Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 1 – Trosolwg

3.Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o ddarpariaethau allweddol y Ddeddf.

Adran 2 – Prif ddiffiniadau

4.Mae’r adran hon yn diffinio’r prif dermau a ddefnyddir yn y Ddeddf.

Adrannau 3 i 10 – Awdurdodau lleol sy’n uno’n wirfoddol

5.Mae’r adrannau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer uno dau neu ragor o brif awdurdodau lleol yn wirfoddol er mwyn creu prif awdurdod lleol newydd a diddymu’r awdurdodau presennol sy’n rhan o’r uno gwirfoddol.

Adran 3 – Cynigion ar gyfer uno

6.Mae adran 3 yn galluogi dau neu ragor o brif awdurdodau lleol i wneud cais ar y cyd i Weinidogion Cymru, erbyn 30 Tachwedd 2015 neu erbyn dyddiad arall a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, yn cynnig bod yr awdurdodau yn dod ynghyd drwy uno’n wirfoddol i greu prif awdurdod lleol newydd. Bydd rhaid i gyngor llawn pob un o’r awdurdod lleol sy’n gwneud y cais ar y cyd gymryd y penderfyniad i wneud cais; mae is-adran (3) yn golygu na chaiff gweithrediaethau’r awdurdodau lleol hynny gyflawni’r swyddogaeth honno.

7.Mae adran 3(4) yn darparu bod cais o dan adran 3(1) yn cynnwys cais a wnaed i Weinidogion Cymru cyn i adran 3 o’r Ddeddf ddod i rym.

Adran 4 – Ymgynghori cyn gwneud cais i uno

8.Mae adran 4 yn ei gwneud yn ofynnol i brif awdurdodau lleol, cyn cyflwyno cais i uno, ymgynghori ag amrywiaeth o randdeiliaid y mae’r cynnig i uno’n wirfoddol yn debygol o effeithio arnynt. Rhestrir y rhanddeiliaid y mae’n rhaid ymgynghori â hwy yn is-adran (1)(a) i (h). Gall ymgynghoriad a gynhaliwyd cyn y daeth adran 4 i rym fodloni’r gofyniad yn adran 4(1).

Adran 5 – Canllawiau ynghylch ceisiadau i uno

9.Mae adran 5 yn ymwneud â phŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau i brif awdurdodau lleol ynghylch cais ar y cyd i uno’n wirfoddol, gan gynnwys canllawiau ar yr amcanion y dylai unrhyw gais geisio eu cyflawni; canllawiau ar faterion y bydd angen i’r prif awdurdodau lleol eu hystyried wrth lunio cais; canllawiau ynghylch sut y dylid cynnal yr ymgynghoriad y manylir arno yn adran 4; ac unrhyw ganllawiau eraill sy’n berthnasol i wneud cais o dan adran 3(1). Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i brif awdurdodau lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu dyroddi mewn perthynas â chais i uno’n wirfoddol; mae is-adran (3) yn egluro y gellir bodloni’r gofyniad hwn drwy fod wedi dilyn canllawiau a ddyroddwyd cyn i’r adran hon ddod i rym.

Adran 6 – Pŵer i wneud rheoliadau uno

10.Mae adran 6 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddiddymu dwy brif ardal neu ragor, a diddymu eu cynghorau sir/bwrdeistref sirol perthnasol, a sefydlu un brif ardal a chyngor newydd yn eu lle, pan fo cais ar y cyd am uno cynnar gwirfoddol wedi ei wneud iddynt.

Adran 7 – Awdurdodau cysgodol

11.Mae adran 7 yn darparu bod rhaid i reoliadau uno gynnwys darpariaeth ar gyfer sefydlu “awdurdod cysgodol” (a ddiffinnir yn adran 2(7)), sy’n cynnwys holl aelodau’r prif awdurdodau lleol a gyflwynodd y cais ar y cyd i uno’n wirfoddol. Rhaid i’r rheoliadau uno gynnwys darpariaeth ynghylch penodi gweithrediaeth gysgodol gan yr awdurdod cysgodol, a rhaid iddynt bennu swyddogaethau’r awdurdod cysgodol a’r weithrediaeth gysgodol ac ymdrin â’r ffordd y bydd y swyddogaethau hynny’n cael eu harfer yn ystod y cyfnod cysgodol. Rhaid iddynt hefyd wneud darpariaeth i’r awdurdod cysgodol a’r weithrediaeth gysgodol ddod yn brif awdurdod lleol a’i weithrediaeth yn ystod y “cyfnod cyn yr etholiad” (a ddiffinnir yn is-adran (3)); mae “dyddiad trosglwyddo”, a ddefnyddir yn y diffiniad hwnnw, yn cael ei ddiffinio yn adran 2(8).

12.Mae hyn yn golygu mai’r awdurdod cysgodol fydd y prif awdurdod lleol newydd yn y cyfnod rhwng y dyddiad y bydd prif awdurdod lleol newydd yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb am ei swyddogaethau (ar 1 Ebrill 2018, i gyd-daro â blwyddyn ariannol yr awdurdod), a dyddiad cynnal yr etholiadau eu hunain, ar ddydd Iau cyntaf y mis Mai canlynol mae’n debyg (gweler adran 8 ynglŷn â hynny). Mae hyn yn angenrheidiol gan na fydd yr etholiadau i’r prif awdurdod lleol newydd wedi eu cynnal eto, fel y nodwyd. Felly, yn ystod y cyfnod cychwynnol, bydd yr awdurdod newydd wedi ei ffurfio o’r aelodau a etholwyd i’r hen awdurdodau a oedd yn uno, er y bydd yr hen brif awdurdodau lleol sy’n uno wedi peidio â bodoli fel endidau ar wahân, bron yn sicr ar 31 Mawrth 2018, o dan y rheoliadau uno a wnaed oherwydd adran 6(2).

13.Mae’n debyg mai ar 7 Mai 2018 y cynhelir yr etholiadau cyffredin cyntaf (ystyr y term “etholiadau cyffredin” yw ethol yr holl gynghorwyr a fydd yn gwasanaethu ar y cyngor). Felly, yr awdurdod cysgodol fydd y prif awdurdod lleol newydd o 1 Ebrill 2018 (y dyddiad ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau) tan y pedwerydd diwrnod ar ôl yr etholiadau cyffredin cyntaf (sef y saib arferol ar ôl etholiadau llywodraeth leol ar gyfer y trosglwyddo swyddogol, yn rhinwedd adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972). Bryd hynny, y cynghorwyr newydd fydd yn ffurfio’r prif awdurdod lleol newydd a bydd y cynghorwyr a etholwyd i’r hen gynghorau a ddiddymwyd yn sefyll i lawr. Mae hyn yn ddarostyngedig i adran 8(c).

