7Diwygio meini prawf cydnabod cyffredinol a meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwysterLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio—
(a)y meini prawf cydnabod cyffredinol;
(b)y meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster.
(2)Os yw Cymwysterau Cymru yn diwygio’r meini prawf, rhaid iddo—
(a)cyhoeddi’r meini prawf fel y’u diwygiwyd, a
(b)pennu pa bryd y mae’r diwygiadau i gael effaith.
(3)Rhaid i’r dyddiad a bennir o dan is-adran (2)(b) beidio â rhagflaenu’r dyddiad y cyhoeddir y meini prawf diwygiedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I2A. 7 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)