Rhagarweiniol

1Trosolwg

(1)

Mae’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer uno 2 brif ardal bresennol neu ragor i greu un brif ardal newydd, gyda phrif awdurdod lleol newydd, ac mewn cysylltiad â hynny; ac yn fwy penodol—

(a)

mae adrannau 3 i 10 yn gwneud darpariaeth sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n uno prif ardaloedd presennol i greu prif ardal newydd, gyda phrif awdurdod lleol newydd, mewn ymateb i gais gan y prif awdurdodau lleol presennol;

(b)

mae adrannau 11 i 15 yn gwneud darpariaeth i brif awdurdodau lleol ar gyfer y prif ardaloedd presennol yr arfaethir eu huno i greu prif ardal newydd sefydlu pwyllgorau pontio (pa un ai drwy reoliadau neu drwy Fil a gyflwynir yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan Weinidogion Cymru);

(c)

mae adrannau 16 i 24 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau etholiadol a materion cysylltiedig mewn perthynas â phrif ardaloedd newydd;

(d)

mae adrannau 25 i 28 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol i aelodau ac uwch swyddogion prif awdurdodau lleol ar gyfer prif ardaloedd newydd, ac mewn cysylltiad â hynny;

(e)

mae adrannau 29 i 36 yn gwneud darpariaeth sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i osod cyfyngiadau ar drafodion, a gweithgareddau eraill, gan brif awdurdodau lleol ar gyfer prif ardaloedd yr arfaethir eu huno i greu prif ardal newydd;

(f)

mae adrannau 37 a 38 yn darparu ar gyfer gosod gofynion ar y prif awdurdodau lleol hynny i ddarparu gwybodaeth.

(2)

Mae’r Ddeddf hon hefyd yn gwneud diwygiadau eraill i’r gyfraith llywodraeth leol; ac yn fwy penodol—

(a)

mae adran 39 yn gwneud darpariaeth i’r rheolaethau ar gyflogau penaethiaid gwasanaethau cyflogedig prif awdurdodau lleol fod yn gymwys i brif swyddogion eraill am gyfnod dros dro;

(b)

mae adran 40 yn gwneud newidiadau i’r ddyletswydd ar awdurdodau lleol penodol i roi sylw i argymhellion Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol;

(c)

mae adran 41 yn gwneud darpariaeth ynghylch aelodaeth Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol;

(d)

mae adran 42 yn diwygio’r darpariaethau sy’n ymwneud ag arolygon o gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol yn gynghorwyr;

(e)

mae adran 43 yn darparu ar gyfer arbed cynigion etholiadol a gyflwynwyd i Weinidogion Cymru cyn i Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 ddod i rym.