14.Mae adran 7(2) a (3) yn diffinio’r “cyfnod cysgodol”, sef y cyfnod rhwng y dyddiad y bydd yr awdurdod cysgodol a’r weithrediaeth gysgodol yn arfer swyddogaethau am y tro cyntaf o dan y rheoliadau uno a’r dyddiad y trosglwyddir y cyfrifoldebau llawn ar y dyddiad trosglwyddo (sef 1 Ebrill 2018), a’r “cyfnod cyn yr etholiad”, a drafodir uchod.

15.Mae adran 7(4) yn ymwneud â phŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau ynghylch eu swyddogaethau i awdurdodau cysgodol a gweithrediaethau cysgodol, ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cysgodol a’r weithrediaeth gysgodol roi sylw i ganllawiau o’r fath.

Adran 8 – Etholiadau a chynghorwyr

16.Mae adran 8 yn galluogi rheoliadau uno i gynnwys darpariaeth i ddileu etholiadau cyffredin ar gyfer prif awdurdodau lleol sy’n uno’n wirfoddol ac (o ganlyniad) i ymestyn tymhorau swyddi cynghorwyr yr awdurdodau hyn; darpariaeth i ddatgymhwyso, am gyfnod a bennir yn y rheoliadau uno, y gofynion yn adran 89 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sy’n galw am gynnal is-etholiad i lenwi lleoedd gwag achlysurol (er enghraifft, lle gwag sy’n codi gan fod cynghorydd yn marw neu’n ymddiswyddo) ar gyngor prif awdurdod lleol sy’n uno’n wirfoddol; a darpariaeth i bennu dyddiad yr etholiadau cyffredin cyntaf i’r prif awdurdodau lleol newydd a thymhorau swyddi’r cynghorwyr a etholir yn yr etholiad hwnnw. Mae’r ddarpariaeth i ddatgymhwyso’r gofyniad i lenwi lle gwag achlysurol yn angenrheidiol er mwyn osgoi sefyllfa lle gall fod angen cynnal is-etholiad ychydig ddyddiau cyn i’r prif awdurdodau lleol presennol gael eu diddymu, a fyddai’n wastraff arian ac adnoddau.

17.Mae adran 8(d) yn galluogi rheoliadau uno i gynnwys darpariaeth ar gyfer gohirio etholiadau cyffredin ar gyfer cynghorau cymuned yn y prif awdurdod lleol newydd ac i ymestyn tymhorau swyddi’r cynghorwyr cymuned presennol. Fel rheol, cyfunir etholiadau cyffredin ar gyfer cynghorau cymuned ag etholiadau cyffredin ar gyfer prif awdurdodau lleol, a’u cynnal yr un pryd, am resymau effeithlonrwydd. Mae adran 8(d), felly, yn galluogi symud etholiadau cyffredin ar gyfer cynghorau cymuned mewn awdurdodau sy’n uno er mwyn iddynt gyd-daro â’r dyddiad newydd ar gyfer etholiadau cyffredin i’r prif awdurdod newydd. Dylai hynny arbed arian ac adnoddau.

Adran 9 – Awdurdodau â model gweithrediaeth maer a chabinet

18.Pan fo un neu ragor o’r prif awdurdodau lleol sy’n uno yn gweithredu o dan drefniant gweithrediaeth maer a chabinet (gweler Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ynglŷn â hynny), neu wedi cyflwyno cynigion i wneud hynny, mae adran 9(1) yn galluogi’r rheoliadau uno i gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cysgodol gynnal refferendwm ynghylch a ddylai’r prif awdurdod lleol newydd weithredu trefniant gweithrediaeth maer a chabinet ai peidio. Mae adran 9(2) yn galluogi’r rheoliadau uno i gynnwys darpariaeth i atal awdurdod sy’n uno rhag datblygu a chymeradwyo cynigion i weithredu trefniant gweithrediaeth maer a chabinet, gan y gallai hynny achosi oedi o ran y broses uno.

Adran 10 – Darpariaethau canlyniadol etc. eraill

19.Mae adran 10 yn galluogi Gweinidogion Cymru i gynnwys y ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol a throsiannol a’r ddarpariaeth arbed honno sy’n briodol yn eu barn hwy yn y rheoliadau uno, ac i wneud rheoliadau eraill sy’n gymwys yn gyffredinol (sy’n gymwys y tu hwnt i awdurdodau sy’n uno y mae rheoliadau uno penodol yn gymwys iddynt) sy’n cynnwys darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol a throsiannol a darpariaeth arbed at ddibenion rheoliadau uno neu i roi effaith lawn i reoliadau uno. Mae’r adran yn nodi amryw o ddefnyddiau penodol y pwerau hyn, ac yn darparu bod yr hawliau a’r rhwymedigaethau y caniateir eu trosglwyddo yn unol â’r rheoliadau hyn yn cynnwys hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract cyflogi a bod Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246) (TUPE) yn gymwys i drosglwyddiad staff o dan y rheoliadau hyn, ar wahân i reoliadau 4(6) a 10.

20.Mae eithrio rheoliad 4(6) TUPE yn golygu y caiff y rhwymedigaeth ar gyngor a ddiddymir i gael ei erlyn, ei euogfarnu a’i ddedfrydu am unrhyw drosedd ei throsglwyddo i’r cyngor newydd. Heb y ddarpariaeth hon byddai unrhyw rwymedigaeth droseddol sydd ar gyngor a ddiddymir o dan neu mewn cysylltiad â chontractau cyflogaeth a drosglwyddir i’r cyngor newydd, yn diflannu ar 1 Ebrill 2020, pan ddiddymir y cynghorau. Drwy eithrio rheoliad 10 TUPE cedwir hawliau pensiwn galwedigaethol staff sy’n cael eu trosglwyddo o dan neu yn rhinwedd y Ddeddf. Heb y ddarpariaeth hon, ni fyddai rhwymedigaeth gyfreithiol ar y siroedd newydd i anrhydeddu hawliau, dyletswyddau na rhwymedigaethau pensiwn o dan gontractau cyflogaeth presennol.

21.Ceir tri awdurdod tân ac achub (ATA) cyfunol yng Nghymru ar gyfer ardaloedd y 22 prif awdurdod lleol, a chrëwyd y rhain gan orchmynion cyfuno a wnaed o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947. O dan adran 4 o Ddeddf Tân ac Achub 2004 caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, amrywio neu ddiddymu cynlluniau i gyfuno awdurdodau tân ac achub. Ond cyn gwneud hynny, mae adran 4(6) o Ddeddf 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru beri i ymchwiliad gael ei gynnal i’r amrywiad sy’n cael ei gynnig. Mae adran 10(10) yn atal hynny pan fo’r newidiadau arfaethedig i’r cynllun yn deillio o uno gwirfoddol. Gwneir hynny er mwyn osgoi unrhyw oedi i’r rhaglen uno.

