xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Pwyllgorau pontio

11Pwyllgorau pontio

Rhaid i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol drwy reoliadau i awdurdodau sy’n uno y mae eu prif ardaloedd i gael eu huno i greu un brif ardal newydd sefydlu pwyllgor pontio.

12Cyfansoddiad pwyllgorau pontio

(1)Mae pwyllgor pontio i gynnwys nifer cyfartal o aelodau, heb fod yn llai na 5, o bob un o’r awdurdodau sy’n uno.

(2)Rhaid i aelodau o awdurdod sy’n uno sydd i fod yn aelodau o’r pwyllgor pontio gael eu penodi gan yr awdurdod sy’n uno.

(3)Nifer yr aelodau sydd i gael eu penodi gan bob un o’r awdurdodau sy’n uno yw’r nifer y cytunir arno gan yr awdurdodau sy’n uno neu, yn niffyg cytundeb, y nifer y penderfyna Gweinidogion Cymru arno.

(4)Rhaid i arweinydd gweithredol awdurdod sy’n uno fod yn un o’r aelodau a benodir gan yr awdurdod.

(5)Os nad yw’r aelod gweithredol o awdurdod sy’n uno sydd â chyfrifoldeb am gyllid hefyd yn arweinydd gweithredol ar yr awdurdod sy’n uno, rhaid i’r aelod gweithredol hwnnw hefyd gael ei benodi’n aelod.

(6)Caiff pwyllgor pontio gyfethol personau ychwanegol i wasanaethu fel aelodau o’r pwyllgor ond ni chaiff y rhain bleidleisio.

(7)Mae pwyllgor pontio i’w drin at ddibenion paragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cydbwysedd gwleidyddol ar bwyllgorau awdurdodau lleol) fel pwyllgor y mae paragraff 2 o’r Atodlen honno yn gymwys iddo.

13Swyddogaethau pwyllgorau pontio

(1)Rhaid i bwyllgor pontio ddarparu cyngor ac argymhellion i‘r awdurdodau sy’n uno a’i sefydlodd, ac i’r awdurdod cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd, ynghylch—

(a)hwyluso trosglwyddo swyddogaethau, staff a hawliau a rhwymedigaethau eiddo mewn modd darbodus, effeithiol ac effeithlon o’r awdurdodau sy’n uno i’r prif awdurdod lleol newydd,

(b)sicrhau bod y prif awdurdod lleol newydd a’i staff mewn sefyllfa i gyflawni swyddogaethau’r prif awdurdod lleol newydd yn effeithiol o’r adeg pan fo’n eu hysgwyddo, ac

(c)unrhyw ddibenion eraill y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu drwy gyfarwyddydau.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol—

(a)i bwyllgor pontio penodol,

(b)i bob pwyllgor pontio o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd, neu

(c)i bob pwyllgor pontio,

arfer ei swyddogaethau yn unol â’r cyfarwyddyd.

(3)Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd o dan yr adran hon gan gyfarwyddyd dilynol ar unrhyw adeg.

(4)Rhaid i bwyllgor pontio gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo o dan yr adran hon.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch arfer swyddogaethau pwyllgorau pontio a rhaid i bwyllgor pontio roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr is-adran hon.

(6)Ni chaiff pwyllgor archwilio na phwyllgor trosolwg a chraffu mewn awdurdod sy’n uno arfer unrhyw un o’i swyddogaethau mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir gan bwyllgor pontio; ac at y diben hwn—

14Is-bwyllgorau i bwyllgorau pontio

(1)Caiff pwyllgor pontio sefydlu un is-bwyllgor neu ragor.

(2)Mae aelodaeth is-bwyllgor i bwyllgor pontio i’w bennu gan y pwyllgor pontio.

(3)Os yw pwyllgor pontio yn penodi person nad yw’n aelod o un o’r awdurdodau sy’n uno i fod yn aelod o is-bwyllgor, ni chaiff y person hwnnw bleidleisio.

(4)Swyddogaeth is-bwyllgor i bwyllgor pontio yw cynghori’r pwyllgor pontio ar faterion a gyfeirir at yr is-bwyllgor gan y pwyllgor pontio.

15Darparu cyllid, cyfleusterau a gwybodaeth i bwyllgorau pontio

(1)Rhaid i’r awdurdodau sy’n uno dalu costau’r pwyllgor pontio.

(2)Rhaid i’r awdurdodau sy’n uno dalu costau’r pwyllgor pontio yn ôl y cyfrannau y cytunant arnynt neu, yn niffyg cytundeb, y cyfrannau a ddyfernir gan Weinidogion Cymru.

(3)Rhaid i’r awdurdodau sy’n uno ddarparu i’r pwyllgor pontio y cyfleusterau a’r adnoddau (gan gynnwys staff) a’r wybodaeth y gwna’r pwyllgor pontio (neu unrhyw is-bwyllgor i’r pwyllgor pontio) gais rhesymol amdanynt er mwyn ei alluogi i arfer ei swyddogaethau.