(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol drwy gyfarwyddyd i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”) gynnal adolygiad cychwynnol o brif ardal arfaethedig.
(2)Yn y Ddeddf hon ystyr “adolygiad cychwynnol”, mewn perthynas â phrif ardal arfaethedig, yw adolygiad a gynhelir at ddiben argymell trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal arfaethedig ond caiff hefyd gynnwys unrhyw newidiadau canlyniadol perthnasol sy’n briodol ym marn y Comisiwn.
(3)Yn y Ddeddf hon ystyr “newidiadau canlyniadol perthnasol”, mewn perthynas â threfniadau etholiadol a argymhellir ar gyfer prif ardal arfaethedig, yw newidiadau yn—
(a)ffiniau cymunedau yn y brif ardal arfaethedig,
(b)cyfansoddiad cynghorau ar gyfer cymunedau, neu gynghorau cyffredin ar gyfer grwpiau o gymunedau, yn y brif ardal arfaethedig, neu
(c)trefniadau etholiadol ar gyfer cymunedau yn y brif ardal arfaethedig.
(4)Yn y Ddeddf hon ystyr “trefniadau etholiadol”, mewn perthynas â phrif ardal neu gymuned, yw—
(a)nifer aelodau’r cyngor ar gyfer y brif ardal neu’r gymuned,
(b)ei rhaniad yn wardiau etholiadol yn achos y brif ardal, ac (os yw’n briodol) yn wardiau cymuned yn achos cymuned, ar gyfer ethol aelodau,
(c)nifer, math a ffiniau’r wardiau etholiadol, ac unrhyw wardiau cymuned, y mae’r brif ardal neu unrhyw gymuned yn y brif ardal i gael ei rhannu iddynt at ddiben ethol aelodau,
(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward etholiadol neu ward gymuned, ac
(e)enw unrhyw ward etholiadol neu ward gymuned.
(5)Yn is-adran (4)(c) mae’r cyfeiriad at y math o ward etholiadol neu ward gymuned yn gyfeiriad at ba un a yw ward etholiadol neu ward gymuned yn ward un aelod neu’n ward amlaelod; ac at y diben hwn—
ystyr “ward amlaelod”(“multiple member ward”) yw ward y mae nifer penodedig (mwy nag un) o aelodau i’w hethol ar gyfer y ward honno;
ystyr “ward un aelod” (“single member ward”) yw ward y mae un aelod yn unig i’w ethol ar ei chyfer.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 16 mewn grym ar 26.11.2015, gweler a. 46(2)