Trefniadau etholiadol etc. ar gyfer prif ardaloedd newyddLL+C

19Y weithdrefn ragadolyguLL+C

(1)Cyn cynnal adolygiad cychwynnol o brif ardal arfaethedig, rhaid i’r Comisiwn gymryd y camau hynny y mae o’r farn eu bod yn briodol er mwyn—

(a)dwyn yr adolygiad i sylw’r ymgyngoreion mandadol ac unrhyw bersonau eraill y mae o’r farn ei bod yn debygol bod ganddynt fuddiant yn yr adolygiad, a

(b)gwneud yr ymgyngoreion mandadol a’r personau eraill sydd â buddiant yn ymwybodol o’r cyfarwyddyd i gynnal yr adolygiad ac unrhyw gyfarwyddydau eraill a roddir gan Weinidogion Cymru sy’n berthnasol i’r adolygiad.

(2)Cyn cynnal adolygiad cychwynnol, rhaid i’r Comisiwn hefyd ymgynghori â’r ymgyngoreion mandadol ar y weithdrefn a’r fethodoleg a fwriedir ganddo ar gyfer yr adolygiad cychwynnol ac, yn benodol, sut y mae’n bwriadu penderfynu ar nifer priodol yr aelodau ar gyfer y prif awdurdod lleol yn y brif ardal arfaethedig.

(3)Yn y Ddeddf hon ystyr “yr ymgyngoreion mandadol” yw—

(a)y prif awdurdodau lleol y mae eu prif ardaloedd i gael eu huno i greu’r brif ardal arfaethedig a’r cynghorau ar gyfer unrhyw gymuned bresennol neu gymunedau presennol yn y brif ardal arfaethedig, a

(b)unrhyw bersonau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru yn y cyfarwyddyd i gynnal yr adolygiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 19 mewn grym ar 26.11.2015, gweler a. 46(2)