Amrywiol

42Arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol yn gynghorwyr

(1)

Mae adran 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (dyletswydd i gynnal arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol yn gynghorwyr) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn is-adran (2) (awdurdod lleol i gynnal arolwg ar ôl pob etholiad cyffredin), yn lle “ar ôl pob” rhodder “, neu drefnu i gynnal arolwg, mewn perthynas â phob”.

(3)

Ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

“(3A)

Yn achos etholiad cyffredin caniateir i arolwg gael ei gynnal—

(a)

yn llwyr ar ôl yr etholiad cyffredin, neu

(b)

drwy ofyn i’r ymgeiswyr i gael eu hethol i swydd cynghorydd ateb y cwestiynau rhagnodedig cyn yr etholiad cyffredin a chrynhoi’r wybodaeth a ddarparwyd wedi hynny.”

(4)

Yn is-adran (5) (dim dyletswydd i ddarparu gwybodaeth) yn lle “gynghorydd neu ymgeisydd na lwyddodd i gael ei ethol i swydd cynghorydd” rhodder “unrhyw unigolyn”.

(5)

Hepgorer adran (6) (awdurdod lleol i wneud trefniadau i wybodaeth gael ei darparu yn ddienw).

Annotations:
Commencement Information

I1A. 42 mewn grym ar 25.1.2016, gweler a. 46(1)

F143Cynigion a gyflwynwyd cyn i Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 gychwyn

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .