Pwyllgorau pontio
14Is-bwyllgorau i bwyllgorau pontio
(1)
Caiff pwyllgor pontio sefydlu un is-bwyllgor neu ragor.
(2)
Mae aelodaeth is-bwyllgor i bwyllgor pontio i’w bennu gan y pwyllgor pontio.
(3)
Os yw pwyllgor pontio yn penodi person nad yw’n aelod o un o’r awdurdodau sy’n uno i fod yn aelod o is-bwyllgor, ni chaiff y person hwnnw bleidleisio.
(4)
Swyddogaeth is-bwyllgor i bwyllgor pontio yw cynghori’r pwyllgor pontio ar faterion a gyfeirir at yr is-bwyllgor gan y pwyllgor pontio.