicr (“assured shorthold tenancy”)adran 242
tenantiaeth fyrddaliol warchodedig (“protected shorthold tenancy”)adran 242
tenantiaeth isradd (“demoted tenancy”)adran 242
tenantiaeth ragarweiniol (“introductory tenancy”)adran 242
tenantiaeth sicr (“assured tenancy”)adran 242
tenantiaeth statudol (“statutory tenancy”)adran 242
tenantiaeth warchodedig (“protected tenancy”)adran 242
ymddiriedolaeth dai (“housing trust”)adran 252
ymddiriedolaeth gweithredu tai (“housing action trust”)adran 243
ymddygiad gwaharddedig (“prohibited conduct”)adran 55
ymddygiad gwrthgymdeithasol (“anti-social behaviour”)adran 55

Cymhwysiad i’r Goron

254Cymhwysiad i’r Goron

Mae’r Ddeddf hon yn gymwys i’r Goron.

Darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.

255Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.

(1)Os yw Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, cânt wneud drwy reoliadau—

(a)unrhyw ddarpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol, a

(b)unrhyw ddarpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth yn y Ddeddf hon) a ddeddfwyd neu a wnaed ar neu cyn y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

Rheoliadau

256Rheoliadau

(1)Mae unrhyw bŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

(a)i’w arfer drwy offeryn statudol,

(b)yn bŵer y caniateir ei arfer er mwyn gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion neu ddisgrifiadau o achos neu ar gyfer gwahanol ddibenion neu ardaloedd,

(c)yn bŵer y caniateir ei arfer er mwyn gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol fathau neu ddisgrifiadau o gontract meddiannaeth, oni bai bod y pŵer ond yn gymwys mewn perthynas â mathau neu ddisgrifiadau penodol o gontract meddiannaeth, a

(d)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan y Ddeddf hon wneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfiad, ac eithrio darpariaeth yn y Ddeddf hon, a gwneud addasiadau, diddymiadau a dirymiadau i unrhyw ddeddfiad heblaw am ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.

(3)Ni chaniateir gwneud rheoliadau y mae’r is-adran hon yn gymwys iddynt oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau (boed ar eu pen eu hunain neu ynghyd â rheoliadau nad yw’r is-adran hon yn gymwys iddynt) wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(4)Mae is-adran (3) yn gymwys i reoliadau o dan—

(a)adran 9 (pŵer i ddiwygio’r adran honno),

(b)adran 22 (pwerau o ran darpariaethau sylfaenol),

(c)adran 56 (pŵer i ddiwygio adran 55),

(d)adran 68 (pŵer i ddiwygio adrannau 66 a 67),

(e)adran 217 (pŵer i ddiwygio’r adran honno),

(f)adran 223 (pŵer i ddiwygio adrannau 220 a 222),

(g)adran 229 (pŵer i ddiwygio adrannau 225 i 228),

(h)paragraff 17 o Atodlen 2 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),

(i)paragraff 17 o Atodlen 3 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),

(j)paragraff 3 o Atodlen 4 (pŵer i newid y terfyniad amser ar gyfer rhoi hysbysiad o ymestyn y cyfnod rhagarweiniol),

(k)paragraff 5 o Atodlen 5 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),

(l)paragraff 4 o Atodlen 7 (pŵer i newid y terfyniad amser ar gyfer rhoi hysbysiad o estyniad o gyfnod prawf),

(m)paragraff 13 o Atodlen 9 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno), ac

(n)paragraff 33 o Atodlen 12 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno).

(5)Mae is-adran (3) hefyd yn gymwys i unrhyw reoliadau eraill o dan y Ddeddf hon sy’n diwygio, yn addasu neu’n dirymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan ddarpariaeth yn y Ddeddf hon nad yw is-adran (3) yn gymwys iddynt, yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dod i rym ac enw byr

257Dod i rym

(1)Daw’r Rhan hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—

(a)cynnwys darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed;

(b)gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion neu ddisgrifiadau o achos neu ar gyfer gwahanol ddibenion neu ardaloedd;

(c)gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol fathau neu ddisgrifiadau o gontract meddiannaeth;

(d)pennu dyddiau gwahanol at ddibenion gwahanol.

258Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.