Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015

25Cyfarwyddydau i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i gyflawni swyddogaethau perthnasol

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (“y Panel”) fod yn rhaid iddo gyflawni’r swyddogaethau perthnasol—

(a)mewn perthynas ag awdurdod cysgodol, a

(b)mewn perthynas â phrif awdurdod lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyntaf y bydd yn brif awdurdod lleol yn rhinwedd rheoliadau uno neu ddarpariaethau Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)Y swyddogaethau perthnasol yw’r swyddogaethau o dan—

(a)adran 142 (pwerau a dyletswyddau sy’n ymwneud â thaliadau i aelodau), a

(b)adran 143 (swyddogaethau sy’n ymwneud â phensiynau aelodau),

o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

(3)Mae Rhan 8 o’r Mesur hwnnw yn gymwys, felly, yn achos awdurdod cysgodol y rhoddwyd cyfarwyddyd mewn perthynas ag ef o dan is-adran (1)(a) (am ba hyd bynnag ag y bydd y cyfarwyddyd yn cael effaith) fel pe bai’n awdurdod perthnasol o fewn ystyr y Rhan honno o’r Mesur hwnnw; ond wrth ei gymhwyso yn rhinwedd yr is-adran hon mae Rhan 8 yn cael effaith yn ddarostyngedig i—

(a)yr addasiadau yn is-adran (4), a

(b)adran 26.

(4)Dyma’r addasiadau—

(a)yn adran 142(8) (ystyriaeth i gael ei rhoi i’r effaith ariannol ar awdurdodau perthnasol), mae’r cyfeiriad at “awdurdodau perthnasol” i gynnwys awdurdodau cysgodol, a

(b)mae’r pŵer i adroddiad blynyddol osod gofynion o dan adran 150(1) (osgoi dyblygu taliadau etc.) i fod yn ddyletswydd i adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol osod y gofynion hynny.

(5)Wrth arfer swyddogaethau yn rhinwedd yr adran hon mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyntaf y mae awdurdod yn brif awdurdod lleol yn rhinwedd rheoliadau uno, caiff y Panel—

(a)gwneud penderfyniadau gwahanol o dan adran 142(1),

(b)pennu symiau gwahanol o dan adran 142(3),

(c)gwneud penderfyniadau gwahanol o dan adran 142(4),

(d)gosod canrannau gwahanol neu gyfraddau neu fynegrifau eraill o dan adran 142(6), ac

(e)gwneud penderfyniadau gwahanol o dan adran 143(2) a (3),

mewn perthynas ag amserau cyn y bydd y prif awdurdod lleol yn cynnwys cynghorwyr a etholir yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr ac wedi hynny.