xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i reoliadau uno—
(a)gwneud darpariaeth ar gyfer sefydlu, o ddyddiad penodedig, awdurdod cysgodol sy’n cynnwys holl aelodau’r awdurdodau sy’n uno,
(b)gwneud darpariaeth ar gyfer penodi gweithrediaeth gysgodol gan yr awdurdod cysgodol,
(c)pennu cyfansoddiad y weithrediaeth gysgodol,
(d)gwneud darpariaeth sy’n pennu swyddogaethau’r awdurdod cysgodol a’r weithrediaeth gysgodol, ac ynghylch arfer y swyddogaethau hynny, yn ystod y cyfnod cysgodol,
(e)gwneud darpariaeth ynghylch ariannu’r awdurdod cysgodol, a
(f)gwneud darpariaeth i’r awdurdod cysgodol a’r weithrediaeth gysgodol ddod yn brif awdurdod lleol ar gyfer y brif ardal newydd, ac yn weithrediaeth ar gyfer y prif awdurdod lleol hwnnw, ar gyfer y cyfnod cyn yr etholiad.
(2)Yn is-adran (1) ystyr “cyfnod cysgodol” yw’r cyfnod—
(a)sy’n dechrau â’r dyddiad yr awdurdodir neu y gwneir hi’n ofynnol yn gyntaf i’r awdurdod cysgodol neu’r weithrediaeth gysgodol arfer unrhyw swyddogaethau yn unol â’r rheoliadau uno, a
(b)sy’n dod i ben yn union cyn y dyddiad trosglwyddo.
(3)Yn is-adran (1) ystyr “cyfnod cyn yr etholiad” yw’r cyfnod—
(a)sy’n dechrau â’r dyddiad trosglwyddo, a
(b)sy’n dod i ben yn union cyn y pedwerydd diwrnod ar ôl cynnal yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif awdurdod lleol newydd.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau mewn perthynas ag arfer swyddogaethau gan awdurdodau cysgodol a gweithrediaethau cysgodol a sefydlir neu a benodir yn unol â rheoliadau uno; a rhaid i awdurdodau cysgodol a gweithrediaethau cysgodol roi sylw i ganllawiau a ddyroddir o dan yr is-adran hon wrth arfer eu swyddogaethau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 7 mewn grym ar 26.11.2015, gweler a. 46(2)