Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015

26Adroddiadau’r Panel

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i’r Panel gynnwys yn yr adroddiad cyntaf o dan Ran 8 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 sy’n ymwneud ag awdurdod a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 25(1) yr wybodaeth sy’n ymwneud â’r awdurdod a bennir yn adran 146(3) o’r Mesur hwnnw.

(2)Caniateir cynnwys y materion y mae’n ofynnol eu cynnwys mewn adroddiad gan y Panel mewn perthynas ag awdurdod cysgodol mewn adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol.

(3)Os yw’r adroddiad cyntaf sy’n ymwneud ag awdurdod cysgodol yn adroddiad atodol, rhaid ei gyhoeddi o leiaf 6 wythnos cyn i’r awdurdod cysgodol gael ei sefydlu neu ei ethol.

(4)Rhaid cynnwys y materion y mae’n ofynnol eu cynnwys mewn adroddiad gan y Panel mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyntaf y bydd awdurdod yn brif awdurdod lleol yn adroddiad blynyddol y Panel ar gyfer y flwyddyn ariannol honno.

(5)Ond, os yw’r Panel o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, gall, ar unrhyw adeg cyn y dyddiad y mae awdurdod sy’n brif awdurdod lleol yn rhinwedd rheoliadau uno yn cynnwys am y tro cyntaf gynghorwyr a etholwyd i’r prif awdurdod newydd, gyhoeddi adroddiad atodol mewn perthynas â’r rhan honno o’r flwyddyn ariannol gyntaf honno sy’n disgyn ar y dyddiad hwnnw neu ar ei ôl.