13Swyddogaethau pwyllgorau pontio
(1)Rhaid i bwyllgor pontio ddarparu cyngor ac argymhellion i‘r awdurdodau sy’n uno a’i sefydlodd, ac i’r awdurdod cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd, ynghylch—
(a)hwyluso trosglwyddo swyddogaethau, staff a hawliau a rhwymedigaethau eiddo mewn modd darbodus, effeithiol ac effeithlon o’r awdurdodau sy’n uno i’r prif awdurdod lleol newydd,
(b)sicrhau bod y prif awdurdod lleol newydd a’i staff mewn sefyllfa i gyflawni swyddogaethau’r prif awdurdod lleol newydd yn effeithiol o’r adeg pan fo’n eu hysgwyddo, ac
(c)unrhyw ddibenion eraill y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu drwy gyfarwyddydau.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol—
(a)i bwyllgor pontio penodol,
(b)i bob pwyllgor pontio o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd, neu
(c)i bob pwyllgor pontio,
arfer ei swyddogaethau yn unol â’r cyfarwyddyd.
(3)Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd o dan yr adran hon gan gyfarwyddyd dilynol ar unrhyw adeg.
(4)Rhaid i bwyllgor pontio gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo o dan yr adran hon.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch arfer swyddogaethau pwyllgorau pontio a rhaid i bwyllgor pontio roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr is-adran hon.
(6)Ni chaiff pwyllgor archwilio na phwyllgor trosolwg a chraffu mewn awdurdod sy’n uno arfer unrhyw un o’i swyddogaethau mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir gan bwyllgor pontio; ac at y diben hwn—
mae i “pwyllgor archwilio” (“audit committee”) yr ystyr a roddir gan adran 81 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011;
mae i “pwyllgor trosolwg a chraffu” yr ystyr a roddir i “overview and scrutiny committee” gan adran 21(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