22.Mae adran 10(11) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i amrywio rheoliadau uno (neu reoliadau a wnaed o dan adran 10(11)(a) sy’n amrywio rheoliadau uno) ac i amrywio neu ddirymu rheoliadau sy’n gymwys yn gyffredinol a wnaed o dan adran 10(2).

Adrannau 11 i 15 – Pwyllgorau pontio

23.Mae’r adrannau hyn yn darparu ar gyfer sefydlu pwyllgorau pontio, ynghyd â’u cyfansoddiad a’u swyddogaethau. Mae’r darpariaethau hyn yn gymwys i awdurdodau sy’n uno’n wirfoddol o dan y Ddeddf, ac i awdurdodau sy’n uno o dan ddeddfwriaeth arall gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu a basiwyd ganddo (mae hyn oherwydd y diffiniad o “awdurdod sy’n uno” yn adran 2(3)(b)).

Adran 11 – Pwyllgorau pontio

24.Mae adran 11 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdodau sy’n uno sefydlu pwyllgor pontio (un ar gyfer pob prif ardal newydd arfaethedig).

Adran 12 – Cyfansoddiad pwyllgorau pontio

25.Mae adran 12 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad y pwyllgorau pontio. Rhaid i bwyllgor pontio gynnwys cynrychiolwyr o’r awdurdodau sy’n uno. Rhaid cael nifer cyfartal o aelodau o bob awdurdod sy’n uno ar y pwyllgor, sef o leiaf 5 aelod o bob awdurdod. Rhaid i’r awdurdodau sy’n uno gytuno ar gyfanswm yr aelodau, ond os na ellir dod i gytundeb bydd Gweinidogion Cymru yn pennu maint y pwyllgor. Rhaid i arweinydd gweithredol pob awdurdod sy’n uno fod yn aelod o’r pwyllgor pontio; ac os nad oes gan arweinydd gweithredol awdurdod gyfrifoldeb gweithredol am gyllid rhaid i’r awdurdod sy’n uno o dan sylw benodi’r aelod gweithredol sy’n gyfrifol am gyllid yn ogystal â’r arweinydd gweithredol i’r pwyllgor pontio. Caiff pwyllgor pontio gyfethol personau ychwanegol i wasanaethu fel aelodau o’r pwyllgor, ond heb hawliau pleidleisio. Rhaid i aelodaeth awdurdod sy’n uno o bwyllgor pontio adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol yr awdurdod sy’n uno, yn unol â’r gofynion a nodir yn Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

Adran 13 – Swyddogaethau pwyllgorau pontio

26.Mae adran 13 yn gwneud darpariaeth ar gyfer swyddogaethau pwyllgor pontio. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i bwyllgor pontio gynghori’r awdurdodau sy’n uno a’r awdurdod cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd, a rhoi argymhellion iddynt:

27.Mae adran 13(2) i (4) yn galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddyd i un neu ragor o bwyllgorau pontio, yn ei gwneud yn ofynnol iddynt arfer eu swyddogaethau yn unol â’r cyfarwyddyd. Rhaid i bwyllgor pontio gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir a gall Gweinidogion ddirymu neu amrywio cyfarwyddyd ar unrhyw adeg, drwy roi cyfarwyddyd arall.

28.Mae adran 13(5) yn ymwneud â phŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau i bwyllgorau pontio ynghylch arfer eu swyddogaethau; a rhaid i bwyllgor pontio roi sylw i unrhyw ganllawiau o’r fath.

29.Mae adran 13(6) yn atal pwyllgor archwilio neu bwyllgor trosolwg a chraffu awdurdod sy’n uno rhag cyflawni ei swyddogaethau mewn cysylltiad ag unrhyw beth y mae’r pwyllgor pontio yn ei wneud. Ni fydd gan bwyllgorau pontio bŵer i wneud penderfyniadau ar faterion polisi, materion strategol na materion gweithredol mewn perthynas â’r awdurdod newydd na’r awdurdod presennol; cynghori a gwneud argymhellion fydd eu swyddogaethau. Gallai’r pwyllgorau archwilio a chraffu perthnasol ystyried unrhyw benderfyniadau gan awdurdodau newydd neu awdurdodau presennol yng ngoleuni cyngor neu argymhellion y pwyllgorau pontio.

Adran 14 – Is-bwyllgor i bwyllgorau pontio

30.Mae adran 14 yn galluogi pwyllgor pontio i sefydlu un is-bwyllgor neu ragor er mwyn cynghori’r pwyllgor pontio ar faterion y mae’r pwyllgor pontio yn eu hatgyfeirio ato. Mater i’r pwyllgor pontio fydd pennu aelodaeth is-bwyllgor, ond ni fydd gan unrhyw berson a benodir nad yw’n aelod o un o’r awdurdodau lleol sy’n uno yr hawl i bleidleisio ar faterion sydd gerbron yr is-bwyllgor.

Adran 15 – Darparu cyllid, cyfleusterau a gwybodaeth i bwyllgorau pontio

31.Mae adran 15 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdodau sy’n uno dalu costau’r pwyllgorau pontio. Rhaid i’r awdurdodau sy’n uno gytuno sut i ddosrannu’r gost rhwng pob un o’r awdurdodau sy’n uno, ac os na ellir dod i gytundeb bydd Gweinidogion Cymru yn pennu pa gyfran o’r costau y bydd pob awdurdod yn ei thalu. Mae’r adran hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdodau sy’n uno ddarparu cyfleusterau, adnoddau gan gynnwys staff, a gwybodaeth y gwneir cais rhesymol amdani, i’r pwyllgor pontio neu unrhyw is-bwyllgor i bwyllgor pontio, i alluogi’r pwyllgor i gyflawni ei swyddogaethau.

Adrannau 16 i 24 – Trefniadau etholiadol etc. ar gyfer y prif ardaloedd newydd

32.Mae adrannau 16 i 24 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y Comisiwn) a chynnal adolygiadau cychwynnol o’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardaloedd newydd arfaethedig. Diben adolygiad cychwynnol yw gwneud argymhellion ar gyfer trefniadau etholiadol prif ardal arfaethedig. Wrth gynnal adolygiad cychwynnol, caiff y Comisiwn (yn ogystal â gwneud argymhellion ynghylch trefniadau etholiadol) hefyd gynnig ac argymell newidiadau ar lefel y gymuned, ond dim ond pan fo newidiadau o’r fath yn deillio o’r hyn a gynigir neu a argymhellir ar gyfer trefniadau’r brif ardal arfaethedig. Mae’r darpariaethau hyn yn gymwys i awdurdodau sy’n uno’n wirfoddol o dan y Ddeddf ac i uno sy’n cael effaith o ganlyniad i ddeddfwriaeth arall. Nodir strwythur a swyddogaethau’r Comisiwn yn Neddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 a’i rôl yw adolygu’r holl ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru yn gyson, yn ogystal â threfniadau etholiadol y prif ardaloedd.

