Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adrannau 16 i 24 – Trefniadau etholiadol etc. ar gyfer y prif ardaloedd newydd

32.Mae adrannau 16 i 24 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y Comisiwn) a chynnal adolygiadau cychwynnol o’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardaloedd newydd arfaethedig. Diben adolygiad cychwynnol yw gwneud argymhellion ar gyfer trefniadau etholiadol prif ardal arfaethedig. Wrth gynnal adolygiad cychwynnol, caiff y Comisiwn (yn ogystal â gwneud argymhellion ynghylch trefniadau etholiadol) hefyd gynnig ac argymell newidiadau ar lefel y gymuned, ond dim ond pan fo newidiadau o’r fath yn deillio o’r hyn a gynigir neu a argymhellir ar gyfer trefniadau’r brif ardal arfaethedig. Mae’r darpariaethau hyn yn gymwys i awdurdodau sy’n uno’n wirfoddol o dan y Ddeddf ac i uno sy’n cael effaith o ganlyniad i ddeddfwriaeth arall. Nodir strwythur a swyddogaethau’r Comisiwn yn Neddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 a’i rôl yw adolygu’r holl ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru yn gyson, yn ogystal â threfniadau etholiadol y prif ardaloedd.

33.Ar hyn o bryd, o dan adran 29 o Ddeddf 2013, gall y Comisiwn gynnal adolygiadau o drefniadau etholiadol prif ardal sydd eisoes yn bodoli. Mae adran 16 yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal adolygiad cychwynnol o drefniadau etholiadol prif ardal arfaethedig.

34.Mae adran 16(1) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi cyfarwyddydau i’r Comisiwn i gynnal adolygiadau cychwynnol o brif ardal arfaethedig. Mae is-adrannau (2) i (5) o adran 16 yn diffinio’r termau allweddol a ddefnyddir yn yr adrannau hyn o’r Ddeddf. “Adolygiad cychwynnol” o brif ardal arfaethedig yw’r ymarferiad cyntaf o’r fath ar ran y Comisiwn mewn perthynas â’r ardal o dan sylw. Newidiadau i ardaloedd cymuned a chynghorau o fewn prif ardal yw “newidiadau canlyniadol perthnasol”. Mae “trefniadau etholiadol” yn cyfeirio at nifer yr aelodau ar gyngor a’u dosbarthiad rhwng wardiau etholiadol (neu wardiau cymuned yn achos cyngor cymuned). Gall wardiau etholiadol fod yn rhai “un aelod”, pan gaiff ei gynrychioli gan un cynghorydd yn unig, neu’n rhai “amlaelod”, pan fo mwy nag un aelod.