RHAN 9CYFFREDINOL

60Dod i rym

(1)

Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)

adran 1;

(b)

adran 2(3);

(c)

adrannau 55 i 57;

(d)

adran 59;

(e)

yr adran hon;

(f)

adran 61;

(g)

Atodlen 2.

(2)

Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)

Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)

pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)

gwneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.