38.Mae adran 18 yn gwneud darpariaeth ynghylch cynnal adolygiad cychwynnol gan y Comisiwn o brif ardal arfaethedig. Wrth gynnal adolygiad cychwynnol rhaid i’r Comisiwn geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a hwylus, a chaiff cyfarwyddydau a chanllawiau a ddyroddir o dan adran 17 bennu’r hyn y mae hyn yn ei olygu’n ymarferol.
39.Wrth gynnal adolygiad cychwynnol, rhaid i’r Comisiwn geisio sicrhau, i’r graddau y mae’n bosibl, bod y gymhareb o etholwyr llywodraeth leol i aelodau etholedig ar gyfer prif ardal arfaethedig yr un fath ym mhob ward etholiadol o’r brif ardal arfaethedig, gan arwain at sefyllfa lle bydd pob aelod etholedig yn cynrychioli’r un nifer o etholwyr. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn hefyd roi sylw i ddymunoldeb pennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol sy’n hawdd i’w hadnabod, ac a fydd yn parhau i fod felly, a pheidio â thorri cysylltiadau lleol presennol wrth bennu’r ffiniau hynny. Rhaid i’r Comisiwn hefyd ystyried gwahaniaethau yn nifer yr etholwyr cymwys a’r niferoedd gwirioneddol o bersonau sydd wedi eu cofrestru i bleidleisio, ynghyd ag unrhyw newidiadau tebygol yn nifer neu ddosbarthiad yr etholwyr llywodraeth leol (fel y’i diffinnir yn is-adran (9)) o fewn prif ardal arfaethedig sy’n debyg o ddigwydd o fewn 5 mlynedd i gyhoeddi argymhellion yr adroddiad.
40.Os yw’r Comisiwn o’r farn bod “newidiadau canlyniadol perthnasol” (a drafodir uchod mewn perthynas ag adran 16) yn briodol mewn perthynas â chymunedau a fydd yn ardal y brif ardal arfaethedig, rhaid iddo ystyried materion tebyg i’r rhai sy’n gymwys i’w adolygiad o’r trefniadau ar lefel y brif ardal. Nodir yr ystyriaethau mewn cysylltiad â newidiadau canlyniadol o’r fath yn is-adrannau (5) i (8) o adran 18.