33.Ar hyn o bryd, o dan adran 29 o Ddeddf 2013, gall y Comisiwn gynnal adolygiadau o drefniadau etholiadol prif ardal sydd eisoes yn bodoli. Mae adran 16 yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal adolygiad cychwynnol o drefniadau etholiadol prif ardal arfaethedig.

34.Mae adran 16(1) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi cyfarwyddydau i’r Comisiwn i gynnal adolygiadau cychwynnol o brif ardal arfaethedig. Mae is-adrannau (2) i (5) o adran 16 yn diffinio’r termau allweddol a ddefnyddir yn yr adrannau hyn o’r Ddeddf. “Adolygiad cychwynnol” o brif ardal arfaethedig yw’r ymarferiad cyntaf o’r fath ar ran y Comisiwn mewn perthynas â’r ardal o dan sylw. Newidiadau i ardaloedd cymuned a chynghorau o fewn prif ardal yw “newidiadau canlyniadol perthnasol”. Mae “trefniadau etholiadol” yn cyfeirio at nifer yr aelodau ar gyngor a’u dosbarthiad rhwng wardiau etholiadol (neu wardiau cymuned yn achos cyngor cymuned). Gall wardiau etholiadol fod yn rhai “un aelod”, pan gaiff ei gynrychioli gan un cynghorydd yn unig, neu’n rhai “amlaelod”, pan fo mwy nag un aelod.

Adran 17 – Cyfarwyddydau a chanllawiau i’r Comisiwn

35.Mae adran 17 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y materion y mae’n rhaid i gyfarwyddyd a wneir o dan adran 16 ymdrin â hwy, neu y gall ymdrin â hwy. O fewn unrhyw gyfarwyddyd o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru bennu erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid i’r Comisiwn ddarparu ei adroddiad ar ei adolygiad cychwynnol o brif ardal arfaethedig. Caiff cyfarwyddyd bennu materion y mae’n rhaid i’r Comisiwn roi sylw iddynt wrth gynnal adolygiad cychwynnol. Caniateir i Weinidogion Cymru hefyd ddyroddi cyfarwyddydau cyffredinol i’r Comisiwn ynghylch cynnal adolygiadau cychwynnol, gan gynnwys ym mha drefn y mae’n rhaid i’r Comisiwn gynnal yr adolygiadau unigol; fodd bynnag, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn ac unrhyw gymdeithas y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn cynrychioli awdurdodau lleol, cyn dyroddi cyfarwyddyd cyffredinol.

36.Mae adran 17 hefyd yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir i’r Comisiwn drwy gyfarwyddyd dilynol. Mae hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi cyfarwyddyd pellach o dan adran 16 i’r Comisiwn, mewn perthynas â phrif ardal arfaethedig, wedi i’r Comisiwn gynnal adolygiad cychwynnol o’r brif ardal arfaethedig honno, ac adrodd arno.

37.Mae’n ofynnol i’r Comisiwn gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo o dan adran 16 neu 17 a rhaid iddo hefyd roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch adolygiadau cychwynnol o brif ardaloedd arfaethedig.

Adran 18 – Cynnal adolygiad cychwynnol

38.Mae adran 18 yn gwneud darpariaeth ynghylch cynnal adolygiad cychwynnol gan y Comisiwn o brif ardal arfaethedig. Wrth gynnal adolygiad cychwynnol rhaid i’r Comisiwn geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a hwylus, a chaiff cyfarwyddydau a chanllawiau a ddyroddir o dan adran 17 bennu’r hyn y mae hyn yn ei olygu’n ymarferol.

39.Wrth gynnal adolygiad cychwynnol, rhaid i’r Comisiwn geisio sicrhau, i’r graddau y mae’n bosibl, bod y gymhareb o etholwyr llywodraeth leol i aelodau etholedig ar gyfer prif ardal arfaethedig yr un fath ym mhob ward etholiadol o’r brif ardal arfaethedig, gan arwain at sefyllfa lle bydd pob aelod etholedig yn cynrychioli’r un nifer o etholwyr. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn hefyd roi sylw i ddymunoldeb pennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol sy’n hawdd i’w hadnabod, ac a fydd yn parhau i fod felly, a pheidio â thorri cysylltiadau lleol presennol wrth bennu’r ffiniau hynny. Rhaid i’r Comisiwn hefyd ystyried gwahaniaethau yn nifer yr etholwyr cymwys a’r niferoedd gwirioneddol o bersonau sydd wedi eu cofrestru i bleidleisio, ynghyd ag unrhyw newidiadau tebygol yn nifer neu ddosbarthiad yr etholwyr llywodraeth leol (fel y’i diffinnir yn is-adran (9)) o fewn prif ardal arfaethedig sy’n debyg o ddigwydd o fewn 5 mlynedd i gyhoeddi argymhellion yr adroddiad.

40.Os yw’r Comisiwn o’r farn bod “newidiadau canlyniadol perthnasol” (a drafodir uchod mewn perthynas ag adran 16) yn briodol mewn perthynas â chymunedau a fydd yn ardal y brif ardal arfaethedig, rhaid iddo ystyried materion tebyg i’r rhai sy’n gymwys i’w adolygiad o’r trefniadau ar lefel y brif ardal. Nodir yr ystyriaethau mewn cysylltiad â newidiadau canlyniadol o’r fath yn is-adrannau (5) i (8) o adran 18.

Adran 19 – Y weithdrefn ragadolygu

41.Mae adran 19 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn sicrhau, yn ystod y cyfnod cyn cynnal adolygiad cychwynnol, fod yr “ymgyngoreion mandadol”, fel y’u diffinnir gan is-adran (3), ac unigolion eraill sydd â buddiant yn yr adolygiad, yn ymwybodol o’r cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru i gynnal yr adolygiad ac unrhyw gyfarwyddydau eraill a ddyroddwyd sy’n gysylltiedig â’r adolygiad. Yn ystod y cyfnod rhagadolygu mae’n ofynnol hefyd i’r Comisiwn ymgynghori â’r ymgyngoreion mandadol ar y weithdrefn a’r fethodoleg y bwriedir eu dilyn wrth gynnal yr adolygiad cychwynnol, yn enwedig o ran y dull arfaethedig o bennu nifer priodol aelodau’r prif awdurdod lleol yn y brif ardal arfaethedig.

Adran 20 – Ymgynghori ac ymchwilio

42.Wrth gynnal adolygiad cychwynnol o brif ardal arfaethedig rhaid i’r Comisiwn gynnal pa bynnag ymchwiliad sy’n briodol yn ei farn. Rhaid iddo hefyd baratoi adroddiad sy’n cynnwys y cynigion ar gyfer trefniadau etholiadol y brif ardal arfaethedig, ac unrhyw gynigion ar gyfer newidiadau canlyniadol perthnasol. Rhaid i’r adroddiad hefyd gynnwys manylion yr adolygiad ei hun.

