Trefniadau etholiadol etc. ar gyfer prif ardaloedd newydd
18Cynnal adolygiad cychwynnol
(1)
Wrth gynnal adolygiad cychwynnol rhaid i’r Comisiwn geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a hwylus.
(2)
Caiff cyfarwyddydau a roddir a chanllawiau a ddyroddir o dan adran 17 bennu beth yw ystyr llywodraeth leol effeithiol a hwylus at ddibenion is-adran (1).
(3)
Rhaid i’r Comisiwn, wrth ystyried y trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal arfaethedig mewn adolygiad cychwynnol—
(a)
ceisio sicrhau bod yr un gymhareb o etholwyr llywodraeth leol i nifer aelodau’r prif awdurdod lleol sydd i’w hethol ym mhob ward etholiadol o’r brif ardal arfaethedig, neu mor agos ag y gall fod, a
(b)
rhoi sylw i’r canlynol—
(i)
dymunoldeb pennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol sy’n hawdd eu hadnabod ac a fyddant yn parhau felly, a
(ii)
dymunoldeb peidio â thorri’r cwlwm lleol wrth bennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol.
(4)
At ddibenion is-adran (3)(a) mae sylw i gael ei roi i’r canlynol—
(a)
unrhyw anghysondeb rhwng nifer yr etholwyr llywodraeth leol a nifer y personau sy’n gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel a welir mewn ystadegau swyddogol perthnasol), a
(b)
unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal arfaethedig sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl gwneud argymhellion.
(5)
Wrth ystyried mewn adolygiad cychwynnol a ddylid, fel rhan o unrhyw newidiadau canlyniadol perthnasol, rannu cymuned yn wardiau cymuned o ganlyniad i’r trefniadau etholiadol a argymhellir ar gyfer y brif ardal arfaethedig, rhaid rhoi sylw i’r canlynol—
(a)
a yw nifer neu ddosbarthiad yr etholwyr llywodraeth leol yn y gymuned yn gwneud un etholiad ar gyfer cynghorwyr cymuned yn anymarferol neu’n anghyfleus, a
(b)
a yw’n ddymunol i unrhyw ardal o’r gymuned gael cynrychiolaeth ar wahân ar y cyngor cymuned.
(6)
Pan benderfynir, mewn adolygiad cychwynnol, y dylid rhannu cymuned yn wardiau cymuned, fel rhan o unrhyw newidiadau canlyniadol perthnasol, wrth ystyried maint a ffiniau’r wardiau ac wrth bennu nifer y cynghorwyr cymuned sydd i’w hethol ar gyfer pob ward, rhaid rhoi sylw i’r canlynol—
(a)
unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad yr etholwyr llywodraeth leol yn y gymuned sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl gwneud unrhyw argymhellion,
(b)
dymunoldeb pennu ffiniau sy’n hawdd eu hadnabod ac a fyddant yn parhau felly, ac
(c)
unrhyw gwlwm lleol a fydd yn cael ei dorri wrth bennu unrhyw ffiniau penodol.
(7)
Pan benderfynir, mewn adolygiad cychwynnol, fel rhan o unrhyw newidiadau canlyniadol perthnasol, na ddylai cymuned gael ei rhannu yn wardiau cymuned, wrth bennu nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer pob cymuned, rhaid rhoi sylw i’r canlynol—
(a)
nifer a dosbarthiad yr etholwyr llywodraeth leol yn y gymuned, a
(b)
unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad yr etholwyr llywodraeth leol yn y gymuned sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl pennu nifer y cynghorwyr cymuned.
(8)
At ddibenion is-adrannau (5) i (7) rhaid rhoi sylw i unrhyw anghysondeb rhwng nifer yr etholwyr llywodraeth leol a nifer y personau sy’n gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel a welir mewn ystadegau swyddogol perthnasol).
(9)
Yn yr adran hon—
ystyr “etholwr llywodraeth leol” (“local government elector”) yw person sydd wedi ei gofrestru’n etholwr llywodraeth leol yn y gofrestr etholwyr yn unol â darpariaethau Deddfau Cynrychiolaeth y Bobl;
ystyr “ystadegau swyddogol perthnasol” yw’r ystadegau swyddogol hynny o fewn yr ystyr a roddir i “relevant official statistics” yn adran 6 o Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol.