RHAN 3CYDNABOD CYRFF DYFARNU
Cydnabod cyrff dyfarnu
9Cydnabod corff dyfarnu mewn ffordd sy’n benodol i gymhwyster
(1)
Caiff corff dyfarnu wneud cais i Gymwysterau Cymru i gael ei gydnabod mewn cysylltiad â dyfarnu yng Nghymru gymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster y gosodir meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster mewn perthynas ag ef o dan adran 6.
(2)
Os yw’r corff yn bodloni’r ddau o’r canlynol—
(a)
y meini prawf cydnabod cyffredinol a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan adran 5, a
(b)
y meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster sy’n berthnasol mewn cysylltiad â’r cymhwyster a’r corff o dan sylw,
rhaid i Gymwysterau Cymru gydnabod y corff mewn cysylltiad â dyfarnu yng Nghymru y cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan sylw.
(3)
Os nad yw’r corff yn bodloni’r holl feini prawf hynny caiff Cymwysterau Cymru, er hynny, os yw o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, gydnabod y corff mewn cysylltiad â dyfarnu yng Nghymru y cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan sylw.
(4)
Wrth benderfynu a yw’n briodol cydnabod corff o dan is-adran (3), rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i—
(a)
pa un a yw’r corff yn bodloni’n sylweddol y meini prawf y cyfeirir atynt yn is-adran (2),
(b)
effaith ei fethiant i fodloni’r meini prawf hynny yn llawn, ac
(c)
pa mor debygol ydyw o fodloni’r meini prawf hynny yn llawn wedi hynny.
(5)
Effaith cydnabyddiaeth o dan yr adran hon, cyhyd â bod y corff yn cael ei gydnabod o dan adran 8, yw ei fod yn cael ei gydnabod hefyd mewn cysylltiad â dyfarnu yng Nghymru y cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster a bennir yn y gydnabyddiaeth o dan yr adran hon.