43.Mae’n ofynnol i’r Comisiwn gyhoeddi ei adroddiad cychwynnol ar-lein, ei anfon at Weinidogion Cymru a’r ymgyngoreion mandadol, sicrhau ei fod ar gael i edrych arno mewn mannau penodedig yn ystod y cyfnod ar gyfer sylwadau (y mae’n rhaid iddo fod yn gyfnod heb fod yn llai na 6 wythnos a heb fod yn fwy na 12 wythnos), hysbysu unrhyw un y mae’n ei ystyried yn briodol sut i gael copi o’r adroddiad a gwahodd sylwadau ar ei gynigion yn yr adroddiad hwnnw gan Weinidogion Cymru, yr ymgyngoreion mandadol ac unrhyw berson arall y mae’n ystyried ei fod yn briodol.

Adran 21 – Adrodd ar adolygiad cychwynnol

44.Yn dilyn y cyfnod ar gyfer sylwadau mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried ei gynigion yng ngoleuni unrhyw sylwadau a gafodd. Yna, rhaid iddo lunio adroddiad pellach sy’n cynnwys yr argymhellion ar gyfer trefniadau etholiadol y brif ardal arfaethedig, unrhyw argymhellion canlyniadol ar gyfer ffiniau a wardiau cymuned, manylion yr adolygiad a’r ymgynghoriad dilynol, a manylion unrhyw newidiadau a wnaed i’r adroddiad cychwynnol yng ngoleuni unrhyw sylwadau a ddaeth i law.

45.Rhaid i’r Comisiwn gyflwyno’r adroddiad a’i argymhellion i Weinidogion Cymru, cyhoeddi’r adroddiad ar-lein, sicrhau ei fod ar gael mewn mannau penodedig i edrych arno am 6 wythnos o leiaf, a hynny’n ddi-dâl, anfon copi o’r adroddiad at yr ymgyngoreion mandadol a’r Arolwg Ordnans, a hysbysu’r personau hynny a gyflwynodd dystiolaeth neu a roddodd sylwadau mewn cysylltiad â’r adroddiad cychwynnol sut i gael copi o’r adroddiad.

46.Fel arfer, ni chaniateir i unrhyw argymhellion gael eu gwneud na’u cyhoeddi mewn cysylltiad ag adolygiadau ar gyfer trefniadau etholiadol yn ystod y 9 mis cyn etholiad cyffredin. Fodd bynnag, gan ei bod yn debygol y bydd y cyfnod y bydd y Comisiwn yn cynnal adolygiadau o brif ardaloedd arfaethedig yn cynnwys y cyfnod sy’n arwain at etholiadau cyffredin 2017, mae adran 21(5) yn atal y ddarpariaeth berthnasol yn Neddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 o ran argymhellion gan y Comisiwn o dan adran 21 mewn perthynas â phrif ardal arfaethedig. Heb yr ataliad hwn, byddai’n anodd dros ben i’r Comisiwn gynnal ei raglen adolygu mewn da bryd cyn etholiadau cyntaf yr awdurdodau cysgodol.

Adran 22 – Gweithredu gan Weinidogion Cymru

47.Mae adran 22 yn galluogi Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt gael adroddiad pellach gan y Comisiwn, i wneud rheoliadau er mwyn gweithredu’r argymhellion, neu ffurf addasedig ar yr argymhellion, sydd yn yr adroddiad pellach. Ni chaniateir gwneud rheoliadau o’r fath hyd o leiaf 6 wythnos ar ôl cyhoeddi’r adroddiad pellach. Os yw Gweinidogion Cymru yn dymuno addasu’r argymhellion cyn eu gweithredu, rhaid iddynt ystyried y materion a nodir yn adran 18 a rhaid iddynt fod wedi eu bodloni bod yr addasiad yn briodol. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth berthnasol am yr argymhellion sy’n rhesymol ofynnol, a chaiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu rheoliadau sy’n gweithredu argymhellion drwy reoliadau dilynol.

Adran 23 – Rheoliadau etholiadol os na wneir unrhyw argymhellion

48.Pe byddai’r Comisiwn yn methu â darparu adroddiad pellach sy’n cynnwys argymhellion o fewn y terfynau amser a bennir gan Weinidogion Cymru yn eu cyfarwyddyd cychwynnol, mae adran 23 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n pennu’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal arfaethedig, ynghyd ag unrhyw newidiadau canlyniadol perthnasol, yn niffyg argymhellion gan y Comisiwn. Pan fo amgylchiadau o’r fath yn codi, rhaid i’r Comisiwn ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth a gasglwyd hyd yr adeg honno mewn cysylltiad â’r adolygiad cychwynnol. Byddai hefyd yn ofynnol i’r Comisiwn gynnal ei adolygiad cyntaf o’r trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal arfaethedig, fel sy’n ofynnol gan adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, cyn gynted â phosibl ar ôl etholiad cyffredin cyntaf y cyngor ar gyfer yr ardal honno, a chyn etholiadau nesaf y cyngor ar gyfer yr ardal honno beth bynnag.

49.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau dilynol, amrywio neu ddirymu rheoliadau a wneir o dan yr adran hon.

Adran 24 – Cyfnodau adolygu yn y dyfodol

50.Mae adran 29(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer pob un o’r prif ardaloedd o leiaf unwaith bob 10 mlynedd, gan ddechrau o’r diwrnod y daeth yr adran honno i rym (sef 30 Medi 2013, o dan adran 75(2)(b) o’r Ddeddf honno). Mae adran 24 yn galluogi Gweinidogion Cymru i symud y dyddiad ar gyfer dechrau cyfnod adolygu 10 mlynedd y Comisiwn, fel y bydd yn rhedeg o ddyddiad newydd unwaith y bydd y rhaglen uno awdurdodau lleol wedi ei chwblhau.

Adrannau 25 i 28 – Trefniadau cydnabyddiaeth ariannol etc. ar gyfer prif awdurdodau lleol newydd

51.Mae adrannau 25 i 27 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Phanel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) a’i swyddogaethau o ran taliadau i aelodau o awdurdodau cysgodol a phrif awdurdodau lleol newydd, pa un a sefydlir y rhain drwy uno gwirfoddol neu fel arall. Sefydlwyd y Panel yn 2007 ac mae cyfrifoldeb statudol arno i bennu ystod a lefel y lwfansau sy’n daladwy i aelodau etholedig prif awdurdodau lleol, aelodau o Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Awdurdodau Tân ac Achub a chynghorau cymuned a thref.

