Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015

14Is-bwyllgorau i bwyllgorau pontioLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff pwyllgor pontio sefydlu un is-bwyllgor neu ragor.

(2)Mae aelodaeth is-bwyllgor i bwyllgor pontio i’w bennu gan y pwyllgor pontio.

(3)Os yw pwyllgor pontio yn penodi person nad yw’n aelod o un o’r awdurdodau sy’n uno i fod yn aelod o is-bwyllgor, ni chaiff y person hwnnw bleidleisio.

(4)Swyddogaeth is-bwyllgor i bwyllgor pontio yw cynghori’r pwyllgor pontio ar faterion a gyfeirir at yr is-bwyllgor gan y pwyllgor pontio.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 14 mewn grym ar 26.11.2015, gweler a. 46(2)