Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 40 - Newidiadau i’r ddyletswydd i roi sylw i argymhellion y Panel ynghylch cyflogau

78.Mae adran 40 yn diwygio adran 143A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Roedd yr adran honno yn ei gwneud yn ofynnol i brif awdurdodau lleol, ymysg awdurdodau eraill, ymgynghori â’r Panel, a rhoi sylw i unrhyw argymhellion gan y Panel, cyn gwneud newid i gyflog ei bennaeth gwasanaeth cyflogedig nad oedd yn gymesur â newid i gyflog staff eraill yr awdurdod.

79.Bydd yr adran 143A ddiwygiedig yn galluogi prif awdurdod lleol sydd wedi ymgynghori â’r Panel ynghylch gostyngiad arfaethedig i’r cyflog sy’n daladwy i’w bennaeth gwasanaeth cyflogedig weithredu’r gostyngiad cyn cael argymhelliad ynglŷn â’r newid. Ond ni chaniateir gostwng cyflog fel hyn os yw’r contract y mae’r cyflog yn daladwy oddi tano yn atal yr awdurdod rhag newid y cyflog yn dilyn argymhelliad y Panel.

80.Unwaith y mae argymhelliad gan y Panel wedi dod i law, bydd rhaid i’r awdurdod ailystyried y cyflog, gan roi sylw i argymhelliad y Panel. Rhaid i’r prif awdurdod hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw benderfyniad ganddynt mewn perthynas ag argymhelliad gan y Panel. Os yw Gweinidogion Cymru yn teimlo nad yw’r penderfyniad yn gydnaws ag argymhelliad y Panel, cânt gyfarwyddo’r awdurdod i ailystyried ei benderfyniad.