52.Mae adran 28 yn ei gwneud yn ofynnol i bwyllgorau pontio wneud argymhellion ynghylch y datganiadau polisi tâl y mae’n rhaid i’r awdurdodau cysgodol eu llunio.

Adran 25 - Cyfarwyddydau i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i gyflawni swyddogaethau perthnasol

53.Mae adran 25 yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo’r Panel i gyflawni ei swyddogaethau o dan adrannau 142 a 143 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, (sy’n ymwneud â’r taliadau y gellir eu gwneud neu y mae rhaid eu gwneud i aelodau o awdurdodau lleol penodol a’u hawl i bensiynau), mewn perthynas ag aelodau o awdurdod cysgodol, ac aelodau o brif awdurdod lleol arfaethedig yn y flwyddyn ariannol gyntaf y mae’n gweithredu.

54.Wrth wneud penderfyniadau ynghylch taliadau i aelodau o awdurdodau cysgodol, mae adran 25(4)(a) yn cael yr effaith o’i gwneud yn ofynnol i’r Panel ystyried effaith ariannol gwneud hynny ar yr awdurdodau cysgodol eu hunain; bydd ystyriaeth debyg yn gymwys i benderfyniadau ar gyfer prif awdurdodau lleol newydd.

55.Effaith adran 25(4)(b) yw y bydd yn ofynnol i’r Panel osod gofynion er mwyn osgoi dyblygu taliadau i’r rheini sy’n aelodau o fwy nag un awdurdod ar yr un pryd (megis bod yn aelodau o awdurdod sy’n uno ac o’r awdurdod cysgodol cysylltiedig ar yr un pryd).

56.Yn achos uno gwirfoddol, daw’r prif awdurdod lleol newydd i fodolaeth ar 1 Ebrill 2018. O dan reoliadau a wneir o dan adran 7(1)(f), daw aelodau’r awdurdod cysgodol yn aelodau o’r prif awdurdod lleol newydd am yr ychydig wythnosau cyntaf, gan arfer holl swyddogaethau’r awdurdod newydd hwnnw. Yn dilyn yr etholiadau cyntaf i’r awdurdod newydd (a gynhelir ym mis Mai 2018, fwy na thebyg), bydd corff newydd o aelodau etholedig yn cymryd yr awenau, a bydd yr aelodau a etifeddwyd o’r awdurdod cysgodol yn rhoi’r gorau iddi. Mae is-adran 25(5) yn ymdrin â hyn drwy alluogi’r Panel, wrth wneud penderfyniadau ar gyfer blwyddyn ariannol gyntaf yr awdurdod newydd, i wneud penderfyniadau gwahanol ar gyfer y cyfnod cyn yr etholiadau cyntaf a’r cyfnod ar ôl hynny.

Adran 26 – Adroddiadau’r Panel

57.Mae adran 26 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Panel gynnwys ei benderfyniadau cyntaf ar dâl a phensiynau ar gyfer aelodau o brif awdurdod lleol newydd yn adroddiad blynyddol y Panel sy’n ymwneud â blwyddyn ariannol gyntaf yr awdurdod. Mae is-adran (1) yn cyfeirio at adran 146(3) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011; golyga hyn bod rhaid i’r panel gynnwys yn yr adroddiad ei benderfyniadau ar daliadau i aelodau o awdurdodau cysgodol ar gyfer busnes swyddogol ac ar gyfer absenoldeb teuluol (ymdrinnir â hyn yn adran 142(2) i (4) o Fesur 2011). Rhaid i’r Panel hefyd gynnwys ei benderfyniadau ar gyfer yr aelodau o awdurdod y bydd pensiynau yn daladwy iddynt, neu mewn perthynas â hwy.

58.Caniateir i’r materion sy’n ymwneud ag aelodau o awdurdod cysgodol gael eu cynnwys naill ai mewn adroddiad blynyddol neu mewn adroddiad atodol. Os cânt eu cynnwys mewn adroddiad atodol, fodd bynnag, rhaid ei gyhoeddi yn ddim hwyrach na 6 wythnos cyn i’r awdurdod cysgodol gael ei sefydlu neu ei ethol.

Adran 27 - Cyfarwyddydau a chanllawiau i’r Panel

59.Mae adran 27 yn darparu y caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd o dan adran 25 gan gyfarwyddyd dilynol ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r Panel gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 25. Mae hefyd yn ymdrin â phŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau i’r Panel ynghylch arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 25 a 26, ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r Panel roi sylw i unrhyw ganllawiau o’r fath.

Adran 28 – Datganiadau polisi tâl

60.Mae adran 28 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cysgodol lunio a chymeradwyo datganiad polisi tâl (fel y darperir yn adrannau 38 a 39 o Ddeddf Lleoliaeth 2011) ar gyfer y cyfnod a nodir yn is-adran (3). Y diben yw sicrhau bod gan yr awdurdod cysgodol ddatganiad cyhoeddus sy’n cyfleu polisïau’r awdurdod ar amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud â thâl ei weithlu yn y dyfodol, yn enwedig ei brif swyddogion (a drafodir isod) a’i gyflogeion sydd ar y cyflogau isaf. Er mwyn cynorthwyo’r awdurdod cysgodol, mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i bwyllgor pontio gyhoeddi argymhellion ar gyfer yr awdurdod cysgodol ar y datganiad polisi tâl sydd i’w baratoi gan yr awdurdod cysgodol yn ddim hwyrach na 42 o ddiwrnodau cyn y diwrnod y sefydlir neu yr etholir yr awdurdod cysgodol. Gwaherddir awdurdodau cysgodol rhag penodi prif swyddog hyd nes y bydd y datganiad polisi tâl ar gyfer y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3)(a) wedi ei lunio a’i gymeradwyo.

61.Mae i’r term “prif swyddog” (“chief officer”) yr un ystyr ag yn adran 43(2) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 ac mae’n cynnwys y swyddogion a ganlyn o brif awdurdod lleol:

62.Mae is-adran (6) yn ymwneud â phŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau i bwyllgorau pontio ac awdurdodau cysgodol ynghylch cyflawni eu dyletswyddau o dan yr adran hon. Rhaid i’r awdurdodau cysgodol a’r pwyllgorau pontio roi sylw i unrhyw ganllawiau o’r fath wrth gyflawni’r dyletswyddau hynny.

Adrannau 29 i 36 – Cyfyngu ar drafodion a recriwtio etc. gan awdurdodau sy’n uno

63.Mae adrannau 29 i 36 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gyfyngu ar weithgareddau penodol awdurdodau lleol sy’n uno, a rheoli’r gweithgareddau hynny. Mae’r darpariaethau hyn yn gymwys i awdurdodau sy’n uno’n wirfoddol o dan y Ddeddf, ac i uno sy’n cael effaith o ganlyniad i ddeddfwriaeth arall gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu a basiwyd ganddo (mae hyn oherwydd y diffiniad o “awdurdod sy’n uno” yn adran 2(3)(b)).

