Rhagarweiniad

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 20 Hydref 2015 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 25 Tachwedd 2015. Fe’u paratowyd gan Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf.

2.Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf. Ni fwriedir iddynt fod yn ddisgrifiad cynhwysfawr o’r Ddeddf. Os yw’n ymddangos nad oes angen rhoi unrhyw esboniad neu sylw ar adran unigol o’r Ddeddf, nis rhoddir.