Trefniadau etholiadol etc. ar gyfer prif ardaloedd newydd
I120Ymgynghori ac ymchwilio
1
Wrth gynnal ymchwiliad cychwynnol, rhaid i’r Comisiwn gynnal yr ymchwiliadau hynny y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol.
2
Ar ôl cynnal yr ymchwiliadau o dan is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn lunio adroddiad sy’n cynnwys—
a
y cynigion y mae o’r farn eu bod yn briodol o ran y trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal arfaethedig ac unrhyw gynigion y caiff farnu eu bod yn briodol ar gyfer newidiadau canlyniadol perthnasol, a
b
manylion yr adolygiad y mae wedi ei gynnal.
3
Rhaid i’r Comisiwn—
a
cyhoeddi’r adroddiad ar wefan,
b
sicrhau bod yr adroddiad ar gael i edrych arno (yn ddi-dâl) yn swyddfeydd y prif awdurdodau lleol y mae eu prif ardaloedd i gael eu huno i greu’r brif ardal arfaethedig ar hyd y cyfnod ar gyfer sylwadau,
c
anfon copïau o’r adroddiad at Weinidogion Cymru a’r ymgyngoreion mandadol,
d
hysbysu unrhyw bersonau y mae’r Comisiwn yn eu hystyried yn briodol sut i gael copi o’r adroddiad, ac
e
gwahodd sylwadau a hysbysu Gweinidogion Cymru, yr ymgyngoreion mandadol ac unrhyw bersonau y mae’r Comisiwn yn eu hystyried yn briodol am y cyfnod ar gyfer sylwadau.
4
At ddibenion is-adran (3) “y cyfnod ar gyfer sylwadau” yw cyfnod nad yw’n llai na 6 wythnos nac yn hwy na 12 wythnos (fel a benderfynir gan y Comisiwn) sy’n dechrau yn ddim cynt nag un wythnos ar ôl rhoi hysbysiad am y cyfnod.