Adran 29(1) – Cyfarwyddydau mewn perthynas â gweithgareddau cyfyngedig

64.O dan adran 29(1) caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod sy’n uno i beidio â chynnal “gweithgaredd cyfyngedig” heb naill ai ystyried barn, neu gael cydsyniad ysgrifenedig, person a bennir yn y cyfarwyddyd. Y personau y caniateir eu pennu yw unrhyw awdurdodau neu bersonau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol. Gall hyn gynnwys Gweinidogion Cymru eu hunain, pwyllgorau pontio ac awdurdodau cysgodol (adran 30(3)).

65.Mae adran 29(2) yn disgrifio’r gweithgareddau cyfyngedig y gellir dyroddi cyfarwyddyd barn/cydsynio yn eu cylch:

66.Diffinnir “contract neu gytundeb perthnasol” fel un sy’n cynnwys cytundeb fframwaith o dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2006 (O.S. 2006/5); ac mae contract cyfalaf yn un y mae’r gydnabyddiaeth sy’n daladwy gan yr awdurdod mewn perthynas â’r contract yn wariant cyfalaf at ddibenion Deddf Llywodraeth Leol 2003 (adran 34(3) a (4)).

67.Er bod adran 34 yn nodi’r trothwyon isaf y caiff Gweinidogion Cymru dyroddi cyfarwyddydau mewn perthynas â gweithgareddau cyfyngedig ar ôl eu croesi, bydd unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir gan Weinidogion Cymru yn pennu’r trothwy gwirioneddol; gallai hwn fod yn wahanol i’r trothwy isaf. Mae adran 35 yn nodi sut i benderfynu a yw’r trothwyon ariannol wedi eu croesi. Mae hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio’r trothwyon presennol.

68.Mae adran 29(5) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod sy’n uno ddarparu manylion gweithgaredd cyfyngedig i’r person a bennir mewn cyfarwyddyd, ac mae adran 29(6) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod sy’n uno gyhoeddi ei resymau dros benderfynu bwrw ymlaen â gweithgaredd cyfyngedig pan fo’r person a bennir mewn cyfarwyddyd wedi mynegi’r farn na fyddai’n briodol i’r awdurdod sy’n uno wneud hynny.

69.Mae adran 30(2) yn galluogi cyfarwyddydau o dan adran 29(1) i gael eu dyroddi mewn perthynas ag un awdurdod sy’n uno, dau neu ragor o awdurdodau penodedig, neu awdurdodau o ddisgrifiad penodedig. Yn yr un modd, mae adran 30(4) yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu bod gwahanol bersonau i fynegi barn/cydsynio mewn perthynas â materion gwahanol neu mewn perthynas â gwahanol awdurdodau sy’n uno neu wahanol ddisgrifiadau o awdurdodau. Gall cyfarwyddydau hefyd ddarparu gwahanol ofynion mewn perthynas â’r un gweithgareddau cyfyngedig o werthoedd gwahanol; er enghraifft, efallai y bydd angen cydsyniad awdurdod cysgodol i brynu tir sy’n is ei werth, ond mae’n bosibl y bydd angen cydsyniad Gweinidogion Cymru ar gyfer pryniannau gwerth uwch.

70.O ran cronfeydd ariannol wrth gefn, mae adran 31 yn caniatáu i gyfarwyddyd a ddyroddir o dan adran 29(1) gynnwys cronfeydd ariannol wrth gefn o ddisgrifiadau penodol, neu gronfeydd ariannol wrth gefn hyd at drothwy penodedig, wrth gyfrifo’r swm gofynnol yn y gyllideb heb fod angen barn/cydsyniad person penodedig. Bwriad hyn yw galluogi Gweinidogion Cymru i reoli’r defnydd priodol o gronfeydd ariannol wrth gefn, ond heb fynd mor bell â rhwystro awdurdodau sy’n uno rhag defnyddio eu harian.

71.Nodir canlyniadau methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a ddyroddwyd mewn perthynas â gweithgaredd cyfyngedig yn adran 33. Bernir na fydd modd gorfodi contract neu gytundeb yr aed iddo; bydd trafodiad tir neu gaffaeliad cyfalaf yn ddi-rym; bydd rhaid ad-dalu unrhyw grant neu gymorth ariannol arall, neu fenthyciad perthnasol; a chaiff y defnydd o gronfeydd ariannol wrth gefn heb ei awdurdodi wrth bennu gofyniad yn y gyllideb ei drin fel pe na bai’r cyfrifiad wedi ei wneud, gan rwystro’r awdurdod sy’n uno rhag pennu a chasglu ei dreth gyngor.

Adran 29(3) – Cyfarwyddydau mewn perthynas â phenodi/dynodi i swyddi cyfyngedig

72.Mae adran 29(3) yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo awdurdodau sy’n uno i gydymffurfio â gofynion penodedig wrth geisio penodi neu ddynodi personau i swyddi cyfyngedig, hy, pennaeth y gwasanaeth cyflogedig, swyddog monitro a phrif swyddog statudol. Gall y gofynion penodedig ymwneud â materion fel y gydnabyddiaeth ariannol sydd i’w thalu neu hyd y penodiad. Os yw cyfarwyddyd o dan adran 29(3) wedi ei ddyroddi, mae’n ofynnol i awdurdod sy’n uno roi manylion unrhyw gynnig i benodi neu ddynodi person i’r swydd y mae’r cyfarwyddyd yn ymdrin â hi (adran 29(5)(b)) i Weinidogion Cymru.

73.Mae adran 32 yn caniatáu i gyfarwyddydau o dan adran 29(3) gael eu rhoi mewn cysylltiad ag un awdurdod sy’n uno, dau neu ragor o awdurdodau penodedig, ac awdurdodau o ddisgrifiad penodedig, a chaiff cyfarwyddyd bennu gofynion gwahanol mewn perthynas â swyddi gwahanol. Bydd methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a ddyroddir o dan adran 29(3) yn gwneud y contract cyflogi (neu’r contract am wasanaethau) yr aed iddo yn anorfodadwy (adran 33(2)).

Adran 36 – Canllawiau

74.Mae adran 36 yn ymwneud â phŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau sy’n ymwneud â gweithredu’r drefn o roi barn/cydsynio a nodir yn adrannau 29 i 35. Rhaid i awdurdodau sy’n uno a phersonau penodedig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir.

Adrannau 37 a 38 – Gofynion gwybodaeth

75.Mae adran 37 yn galluogi Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau sy’n uno ddarparu unrhyw wybodaeth iddynt sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru er mwyn rhoi effaith i drosglwyddo swyddogaethau’r awdurdodau sy’n uno i’r prif awdurdod lleol newydd. Mae adran 38 yn caniatáu, at yr un diben, i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod sy’n uno rannu gwybodaeth gyda chyrff perthnasol eraill – yr awdurdodau eraill sy’n rhan o’r uno, y pwyllgor pontio priodol a’r awdurdod cysgodol priodol.

Adran 39 – Ymestyn dros dro swyddogaethau Panel sy’n ymwneud â phenaethiaid gwasanaethau i brif swyddogion

76.Mae adran 39 yn ymestyn cymhwysiad adran 143A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, sy’n gymwys o ran cyflogau penaethiaid gwasanaeth cyflogedig, i gynnwys holl brif swyddogion holl brif awdurdodau lleol Cymru hyd 31 Mawrth 2020.

77.O ganlyniad, bydd y Panel yn gallu gwneud argymhellion ynghylch unrhyw bolisi, a amlinellir yn natganiad polisi tâl awdurdod, sy’n ymwneud â chyflog prif swyddog awdurdod ac unrhyw newid i gyflog prif swyddog sydd yn yr arfaeth; a rhaid i’r awdurdod roi sylw i unrhyw argymhelliad o’r fath gan y Panel. Bydd hefyd yn ofynnol i awdurdod lleol ymgynghori â’r Panel ynghylch unrhyw newid i gyflog prif swyddog sydd yn yr arfaeth nad yw’n gymesur â newid i gyflogau staff eraill yr awdurdod. Rhaid i’r awdurdod roi sylw i unrhyw argymhelliad a geir wedi hynny gan y Panel wrth benderfynu a yw am fwrw ymlaen â’r newid ai peidio. Mae’r adran hefyd yn ymdrin â phŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau i’r Panel ynghylch arfer ei swyddogaethau estynedig, a rhaid i’r Panel roi sylw i unrhyw ganllawiau o’r fath.

Adran 40 - Newidiadau i’r ddyletswydd i roi sylw i argymhellion y Panel ynghylch cyflogau

78.Mae adran 40 yn diwygio adran 143A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Roedd yr adran honno yn ei gwneud yn ofynnol i brif awdurdodau lleol, ymysg awdurdodau eraill, ymgynghori â’r Panel, a rhoi sylw i unrhyw argymhellion gan y Panel, cyn gwneud newid i gyflog ei bennaeth gwasanaeth cyflogedig nad oedd yn gymesur â newid i gyflog staff eraill yr awdurdod.

79.Bydd yr adran 143A ddiwygiedig yn galluogi prif awdurdod lleol sydd wedi ymgynghori â’r Panel ynghylch gostyngiad arfaethedig i’r cyflog sy’n daladwy i’w bennaeth gwasanaeth cyflogedig weithredu’r gostyngiad cyn cael argymhelliad ynglŷn â’r newid. Ond ni chaniateir gostwng cyflog fel hyn os yw’r contract y mae’r cyflog yn daladwy oddi tano yn atal yr awdurdod rhag newid y cyflog yn dilyn argymhelliad y Panel.

80.Unwaith y mae argymhelliad gan y Panel wedi dod i law, bydd rhaid i’r awdurdod ailystyried y cyflog, gan roi sylw i argymhelliad y Panel. Rhaid i’r prif awdurdod hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw benderfyniad ganddynt mewn perthynas ag argymhelliad gan y Panel. Os yw Gweinidogion Cymru yn teimlo nad yw’r penderfyniad yn gydnaws ag argymhelliad y Panel, cânt gyfarwyddo’r awdurdod i ailystyried ei benderfyniad.

Adran 41 – Aelodaeth y Panel

81.Mae adran 41 yn diwygio paragraff 1 o Atodlen 2 i Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i benodi rhwng 3 a 7 aelod i’r Panel. Bwriad hyn yw darparu hyblygrwydd o ran nifer aelodau’r Panel (5 ar hyn o bryd) er mwyn rheoli ac ymgymryd â’r cyfrifoldebau ychwanegol sy’n ofynnol gan y Ddeddf. Mae hefyd yn egluro nad yw’n gymwys i gyflogeion awdurdodau lleol fod yn aelodau o’r Panel.

Adran 42 – Arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol yn gynghorwyr

82.Mae’r adran hon yn diwygio adran 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, sef y ddyletswydd ar brif awdurdodau lleol i gynnal arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol yn gynghorwyr. Mae’n caniatáu i awdurdodau lleol drefnu i’r arolwg gael ei gynnal gan drydydd parti, er mwyn caniatáu i’r arolwg gael ei gynnal yn ei gyfanrwydd ar ôl etholiad neu drwy ofyn i’r ymgeiswyr ateb cwestiynau cyn yr etholiad a chrynhoi’r wybodaeth wedi hynny. Mae hefyd yn dileu’r gofyniad ar awdurdodau lleol i drefnu bod gwybodaeth yn cael ei darparu’n ddienw.

Adran 43 – Cynigion a gyflwynwyd cyn i Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 gychwyn

83.Mae’r adran hon yn diwygio adran 74(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 sy’n arbed Rhan 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Roedd Deddf 2013 yn caniatáu i adolygiadau a gynhelir gan y Comisiwn o dan y gweithdrefnau a ddarparwyd yn Neddf 1972 ar adeg ei deddfu i barhau yn unol â’r darpariaethau hynny. Bydd yr adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru ystyried adroddiadau a gwblhawyd yn llawn o dan weithdrefnau 1972, a gyflwynwyd iddynt gan y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru cyn i Ddeddf 2013 ddod i rym.

Adran 44 –Rheoliadau

84.Mae’r adran hon yn darparu bod unrhyw bŵer i wneud rheoliadau a roddir i Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf yn arferadwy drwy offeryn statudol.

85.Ni chaniateir gwneud rheoliadau uno, rheoliadau sy’n gymwys yn gyffredinol sy’n ymwneud ag uno gwirfoddol, na rheoliadau sy’n gwneud sefydlu pwyllgorau pontio yn ofynnol, oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau yn cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo ganddo.

86.Bydd rheoliadau i ddiwygio’r dyddiad cychwyn ar gyfer cyfnod adolygu 10 mlynedd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru o drefniadau etholiadol prif ardaloedd, ac i ddiwygio’r trothwyon ar gyfer y trafodion y bydd y drefn rhoi barn/cydsynio y mae Gweinidogion Cymru a phersonau penodedig eraill yn rhan ohoni, yn destun gweithdrefn penderfyniad negyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Adran 46 - Cychwyn

87.Mae’r adran hon yn darparu y bydd adrannau 25 i 28 a 37 i 43 yn dod i rym ddeufis ar ôl i’r Ddeddf hon gael y Cydsyniad Brenhinol ac y daw’r holl ddarpariaethau eraill i rym drannoeth y diwrnod y bydd yn cael y Cydsyniad Brenhinol.